Bro Alaw v Tegeingl.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Bro Alaw

Bro Alaw

Tegeingl.

Tegeingl

Cwpled caeth ar ffenest car:

Yn llonydd ar ôl llenwi
Aros wyf yr R A C

Arwyn Roberts
8 pwynt

Cwpled caeth ar ffenest car:

Tybed oll nad ateb da
Yw deudroed rhag gordewdra.

Pedr Wyn
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau "Ar Ben"

Dau mewn gardd, un yn garddio - ar ben giât
Robin goch yn tiwnio,
A thân ei gân gydag o,
Y gân sy'n prynu'i ginio.

Arwyn Roberts
8 ½ pwynt

Englyn - yn cynnwys y geiriau 'ar ben':

Aeth glaw yn sur aflawen: andwywyd
ein daear heb angen
na galar, mae'n daearen
yn rhy boeth, mae'n byd ar ben.

Dafydd Morris
8 pwynt

Limrig yn ymwneud ag angladd

Mae'r bwriad yn dal yn annelwig,
A'r etifedd yn amlwg anniddig,
Rhai Blair yw'r trefniada' -
Ac mae'r teulu yn cega',
Fod y c'nebrwng yn llusgo'n drybeilig.

John Wyn Jones
9 pwynt

Limrig yn ymwneud ag angladd:

Wrth fynd â hen fodryb i'w chladdu
Roedd Taid wedi meddwi - a baglu
A wnaeth o i'r bedd.
Fe'i gadawsom mewn hedd.
Ces ddau am bris un - dw i'm yn gwadu.

Pedr Wyn
9 pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell]: Rhyfeddodau

Mae llyfr llawn lluniau 'di ddarganfod
yma yng Nghytiau y Gwyddelod
ar y mynydd yng Nghaergybi -
llyfr ar sut i chwarae rygbi.

Mae'r gwylanod sy'n Llangefni
erbyn hyn yn llawn cwrteisi,
ac os byddent wedi'ch copio -
dônt yn ôl i ymddiheuro.

Fe ddaw'r tylwyth teg i ddawnsio
rownd y cloc pob amser cinio
yna'n ôl at waith y Cyngor -
nid oes angen dweud dim rhagor.

Fflio draw i'r Bae o'r Fali
sy'n ffordd dda o arbed ynni
byddwn ni ein tri yn hedfan -
sef y peilot, fi a Ieuan.

Gwych o le yw Gwlad y Medra
lle heb ail am ryfeddoda,
y broblem sydd gan weddill Cymru
ydy ceisio cadw'i fyny!

Geraint Jones
9 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Rhyfeddodau

'Renwadau 'di uno, crefyddau'n cytuno
A finna'n teneuo a nhrowsus i'n llac.
Dim llythyr gan Robyn, dim angen am fyddin
A phlant bach yn chwerthin yn nhiroedd Irac.

George Bush yn heddychwr, dim cwyn gan 'run ffarmwr
A'r Pab yn anffyddiwr mewn bwthyn bach rhad.
Dim rheg ar un rhaglen, dim pobol mewn angen,
Bwyd iachus ar fwydlen pob ty yn y wlad.

John Toshack yn maddau, Robbie Savage yn chwarae
A'n harwyr glew ninnau'n cael Cwpan y Byd.
Y 'Steddfod yn Lerpwl, yr Orsedd mewn trwbwl
Ar ôl cael y cwbwl yn feddw ar y stryd.

Margaret Williams yn swynol, y Meuryn yn feidrol,
Pris galwyn o betrol yn mynd ar i lawr.
Dim sôn am ddiweithdra na phrinder cyfloga'
A mil o funuda' i'w cael ym mhob awr.

Gostwng mae'r trethi am yr eilwaith eleni
A hwythau'r capeli yn orlawn o hyd.
'Run enaid yn segur, dim ie'nctid ar gyffur
A ninnau'n bencampwyr y Talwrn i gyd.

Pedr Wyn
9 ½ pwynt

Pennill ymson mewn bal?n

Y fi 'di'r dyn bach sydd yn gweithio
Yn ddiwyd yn selar rhif 10,
Yn malu'r papurau sy'n cyfri -
Mae cau llygad yn haws na chau ceg;
Neb 'meddwl 'modd i'n medru darllen,
Na 'di cadw rhyw lythyr neu ddau -
Dydy mawrion y wlad ddim yn sylwi
Ar y rhai sydd yn clirio a llnau.
Sgin i'm miliwn i'w roi yn ei goffra,
Cha'i byth mo'r croen carlwm na'r gêr,
Ond y fi, yn y 'Sun' bora' fory,
Ydy'r bin yn mal?n Tony Blair.

John Wyn Jones
8 ½ pwynt

Pennill Ymson mewn Balwn

Er nad wyf i yn wleidydd
rwy'n codi fel ehedydd
'mhell uwchlaw byd y werin ddoeth
heb gymorth dim ond awyr boeth.

Dafydd Morris
8 pwynt

Cywydd [heb fod dros 12 llinell] : Llyn

Llyn Cerrig Bach, Ynys Môn

Yn y cof try'r fawnog hon
Heddiw'n seintwar derwyddon,
A fan hyn i'r llyn llonydd
Dônt bob un ar derfyn dydd.
A'u creiriau i'w duwiau doth
A hefyd gnwd eu cyfoeth,
Gan ddisgwyl disgwyl y dydd
Y'i dodir mewn man dedwydd.

O na bai Llyn Cerrig Bach
Yn llyn i ni'n eu llinach,
Yn fan uwch dyfroedd Annwn
Er ein pwyll i fwrw'n pwn.

Richard Parry Jones
8 ½ pwynt

(Yn 1942 codwyd tir mawn yn Llanfair yn Neubwll i Ymestyn glanfa'r RAF a daeth olion hen lyn i'r golwgLle 'roedd ein cyndeidiau'n addoli eu duwiau cyntefigAc yn offrymu creiriau i'r dyfroedd. Yn eu credo'roedd llyn yn borth i'r gwynfyd.)

Ateb llinell ar y pryd

Difyr yw cwmni'r Diafol
Gwell gan Jac yw roc a rôl.

Ateb llinell ar y pryd:

Difyr yw cwmni'r Diafol
Miri ffals i fyd mor ffôl.

1 pwynt

Englyn Cywaith: Taith

Ni fynnwn oedi funud - yn y ras
Mae'n rhaid dal i symud
At enfys ac at wynfyd
Ar hewl nas gwyddir ei hyd.

Geraint Jones
9 ½ pwynt

Englyn Cywaith : Taith

I'w breseb bu'n siwrne brysur - a'r Aifft
ar ôl yr achlysur,
Ac o wefr rhamant antur
I bren y gwarth, bryn ei gur.

Norman Closs Parry
8 pwynt

TELYNEG: Cymydog

Wyt ti'n chwennych
ei blasty braf,
ei gar mawr drud, ei wyliau haf,
ei fyrddau hael, ei winoedd gwych?
Yr hapusaf
benteulu â'r teulu tecaf!

Ond dros y gwrych,
ystyria stad
y plant â'n hyˆn heb weld eu tad;
mae'r pwysau'n gysgod yn ei ddrych
bob bore: brad
y bywyd perffaith. Rhybudd rhad.

Siân Owen
9 pwynt

Telyneg: Cymydog

Roedd gan y ddau ardd ffrynt brydfertha'r 'Close'
- o wytnwch eirlys hyd y ffarwel haf.
Safai byd yn stond ger eu hEden dlos
- pansi, basgedi crog a'r dahlias braf.

Bu farw'r gwr - a gadael Monet o stad,
Ymladdodd hithau ryfel maith y chwyn.
Bob Sul roedd flymos 'Close' fel ymgyrch cad
- ond heibio'n awr ai'r rhai fu'n syllu'n syn.'

Mhen dim, i bridd 'rhen arddangosfa gain
daeth gwair ac ysgall - luwchiai drwy y fro;
Llwyn o fwyar ymgripiodd drwy y llain
- Bwyd i'r nico, ji-binc a'r adar to.

Ond deuai ''Bore da!'' i'w chegin gaeth -
a'r titw'n galw'n hy o'r botel laeth.

Norman Closs Parry
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Cysgod

Nid hyder gerbron ceraint - a welwn
O'r golwg ers cymaint
Dan y fron, ond olion haint
Yn gafael mewn ysgyfaint.

Ioan Roberts
8 pwynt CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Englyn ar y pryd: Cysgod

Yn ddistaw daw'r dihiryn i chwarae'n
Llwchwraidd a 'nychryn;
Mae'n fy nal, mae'n fy nilyn
- y bwli! Sef fi fy hun!

Pedr Wyn
9 pwynt CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar ffenest car:

Nid yw'r ci sy'n meindio'r car
Yn fastiff, ond mae'i fistar.

Englyn yn cynnwys y geiriau "Ar Ben"

Tat?

[O weld yr hanes yn y Daily Post 10.02.07. Cafodd Dayne Gilbey [19 oed o Coventry) dat? o frecwast (cig moch, wyau, tomatos, ffa cwobois, selsig heb sôn am y gyllell a'r fforc) ar ei ben!]

Ar ben moel, hawdd yw coelio - i benbwl
Mor benboeth gael cinio
Ac heb os, lle bynnag bo,
Ei luniaeth a ddeil yno.

Limrig yn ymwneud ag angladd

Roedd angladd yn Nyffryn Ardudwy,
Hen blismon oedd dipyn o feudwy,
Fel arwydd o barch
Ni roed o mewn arch
Am na fu erioed yn weladwy!

Englyn Cywaith: Taith

Ni fynnwn oedi funud - dim ond mynd
A mynd mwy gan symud
I rigol caeth y golud
Ar hewl nas gwyddir ei hyd.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar ffenest car:

Athrist dy weld yn rhuthro -
Buan daw'r graean a'r gro.

Ni all thyg chwarae rygbi
Na. Tîm neis yw ein tîm ni!

Daw bob stryt yn hyfrytach
Man y bo fy mini bach.

Four-foot-ten yw'm hangen i;
Ie, man yw parc-gell mini.

Am yrru gwyllt a marwol!
Gari dym! Gwynt teg ar d'ôl!

Englyn - yn cynnwys y geiriau 'ar ben':

Mae Dyfrig ar ben ei ddigon - yn byw
a bod yn nhy Gwenfron
'Nwir, cyn hir, bydd o a hon
yno'n noethlwm gyfreithlon.

Limrig yn ymwneud ag angladd:

Angladd Tony Blair

Am ryfel neu ddau bu'n gyfrifol
Dihangodd trwy rym celwydd deifiol
Ond pa eiriau mawr
All ei achub yn awr?
Ac yntau mewn twll mor ddifrifol

Cân (heb fod dros 20 llinell): Rhyfeddodau

Llawer rhyfeddod ddifyrrodd fy mywyd
Llawer a welwyd a llawer a glywyd

Llygoden fach ond mawr ei brath
Yn agor ei cheg a llyncu'r gath

Pregethwr cul ac uchel ei lef
Yn meddwi dydd Sul a diawlio'r Nef

Crwydro'r traeth tua chanol yr ha'
A gweld noethlymunes mewn nicyr a bra

Myned ar frys i d? bach y dynion
A gweld criw o Saeson yn adrodd englynion

Gadael am wyth i fyned i'r gwaith
Ond cyrraedd y lle am chwarter i saith

Clywed 'r hen Garlo ein tywysog di nam
Yn siarad Cymraeg efo Lisi ei fam

Yr odiaf o'r holl ryfeddodau i gyd
Yw'r ffarmwr di-g?yn a dedwydd ei fyd

Llai sicr yw 'nghân o gipio'r wobr
Nag yfed deg peint ac aros yn sobr

Os na fydd y beirniad yn maddau fy mhennill
A thrwy ryw ryfeddod fy mod i yn ennill

Pennill Ymson mewn Balwn

Ha,Ha! Mi boerais ar nacw.
Hwnna'n fan'na ar y traeth,
Y dyn 'na efo'r wialen,
Na, ffon, o na - bwa saeth!
Dydy o'n gythra'l bach dialgar
Mae o'n 'nelu tua'r nen,
Ac mae'i saeth yn rhwygo'r sidan -
Af i weddi, mae'n AMEN.

Englyn Cywaith : Taith

Un ai'n wych neu yn wachul - un ai'n hwyl
neu yn her llawn helbul;
mewn cariad neu mewn cweryl
hwn o gnwad a etyb gnul.

Telyneg: Cymydog

Er y gân, nid oes croeso,
Am bris, daeth "Brummies" i`n bro.
Hwylio dod i`w hail d?
Trwy`r haf i ymgartrefu.
A`u gorchest fu`n ymestyn
Yn y lli dros lannau`r llyn.
Gw?r estron fu`n hawlio`n hy,
A ninnau`n rhad i`n prynu
Yn dewis cadw`n dawel.
Erys "Hon" yn wlad "For Sale!"
Ni ddaw`n ôl ein heiddo ni.
A byddwn eto`n boddi.

"We`ll keep a welcome in the
hillside.."

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.