Crannog v Glannau Teifi.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD

Mae meddwi'n hawdd, medde nhw,
Ar gariad fel ar gwrw.

Dai Jones
9 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys enw diod:

Pan gei joch o Riocha
Try'r cystudd yn hirddydd ha.

Meirion Jones
8 Pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - Y TALWRN

( O gofio am y cwtogi cyson a fu ar hyd y rhaglen dros y blynyddoedd )

Wrth i'n gorsaf genedlaethol
Droi at bethe mwy rhyngwladol
Fe aeth awr o gynganeddu'n
Rhy Gymreig i Radio Cymru.

Idris Reynolds
9 Pwynt

Pennill Mawl / Dychan : Y Talwrn

Mae rhywbeth o'i le ar y talwrn
Sy'n poeni'r beirdd i'r byw,
Y broblem ydy'r Meuryn -
Ai Twm ai Gerallt yw?

Gwen Jones
9 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â BWYTA

Roedd y tato a'r cig heb eu cwca,
A'r gweini yn araf a swta,
Roedd crac yn fy ngwydyr,
Toiledau yn fudur,
Nos fory af allan i fwyta.

Owen James
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyta:

Mi welais i Wiliam a Mari
Yn llowcio ei bwyd yn y caffi
Roen nhw'n bwyta rhyw dreip -
Chi'n nabod y teip -
A'i fwyta nes oen nhw yn tagu.

Gwen Jones
8 Pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - ADEILAD

Daear ein teidiau diwyd
Yw'r sgubor sy'n bwydo'r byd.
Hwy'u hunain ei sylfeini,
A'u hymroi eu muriau hi.

Ac ni thycia pa sawl pwn
Ohoni hi a dynnwn,
Ail-leinw'i gwagle'i hunan
 moethau'n maeth yn y man.

A ninnau'n enw Cynnydd
Gwleidyddion doethion y dydd,
Yn fuan iawn fe wnawn ni
Arena chwarae ohoni.

Dic Jones
9 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Adeilad'

Y mae'n balas urddasol,
Yn ysbyty neu d? dol,
Yn llawn serch a lluniau swel,
A rhosyn ar y dresel.

Y mae'n siop, y mae'n bopeth,
Yna try yn Swyddfa Treth.

Ymmhlyg mewn dychymyg dwy
Rhamant sy yma'n tramwy,
A nawr, tra'u bod yn sawru
Stori ddewr am Barti Ddu,
Hen ogof yw'r chwaraegwt;
On ta waeth, mae'n d? bach twt.

Gwen Jones
9 Pwynt

PENNIL YMSON AR DDIWRNOD PENBLWYDD

Y trwbwl â phenblwyddi
'D ych chi ddim yn mynd yn iau,
A'r canhwyllau yn cynyddu
Wrth i'ch anal chi fyrhau.
A phan aiff rheiny'n ormod,
Beth bynnag fyddo'ch tras,
Sdim eisiau i chi chwythu,
Mae'r gannwyll yn mynd ma's.

Dai Jones
9 ½ Pwynt

Pennill Ymson ar ddiwrnod Penblwydd:

Mae'r cardiau yn cyhoeddi
Fy mod yn wyth deg un,
Pa eisiau fy atgoffa
Fy mod yn mynd yn h?n?
Os troia i'r cardiau ypsidown
A wir fe ges i lwyth,
Fe fyddan nhw yn dwedyd
Fy mod yn un deg wyth.

Gwen Jones
9 Pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) - Y G?M

CYMRU V> LLOEGER 1999 WEMBLI

Pan fyddai'n isel iawn a thrist, a'r byd i gyd yn ddu
Estynnaf am y fidio o'r gêm ore weles i,
Cymru yn erbyn Lloegr a'r gelyn ar y blân,
Y crysau coch a'u penne lawr, a'r gwynion oll ar dân.
Dim ond munud fach i fynd
Pan dda'th y bêl i Scott
Ddecllath o flân 'i linell 'i hun -
Fe ochrgamodd fel shot.
Yna
'Nôl a mlân fel gwyfyn coch
Yn hedfan dros y llaid
- Y Saeson 'run fath a ceilys clai
Yn disgyn dan ei draed.
Dros y lein a lawr a'r bêl, a Neil yn hollti'r pyst,
32 i 31
Wel 'na chi Saeson trist....

Ma' nghalon wedi codi !
Mae'n gwitho dro 'rôl tro,
Dagre'n chwerthin lawr 'y ngrudd -
Jawl chwaria i'r fidio 'to ! !
A 'to
A 'to
A 'to
A 'to
Ond erbyn Dolig nesa', 'da Santa Clos, w'th lwc
Gai fidio arwr newydd - yr anghymharol Hook.

Dewi Morys
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): y Gêm

Pan ddeallodd prifeirdd Crannog pwy oedd i'w herio nhw,
Fe geision dynnu allan o'r Talwrn, ar fy llw.
Penderfynwyd newid gornest i gêm, os credwch rhai,
Fydd yn rhan o'r gêm olympic yn nwy fil un deg dau.
Rôl ymarfer am amseroedd, codi pwysau a bwyta 'brie',
Roedd Crannog nawr yn barod am gêm Tipit gyda ni.
Daeth Dic a'i holl gefnogwyr mewn mini bach heb do,
Ond collwyd Dai mewn tafarn, dewis dwblu mae bob tro.

Ca'dd Owen, Pws a Hywel i gyd eu hanfon ffwrdd,
Camdrin y dwylo dirgel pan oeddent dan y bwrdd.
Pan alwyd hanner amser, aeth pob un i'r t? bach
I gymryd siawns i siglo, cadw pethau'n hollol iach.
Yn ôl â ni i'r ornest, a phopeth yn llawn 'steam'
Nes i Crannog gael rhyw anaf, roedd angen Doc i'r tîm.
Y tensiwn nawr yn codi a'r lle mor boeth â ffwrn,
Ond cam-ddeallodd Idris pan ofynnais am ddau ddwrn.

Mae gan aelodau Crannog belt ddu mewn Tai kwan do,
A chlywn s?n y curo cadarn yn atseinio drwy y fro.
Na ddiwedd y gêm olympic, ond gwrandwch ar fy ngair -
Dim ond ni aiff adref heno yn gwisgo medal aur.

Richard Jones
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ar y bws yr â'i Bessie
Bore ddoe sobrodd hi!

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ar y 'booze' yr ai Bessie
Yn y llong aeth efo 'r lli.

ENGLYN CYWAITH - ADERYN

A hi'n nosi, mor chwimwth - ei hasgell
Ysgafn wrth ddisymwth
Hofran o fur rhyw hen fwth,
Y llygotreg llygatrwth.

Dic Jones
9 Pwynt

Englyn Cywaith : Aderyn

Y Crychydd Glas

Y dur cam rhwng mastiau'r cyll - yn 'stwyrian
Y distawrwydd tywyll,
Digynnwr' yw g?r y gwyll
Sy'n darlledu i'r llwydwyll.

Meirion Jones
9 Pwynt

TELYNEG - DARLUN

Pan awn ar hafau sychion
I'r ffynnon gynt â'r stên
Roedd wyneb ar ei gwaelod
Bob amser ar ei wên.

A bûm ohoni'n yfed
Pan ddois i oedran g?r
Ond welais i byth wedyn
'Mo'r darlun yn y d?r.

Hywel Rees
10 Pwynt

Telyneg : Darlun

Pan chwalai'r tonnau'n wyn
ar draethau Penfro,
a gwyntoedd Ionawr yn fflangellu'r lan,

Pan oedd cymylau,
yn feichiog o gawodydd,
yn llusgo symud,
a'r glaw yn chwipio'n llenni
dros drefi'r bae,

Pan oedd llwybrau'r graig yn llwydwlyb
a'r glannau'n wag,
pob cerddwr hindeg yn pocro'r tân
ac yn chwilio'i Fehefin
drwy anwedd ar wydr,

Yno,
ger cynddaredd y graean,
a'r Gaeaf yn chwipio'r ewyn o'r d?r,
roedd dau yn dal dwylo,
a'u gwên a'u gwefr yn gwyro'r rhyferthwy,
ac yn cadw'r glaw yn sych.

Yn ias y gusan,
roedd haul Gorffennaf yn llosgi
ac awel ysgafn haf y bryniau
yn y cofleidio.

Terwyn Tomos
10 Pwynt

Englyn ar y pryd : Adnod(au)

Yng nghapel y rhyfelwynt - a'r faner
Yn dyner amdanynt,
Nid gair Duw o gariad ?nt ;
Adnodau dynion ydynt.

Idris Reynolds
9 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU :84

Englyn ar y pryd: Adnod

Yr her yw eu rhoi ar waith, - y geiriau
Sy'n gyrru pob gobaith
I'w grym gael diddymu'r graith
I'r neb a ?yr anobaith.

Terwyn Tomos
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol :

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD

'R un heddiw'r glasfedd meddwol
Â'r hyn a oedd frwydrau'n ôl.

PENNILL MAWL/DYCHAN - Y TALWRN

( Gan erfyn am faddeuant)

Yn nhalwrn y ceiliogod
Fe ?yr y g'wennen handi
Mai pennaf gamp yr orchest hon
Yw plesio'r ceiliog dandi.

I 'r rheiny sy'n talyrna,
Boed eneth neu yn ddyn,
Mae sôn am fardd yr Oernant
Yn dychryn bron bob un.
Ac felly drwy'r blynyddoedd
Roedd un yn ddigon gwael,
Ond nawr mae yn gwaethygu -
Mae dau o'r rhain i'w cael.

Os Cofi ydyw'r Meuryn,
A Hwntw ydwyf i
Yn ein annealltwriaeth
Fe gollaf farc, 'lwch chi.

LIMRIG YN YMWNEUD Â BWYTA

Dywedais wrth lodes Le Dodo
'Wy ishe dou w? wedi'u ffrïo'
'Ah! Oui!' medde hi,
'Na, dou' medde fi,
'W?-a-w? - os gellwch eu sbario'.

Aeth cannibal mas i Bombê
Gyda'i gymar am bryd amser te,
Ond o'dd y caffi mor wael
D'dd dim bwyd i'w gael,
Fe fytodd e'i wraig e yn lle.

Y timau a'r tasgau sy'n bwysig
Mewn Talwrn, ( a'r Meuryn ryw'chydig),
Ond y sialens y Hermon
Yw clirio'r danteithion
Fel bo Gwen a'i chogyddion yn ddiddig.

Anlwcus o'dd y boi o Dresaith
A'th i'r Hilton am swper 'r ôl gwaith,
Ordrodd dri After Eight
Ond, myn yffarn, t? late,
Buodd farw am gwarter i saith.

Petaswn i'n bwyta yn iachach
Ac yn heicio a beicio yn amlach,
Yn rhoi heibio'r hen getyn
Ac yfed diferyn
Byddai 'nghoffin i'n dipyn ysgawnach.

Rwy'n siwr bod ffliw ar fy ng?r i
Ar ôl ffîd o 'chicken tandoori'.
Oherwydd y poene
Rwyf hefyd yn ame
Bod rhywbeth o le ar fy n?r i.

Mae rhai'n bwyta bwyd er mwyn prifio
Ac eraill yn bwyta i slimio,
Ond yma yn Hermon
Does neb â'i ofidion
A phob un yn bwyta heb stopio.

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - ADEILAD

CASTELL BRYCHAN - CANOLFAN Y CYNGOR LLYFRAU

Harlech â tho o lechi
Yw'r fan hyn, ein C'narfon ni,
Cydweli o storïwyr
Yno mwy sy'n cadw'r mur,
Rhuddlan o ganolfan yw,
I awdur, Conwy ydyw.

Yno'n ffuglen yr ennyd
Saethau yw'r geiriau i gyd,
I. S. B. N's yw bwâu
Hen filwyr y nofelau
Sy'n dal i fod ar alwad
O glawr i glawr dros ein gwlad.

PENNIL YMSON AR DDIWRNOD PENBLWYDD

Ymhlith fy hen gyfeillion
A'u holl anrhegion hael,
Yr anrheg 'r wy'n drysori
Yw'r garden 'r wy heb gael.

YMSON S4C AR EI BENBLWYDD YN 25

Os ydwyf heddiw'n nwyfus, i ganol
Fy ugeiniau mentrus
Daw eto i bwyntio bys
Rieni sy'n oedrannus.

Cynllunio gwael fu hwnnw rhwng nhad a mam , mae'n rhaid,
Sef dod â fi a'm gefaill i'r byd ar flwyddyn naid;
Ar Chwefror wyth ar hugain da'th Ned, ar ôl help llaw,
Wedyn, wedi hanner nos ddes i, ar ddeuddeg naw;
Dros ysgwydd y blynydde bu'n anodd cadw'r sgôr,
'Rwyf i yn un ar hugain a Ned yn eity ffôr.

ENGLYN CYWAITH - ADERYN

Mae'n hyfryd ar y drudwy - a seilo'r
Silwair iddo'n arlwy,
A'i ddau raid wrth ddod o'r ?y
Ydyw hedeg a dodwy.

Wrth i'r flanced ymledu - yn haenau
Dros y llynnoedd pygddu
Ni welwn, yno'n celu,
Uwch y d?r yr alarch du.

TELYNEG - DARLUN

Mam

Mae 'na wên na phyla amser
Yn goleuo'r shilff ben tân
A'r fflamau oddi tani
Yn hymian Calon Lân.

Mwy llachar ydyw'r darlun
O'r wên tu draw i'r llen
Sy'n llosgi ganwaith cryfach
Yn ddwfn tu fewn i'm mhen.

Ers trigain mlynedd bellach creodd athrylith dyn
O'r newyn yn ei enaid yng ngharchar Henllan lun

Cyn hynny, drigain canrif, yng ngreigiau ogof laith
Cywreiniodd eu freuddwydion cyn bod na gwlad nac iaith,

A bydded cleddyf amser yn noeth neu yn y wain
Ni phaid rhyfeddod Lascau na'r ffresco yn y drain.

Fry dan grymdo gwych yr eglwys
Bu Hen Feistr wrth ei waith,
Creodd yno ei ryfeddod
Wrth roi lliw ar blaster llaith.
Mor naturiol yn ei ffresco
Ydyw'r llun o'r ddau ynghyd -
Mam a baban bach ar gwrlid
Yn eu chôl, yn wyn eu byd.

Meddu doniau'r hen Eidalwr
Fu gofuned bardd o'm gwlad ;
Tynnu llun llawn naturioldeb
Wrth fynegi ei fawrhad ;
Fe ddewisai i'w darlunio
Ferch o'r ardal, Phebi'r Ddôl,
Yn bortread fel Madonna'n
Magu Sioni yn ei siôl.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys enw diod:

Wrth sipio coco mae Ken
Ag awydd am fisgïen.

Mae Richard am Bacardi
Ond medd yw'r ddiod i mi.

Myn dy aur ym Mhenderyn
Dur y graig o'r d?r a gryn.

Cam-drin y gwin a'r gwenith
Wna'r rhai sy'n trawsnewid rhith

Pennill Mawl / Dychan : Y Talwrn

Mae Talwrn ymladd ceiliogod
Yn sefyll yn Sain Ffagan,
Lle rhoddwyd adar i frwydro
I'w perchnogion gael arian.
Yn y Talwrn yma heno,
Bydd Crannog a ni'n cael ffeit,
Pobl eraill fydd yn joio,
A'r BBC yn neud yn olreit!

Limrig yn ymwneud â bwyta:

A wyddoch chi beth ydy Swshi
Sy'n eithaf poblogaidd eleni,
Wy'n meddwl mai dish
Sy'n cynnwys 'raw fish'
Gyda relish yw e - ych a fi fi!

Dylanwad drwg yw Gordon Ramsey,
Mae Syr nawr yn 'rysgol yn rhegi.
Cyn myned ar wibdaith
Fe wedodd e ddwywaith,
"Pawb a phecyn bwyd erbyn fory."

Nos Sadwrn 'rhen Pws aeth am Indian,
Cas gyrri a chilli a'r cyfan.
Erbyn bore dydd Llun
Rodd pen ôl yr hen ddyn,
Fel baner Japan yn cyhwfan.

Roedd hen wncwl yn hoff iawn o grwydro
I wledydd anghysbell digroeso
Ond gwnaeth gamgymeriad
Pan gafodd wahoddiad
"Mi hoffen eich cael chi i ginio".

Cân (heb fod dros 20 llinell): y Gêm

Rwy'n mynd i ddi-ymddeol a dechrau newydd swydd
Ta beth fydd y canlyniad, wy'n si?r na fydd e'n rhwydd.
Wy'n mynd i helpu Gareth, gaf i chwarae gyda'r bois,
Tawelwch fydd o flaen pob gêm, Fe weda i 'No more noise'.

A dechrau wnawn rwy'n meddwl drwy chware cip, reit si?r
Bydd rhaid i bob chwaraewr I ddala mewn un g?r,
A dala hwnnw'n holbidag, a gwasgu'i ana'l mas,
Ond yn ein tîm deallwch Fydd neb yn whare'n gas.

Wedyn bydd rhaid whare pêl a'i thaflu lan a lawr,
A'i dal yn sownd yn dynn i'r 'chest', nid ei gadael ar y llawr;
Fe ddysga i bob person beth yw cic a chwrs,
Nid sefyll nôl i edrych ond rhedeg lân, wrth gwrs.

Bydd rhaid i'r bois bob un wan jac I ddysgu dawnsio'n slic,
A rhoddi un neu ddwy seidstep a gwthiad - dyna'r tric;
Bydd rhaid i bob un ddysgu rhedeg fel panther chwim,
Ac os na wnan nhw'r ymdrech, yn y tîm ni fyddant ddim.

Ar ddiwedd yr ymladdfa rhof 'fassage' i bob un,
Hynny, rwy'n si?r, fydd ore - waeth y pleser fydd i mi fy hun.

Englyn Cywaith : Aderyn

Un ciwt â llais stacato, anwylyn
Ym mhalas ei gyffro,
Yn hoffus er petruso -
Y dryw a ddaeth yn ei dro.

(Mae hen goel bod aderyn yn pigor ar ffenest yn arwydd o farwolaeth i ddod)

O dario! maer' aderyn yn ei ôl
Yn hulio ei ddychryn
Heddiw ar gwarel tyddyn
Yn arwydd aflwydd i ddyn

Y Creyr

Didrydar ydyw'r Garan - heb un sôn
Heb un sain mae'n loetran,
A haig yn saig yn y San
Mae'n gwylio min y geulan.

Telyneg: Darlun (wrth fedd fy hen dadcu)

Fe fuost ti yn brysur
Yn nhywyll weithdy'r crydd
Yn trafod, heblaw clocsiau,
Ddirgelion pynciau'r dydd.

Beth oedd dy ddiddordebau,
Heblaw y cwrdd a'th waith?
A oet ti yn ysgolor,
Neu'n ddim ond dyn y graith?

Dyw'r darlun ddim yn eglur,
Ond gwn dy fod mewn hedd,
 chwpled cynganeddol
Ar garreg oer dy fedd.

Telyneg: Darlun

Wrth edrych yn y drych
Nid fi fy hunan a welaf;
Ac eto
Mae yno ryw debygrwydd -
Llygaid tywyll fy nhad,
A gwên fy mam,
Ond bod fy ngwên i yn gam
Fel gwên gwarig Picasso.

Nid fi yw hi.
Dwy erioed wedi edrych
Yn debyg i wraig Picasso.
mae rhywun
Wedi dwyn fy wyneb,
Ac wedi rhoi wyneb
Arall i mi -
Wyneb nad wy'n ei nabod.

Ond mae'r deigryn
Sy'n disgleirio yng nghornel
Fy llygad
Yn fy atgoffa o rywun.
Pam na alla i gofio?

Y disgleirdeb fel direidi -
Wrth gwrs ti sydd yno,
Fy wyres annwyl
Sy'n dal i ngharu
Ar waethaf fy wyneb sgiwiff.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.