Llanbed vs Aberhafren.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Crefydd':

I rai fydd yn crefydda
Anodd iawn yw byw yn dda.

John Rhys Evans
9 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Crefydd':

Yng ngaeaf llwm hirlwm haf
y bydd dy grefydd gryfaf.

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Pennill mawl/ dychan: Y Nhw:

Y nhw yw'n ffrindiau gorau i.
Er nad wy'n eu hadnabod
Ce`s ganddynt gymwynasau lu
I leddfu fy nghydwybod.

Pan fydd fy ffeithiau i yn brin
A rhai ddim yn gredadwy
Rwy'n benthyg eu" statistics" Nhw
Sy'n hollol ddibynadwy.

Nid oes im angen syrffio'r we
Am wirioneddau "Google",
Mae Nhw wrth law bob dydd a nos
I nghael i mas o drwbwl.

Mae gwraig drws nesa wrth y gat
Yn gwylio yn dragywydd
Ond gyda Nhw mae'r ddawn i weld
Pob peth cyn iddo ddigwydd.

Caf dalu nyled iddi Nhw
Wrth dynnu'r anal ola;
Rwy'n rhoi yr hawlfraint o dan lw
Mai Nhw gaiff wybod gynta.

Dafydd Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Pennill mawl / dychan 'Y Nhw':

Y Nhw yw'r gwybodusion sy'n cychwyn pob ryw si,
sy'n rhedeg llywodraethau, sy'n gwylio drosoch chi,
sy'n gwybod pryd bydd hindda a phryd mae'r gwynt ar droi
a hyd yn oed amserlen holl fysiau bach Caelloi.
Yn wir, mae'n rhaid edmygu eu doniau, ar fy llw,
cans hwy yw'r bobl glyfra'n y deyrnas - medde Nhw.

Owain Rhys
9 pwynt

Pennill ymson plentyn

`Dwi ddim iffe babi
`Run peff a Mam a Dadi.
Mae Twm fy mrawd yn cael pob peff,
Mae' weff gen i gael doli.

Dafydd Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Pennill ymson plentyn

I mam yn anrheg Dolig
fe es i lawr i'r llyn
i ddwyn ohono'r lleuad llawn
sydd yno'n gloywi'n wyn;
ond er ymdrechu'n galed
i geisio dala'r lloer,
ni wnai ond toddi'n ddarnau mân
ar flaen fy mysedd oer;
fe es at dad mewn penbleth,
cawn ateb ganddo'n siwr,
a d'wedodd ef mai llun o'r lloer
a nofiai ar y d?r;
mae'r un go iawn 'n y gofod
ymysg holl sêr y ne',
ond sdim ots, fe wna i roced
a'i nôl ar ôl cael te.

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Mae dau fath o anghofio , os wy yn cofio'n iawn,
Mae un yn dod drwy henaint a'r llall wrth feithrin dawn
All droi y du dan glogyn sbin
Yn gelwydd diplomatig wyn.
Fe'i gwelais ef yn swagro ddydd Sadwrn ar y Sgwar
A meic huodledd yn ei law , ac un neu ddau yn sbar.
Soniodd am dranc y Cread a gwella stad y ffyrdd
A sail ei Faniffesto oedd cadw'r Byd yn wyrdd.
Nid miloedd o bamffledi na hyd yn oed faint y Bil
Oedd y gwir gost a dalwyd mewn fforest yn Brasil.
Cymerodd y clod am y plant talentog
Ond ni chlywais son am yr anllythrennog.
Y Weinyddiaeth Les ddangosodd ei ddawn
Gyda'i wardiau gwag mewn ysbytai llawn.
Fe baentiodd ddarlun o'r ffermwyr yn ffynnu
Heb bunt yn y banc na buwch yn y beudy.
Anghofiais eto, rwy'n dechrau drysi,
Ai ffermwr oedd yntau cyn ei ail gylchu?
Cymerais ei air am yr holl gymwynasau
A wnaeth e i mi a'm holl berthnasau.
Rwy wedi pasio dyddiau'r Addewid
Rych chi'n gallu cofio- oes rhywbeth yn
newid?

Dafydd Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): ANGHOFIO

Wel mi ddes i yma heno o . . . rywle draw ffor-cw,
a gyrru yma wnes bob cam ag . . . un ohonyn nhw [y tîm],
i sefyll ac i adrodd o flaen y . . . bethma hwn [meicroffon]
rhyw bethau i ryw bobl, a chael marciau uchel, 'mwn.
A'r bwriad ydoedd adrodd i'r . . . boi 'na chwip o gân
ac yntau'n rhoi y deng marc clir i'n rhoi ni ar y bla'n.
Ond ow, does gen i'm syniad, beth wnes i gyda hi
i'w hadrodd nawr i'r mormon . . . nage, meuryn, ac i chi.
ac felly peidiwch gwylltio, rhowch ennyd fach yn awr
i mi gael ceisio dwyn i go' beth wnes i â'm cân fawr;
mae'n siwr o fod yn rhywle, wedi'i gadael ar y . . . 'thing'
ond alla'i ddim â chofio'n awr -- o, dyma beth yw ing!
Mae gen i gof o sgwennu'r gân, sy'n gampwaith wir i chi,
a dwi'n reit siwr mai'r gair 'bw-hw ' sydd yn ei gorffen hi,
ond ddaw hi ddim mae arna'i ofn, a cholled i chi'n wir
yw'r ffaith na fedraf adrodd dim rôl ymdrech galed hir;
ac felly, annwyl Feuryn, ar gân arall mi rof dro
os wnewch chi ddeud yn gyflym iawn . . . be oedd y testun 'to?

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â thalu bil/biliau:

Rown i'n gweld fod deg mil yn rhy ddrud
A ches glun NHS am ddim byd.
Nawr mae un goes yn hwy
A fe dalwn i fwy
Pe cawn i y ddwy yr un hyd.

John Rhys Evans
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â thalu bil / biliau

Aeth ffarmwr crintachlyd o Lambed
yn ddiweddar i dalu ei ddyled,
ond pan aeth at y til
er mwyn talu y bil,
'roedd gwyfynod 'di byta ei waled.'

Mari George
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Carcharor

Poen brwnt yw'r poen yn ei bru,
gwialen sy'n ei gwely.
Byw yw'r cur lle bu'r cariad;
ni ddaw hedd, ni ?yr ryddhad.

Briw a rheg bob awr ragor
ddydd ar ôl dydd sy'n ddi-dor.
Halen brad yr anfadwaith
ar ei grudd sy'n llosgi'r graith.

Daw'r gwarth i aradru'r gwae
yn ddwfn ym mhridd ei hofnau.
Oer yw rheg nos y rhwygo,
hir yw cwys cwlltwr y co.

Eirwyn Williams
9 ½ pwynt

Cywydd: (heb fod dros 12 llinell): CARCHAROR

(perthynas â dementia)

Un anodd yw'r daith heno,
ein galwad wag i'w weld o,
yr hen ?r yn rhannu'i wae
yn s?n y drysu enwau,
a'r chwithdod o nabod neb
yn drueni drwy'i wyneb.

Mae'n anodd, ac mewn ennyd
mae'n sythu, llefaru'n fud,
wrth ffwndro eto yn ôl
drwy ffenest ei orffennol,
a ninnau'n gweld ei wên gaeth
wedi'i hoeri gan hiraeth.

Rhys Iorwerth
10 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Nid wyf yn cadw defaid
Na un hwrdd i roddi naid

Ateb llinell ar y pryd:

Yr wyf o Gaerdydd - o raidNid wyf yn cadw defaid
1 pwynt

Englyn Cywaith: Unrhyw elusen:

Ambiwlans Awyr

Uwch sarn foel, uwch siwrne faith-a'u hangau
mae angel ein hartaith;
ystwyth yw, gwastad ei thaith
a'i gwib yn chwyrnu gobaith.

Eirwyn Williams
9 pwynt

Englyn cywaith: UNRHYW ELUSEN

G?r y 'Big Issue' tu allan i Tesco

Rhown anfoddog geiniogau rhad i'r g?r
o drugaredd weithiau,
yna awn dan lawenhau
a gwario am y gorau.

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

Telyneg: Amser

Gan bwytho'r munudau
y deuwn i adnabod y byd.
Does gennym
ond ein gwe ein hunain.
Symudwn
o wagle i wagle
gan nithio'r munudau
a phwytho'r pellter.
Estynnwn
am linyn bod
gan greu â gobaith
y gwead rhyngom.
Gwau gofalus
rydd adnabod
yr hunan hefyd.

Try oriau mud
yn dudalen wag.
Pan yw geiriau'n pallu
dysg im y geiriau
i gyfannu'r we
a'th gariad digymrodedd
yn gwau'r dyfodol
gan nithio'r munudau
a phwytho'r pellter.

Ann Rhys Davies
9 pwynt

Telyneg: AMSER

Ym mhentref Tulum ar arfordir y Caribi ym Mecsico ni cheir ond teirawr o drydan bob nos rhwng chwech a naw.

Ym mharadwys y caban
â'r tywod dan fy nhraed
dylai'r straeon
fod heb orwelion.

Ond mae'r meddwl mor gaeth
â'r bwlb uwch fy mhen.

Teipio'n wyllt
a lladd amser,
yn ddall.

Cofio amdanat ti,
chwilio gwaed ein stori
a chael dim byd
ond geiriau
du a gwyn
i lenwi'r sgrin.

Â'r bysedd yn segur
am naw,
syllaf i lygaid y nos
a gweld yn bell
o'r diwedd.

Ein lleuad
yn consurio
adar o'm dwylo
a'u cysgodion brith
yn chwilio amdana i.

Gweld dy law
a'th wên
a'th wres.

Gweld fy myd yn arogleuon
y nos
ddi-drefn,
y pensil rhydd yn naddu lliwiau
i grynu yn y corneli.

Gallaf nawr
greu cyfrolau
mewn cysgodion
yn ewyn o orwelion.

Mari George
9 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Y Bae

Un man ym môr f'ymenydd a hawliaf,
Lle i gilio rhag stormydd
 phob ton yno'n llonydd
Lle un cwch, pellennig cudd.

Eurwyn Williams
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80

Englyn ar y pryd: Y Bae

Collodd miloedd o adar hirgoes eu cynefin wrth greu morglawdd Bae Caerdydd y bwytai a'r bariau. Collodd llawer o bobl Butetown eu cartrefi hefyd.

Wrth iddyn nhw droi'r llanw'n llyn - o raid
Aeth yr adar wedyn,
Ond ym mariau'r hafan hyn
Be' yw d?r heb aderyn?
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'crefydd':

Yn y nef heb un crefydd
Teyrnas Dduw yn fyw a fydd.

Ai cryfach fydd ein crefydd ?
Hawdd i ffawd ddiweddu ffydd.

Rhibin tlawd rhwng ffawd a ffydd,
Ydyw crafion gwellt crefydd.

Pennill mawl/ dychan: Y Nhw:

Arolwg gan dri bugail; ni bydd eisiau arnaf;
Hwy glywsant fy rhegfeydd gwallgof ond ni'n twyllasantgerllaw'r ffurflenni tywyll.
Hwy a welsant fy ngwendid ; hwy a'm gyrasant i ben tenyn fy nhymer
ond cefais grant.
Ie, pan rodiaf i'r banc a tshec y grantiau, nid ofnaf niwed canys y maent
hwy gyda mi ; eu lloeren a'u ffôn a'm dilynant.
Arlwyaf fy mord ger eu bron ; fy ng?ydd hwy a draflyncant;
Curant fy mhen a rheolau, eu boliau sydd lawn.
Dogfenni didrugaredd yn ddiau a'm poenydiant holl ddyddiau fy mywyd
Ond i'm preswyl croesawaf Y Nhw yn dragywydd.

Rwy'n cofio dyddiau cynnar
Yn llawn drygioni byw.
Medd Mam : "Fe ddoi i drefen
Wrth weithio gyda nhw."

Mi dyfais lan yn fuan
Fel un yn gaeth mewn s?
Yn gweithio diwrnod caled
I gyd i'w hachos nhw.

Drwy hyn daeth ffawd yn amal
Bob tro o'u hachos nhw,
Ond derbyn cosbedigaeth
Oedd raid heb siw na bw.

Mae'r byd yn llawn rheolau;
Pob gweithred sydd yn ll?
Yng nghrombil cyfrifiadur
I gyd o'u hachos nhw.

Fe ddaw yr alwad olaf
Yn sydyn gyda llef,
Bydd achos pawb yn gydradd
Heb ragfarn gydag Ef.

Pennill ymson plentyn

Fi heddi gyda I pod
Ti'n meddwl bod e'n cwl?
`Dyw mam fi ddim yn hapus
Fi'n dod ag e i sgwl.

Hei! Rho fe nôl ar unwaith
I fi , so hyn yn ffêr
Neu bydda i'n dweud wrth mam fi
Amboiti ti , "so there".

Limrig yn ymwneud â thalu bil/biliau:

Nid own i am werthu y Volvo
Ond cynnig rhy dda wnaeth fy nhemptio.
Roedd y proffid yn fawr
A'r boi'n talu lawr
Ond nawr mae y siec wedi bownsio.

Rwy'n talu y bile yn gyson
Mewn banc sy' nghanol Tregaron,
Ond nawr y mae'r trethi
Yn Sir Aberteifi
Yn fwy na chyfanswm y pension.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Carcharor

I chwa Mai ar ôl chwe mis,
Y magu drosodd, megys,
O le gwael a golau gwan
Yn holliach troi'r llo allan
Ar ras wyllt o ddrws ei sied
A th? ei holl gaethiwed.

Rhoes ei goes drwy ddrws ei gell
A diarbed o hirbell
Un sbonc dros y bonc i'r baw
I ddyfroedd slyri'n ddifraw,
Yno'n oer yn `nabod neb
A'i ddawn yn llawn dallineb. John Rhys Evans

Englyn Cywaith: Unrhyw elusen:

Ambiwlans Awyr

Angel i rwystro angau - a yn syth
Fel y saeth i'r wardiau.
Yn iawn bryd caiff cleifion brau
Le i lorio'u doluriau.

Telyneg: Amser

D?r yn treiglo
tros garreg;
chware t? bach
yng ngwreiddiau'r
hen dderwen.
Briallu melynaur
yn lliwio tyllau'r
waliau cerrig
a d?r y ffynnon
yn grisialu
tragwyddoldeb;
yn nhir dirgel
fy mhlentyndod
mae adar yn canu;
clywaf ddawns y d?r
yn mwmial dros lwyau'r rhod.
Mae sibrwd lleisiau
yn swn y chware
a gwelaf yr haul
drwy arch y d?r.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Crefydd':

Geiriau ofer di-grefydd
waedda Duw pob diwedd dydd.

[I Gristnogion a erlynir]

Paid dioddef, mae crefydd
Yn dy waed i gario'r dydd.

Ai ofer troi at grefydd
pan fo dyn ar derfyn dydd?Cân (heb fod dros 20 llinell): ANGHOFIO

O Hybarch Brif Feuryn
Fe ddown ger eich bron
I gynnig ein cerddi
A datgan yn llon
Ein bod, Aberhafren,
Yn feirdd o'r iawn ryw
Yn gwybod yn iawn
Be 'di be, be 'di byw.

Ond och, ar y ffordd,
Wedi gofyn i Rhys
'Oes gynno ni gân?'
Fe welais y chwys,
Bu Aron a Llion
A Mari'n set flaen
Yn gweiddi a rhegi,
Wel, dyna chi straen.

Felly Hybarch Brif Feuryn,
Ymddiheuriadau gewch chi,
A sori wir,wir,
Ond fe anghofion ni.

Limrig yn ymwneud â thalu bil / biliau

Wrth y cownter roedd Pegi yn setlo
y bil am falwns i bartïo.
Pan ofynnwyd am 'pin,'
meddai Pegi yn syn,
"Sa i'n moyn i'r balwns ma i fyrstio!"

Un tynn gyda'r trydan oedd Wmffre,
er iddo wneud ffortiwn mewn wye,
fe'i holwyd un diwrnod
'ai free range yw'r cywennod?'
'na, rhai batri, i sbario ar y bilie!'

Roedd Brenda yn addo sawl thril
Ond bu cwyno'n y ciw ger y til
Wrth i rai ddechrau ama'
O weld ei chyhyra'
Nad Brenda oedd Brenda, ond Bil.Cywydd: (heb fod dros 12 llinell): CARCHAROR

Am fod ei fyd mor ddudew
a'r haf yn pelydru rhew,
yno'n byw yn storm ei ben
bollt ar follt fel y fellten,
ei boenau'n gaeth i'w benyd,
a'i gof yn ddedfryd i gyd,
i'w gell daw eto'r ellyll
i sibrwd gwae geiriau'r gwyll,
ffoi i'r nos wna'i uffern ef
o ddyddiau ei ddioddef
i alar y carchar cudd
a'r gawell sy'n dragywydd.

Englyn cywaith: UNRHYW ELUSEN

Wedi'r wylo, daw'r alwad; yn araf,
try hiraeth yn gariad;
cael mewn galar Samariad,
a'i roddi hael yn rhyddhad.

Rhoi rhodd fel cynnig moddion, rhoi sy'n ffri
ac eli i'r galon
gyndyn, ond daw wedyn don
dyfaru rhoi diferion.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.