Penrhosgarnedd v Penllyn
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Penrhosgarnedd

Penllyn

Cwpled caeth ar yr odl 'em'
Llawer gwaeth na cholli'r gêm
Yw artaith y post mortem.
Llion Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'em':
'Sdim hurtiach na phost mortem
Gic am gic ar ol y gêm.
Wil Jones Williams
8 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn tacsi
'Dw i 'di trio'r dywydd... a ffwtbol... a merchaid
'Di hwn ddim yn sgwrsiwr o fri,
Ond pwy siaradai am dri yn y bora
Efo rwdlyn mor feddw â fi.
John Ogwen
8 ½
Pennill Ymson mewn Tacsi:
Dwi'n falch mod i yma, roedd hi'n mynd yn hyll
Arnai'n ffawd heglu yn nyfnder y gwyll.
A dyma'r tro cyntaf im gael tacsi Rolls Royce
I'm cario.Dyna rwbath i ddweud wrth y bois !
Mae'n hynod o dawel , yn lân ac mewn trefn
Does na'm swn o gwbwl i'r rhai yn y cefn
Os gwir ydy geiriau y gyrrwr caredig.
(Mae storis bois tacsi'n ymestyn fel lastig!)
Ac rwyn troi i edrych oes na wir yn ei wers.
Wel tawn i'n marw ! 'Di o'm yn dacsi . Mae'n hers.
Haf Llywelyn
8 Pwynt
Englyn beddargraff:
Menyw Lolipop
Rhwng y cyrn rôi'u honc arni, tra'r ryffians
Fentrai i'r traffic hebddi,
A'r plant dros ffordd yn corddi,
Diolch, fedd, am ei hedd hi.
John Ogwen
8 Pwynt
Englyn Beddargraff: Dyn/Dynes Lolipop:
Ar ei dramwy nid yw mwyach - â'i wên
Gynnes a'i gyfeillach;
Hen sant dau balmant rhai bach
A rannodd sawl cyfrinach.
Dylan Davies
8 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell):
Yr Afiechyd
Bum at y meddyg ddoe i gael ecsam
Rwy'n methu clywed a 'dwi'n colli' nghwynt,
Mae'n nhrwyn i'n rhedeg ac mae nghefn i'n gam
A rhedaf am y toiled gynt a chynt.
Bum wrthi'n chwilio yn y "Doctor's Book"
I edrych beth yn union oedd o'i le,
Ac wedi pori'n ddyfal - O am lwc!
Roedd gen i bob afiechyd dan y ne'
O frech yr ieir i ffliw yr adar mawr
Sy' wedi bod yn bla o fewn ein tir;
O flaen y meddyg rhoes fy mhen i lawr,
Gofynnais iddo'n daer am ddeud y gwir;
Dywedodd wrthai'n dyner gyda gwên
"Y gwir noeth yw dy fod yn mynd yn hen!"
Morien Phillips
8 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Yr Afiechyd
Mae'n argyfwng cenedlaethol
Na welwyd ei debyg erioed
Mae'n chwalu fel tân mewn eithin,
A thrychineb fawr ar droed.
Fe welwch chi'r clwyfedigion
Hyd strydoedd pob dinas a thre,
Eu 'mennydd wedi hen ddiflannu
A dim ond sgrin wag yn ei le.
Eu bywyd yn hollol ddibynnol
Ar y teclyn bach drud yn eu llaw,
Fe'u gwelwch yn cegrwth sefyllian
Gan ddisgwyl rhyw neges na ddaw.
Y sgrin sy'n rheoli eu dyddiau,
Ni allan'nhw ffoi rhag ei swyn,
Eu hanes yn ddim mwy na stori ail-law
Mor gyfyng â'r sgrin dan eu trwyn.
Beryl Griffiths
8 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Celwydd
(...un wennol ni wna wanwyn...)
Daeth at y traeth ar dro'r trai,
un wefr, a fflach ei lifrai'n
hollti'r hen aeaf alltud,
a Mawrth yn bendrwm o hyd;
ei thrydar yn gyfaredd
a gwyrth yr haf yn ei gwedd,
a lliwiau aur dechrau'r dydd
yn dynn yn ei hadennydd;
yna, ar wib, diflannodd,
a throi a mynd, gwaetha'r modd;
yng ngwagle 'i lle yn y llwyn
unwaith bu'r gaea'n wanwyn.
Iwan Llwyd
8 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Celwydd
Gwyddwn fod lle i guddio
A nawdd i fardd ynddo fo
Wrth law; hen gartre'r awen
O afael lleng, gefail llên.
Ar engan y gynghanedd
Medal aur am awdl hedd
A gurais o loes gwerin
O gur gor-gynhesu'r hin,
Dod a'r bom a distryw byd
I lefel odlau hefyd.
Maddau Grist, imi'n ddistaw
Dynnu llun heb estyn llaw.
Iwan Bryn Williams
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag anifail anwes:
Medd canibal o'r enw Wmgawa,
Oedd yn dal isio bwyd 'rôl ciniawa,
Wrth ryw ddynes a'i chi
"Mi fyta i chdi
A wedyn ga' i bwdin Chihuaha."
John Ogwen
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag anifail anwes:
Mae acw un ddu sy'n rhyfeddod,
T? nesa un gwyn braidd yn ddinod
Aeth nacw fel trên
Trwy glawdd Tyddyn Hen:
Cwningen - Cwningen - Cwningod !
Wil Jones Williams
8 ½ Pwynt
Llunio llinell yn cynnwys y gair 'Trydan':
Mae trydan mewn cynghanedd.
½ Pwynt
Llinell yn cynnwys y gair 'Trydan'
Trydan heddiw, dim tradwy.
½ Pwynt
Englyn Cywaith: Orig Williams:
Os drama'i rymus dramwy ar y cae
Neu'r cylch fu'n weladwy,
Os yw nerth ei ryferthwy
Yn fawr, mae'i galon yn fwy.
Llion Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith:
Orig Williams
Yn chwys, goch, yn y cylch sgwar - yn nhemel
Ymgodymwyr beiddgar,
Galon Hyddgen, glown hawddgar,
El Bandito, Gymro gwâr .
Iwan Bryn Williams
8 ½ Pwynt
Telyneg: Cwmni
(Aduniad cyfoedion Ysgol Uwchradd)
Er imi eu cael yn gyfeillach
Fe'u gwahanwyd o'm gafael yn llwyr,
Eu colli, fel llyfr yn llithro
O'm llaw yn nhrymder yr hwyr.
Ond awel ar ffin ein Gorffennaf
A'n nithiodd yn giwed yn ôl,
At fenthyg o fam a'n cydfagodd
Saith mlynedd yn oerfel ei chôl.
Roedd drws pob ystafell lle cerddem
Yn ein disgwyl, ac wedi'i ddatgloi,
Ond ynghlo fu ystafell fy echdoe:
Ni chefais ei hallwedd i'w throi.
O ddiwrnod ailnabod wynebau
Aem ymaith a'n cefn at bob cefn:
Atgyfodwyd rhyw freuddwyd o gynfyd
Am ysbaid, i'w gladdu drachefn.
John Gwilym Jones
9 ½ Pwynt
Telyneg: Cwmni
Hen wr
yn gwylio'r gorwel
am arwydd fod
rhywrai yn dychwel
ar y gwyll
nôl i adrodd
chwedlau'r dydd
iddo'n rhodd.
Hen stori glywyd
ganwaith,
ond ni chaiff ddigon
arni chwaith -
stori'r belio
neu'r helfa
ddaw eto'n ôl
a nôs o ha'.
Ond heno
mae'r gwyll yn lledu,
rhaid troi o'r clôs
nôl i'r t?,
i dendio'r tân
a phrocio
marwydos oer
ei fyd o.
Haf Llywelyn
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Camgymeriad
Hen glwyf dy gam gwag a lysg - yn dy gôf,
Ond gwêl, mewn byw cymysg,
Ddoe i heddiw rydd addysg
I'r doeth hwn yw dechrau dysg.
John Gwilym Jones
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½
Englyn ar y pryd: Camgymeriad
(Adeg eclipse y lleuad)
Ôl llaw yn duo'r lleuad - yn araf,
Dim ond sêr y cread.
Am y bryn heb amau brad
A'r bore'n gwadu'r bwriad
Iwan Bryn Williams
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'em'
Nid yw Lw a'i thafod lem
Yn addo priodas ruddem.
Cân(heb fod dros 20 llinell):
Yr Afiechyd
Mi welais yn y Daily Post fy mod i wedi marw
A hyn wrth fwyta'm mrecwast - wel dyna sioc go arw,
Roedd cic y wraig o dan y bwrdd yn profi mod i'n fyw,
Ac yna daeth ei chynllun goleuedig hi i'm clyw.
"Os wyt ti wedi marw rwyt ti'n werth y byd i mi,
Mi gaf insiwrans ar dy ben a fi fydd bia'r t?,
A phopeth yn dy gyfri banc ddaw i mi yn y man,
Caf wyliau bendigedig draw yn Tseina a Japan.
Rhaid deud wrth bawb dy fod ti wedi cael afiechyd cas,
Malaria, beri-beri neu 'di diodde'n hir o'r pâs."
"Arhosa funud" medda fi "Rwy'n fyw, mae gen i hawl......"
"Dim hawl o gwbl" medda hi - "Ailgylchwn di i'r diawl!"
Limrig yn ymwneud ag anifail anwes:
Hen ferch â chi bach i'w anwesu
Hen lanciau y fro wedi methu!
Roedd gweld siglo cynffon
I hon yn llawn digon
'Dyw pawb ddim yn fodlon ar hynny.
Englyn Cywaith: Orig Williams:
Gyda chryfder ei werin yn y gwaed
ac iaith ei gynefin
ar ei wefus, mae'r rafin
dewra' oll yn dod i'r drin.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'em':
Yn y chwarel na charem
Caed ffraeth gwmniaeth yn em.
Englyn Beddargraff: Dyn/Dynes Lolipop:
Marw'n ddi-loes heb groesi - fu hanes
Hen fenyw y loli
Tynn y sebra sy tani
A'i roi yn ol arni hi.
Englyn Cywaith:
Orig Williams
Tyfodd yn 'Sbyty Ifan- ddoe yn gawr
Yn ddyn gwyllt ei anian
Cymro dewr, Cymro o dân
Y Gog a'r sgwâr yn gwegian.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

