Dwrlyn vs Sgwod.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Dwrlyn

Dwrlyn

Sgwod

Sgwod

Cwpled caeth yn enwi bardd

Fel bardd, dewiser Gerallt-
Mae'n fyw, a siwr Dduw o ddallt!

Ifan Roberts
8 ½ pwynt

Cwpled caeth yn enwi bardd

Rhy brysur yw'n natur ni,
aros wnai Williams Parry.

Karen Owen
8 ½ pwynt

Pennill mawl/dychan: Y Ni

Duw gadwo'n mab rhag priodi rhywun o'ch teulu chi,
Rhag neb sy'n galw'r toiled yn ddim on "W. C.";
Duw gadwo aer y goron o grafanc merch sy' a'i mam
yn ddim ond cyn "air hostess" na ddwêd "Beg pardwn ma'am";
Duw gadwo ein brenhiniaeth yr hyn a fuodd hi -
heb ddafn o waed y werin i lygru'n llinach ni.

[Awgrymwyd yn y wasg nad oedd arferion "etiquette"a ieithwedd Kate, cariad y Tywysog Harri, nac ychwaith ei theulu'n gydnaws â'r cylchoedd bonedd! Bu cryn drafod beth yw'r gair iawn i'w ddefnyddio am y t? bach a su dylid ymddiheuro'n foesgar ayb.]

Ifan Roberts
8 ½ pwynt

Pennill mawl neu ddychan: Y Ni

Pry' copyn a thwrnai a sgwlyn rhyw dro
gymysgwyd mewn pair gan y capten, KO,
trwy ddamwain ces innau fy lluchio i'r pot
a, rhywsut, rhoed enw 'Y Sgwod' ar y lot.
Roedd potas y flwyddyn t? thowsand and ffôr
yn plesio y Meuryn, o gofio y sgôr,
felly, i'r Fflint yn hyderus eleni yr awn
os Gerallt gaiff hwyl ar wneud syms y ffordd iawn.

Harri Williams
8 pwynt

Pennill ymson mewn dinas

Mewn mynwent
yng nghanol y ddinas y clywais
gân lawen aderyn du, a holais
"Ymhle, fy ffrind,
y mae dy hapusrwydd yn byw?"

Ynyr Williams
9 pwynt

Pennill ymson mewn dinas

Mae dwy linell felyn yn dweud na chaf aros
ar ymyl y stryd nac yn unlle'n agos,
ac un ffordd yn unig y caf fynd arni wedyn
er nad oes dim arall yn dod yn gyferbyn;
be' goblyn oedd iws i brynu y Mini
a gorfod cerdded can milltir o'r multi-storey?

Harri Wiliams
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) : YN Y S?

Doedd gen i fawr o awydd dod i le mor od a hwn,
ond ffeiriwn i mo'r profiad, ddim am y byd mawr crwn;
Ble arall caech greaduriaid mor lliwgar meddech chi
a grêd mai nhw sy'n waraidd, ac mai direswm ydw i?
Dacw nacw yn parêdio heb grys dros fol mawr tew
wnai "feidrol-ddybl-whopar" ym myrgar Llyr y Llew.
A hithau'r frwynen welw mewn bicini ar y gwair?
tra Bet yr Alligetor heb "dwthbics", ar fy ngair!
Mae Ron yr Anaconda, sy' 'di diflasu ar lygod mawr,
ers meitin yn glafoerio - mae trip ysgol ar gyrraedd nawr!
Ac ar ôl cnoi tegan plastig, mae camdreuliad Jôs y Siarc
yn meddwl na chaiff o eto fynd i "badlin p?l" y parc.
Does neb fyn odro defnyn o wenwyn y Widw Ddu
sy'n ei gwneud hi yn bur isel, heb neb yn tw'llu'i th?;
A 'dyw Eira'r Eryr hitha heb gae'l fflio'i unlle pell
ers cipio rhyw Ann Robinson - ddylsa hi wbod gwell.
O'r ochr draw i'r barrau, gan bod lecsiwn ganddoch chi,
dewch mewn rhag i chi ddiodde, fydd hi'n neisiach efo ni.

Ifan Roberts
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) : Yn y S?

Un diwrnod wythnos dwethaf rown i yn Bristol Zoo
er mwyn cael prynu deryn, un pert fel cockatoo;
fe es am wâc o amgylch a mynd yn ddigon ewn
gan 'mod i wedi talu'n y iet am gael mynd mewn.

Fan draw'n y cornel pellaf, yn sefyll wrtho'i hun,
roedd parot o flaen ffenest yn edrycn ar ei lun;
fe'i prynais ef ar unwaith a'i gyfarch trwy ddweud: "Hai"
a dyna sioc a gefais pan dd'wedodd e, "Shwmai?"

Ro'wn i yn ffaelu deall shwt ddysgodd e Gwmrâg,
ond clywais fod cenhadwr aeth ma's o Benarlâg
i Katmandu'n yr India, a thra'n pregethu'r Gair,
fe ddaeth y parot ato `rôl dianc o gae ffair.

Roedd ef a'r teulu cyfan yn Gymry pur a glân,
ac nid peth neis oedd cadw y parot ar wahân;
fe ddysgodd iaith cenhadwr, adroddai bron bob dydd
emynau o'r Caniedydd - a rhai Caneuon Ffydd.

Wrth fynd â'r parot gartref, ac er mwyn bod yn saff,
fe'i rhois ar sedd y cefen a'i glymu'n dynn a rhaff
rhag ofn hedfanai'r deryn yn ôl i Bristol Zoo
neu, falle'n waeth na hynny, yn ôl i Katmandu.

Roy Davies
8 ½ pwynt

Limrig yn ymwneud â theithio

Mae carbon yn dod o awyren,
Ac hefyd o dwll din llygoden
Ond un peth sy'n ffaith
Wrth fyned ar daith -
Mae c'nesu byd eang yn syrten.

Ifan Pleming
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â theithio

Bydd pobol Caergybi yn siopa
yn Culverhouse Cross bob ben bora,
a chrachach Y Bari
yn Selfridges Fali -
mae Jymbo yn well na Thraws Cambria.Harri Williams

Cywydd Coffa i anifail

GELERT

Mae llygaid dy enaid di
o waed, yn eu socedi'n
treiddio, treiddio i'r tir hen
yn ingol; gweld pob cangen
yn ddeiliog o ddialedd;
yn grud mor fud uwch dy fedd.

Ni g'lwyddau'n storiau rhad
am ddiofal amddifad
ac estron o gi ystryw!!!
Mae'r bedd fel Cymru i'r byw.

Ynyr Williams
8 ½ pwynt

Cywydd coffa i anifail

Llyfni, fy mhysgodyn aur

Hael ei aer yw galaru
yn y dwfn, ond nid mewn du
y dof gyda'm llygaid i'n
ddau lanw prudd eleni;
am mai oren yw marw'r
enaid o aur yn y d?r.

Un oes yn y bowlen aeth
i dagell profedigaeth,
a holl awch ei esgyll oedd
yno i nofio i'w nefoedd;
am mai nod pob pysgodyn
a'i ddiwedd yw diwedd dyn.

Karen Owen
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Fi 'di ff?l y vodaffôn
½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn y ffôn mae'n rhoi'i ffydd
½ pwynt

Englyn cywaith : Cegin

(gan ddwyn i gof gyngor enwog Harold Wilson - "If you can't stand the heat - get out of the kitchen!")

O achwyn fod y crochan yn beryg
yn berwi a ffrwtian,
Os wyt ti ofn gwres y tân -
Yw'n well i ti fynd allan?

Dafydd Huws
8 ½ pwynt

Englyn cywaith: Cegin

(hen wraig ar ymyl y ffordd yn Delhi)

Heddiw, i'r blawd mae'n rhoddi - ei bore
a burum ei thlodi,
ac ym mhowlen trueni
mae'n tylino'i heno hi.

Geraint Roberts
10 pwynt

Telyneg: Dwylo

Yn ôl y stori, aeth brawd yr arlunydd Albrecht Durer i weithio yn y mwyngloddiau er mwyn ariannu gyrfa golegol Albrecht. O ganlyniad difethwyd sensitifrwydd ei ddwylo a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn artist ei hun. Anfarwolodd Albrecht Durer ddwylo garw ei frawd yn ei lun o ddwy law yn erfyn.

Naddodd y Gwaith dy ddwylo,
Eu sgythru â ch?n dy lafur hir
Nes creu o'r meddalwch
Galedwch afrosgo.
Yn loes dy nosau,
Dy freichiau'n cyffio gan flinder
A phoen yn ebillio'th gymalau,
Ni allet ond rhannu ei freuddwyd e',
A throi diflastod dy ddyddiau
Yn geiniogau'i gynhaliaeth.

Anwes brwsh
Yn esmwyth ar gynfas
Yn ddarlun o ddiolchgarwch.
Dwy law arw'n erfyn,
A'r bysedd briw
Yn hardd o hagr,
O gariad brawd at frawd.

Menna Thomas
9 pwynt

Telyneg: Dwylo

Ar biano lle mae'r alaw
o hyd yn ddu a gwyn,
bydd oriau o ymarfer
cyn seinio'r cordiau'n dynn.

Ond ni all bysedd perffaith
na'r holl raddfeydd a fu
fwynhau yr amrywiadau
sydd rhwng y gwyn a'r du.

Karen Owen
10 pwynt

Englyn ar y pryd: A470

Cythgam o lôn i'w thramwy - ein hyrddio
O'r ffordd - de ac aswy,
Hyd a lled yn dylladwy-
Rwy'n falch nad yw Cymru'n fwy.

Rhodri Gwyn Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Englyn ar y pryd: A470

Ni ?yr y sawl sy'n gyrru'r - hewl lydan
O'r wlad i'w yfory,
Mai'r un trac o darmac du
Yw'r un sy'n dal i'n rhannu

Geraint Roberts
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81

Cynigion ychwanegol

:

Cwpled caeth yn enwi bardd

Bu yntau yn ei Bontiac
lawr i Ben Cei 'fo Mei Mac.

Yn y Llan a llawer llys
ymyrryd mae Twm Morys

Yn y Llan a llawer llys
Mae hiraeth am Dwm Morys

O wawr oer Cilmeri hen
y daw Gerallt Lloyd Owen

Pennill ymson mewn dinas

'Dw i'n nabod neb, ma' hi'n peltio'r glaw;
'Dw i hiraeth yn ofnadwy;
Mae'r car ar stop a'r tanc yn wag -
I ddiawl â Dinas Mawddwy!

Dwi'n sefyll yma wrth M & S
Mae'n ffôn i yn ddi-neges
'Fod cwrdd a'r wraig ers awr go dda,
Heb ambarel na lloches
Rhwydd hynt fo iddi gael dillad i drio
Ond gobeithio yn wir na fydd dim yn ei ffitio. Cân (heb fod dros 20 llinell) : Yn y S?

'Na braf di gweld y giatia yn cau 'rol diwrnod gwaith
Gan roi cyfle i ddadebru ar ôl yr oriau maith
Cael cyfle i gael sgwrsio hefo hwn a'r llall -
Mae'n wir fod ambell gyfaill yn siarad yn ddi-ball
Am ddigwyddiadau'r diwrnod, rhai'n drwstan iawn mae'n wir.
Ac yn amlach gwaith na pheidio, mae'r neges yn un glir -
Rhai od ar y naw di'r giwed, mae amball un yn gas.
Ond rhyngddyn nhw a'i gilydd , peth felna ydi tras
Mae 'na rai yn byta popeth, rhai arall yn byta dim
'Mond edrach lawr eu trwynau , cyn symyd 'mlaen yn chwim.
Ceir swn byddarol weithiau, weithiau ambell sgrech;
A'r cyfan, bron bob amser, yn gallu bod yn drech.
Mae chwys ar war a thalcen, dro arall cawod ddaw
Yn aml mae 'na gyfnod pan gawn ni eitha braw.
Rhoi breichiau rhwng y bariau, closio yn rhy dyn,
Dwyn cap a'i daflu droeon, a ninnau'n syllu'n syn.
A gan mai dyna'n gwaith ni, does wiw i ninnau wgu,
Rhaid rhannu'r crystyn olaf, mae'n drist gweld neb yn llwgu.
Ac os daw adeg rywbryd i ninnau gael gwneud dewis
Newidiem ni ddim iot ar hyn, byd braf yw byd y mwncis.Rhodri Gwyn-Jones

Limrig yn ymwneud â theithio

Ail greu mordaith fawr y Mimosa
Oedd uchelgais un dyn bach o'r Rhondda
Ond chwalwyd y cwbl
Cyn cyrraedd Doc Lerpwl
Oherwydd arafwch Arriva.

Cafodd plismon tew tew o dre' Ponti
Ei anfon mewn sgwadcar i holi
Rhyw ddynas fach neis
Oedd yn hoff o fins peis
Mae bellach yn "chauffer" i'r Ledi.

'Roedd trip wedi ei drefnu i'r lleuad
Gan griw oedd a'u blys ar aduniad
O'r ser a'r planedau
Yr haul a'r elfennau
Maent bellach tu hwnt i ddisgyrchiad.

Wedi hedfan dros nos i Awstralia,
ac wedyn ymlaen i Tasmania
wrth adael y plên
meddai'r hostes yn glen,
"Mae'ch bagie chi'i gyd yn Siberia!"

Aeth Wil lan am drip mewn balwn
gan weiddi ar ei wraig "See you soon."
ond cododd rhyw wynt
aeth ynghynt ac ynghynt,
mae'n y gofod uwchben Cameroon!

Cywydd Coffa i anifail

Mot

Dy angau fu dihengyd
at yr ast ar draws y stryd,
ac est o dan olwyn car
yna rhowl y stim rolar.
Ysywaeth - yn fflat aethost.
Dyna pam daeth dyn y post
â dy garped o gorpws
a dy roi o dan y drws.
Cei anrhydedd gorweddfan
yn y t? o flaen y tân;
yn 'wastad' atgoffadwy
mai 'Mat' a fydd Mot imi mwy!

Englyn cywaith : Cegin

Bu unwaith dannau beunydd yn ei grat,
a'i gwres yn ddihysbydd;
Hon y byd yn ei bwydydd
a hon oedd digon pob dydd.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn enwi bardd

Mae, rhwng Men a Chwm Pennant,
Eifion Wyn sydd at fy nant.

Hen, hen, ?r Cynan ei hun
am byth fydd Mab y Bwthyn.

Y duwiau a Lloyd Owen -
nid ydyn nhw'n mynd yn hen.

(Awdl 'Gwaddol')

Y gwn sy'n atsain i gân
Ceri Wyn yw cri'r hunan.

I D Hooson sy'n mynnu
haf o win rhyw oes a fu.

Daw y beirdd, a mynd bob un -
yma i aros mae'r Meuryn.

Ar y waun, lledu wna'r allt
eginodd yng ngherdd Gwenallt.

Trwy ei iaith, fe glywn bob tro
anwyldeb canu Waldo.

Parhau mae ein geiriau prin
sy'n aros ers Aneirin.

Isfoel allai roi crasfa
I R.S. a Bardd yr Ha'.

(Cofeb Waldo)

Y cerrig is Foel Drigarn
gofia un fynegai'i farn.

Pennill ymson mewn dinas

(actor mewn archfarchnad)

Rwyf yn sefyll fan hyn fel lemwn
a'r colur yn felyn i gyd,
y sudd wedi'i wasgu ohonof
a'r fasged heb geiniog o hyd.

'Does dim un o'r bobol yn nabod ei gilydd
a neb i gael sgwrs am y gerddi a'r tywydd,
dim gwên na 'Sut mae hi?' i'w cael yn y ddinas,
does ryfedd eu bod nhw'n edrych mor ddiflas.

Man a man bod yn y Sahara
neu ar lethrau y Rockies fry -
er y miloedd sy'n myned heibio
does neb yn siarad â mi.

Cân (heb fod dros 20 llinell) : Yn y S?

I Fryste aeth Trip Ysgol Sul Capel Seilo
am fod ein gweinidog eisiau gweled yr hipo;
ond wedi'r cyfarfod, roedd un yn siomedig -
hen wr bach go hyll ydi Jones y Parchedig.

Pan welodd y crocodeil, wedyn, Rose Jên,
dywedodd yn uchel, "Mae hon yn rhy hen
o lawer i mi, ac am ei phriodi,
dim gobaith o gwbwl. Ond hwyrach y gwnaiff-hi
ail wraig i'r gorila, er, mae o'n reit barticlar.
Os dwedith o 'Na', bydd hi'n ginio i'r teigar".

Fe ddaeth dwr i ddannedd y llewpart o weled
pen-ôl Anti Meri yn siglo wrth gerdded,
a deffrodd y pengwin pan basiodd hi Betsi,
meddyliodd sut siâp fyddai ar hon mewn bicini.

Mae'r eliffant llwyd a'i drwyn hyd y llawr
fel Huws codwr canu ar gwr y set fawr;
yn sydyn, fe glywyd rhyw hylabal? -
roedd y gweinidog ar goll mewn powtsh cangar?.

Dyna pam fod criw Seion wedi bwcio bws
tro nesa' i Tenbi heb hanner y ffws.

Limrig yn ymwneud â theithio

Os ei yn gyflymach na gola',
mae'n bosib trafaelio o fama
cyn belled â fancw
a, heb ffws na thwrw,
cei gyrraedd yn ôl cyn 'ti ddechra'.

Aeth Marged am reid gyda Wili
ar gefen ei beic i Rosili,
roedd y pedlo yn hawdd
nes cyrraedd Penclawdd,
ond wedyn, aeth plet yn ei whîl-hi.Cywydd coffa i anifail

Yr ast

Tawelwyd un o'r teulu
un ha' gan Doyota du.
Wedi mynd mae'r damio o hyd
a'i bow-wow peryg bywyd.

Gwneud ei busnes drws nesaf?
Ni ddaw hi ar ddydd o haf,
na gwg ei blew du a gwyn
na'r tynnu ar y tennyn.

Diogel yw'r gymdogaeth
â'i dicter yn goler gaeth;
hi hen ast, er bob cystudd,
yn byw trwy ei pherchen bydd.Cywydd coffa i anifail

Y parot

Tros orwel i dawelwch,
i le dan domen o lwch,
rhoed Poli. Ni weli'n awr
ei swyn - y profiad seinfawr!

O! pe gwypech ei sgrechian
aflafar i bedwar ban!
Daw arnom gysur dirnad
o ddydd i ddydd y rhyddhad
o beidio â gwrando'i gri
na rhagor oddef rhegi.

Na foed un atgyfodiad -
ar ei hun boed hir barhad.Dafydd Williams

Englyn cywaith: Cegin

Cymer gig gweledigaeth, - a dyrnaid
dod arno yn helaeth
o eiriau camp mesur caeth,
i'w ddwyn yn gain farddoniaeth.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.