Dinbych vs Ysgol y Berwyn.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Dinbych

Ysgol y Berwyn

Cwpled Caeth yn cynnwys dau rif:
Roedd her yn naw un-ar-ddeg,
Bloedd ydoedd yn ehedeg.
Berwyn Roberts
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys dau rif:
Byw ein beiau yw'n bywyd
Un neu ddau sy'n dda o hyd.
Anna Davies
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Yr Oscars
Heb weld yr un o'r ffilmiau, na'r seremoni 'chwaith,
mae'n anodd iawn dychanu na moli unrhyw waith.
Dau gwestiwn am ddwy wobr sydd gen i, felly, i chi...
(a chofiwch beidio twyllo wrth ffonio'r BBC!):
Sut ddian mai Brenin Olaf yr Alban oedd Amîn,
a pham wnaeth Helen Mirren drafferthu actio'r Cwîn?
(Actor gorau: Forest Whittacker yn The Last King of Scotland am Idi Amin)(Actores orau: Helen Mirren yn The Queen amdani hi!)
Eifion Lloyd Jones
8 Pwynt
Pennill Dychan: Yr Oscars
"O mai god! Ble ydw i am gychwyn?
Ga i ddiolch i'm hasiant a nain,
Ac i'r sgriptiwr, fy neintydd a'm morwyn,
Fy rhieni, y gath a'r dyn sain.
Y cynhyrchydd, y bwtshar a'm cymar,
Y dyn drws nesa, ei fodryb a'i chi,
Heb anghofio am un sydd mor ddiymhongar,
Yn anfarwol, ffantastig, myfi.
Delyth Humphries
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: Wyneb un heb ei eni
Yn egin y beichiogi, - yn y byw
Balch a'n cyd-wirioni,
Yn loyw o fyw gwelaf fi
Wyneb un heb ei eni.
Berwyn Roberts
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell:'Wyneb un heb ei eni':
Wyneb un heb ei eni - boed y daith
Pob dwthwn ohoni,
Yn ddiatal rhwydd iti
Drwy'r byd hwn: bendithiwn di.
Arwel Emlyn
8 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell):NEWID BYD
Clatsio 'sgidia' hoelion yn blygeiniol cyn saith;
Y gweithiwrs llwydaidd ar eu ffordd i'w gwaith.
I Maenfferam, Yr Oakley, y Lord a'r Graig Ddu,
Yn ymlwybro'n ddyddiol yn barablus lu.
Gwich 'sgidia gora', tair gwaith y Sul,
Nid ar lwybr y chwarel ond y llwybr cul;
I Bethesda, Bethania, Disgwylfa a'r Rhiw
Yn eu dillad parch yn addolgar griw.
Caent chwythu'n y band, neu ganu mewn côr:
Pnawn Sadwrn yn Haygarth - 'doedd ots am y sgôr;
Nos Sadwrn i'r Fforym, yr Emp neu'r Parc Syn,
Neu 'sgota pry genwair mewn afon neu lyn.
Mae siop Catrin Elin, y Coparet a'r Hall
Wedi mynd ers blynyddoedd - 'does dim o'u hôl.
Y chwareli a'r capeli bron i gyd wedi cau
A dyfodol Cwt y Bugail yn ddigon brau.
'Dyw'r 'Sbyty Goffa werth ei chadw, medde "Nhw" -
Dyma'r ergyd dryma i'r dre ar fy llw!
Os yw niwl y newid ar y llethrau llaith,
Fe chwâl mewn munud - ond i'r plant gael gwaith.
Elwyn Wilson Jones
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Newid Byd
Bu farw dau grefyddwr yn gynnar fore Llun
Ac o fewn dim yn sefyll o flaen St Pedr ei hun.
Roedd un yn Bresbyteriad, ers gorwedd yn ei grud
A'r llall yn Annibynnwyr gwylaidd iawn ei fryd.
Wel croeso meddai Pedr fe af a chi ar daith
I'r lle y byddwch ynddo am dragwyddoldeb maith.
I ffwrdd a hwy ar unwaith heb lonydd aur y ne
Nes cyrraedd mewn rhyw chydig rhyw blasdy mawr o le.
Ei furiau yn wyngalchog a lawntiau gwyrdd o'i flaen
A wnâi i blasdai'r ddaear i edrych yn reit blaen.
A choesa'r Presbyteriad o tano aeth yn wan
Pan ddwedodd Pedr wrtho mai gartref oedd y fan.
I ffwrdd a'r cerbyd wedyn nes cyrraedd cyn bo hir
Rhyw gaban o adeilad ddim mwy na sied yn wir.
Edrychai'r Annibynnwr di siomi ac yn syn
Pan ddwedodd Pedr wrtho, y ti sy'n byw fan hyn.
Ac meddai'r Annibynnwr wrth Pedr, dwed yn awr
Pam bod y Presbyteriad yn cael y plasdy mawr?
Mae miloedd o Annibynwyr medd Pedr yn y ne
Ond fo di'r Presbyteriad cyntaf i ddod i'r lle.
Huw Dylan
8 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell):Gwyddel
Gwnest ddygymod â thlodi
a'r Cymro'n dy wawdio di;
Un o lwyth y genedl od
yn dduwiol yn dy ddiod.
Mewn baw ar domeni byd,
Nafi pob twnel hefyd.
O gaethiwed caledi
yn ddi-ymffrost daethost ti
i gerdded gydag urddas
o fyd brwnt i fywyd bras.
Rho hanner dy gyfrinach
i ni sy'n rhannu'r un ach.
John Glyn Jones
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gwyddel
Ei weled yno'n Nulyn
O hyd, yn ddelfryd o ddyn,
Ar y guiness mor gynnar
Yn byw a bod wrth y bar;
Wrth y bar wyth y bore
Arogl wisgi'n llenwi'r lle;
Yno mae heb sôn am waith
Yn rhyw yfed o'r afiaith
A'r hwyl sydd yn llifo'n rhwydd,
Ei far yw'r byd cyfarwydd.
Ond efe'n fy ngwlad fy hun
A fyddai ond yn feddwyn.
Arwel Emlyn
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ymchwil:
Gwyddonydd ar fferm ieir yn Kentucky
Fedrodd groesi pry' copyn â thwrci.
Gwyrth fwyaf yr oes !
Creu ffowlyn wyth coes !
Ond does neb medru'i ddal, mwya'r piti.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ymchwil:
Wil ddarllenodd un diwrnod yn Cosmo
Ar 'fetrosexuals' mae merched yn dotio,
Y 'feautician' fach glên,
Awgrymodd driniaeth 'John Wayne'
Mae'n werth weld o'n cerdded rôl wacsio.
*Metrosexuals* - term i ddisgrifio dynion modern sy'n treulio oriau'n ymbincio ac yn 'pampro'u' hunain - 'David Beckhams' y byd.
Llinell yn cynnwys y gair 'Diwedd':
Fe ddaeth heddiw o'r diwedd.
½ Pwynt
Llinell yn cynnwys y gair 'Diwedd':
Duw yw'r dechrau a'r diwedd.
½ Pwynt
Englyn Cywaith: Meic Stevens
O'r ffynnon fe dreigla'r doniau, - rhedant
yn ffrwd a chawn ninnau
oedi a byw'r munudau
prin, a'r llifo'n parhau.
Berwyn Roberts
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Meic Stevens
Ar greiglan bell ei ganiad - ei dannau
Yn donnau o deimlad,
A fewn hyn y cawn fwynhâd;
Un g?r, a "môr o gariad".
Arwel Emlyn
8 ½ Pwynt
Telyneg: Priodas
I'r ddwy acw, Angharad ac Elysteg
Dwy hogan fach mewn priodas floda' ddoe
yn gwneud go iawn o bobtu cwymp y dail;
dwy fach oedd gyda'r gora' am wneud sioe
a gwisgo i fyny i blesio bob yn ail,
yn rhannu holl ddarparu'r diwrnod mawr
fel morwyn a phriodasferch yn eu tro
gan hanner ofni eu dwy mai dyma awr
gwahanu'r cwlwm cynnar, datod clo
plentyndod er mwyn dechrau gweddill oes
y ddwy â'r ddau sy' am rannu'r antur hon
mewn awel dyner ac mewn gwyntoedd croes
ar hyd hen lwybrau fydd yn newydd sbon;
a ninnau, wrth ddymuno gwyn eu byd,ddim eisiau llacio'n gafael yr un pryd.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Telyneg: Priodas
Gorweddai yno ers misoedd
Ni wyddai ym mhle,
Na phwy oedd y wraig
Ddeuai o ddydd i ddydd
I eistedd wrth erchwyn ei wely
I gynnal sgwrs
A hi ei hun
Tra'n anwesu ei law ddiffrwyth
Rhwng ei dwylo main.
Codi, gwlychu gwlanen
A'i daenu'n dyner dros ei dalcen,
Neu wasgu diferion o dd?r
Ar wefusau sych,
Cyn eistedd
I wrando ar dipiadau'r cloc
Wrth i amser gerdded
Yn ara bach.
Er gwell, er gwaeth
Yn gyfoethog ac yn dlawd
Yn glaf ac yn iach.
Ellyw Evans
8 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Parch
I'r rheol 'Dim Ysmygu'
Meddai g?r gwamal o'r Bala - "nid af
I'r dafarn i fwyta
Efo'r wraig yfory, wa,
Ei henw yw Tania!"
John Glyn Jones
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Englyn ar y pryd: Parch
Rhyw arfer rhai yw erfyn - dymuniad
Yw mynnu ei dderbyn,
Ac ofer, sawl gwaith gofyn
Ond yn methu haeddu hyn.
Anna Davies
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75 ½
Cynigion ychwanegol:
Englyn yn cynnwys y llinell: Wyneb un heb ei eni
Wyneb un heb ei eni - a welaf
drwy'r niwl yn dynodi
y wyrth oedd yn ei chroth hi,
wyneb un oedd fab inni.
Limrig yn ymwneud ag ymchwil:
Mi 'sgwennais i draethawd ar "Dywod"
Yn gampwaith a haeddai deilyngdod;
Ond ches i 'im M A
Na hyd yn oed 'da',
Daeth y llanw i mewn cyn ei ddarfod.
Mae hen D'ewyrth Tom o dre'r Bala -
Un garw am ddilyn ei acha'-
' Di ffeindio o'r diwedd
Fod gwaed Owain Gwynedd
Yn union 'r un lliw a'n gwaed ninna'.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys dau rif:
Anodd iawn lladd un neu ddau;
Anodd, yw lladd miliynau.
Welwch chi mae mil a chant
Yn trechu dim ond trichant.
Dim ond un dymuniad yw
Heddwch drwy'r hollfyd, heddiw.
Dim ond un sy'n meuryna
Dim ond un, ond mae'n un da.
Englyn yn cynnwys y llinell:'Wyneb un heb ei eni':
Wyneb un heb ei eni - fy enaid
Fy hunan a'i burni,
Mae'n dragwyddol fodoli
Y mae'n angof ynof i.
(Dywediad Dwyreinaidd: Your other face has a name it is the Great Unborn, the neverending, all encompassing, eternal Tao)
Wyneb un heb ei eni - yw yr un
Erioed yn bodoli'
Wyneb na allaf enwi
Fe'i gwelaf pan farwaf i.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gwyddel
Gwyddor yn ôl y Gwyddel.
Hon a fydd yn rhywbeth fel:
A yw army G-gormes,
Ll yn lladd er mwyn lles;
INLA, eto'n ladd;
Y yw ymlid ac ymladd;
S yw Stormant a'i stormydd;
D - dadlau, dadlau pob dydd,
B yw Brits allan a brad'
Y yw ynys, Rh - Rhaniad;
M - y modd nad oes madde'
Unrhyw un o'r IRA.
(Yn ôl y sôn dichwaith fel hyn y mae'r wyddor Wyddelig yn mynd.....A B C D U P, EFG, H IRA, INLA, RUC.....)
Englyn Cywaith: Meic Stevens
Y dawnus Frawd Houdini - dan dy het
A fyddet heb feddwi,
A heb dy wylltineb di,
Yr un un seren inni.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

