Howgets v Cadw'r Ffin.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys enw coeden
(Libanus)
 'Shalom', nid bom uwchben,
y daw'r hedd i'r Gedrwydden.
Meirion Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw coeden
Y dderwen welodd 'ngeni
dyf o hyd pan beidiaf fi.
Sion Aled
8 ½ Pwynt
Pennill mawl/dychan - Y Swyddfa Gartref
Y Swyddfa Gartref
(gydag ymddiheuriadau i John Dafydd, yr emynydd)
Newyddion gwael a ddaeth i'n bro,
Pob carchar sydd yn llawn i'r to.
Gweinidog Cartre'n colli'r dydd,
Caiff carcharorion fynd yn rhydd.
Meirion Jones
8 ½ Pwynt
Pennill mawl/dychan - Y Swyddfa Gartref
Dwi wedi cael hen ddigon
ar Reid a'i jamborî,
a rhain sydd am gofnodi'n
holl fywyd chi a fi!
Ni haeddant elwa 'mhellach
ar f'awen bur un iot -
cefnogwch annibyniaeth
ac wfft i'r blydi lot!
Meg Elis
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â chamgymeriad
Sibrydais â ngwyneb llawn gwên,
"Wel, Betsan, mi rwyt ti'n ferch glên."
Wrth geisio cael cusan
Ces andros o glustan,
"Nid Betsan 'dw i ond Ann Jên!"
Rhys Llwyd
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chamgymeriad
Wrth ffoi rhag byddin yr Eifftiaid
gwnaeth Moses dro sâl 'da'r Israeliaid,
Yn lle dianc i'r dde
i'r chwith aeth efe
A cholli holl olew'r Arabiaid.
Alun Davies
8 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Heno
Heno, a'r sêr yn wynias
Y graith mor danbaid â gras,
Rhuad tranc sy'n nhonnau'r traeth
A'r dail yn siffrwd alaeth.
Yn y gwyll, tywyll yw'r t?,
Wyf Hiraeth. Pa yfory?
Heledd, er chwalu'r aelwyd,
Nid chwerw mo'r lludw llwyd,
Neuadd yw ar newydd wedd,
Ynni ym mêr hen annedd.
A weli di olau dydd
Yn wrid hyd ei pharwydydd?
Annes Glynn
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Heno
(Ymson dyn â'i gydwybod)
Heriwn wyll capeli'r nos -
hwyrach bod hi'n fy aros.
(Yn yr haul diflanna'r od
ag ymaith â'r gwag amod.)
I'w hymyl es - Ma'am y wlad -
a chefais wych ddyrchafiad:
pa ryw barch a gaiff marchog -
wedi'r 'hype', on'd yw ond rôg?
Taw â sôn, rwy'n bwt o sant
ym Meulah yn y moliant:
nid yn rhwydd y daw i'm rhan
rinwedd ymwadu'r hunan!
Dafydd Franklin Jones
8 pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Dathliad
Dau gan mlynedd ers diwedd caethwasiaeth
Roeddem ninnau'r Cymry eisiau talu gwrogaeth,
Codwyd pwyllgor amryliw yn erbyn hiliaeth
I drefnu parti ar ran pob gwladwriaeth.
Roedd Gwyddel a deithiodd o Gymru i Awstralia
A chododd I.Q. yn y ddwy wlad mi wranta.
Jimmy y Sgotyn sydd gan Iddew yn prynu
Ac wedyn i Gardi am elw yn gwerthu.
Rhy fain! oedd Eidalwr o'r enw Luigi
Dyn llefrith 'fo'i frawd, sef Torri Boteli.
Fe gawsom gwmni'r Dyn Tân o Wlad Pwyl,
Ifan Watsialosgi yn c'nesu am hwyl.
Mewn parti mae un gorfroliwr bob tro
A'r tro hwn, o Japan, roedd un Idishido.
Daeth rhai i'r Bala o Tseina fel pla
Ac un o'r rhai clenia oedd Cim Hwn Wa.
Cafwyd amser ardderchog heb 'run jôc am ddefaid
Cyfarchion degieithog a phawb fel efeilliaid.
Roedd hi'n noson lwyddiannus, yn dipyn o ddathliad,
Ond tybed oedd cymydog na chafodd wahoddiad?
Meirion Jones
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Dathliad
Mae bryniau Las Malvinas
yn dawel, 'blaw y gwynt,
roes enw i'r ynysoedd
o brofiad morwyr gynt:
Mangre y gwyntoedd gwaelion
a'r bryniau moel a'r glaw,
arosfa gwan ei chysur
wrth hwylio i'r ochr draw.
Nid dyna welodd Thatcher
ond darn o Brydain bell,
adlais o'r Ymerodraeth
a gwychder dyddiau gwell;
a 'leni braint yw dathlu
cael talu'r pwyth yn wir
i'r criw Archentaidd haerllug
a feiddiodd sarnu'n tir.
Mae Baner falch yr Undeb
uwch traeth Port Stanley'n ôl
â'i gwatwar chwarter canrif
am ffawd gelynion ffôl;
ond ar y bryniau moelion
o glyw'r clodfori hael
does ddathlu ond distawrwydd
a galar gwyntoedd gwael.
Sion Aled
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Cadair Siglo
Si hei lwli, cofio'i grio - oriau
hirion yn ei suo,
yn h?n, rwyf heno, heno,
yn wag heb ei gwmni o.
8 ½ Pwynt
Englyn cywaith : Cadair Siglo
'Na wych! O gicio'n uchel - O, mae'n hwyl,
yma'n hon, bron dymchwel;
da wyf i, ïe, nid fel
niwsans o Daid penisel.
Dafydd Franklin Jones
Ateb Llinell ar y pryd
Yr oedd Wil ar ei ddeulin
A'i ffydd yn nhim Cadw'r Ffin.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yr oedd Wil ar ei ddeulin
Lawn ffydd dros lewion y ffin.
Pennill ymson wrth ail-gylchu
Y papur a'r plastig aiff i mewn i'r bocs glas,
Hen ddillad, fy sbectol a hefyd y cas,
Ond beth sy'n fy mhoeni wrth fyned yn h?n
Na fedrwn ail-gylchu creadur o ddyn.
Rhys Llwyd
9 Pwynt
Pennill ymson wrth ail-gylchu.
Cardfwrdd fan hyn a thun fan draw,
A phapur eto fyth.
A'r myrdd poteli aiff o'm llaw
I'r angof gwyrdd yn syth.
Ond ow! Mae eisoes yn fis Mai:
Papur sy'n dod yn fflyd.
Credwch yn wir nad fi sy' ar fai
Am ddifa coed y byd.
Ar Fai'r pedwerydd af am dro
A'r llwyth taflenni hyn
I'w troi yn ddeunydd buddiol 'to -
Mae'r crëwyr yn y bún.
Meg Elis
9 pwynt
Telyneg: Llais
Roedd cric a chrac Eryri'n
ronynnau crafog
rhwng sillafau hwn.
Lliw mawnog a llyn,
blas llymder a moelni anghyfannedd,
a than ddwyster ei frawddegau dethol
rhyw joch o hiwmor iach
yn wên fach swil, ddiwastraff
yng nghilfachau'i gystrawen.
Llafar ei lên,
a'i gerddi'n gri
sy'n parhau i ddrybowndian
rhwng clogwyn a chlogwyn,
yn gân
sy'n rhigymu ei ffordd
drwy furmur prysur
afon a nant.
A bardd Rhyd-ddu, er ildio i 'Angau Gawr',
yn dal i siarad o'r 'llonyddwch mawr'.
Annes Glynn9 ½ Pwynt
Telyneg : Llais
Mae cof y peiriant ateb eto'n driw
i ddoe sy nawr mor bell, a'n serch yn sur,
a gwawd y golled ddaw â llosg i'r briw
ac artaith hiraeth drwy'r magnetau dur.
Rwyt eto'n ennyn gennyf wenu gwneud
â'th dinc direidus wrth it drefnu oed,
a'th ffarwel ffwrdd â hi yn llawn o ddweud
am gariad oedd fel tae bu yno 'rioed.
Cefais fy nhwyllo, do, bron iawn, gan ddawn
dewin digidol i ddwyn ddoe yn ôl,
cyfannu'r chwalfa, ti a fi yn iawn
ein byd bach ni. Am ffantasïo ffôl!
Prysura 'mys i gadarnhau fy nghais
i'r llatai creulon lwyr ddileu dy lais.
Sion Aled
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Cerflun
(Y Gusan gan Auguste Rodin)
Yn eu hanwes hunanol - hyd y graen
Cerfiwyd gwres angerddol,
Nid c?n sydd ym mhlethiad côl
Ond ias hen nwydau oesol.
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Englyn ar y pryd: Cerflun
Y Cerflun 'Rhyddid' yn Efrog Newydd
Fi, yn deg, 'rôl ofn y daith - oedd dduwies
Addewid a gobaith;
Heddiw â llwm ruddiau llaith
'Rwy'n faedan yr anfadwaith.
Dafydd Franklin Jones
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys enw coeden
Yn y drin, gwêl y llwyn drainyn gwyro, 'stumio'n gywrain. hyder holltais dderwen,Yn saff, nid praff oedd y pren.Rhyw ddwsin ar y PinwyddYn ffaith o wendid ein ffydd.Derec sy'n gryf fel derwA Bil? - mae o fel bamb?!Limrig yn ymwneud â chamgymeriad
Yn swyddfa'r T? Gwyn, cwbwl gesh-i
Oedd gêm tidliwincs efo Tony
Botwm coch oedd fy winc,
Tidlais iddo ryw dinc,
Nawr Iran mewn un chwinc gaiff ein niwc ni.
Gwelais blisman yn sgwâr Llandygai
Wrth yrru rhyw fore o Fai.
Ni wasgais y brêc,
A dyna'r mistêc;
Mae nghyfrif gryn dipyn yn llai.
Roedd Doris yn chwilio am homme
A chliciodd ar Pishyn dot com
Ond wrth syrffio'r We
Aeth rhywbeth o'i le
Daeth 'hi' yn lle 'fe' - dyna siom!
Ym mysg tasgau'r Talwrn mae Limrig
Ac iddo ychydig ddychymyg
Dim acen na chlec
Dim ond odl, O hec!
Di-ffwdan yw sgwennu cynghanedd.
Ymunais â dosbarth cynghanedd
Gan feddwl gwneud cwpled o'r diwedd
Ond wir, mae f'acenion
Yn groes i'r amcanion
Rwy'n trio â pheidio ffwdanu...
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Heno
Cadw'r ffin y bûm innau;
Degawd hir o chwe deg dau,
Dethe wyf â'i lediaith o
O'm degawd o gymdogio,
Elwais o Ysgol Alun,
"O Dau" a finnau fy hun,
Ein cartref oedd ein nefoedd,
Nyth i iaith a'r pethe oedd.
Heno caf roddi'r hanes
A hid i'r newid sy'n nes.
Ein gorchwyl ydyw'n gwarchae,
Ym Môn, i minnau, y mae.
Pennill ymson wrth ail-gylchu
Pwy wir nad yw'n dwlu ar ganfod bargen
ar rheiliau trwm yn y siopau elusen?
Ddoe prynais drowsus, peth digon handi,
bu'n wych, yn wachul, ond mae bellach yn 'trendi'!
Pan welaf 4x 4's yr haf
yn gwibio mynd ar noson braf
â'u cargo trwm o fwyd a gwin
i dreulio'r Sul ar Benrhyn Ll?n.
Dwi'n gwybod hyn, yn ddigon si?r,
i bant archfarchnad bell â'r d?r.
Mae biniau ail-gylchu i bopeth,
Maent yma o'm cwmpas yn doreth,
Papurau, dilladau a bocsys
Ond dim un i ail-gylchu'r Musus.
Telyneg: Llais
Daw o bell, ar donfedd nos,
y llais sy'n eu dwyn yn agos -
Viking, Faroes, Fair Isle, Forth.
Ar gledr môr, yn nwrn y don,
rhain yw f'ynysoedd Afallon -
Rockall, Shannon, Bailey, Sole.
I gyrion pell ein moroedd blin
y crwydra'r llais, fel Seithennyn -
Fastnet, Malin, Dogger, Wight.
Dover, Humber, German Bight.
Dyma'r llais sy'n pwytho'r gleiniau
a'u symud yn dwt ar hyd mwclis paderau -
Fisher, Portland, Finistere.
Hwn yw'r llyw drwy dduwch tonnau,
y llaw sy'n dyner ar ysgwydd gofidiau -
Lundy, Plymouth, Forties, Tyne.
A finne yn fy howld yn swatio
Mewn merddwr chwil rhwng cwsg ag effro,
Caf hwylio o gylch y cwmpawd hudol
A'r enwau'n dorch ar gefnfor breuddwydiol -
Cromarty, Biscay, Utsire, Minch.
Cyn y daw'r awr y bydd rhaid i mi halio
Yn ôl, yn gyndyn, er mwyn anturio
Ar foroedd dwfn fy heddiw i..
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys enw coeden
A geir dywediad gwirach? -
Daw'r dderwen o'r fesen fach.
Pennill mawl/dychan - Y Swyddfa Gartref
Rhown glod i'r Swyddfa Gartre
(er bod ni'n brin o inc) -
ein gwaith yw cadw'r gyfraith
neu'ch gyrru chi i'r clinc;
Y Saeson sy'n ei chanmol -
mewnfudwyr ddaw yn llu
gan wthio'r Sais o Loegr
i Gymru i brynu t?;
a methu mae'n brodorion
sy'n byw yng nghefen gwlad
â phrynu tai eu hunain
am bris sy'n weddol rhad!
Limrig yn ymwneud â chamgymeriad
Mewn breuddwyd dywedais "F'anwylyd,
'rwy'n dy garu yn fwy na fy mywyd:
rho gusan i'm Zeta"
enw'r wraig yw Anita) -
yn hunllef y troes fy nedwyddyd.
Gwyddonydd o Goleg y Drindod
a lwyddodd i glonio ei briod,
mi roedd o'n reit hapus
ei gweld hi mor siapus,
trychineb oedd clonio ei thafod.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Dathliad
Ar Siân roedd awydd dathlu ei phriodas efo Siôn,
gan gofio bwrw'n swildod mewn pabell yn Sir Fôn.
Aeth trigain mlynedd heibio ers priodi Siôn a Siân,
roedd ef yn llanc cyhyrog a hithau'n hogan lân.
A Siân wnaeth y trefniadau heb unwaith gyfri'r gost,
anfonodd hysbysebion i'r Western Mail a'r Post.
Bu dathlu yn y capel ac wedyn yn y Pant
a dawnsio yn y 'Beeches' mewn hwyl a llawen dant.
Ac wedi cyrraedd gartre, roedd Siân yn llawn o hwyl
yn canu ac yn neidio fel Dafydd ar yr ?yl.
Rhoes iddo ddracht o wisgi, ond ffrisgi nid oedd o,
fe drïodd glas o sieri, ond dal roedd Siôn fel llo.
Ac yna tot o frandi, - fe'i gwnaeth yn dipyn llesg;
aeth Sioni i bendwmpian, fel chwaden yn yr hesg.
Roedd Siân ar uchelfannau ac iasboeth oedd ei chwant,
'run fath â'r noson honno y bu'n cenhedlu plant.
Fe wisgodd goban sidan, - un ddu o siop fawr Marks,
ond methiant llwyr oedd hynny yn Siôn i gynnau 'sparks'.
Ac ofer fu'i hymdrechion i ennyn chwant ei dyn,
aeth Siân yn drist a distaw i'w llofft ar ben ei hun.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

