Ffostrasol v Taeagion.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arall':
Hen rai ciwt, ond hanner call
Yw Ceri a'r clic arall.
Dai Rees Davies
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arall':
Hiraethwn i gadw'n gall:
haws aros mewn oes arall.
Ceri Wyn Jones
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Criced:
Er cael hen dymor digon tlawd
A'r lludw'n mynd o'u dwylo,
Fe ddeil y Saeson ar y brig
Fel prif bencampwyr brolio.
Dai Rees Davies
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Criced
Rhai, o hyd, batwyr ydynt,
eraill, o raid, troellwyr ?nt,
yn griw dethol canol cae,
rhain â churo'n eu chwarae:
ond wedyn, 'na drist ydyw
'mod i ar y bowndri'n byw.
Tudur Dylan Jones
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â phwyllgora:
Bu panic yn arch yr hen Noa
Pan dd'wedodd "Mae d?r yn dod fewn 'ma"
Ar ôl pwyllgor brys
Yn y twll rhoes ei fys
'Roedd rhywun heb greu "Polly Filla".
Emyr Davies
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â phwyllgora
Ma Hermon yn lle go arbennig
Am ddiod a bwyd bendigedig,
Ac os ewch i bwyllgora
Ar ôl stwffio yn fanna,
Mi basiwch chi lot mwy na'ch cynnig!
Caryl Parry Jones
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Croeso:
Heddiw hwyl ymddeoliad,
A heddiw hoe a boddhad,
Yn nhegwch Ceredigion
A dawns fyrlymus y don,
I loywi dydd, fel haul a'i dês,
Daw gwên cymuned gynnes;
Aur hwyrol Aberaeron
A'i holl hud yn groeso llon.
Tîm Ffostrasol yn holi -
Tîm â nwyf - "Tyrd atom ni".
Yn frwd diolchaf i'r fro
A roes i'm wledd eu croeso.
John Pinion Jones
8 ½ Pwynt
CYWYDD (heb fod dros 12 llinell) : Croeso
(Yn blant, arferem ymosod ar gastell Cilgerrani fyny'r llethr serth o lan yr afon, yn hytrach na thalu'r pris mynediad swyddogol)
Rhyngof i â'r ddringfa hon
peraroglai peryglon:
moelwyn o lechi milain,
dynad â'u brad a dom brain
a rhes o rybuddion pren ?
gwaharddiadau gardd Eden!
Roedd, o dan pob arwydd dig,
wahoddiadau'n guddiedig
i adennill gweddillion
y gaer oer, anheyrngar hon.
Ati'r aem, heb fynd un tro
heb wawdio'r dweud i beidio.
Ceri Wyn Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ewyllys:
Darllenaf fy ewyllys sef Emyr o Benrhiw
Er mwyn cael fy nghlodfori tra byddai'n dal yn fyw.
Dymunaf gael fy nghladdu yn edrych tua'r De
Yn sefyll yn syth fyny er mwyn cael arbed lle.
Mae cofeb gen i'n barod ail law ddim tamed gwaeth
Ac adnod ar y gwaelod "Hyn allodd hwn ni wnaeth".
Can mil 'rwyn'n roi i Gerallt fu i mi'n gyfaill triw
Sef Gerallt hoff y bydji mae gen i ers yn gyw.
I Dwynwen can mil arall chwaer hynaf fy mam-gu
Mae'n biti fe fu farw yn ôl yn Chwe Deg Tri.
Fy llun o waith Syr Kyffin o'r Wyddfa yn y nos
Fe roddaf i'r beirdd tywyll sy'n cwrdd yn Nhanygroes.
Ac yna hanner miliwn i John a Jim a Dai
Talyrnwyr gorau Cymru a Lloegr fwy neu lai.
I Ceri Wyn fy Lada, y petrol yn y tanc
A'r ddyled fawr sydd gennyf ers tro i'r Midland Banc.
'Rwy'n amau a fydd digon o arian ar fy ôl
Ers bron i chwarter canrif fe fûm i ar y dôl.
Ond eto yn fy nhlodi rwy'n hapus yr un pryd
Fy ewyllys da ddymunais yn hael i chi i gyd.
Emyr Davies
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ewyllys
"Dwi'n mynd i sgwennu 'Wyllys" medda Tony wrth Cherie.
"Argian! " medda honna, "Sgin ti rwbath i ddeud 'tha i?"
"Wel ma dydd fy ymddiswyddiad yn nesau yn eitha chiwm
A chan na fydda i'n ca'l sylw mwy, 'sa waeth i fi farw ddim...
I'm ffrindiau Roc a Rôl a sêr y ffilmiau a'r TV,
Gadawaf i y fraint eu bod nhw wedi'm nabod i,
A chan mai peth anghwrtias ydi gwrthod cais dyn marw
Caiff fy ffrindiau mwy goludog anrhydeddau...heb y sylw.
Geith Gordon Brown...be' geith o 'dwch?...Mm, ma'n rhaid 'mi grafu mhen
'Chos dio'm yn cael y goriad i'r drws ffrynt yn Nymbyr Ten!
Ond i fy ffrind George Bush, lle bum mor gynnes yn ei gôl
Mi roddaf i fy nhrwyn, i'w gadw'n saff yn ei ben ôl.
Ac i'r Gwasanaeth Iechyd, llai o nysrys, gwlau a ffisig,
Ond mwy i'r rhai sy'n gwella neb, achos nhw 'di'r bobl bwysig,
Wps ie... i famau'r milwyr 'na... ma nhgof i'n mynd yn llac...
Atgofion am y meibion na ddaw adre o Irac
Ac yn olaf i Dave Cameron gadawaf i y mygio,
Y trais sydd ar y strydoedd, a hoodie neu ddau i hygio,
I bawb sy'n dyst i'r Wyllys hwn, gadawaf wlad fach flêr
A llawer mwy ar ôl mi fynd. Arwyddwyd, Tony Blair."
Caryl Parry Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Eco:
Ffolineb dyddiau mebyd - a'm hanes
Sy'n mynnu dychwelyd
I'm herio ac ymyrryd,-
Drwy y cof daw'r eco o hyd.
Jim James
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Eco
Ar y llwybr rhwng Aber-porth a Thre-saith, mae nifer o ogofeydd - Ogo' Goron,Ogo' Mali, Ogo Ddwnsh. Mae Ogo' Ddwnsh yn hollt yn y graig lle bydd y tonnau'n gwneud s?n ac atsain annaearol.
Heno gwn, yn swnian i gyd - y daw'r
Dyheu am ddychwelyd;
S?n y môr sy'n ymyrryd,
Ogo' ddwnsh â'i gwaedd o hyd.
Emyr Davies
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Ar hen feic taranaf i
Ar y bws yr â Bessie.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Ar y bws yr â Bessie
ar daith wallgof efo fi.
Pennill ymson mewn siop:
'Rwy'n medru nawr gystadlu
A busnes fawr y cop
Am facwn, gan fe ddaliais
Yr hwch aeth drwy y siop.
Emyr Davies
9 Pwynt
Pennill Ymson mewn siop
Rwy'n lot rhy swil i'w brynu;
Beth ddwedith merch y til?
Beth wna'i os gwelith rhywun
Yr eitem ar y bil?
Fe bryna i rywbeth arall,
Rhag c'wilydd - Ah, mi wn -
Fe bryna i ugain condom
Yn lle'r Odliadur hwn!
Emyr Davies
9 Pwynt
Telyneg: Côf
Bachgen ysgol ddyddiau rhyfel
Yn dilyn newyddion y dydd
Enwau o gylch "maes y gad"
Sy 'n aros fel rhyw gasgliad cudd.
Croesawu'r bechgyn a'r merched
Am ysbaid rhwng mynd a dod
Cyfarfod croeso 'da'r pentref
A'r plant yn canu'u clôd.
Rhyfel i orffen pob rhyfel
Medd y dorf ag un llais
Ond dyna'r celwydd mwyaf
Oedd geiriau Nicolas y Glais.
Jim James
8 Pwynt
Telyneg: Cof
Oriau olaf Llywelyn
Un enaid ger Llanynys
yn crwydro cae a rhos,
gwylio, nes bod ei galon
yn oer dan sêr y nos,
ac mae'r lli yn corddi'r co'
wrth ei Afon Irfon o.
Awn heno i Lanynys
i gofio'r marw gynt,
ond nid yw'n corddi ninnau
ond geiriau yn y gwynt,
a than y sêr ond llyfnder lli
sy'n ein Hafon Irfon ni.
Tudur Dylan Jones
8 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Adnabod
(Ar ôl colli brawd)
Di-eiriau ydyw hiraeth, - daeth angau
Daeth ing ei ymyrraeth,
Nid oes grwn i'th gadw'n gaeth
Na bedd i'm hadnabyddiaeth.
John Pinion Jones
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Tasg ychwanegol: Llunio llinell ar y pryd
Yn Hermon bwyta gormod
1 Pwynt
CYFANSWM TERFYNOL: 79 ½
Englyn ar y pryd: Adnabod
Y Wennol
Fe'th gofiaf drwy d'aeaf di yn gynnes,
A gwn eto 'leni
Yn y diwedd y deui
I ddod â'r haf ataf fi.
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arall':
Annos aros i arall
I wneud ar yr hyn ni all.
Pennill Mawl/Dychan: Criced:
Oll yn eu gynnau gwynion
Yn chwarae pêl a bat
Ac ambell un â 'leggins'
Ac ambell un â 'hat'.
Rheolau digon syml
Ond bydd na foi reit gas
Yn rhoi ei farn a gweiddi
Pan ewch chi fewn "Ti Mâs".
Un yn taflu'r bêl i bendraw'r cae
Ag arall yn rhedeg ar ei hôl,
Batiad eto'n gwmws i'r un man;
Oes na ateb i beth mor ffôl?
Oes medd rhywun mewn côt flewog,
Fe geidw hyn eu traed yn wresog.
Limrig yn ymwneud â phwyllgora:
Pwyllgora fu'r saint ym Moreia
Am oriau ar fater y gladdfa
Pan aeth hi yn un
'Roedd pawb yn gytun
Gael pwyllgor i drefnu'r un nesa'.
Cyfarfu aelodau o'r cyngor
I ddewis rhyw berson i agor
Toiledau yr ysgol,
'Roedd pawb yn unfrydol,-
Cytunwyd i ffurfio is-bwyllgor.
Mae'r hyn sydd i'w drafod medd Ianto
I'w orffen mewn pryd erbyn cinio,
Bu'n gyrru drwy'r rhaglen
O ddalen i ddalen
Llygadu'r amserlen - a stopo.
Englyn Cywaith: Eco:
Yng ngaeaf pob cyflafan, - a helynt
Ein rhyfeloedd aflan,
Yn nhir gwarth wrth dreisio'r gwan
Clyw eco'r Diawl yn clecian.
Acen y cwm er cyn co, yn eglur
Drwy'r gwagle yn seinio,
Llais pob llais a'i cymell o,
I'w hateb ry'n fath eto.
Pennill ymson mewn siop:
'Roedd cuddio neithiwr tu ôl sgrin
Yn ffôl, 'rwyf yn cyfaddef'
Ond erbyn naw daw'r staff i mewn
Ac wedyn - caf fynd adref.
Cerddaf yn reolaidd
Drwy groeso ffuantus "Cartrefle",
Ac wrth arogli'r caethiwed
Cerddaf at y gadair arferol
I chwilio'n obeithiol am unrhyw newid.
Ond er y wên gyfarwydd
A'r dwylo cynnes
Gwrthododd ei llygaid pell
Ddatgelu'r gwir.
Ac wrth adael yn bendrwm
Ni allaf ond dychmygu ei hanobaith
Wrth iddi ddal i chwilio
Am rhyw ddoe colledig.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'arall':
`Does neb arall yn gallu
gweithio gateau fel mam-gu.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

