Manion o'r Mynydd vs Caernarfon.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'
Anodd gan rai farddoni
Gwn yn iawn, 'di'o'n ddim gen i.
Cynan Jones
8 ½ Pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'
Anodd iawn yw nyddu wy
Edau sy'n hawdd ofnadwy
Robin Evans
8 Pwynt
Pennill Ymson: Gyrrwr Tacsi
Mae gen i bendafad yn set ôl y car
Yn chwythu gwynt wisgi yn boeth ar fy ngwar,
'Rwyf innau yn gyrru ddeg gwaith rownd y bloc,
Gan gadw fy llygaid o hyd ar y cloc,
Ac os na fydd hwn yn cofio ei barti
Anghofith o byth faint gostiodd y tacsi.
Edgar Parry Williams
8 ½ Pwynt.
Pennill Ymson: Gyrrwr Tacsi
'Sgen i'm mynnadd efo'r holl gajets ponsi: Seti cynnas, sat Nav, DVD.
Jest rho imi gajet sy'n chwara f'atebion nosweithiol i......
"Na. Dwi ddim 'di bod yn brysur." "DIM smocio yn fy nhacsi glân i"
"Na. Dwi'm yn gweithio tan bora, ma'n shift i yn gorffan am dri."
Y cwbwl fydd angen arnai wedyn, cyn imi ofyn am ffi
Fydd dau lwmp bychan o wadin wedi'u stwffio i nghlustia i,
Achos mudandod yn fy ngherbyd annwyl sy'n fy ngyrru i'm seithfed 'ne';
Tawelwch... a fi...... a 'nhacsi...... yn gyrru o le i le!
Llinos Angharad
8 Pwynt
Englyn: Beddargraff Postmon
Hwn - gydag ymddiheuriadau i Sion Cent a'i ffrindiau
O giaidd rwyg y ddaear hon - y dewrgorff
Mewn derwgist sy'n yfflon;
Gwep sarrug coes ffug a ffon
A'i unfraich ar ei wenfron.
Cynan Jones
8 ½ Pwynt
Englyn: Beddargraff Postmon
Am mai drud oedd y cludiant - yn dawel
Gadawodd y palmant
Gan ffoi o bob gwaun a phant
I'w nef yn e-bargofiant.
Robin Evans
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Rheol
Chei di ddim yfed diod lemon
Cyn dy fod yn bymtheg oed,
A chei di'm gwisgo 'sgidie melyn
Pan yn mynd am dro drwy'r coed.
Chei di'm lliwio'th wallt yn borffor
Os yw'r lleuad bron yn llawn,
Na golchi'r car â bwced oren
Ar ôl dau o'r gloch y pnawn.
Does dim pwrpas bwydo moch
Gyda phwys o 'falau coch,
A bydd pawb yn sbio'n syn
Os y gwisgi dei bo gwyn.
Chei di'm cario neges Tesco
Ar ddydd Iau mewn basged werdd,
A chei di'm cynnwys odlau piws
Erbyn hyn mewn unrhyw gerdd.
Ond er gwaetha'r holl reolau
Sydd yn ceisio lliwio'th lun
Dim ond un sy'n rhaid it gadw -
"Cofia fod yn chdi dy hun!"
Phyllis Evans
8 ½ Pwynt.
Cân (heb fod dros 20 llinell):Y Rheol.
Rai blynyddoedd yn ôl
O'n i'n ifanc a ffôl
Ac mi sgwennwn ganeuon
Oedd ymhlith goreuon
Ein cenedl fach,
Ond o, dyna starch
Pan ddois i ar Dalwrn y Beirdd.
Achos yma, mae Rheol
I bob un tîm lleol:
Dim ond ugain llinell
Rhaid cael cyfrifiannell
I gyfri pob lein
Ym mhob cân, neu cewch ffein
Neu rywbeth ar Dalwrn y Beirdd.
Mae pennill ymson yn cael
Bod yn hir, ac yn wael,
Onb beth bynnag di'r testun
Cheith cân ddim ymestyn
Dim hwy na'r dau ddeg
Cyn 'mi orfod cau 'ngheg.
Geraint Lovgreen
8 ½ Pwynt.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dychwelyd
I hen ?r, mynd yn ei ôl
Yw addewid ymddeol
I gyffiniau dechrau'r dydd.
Mae meini'r t? a'r mynydd
Gyferbyn yr un o hyd,
Yn obaith bod ei febyd
A geiriau ei fagwraeth
Ar dafod bro'n llifo'n llaeth,
Yn un parsel a seliwyd
Ar glo pan gerddodd trwy'r glwyd;
Ond heb yr hen wynebau
Mae'r fro'n ei feddwl mor frau
Nia Watcyn Powell
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dychwelyd.
Mae'i fam a'i dad yn nadu
A'n tôn i'w glywed drwy'r t?
Yn gerrydd sy'n ei gario
Dros ei riniog gaerog.
I ben lôn yn bin o lanc
A dial yn y dianc.
Un fu ddoe yn ufuddhau
Yn bygwth drwy hel bagiau.9
Ond er sicred ei redeg
Ac er mor bowtlyd ei geg
Heddiw â'i wên fe ddaw o
Yn gynnar am ei ginio.
Ifan Prys
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â nofio
Hen wreigan o ardal Pwllheli
Sy'n brysio bob dydd i gael gwersi
Am awr mewn pwll nofio
Gan foi mawr o'r Bermo,
A theimlo'i fwstash o'n ei chosi.
Edgar Parry Williams
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â nofio
Pan nofiais yn n?r Mississippi,
es i mewn iddo'n fudur fel hipi,
ond dois allan yn lân
a 'swn i 'di gneud cân
'blaw bod rhywun 'di dwyn fy ffelt-tip-i.
Geraint Lovgreen
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mawrygwn ein limrigwyr,
Pob perl yn ddiddanwch pur.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mawrygaf ein limrigwyr
Rhai yn fawr a rhai yn fyr.
Englyn Cywaith: Cwm
O flwydd i flwydd, canlynaf y lôn - droed
I ben draw gobeithion,
Heb weld nad oes, yn y bôn,
Yn fy ôl ond adfeilion.
Nia Watcyn Powell
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Cwm
Draw yn Rhos Isaf, yr Hafod a'r Cwrt
Y mae'r cwm yn gwybod
Y deil lot o fynd a dod,
Ond neb yn ei adnabod.
Robin Evans
10 Pwynt
Telyneg: Teulu
I'r un alarch ddu ynghanol y cannoedd gwynion ar lan Afon Glaslyn
Dacw hi'n pori
Yn un o fil-
Ond fe'i gwelais i hi;
Oherwydd ei phlu
Oherwydd y du.
Di-hid yw y gweddill gwynion
Chwaer, merch neu g'neither ydi hi
Ac mae'n perthyn.
Fi sy'n ei gweld
Â'm dallineb eglur;
Gweld ei harwahanrwydd
Heb ei gweld hi.
Cynan Jones
9 Pwynt
Telyneg : Teulu
Rhaid bod yn dawel wrth agosau
at ddrws y stafell nesa...
ond mae'r bychan yn mynnu hwylio
nôl a mlaen ar draws y gegin wag,
a'i fys yn grwca yn ei geg.
Mae'n dysgu ei ddant
i wneud tin dros ben,
ac isio dangos i Dad;
ond rhaid bod yn dawel wrth agosau
at ddrws y stafell nesa,
am fod Dad bellach yn cysgu lawr grisiau
Heddiw,
â llond y gegin o de cynhebrwng,
mae'r un bach yn dal i gyrchu
at ddrws y stafell nesa,
drwy goedwig coesau'r teulu
ac ambell "o bach" yn disgyn
fel deilen oddi uchod.
Hefo blaen ei dafod,
mae'n blasu anferthedd
gwacter lle bu dant,
tra'n mynnu tjecio'r
absenoldeb yn y stafell nesa...
Ifor ap Glyn
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Canlyniad
(Ar y newyddion heddiw yr oedd hanes g?r a gredai ers blwyddyn, oblegid prawf meddygol, ei fod yn dioddef o gancr anhriniadwy. Clywodd, wedi profion meddygol pellach, mai camgymeriad oedd hyn. Yn y cyfamswer, afradodd a rhannodd ei holl eiddo yn y gred ei fod am farw, a rhaid iddo wynebu'r dyfodol heb geiniog.)
Annisgwyl wedi'r disgwyl du - yw'r rhodd,
Er bod briw'r afradu
Mor wynias, mae er hynny
Yn fyw, o glefyd na fu.
Cynigion ychwanegol:
Cynan Jones
9 ½ Pwynt
WM PWYNTIAU: 81
Englyn ar y pryd: Canlyniad
Wedi gôl rad y gelyn y gwawriodd,
Rhaid sgorio reit sydyn,
Rhoi'r bêl ar droed Llywelyn
I hitio'r rhwyd - tair i un.
Llinos Angharad
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½ Pwynt
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'
Gweld golau mewn dyddiau du,
Anodd iawn y bydd hynny.
Pennill ymson: Gyrrwr Tacsi
Rhaid cadw llygad ar y cloc
Wrth yrru'n bwyllog rownd y bloc
A'r teithiwr meddw yn y cefn
Yn ceisio rhoi y byd mewn trefn.
Go brin y bydd o bore fory
Yn cofio dim ble roedd y parti,
Ond gwn na wnaiff o byth anghofio
Faint oedd ei dacsi wedi'i gostio.
Mae 'na ddau yng nghefn y tacsi
Wedi blino ar y parti,
'Rwy'n si?r mod i yn nabod hwnna
Hefo'r wyneb fatha Bwda,
'Rwyf fi'n gweld ei wraig yn gwenu,
Diawch, mae honna'n bisyn handi,A, 'rwy'n cofio'u henwau r?an,Maureen Rhys a Joni Ogwan.
Englyn: beddargraff Postmon
Postmon Dyfi - gyda ymddiheuriadau mawr i Dafydd Wyn.
Y mae it o'th grwydro maith - anheddau
Yr ÊST iddynt ganwaith,
Mae 'na d? ymhen y daith
Nad ei yno ond unwaith.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Rheol - Rhyfelgan Gordon Brown
Rhaid arddel ein Prydeindod
Gydwladwyr - dyma'nghri,
Fel bod pawb yn wladgarwyr
'Run fath â'r Sais a mi.
Gocheler rhag pob culni
Byddwch deyrngar i'ch gwlad
A gwaeddwch bawb dros Loegr
Wrth gyrchu maes y gâd.
Boed Ffwtbol yn y gaeaf
Neu griced yn yr hâ'
Cefnogwch bawb y Saeson
Fel lleng o Frits bach da.
A chwithau y mewnfudwyr
Anwaraidd, drwg a hy,
Anghofiwch am eich hanes
Mae Jac yr Undeb fry.
Dewch Gymry ac Albanwyr
A hyd'noed Paisley Gawr,
A thriwch fod yn Saeson-
Lloegr ydi Prydain Fawr.
Limrig yn ymwneud â nofio
Mae'r alarch osgeiddig yn nofio
Ar wyneb y d?r mor ddigyffro
Heb ymdrech na st?r,
Ond mi synnech, rwy'n si?r,
Mor wyllt dan y d?r ydyw'r rhwyfo.
Mae merch o Ben Ll?n yn ymdrochi
Ar draeth Abersoch heb bicini,
Aeth sôn drwy y sir
Am fôr-forwyn gwallt hir,
A miloedd yn wir isio'i gweld hi.
Roedd criw wrth Bont Croesor yn rhythu
Ar ddau Walch y Pysgod yn nythu,
A merched noethlymun
Yn nofio'n y Glaslyn
A choblyn o neb yn rhyfeddu.
Breuddwydiais 'mod i wedi dringo
I gopa y Wyddfa a neidio
Anferthol sbonc llyffant
I ganol gogoniant
D?r llonydd Llyn Gwynant, cyn deffro.
Telyneg: Teulu
Dychwelyd ddiwedd p'nawn
ac agor y gliced
i sgrîn o 'stafell.
Profi cysur y croeso
ar aelwydydd pell
a chlosio
at wenau'r wynebau clên.
Syllu
wrth chwilio am y gwaed
yng ngwythiennau'r gwifrau.
Sibrwd cyfrinachau
yng nghlustiau estron,
a'r geiriau'n gwibio
yn nhawelwch y siarad gwag
am hir, hir.
Yna, -
rywdro, -
diffodd y sgwrs,
a'i chwalu'n farwydos oer:
cyn swatio
dan unigedd y cwrlid clyd,
yn eco'r sws glec
o gil y drws.
Cynigion ychwanegol:
Limrig yn ymwneud â nofio
Ro'n i'n nofio full speed yn cau llygid
O'r Bala i Lanfor yn dengid
Rhag cowboys y Sarna
Oedd am dorri 'ngheillia
Ond yn sydyn, ces yn llyncu gyn Tegid.
Pan es i i nofio i'r Fenai,
dim ond hances boced oedd genna'i.
O'n i 'di anghofio
bod angen gwisg nofio
a r?an dwn i'm yn wir be'nai.
Pan nofiais i yn yr Iorddonen
gadewais fy nghinio dan onnen,
ond pan ddois i'r lan
roedd y bwyd 'di diflann-
u, a dim byd ar ôl ond moronen.
Pan es i i nofio'n Llyn Tegid
ges i gythraul o ofn oblegid
daeth anghenfil o'r d?r
a'm bygwth, do, si?r,
ond ges i'n achub gan hen ?r caregid.
Pan nofiais i yn y Môr Coch
tynnais lond ceg o wynt i'm dau foch
wedyn nofio dan d?r
am filltiroedd, dwi'n si?r.
Dois i'r wyneb wrth draeth Abersoch.
Englyn Cywaith: Cwm
Y mae'r afon yn undonog - a'i dwr,
Wedi oes dymhestlog
Yn wyrddlas, a glas yw'r glog
Eleni ym Medlinog.
O Ros Isaf (Uchaf) i'r Hafod - yn ei fro
Mae'r hen wr yn canfod
Y deil lot o fynd a dod
A neb yn ei adnabod.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

