Y Garfan v Tanygroes.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth ar yr odl 'aw'
HELEN KELLER
O'i hestyn yn fud ddistaw
ei holl iaith oedd yn ei llaw.
Aled Evans
8 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl "aw"
Yn wastad call sy'n ddistaw --
Ni wyr y twp ystyr taw
Philipa Gibson
9 Pwynt
Pennill Ymson Wrth Wylio'r Newyddion
Gwylio neithiwr wnes, ac echnos -
yr un hen beth mae'r lluniau'n ddangos,
er ei fod yn ddigon cymen
mae angen wig ar Garry Owen.
Aled Evans
9 Pwynt
Pennill Ymson wrth wylio'r newyddion
Dim smygu byth mwy mewn tafarnau,
Dim gyrru a siarad i'r ffôn -
Mae trethi y cyngor yn codi
A glaw bore fory'n Sir Fôn.
Pob carchar sydd nawr wedi llenwi,
Sy'n ofid i'r troseddwyr cas,
Oherwydd mae'r gosb tipyn llymach
I'r rhai sydd yn byw y tu fas.
John Meirion Jones
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ni fu'
GWENLLIAN
Diffoddwyd fflam ei mamiaith, y geiriau
fu'n gaer iddi unwaith.
Ni fu i hon arfau iaith,
Na'i hidiomau'n gydymaith.
Aled Evans
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'ni fu'
Fe aeth, a hiraeth sy'n aros: unwaith
(pan ganem yn blantos
hen ganiade yr eos),
ni fu'n hiaith yn ofni'i nos.
Philipa Gibson
10 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) 'Dweud Dim'
Wrth baratoi mynd allan i ddathlu ei phenblwydd
y wraig orchmynodd i mi fynd ati yn un swydd
A hi'n y stafell wely, meddyliais mod mewn lwc
ond nid oedd siawns am ramant, cas bwl o beswch crwc.
Pa beth a wisgaf heno? - gofynnodd yn ypset
gwrthodais gynnig sylw, a'i gadw dan fy het!
Ydy mhen-ôl yn edrych yn fawr i ti yn hwn?
"Dim really", oedd fy ateb, er anferth yw mi wn.
Gofynnodd 'shwt 'wy'n gwynto'? Wrth lwc fe aeth y ffôn
sai'n lico son am ddrewdod, rwy'n gachgi yn y bôn.
Ni soniais am ei bogel, na chwaith am wallt fel tas
na dim am flew ei thrwyn hi, sai'n lico bod yn gas!
Ac yn y tacsi wedyn, ni ddwedwyd yr un gair
am golur llachar oren, na thlysau fel rhai'r ffair.
Y llysiau oedd yn dyner, a'r stêc "Welsh Blac" yn frau
ond brathwyd hefyd dafod, a chadwyd ceg ar gau.
Ond tew yw'r tafod heddi, rwy'n teimlo'n ddigon tost
ond nid o achos tablen, dweud dim a gariodd gost.
A nawr yn yr 'Out-patients', difaraf osod ffrwyn
ar dafod na all symud, rwy'n methu dweud fy ngh?yn!
Meirion Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) 'Dweud Dim'
Mi alwais un noson i weled Miss Preis.
Mae hon, fel y gwyddoch, yn fenyw fach neis.
A thra yr oeddem ar y cowtsh yn sgwrsio
Fe ddaeth rhywun arall i'r drws i gnocio.
Ac am nad oeddwn eisiau pobol i siarad
Fe rhedais i'r cwtsh dan y stâr mewn chwinciad.
Ac wrth aros yno'n y gwyll, fel petai,
Fe glywais rhyw lais bach yn dwedyd, 'Shw mae'.
Ac wrth fod y llygaid yn cyfarwyddo
Fe welais fod nifer o'm ffrindiau yno.
Roedd un, medde fe, yn riparo yr hwfer,
A'r llall wedi galw i roi siglad i'r dwster.
Roedd yno athrawon a hefyd trydanwr
A dyn 'Codi Canu' a dau gyfarwyddwr.
A'r ffermwyr oedd yno yn ddoniol tu hwnt
Yn edrych mor euog yn eu 'wellingtons' brwnt.
Pob un wedi meddwl cael cwtsh lan y stâr,
Ond yn gorfod bodloni a'r cwtsh dan y stâr.
Yna yn sydyn fe ddaeth meuryn i'n cwmni.
Pan ddarllennodd ei englyn, wel fe aethon i gysgu.
Ni ddwedai'n gyhoeddus pwy ydoedd y meuryn,
Ond os hoffech gael gwybod, dewch i'm gweled i wedyn.
Ken Griffiths
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) YFORY
Irais ei llaw ag arian
ar fwrdd yr hen garafán
i'w diléit hi'n y dail te
ddewino fy nydd inne.
Rhannodd o sioe'i chyfrinach
ddwsinau o begiau bach
i osod fy nyfodol
ar y lein yn daer ei lol
a phob gair sidan ganddi'n
fara rhad i'w fory hi.
Mari Lisa
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell)
'Yfory'
Ar ffyniant fy ngorffennol
Achwyn wnaf wrth edrych 'nôl.
Anheilwng o modolaeth
Yn awr wyf, fel broc ar draeth.
Yn eiddo'r cyhoedd heddi
Ydyw'n noe a'm hechdoe i
Yn hanes i'w gloriannu
Ac yn dyst mewn gwyn a du.
Tywyll nawr fel mantell nos
Yw ein horiau sy'n aros;
Rwy'n llesg a'm hyfory'n llwch
O'r golwg, mewn dirgelwch.
Emyr Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â'r Talwrn
Mae'r Meuryn yn un piwis a chroes,
Mae eisie fe symud â'r oes,
Mae'n dipyn o bais,
Yn waeth na'r un Sais -
Dyna glywais gan feirdd Tanygroes.
Limrig yn ymwneud â'r Talwrn
Ymladdais pob ceiliog fu'n herio
A'u danfon yn ôl wedi plufio.
Fe dynnais sawl plufyn
O'r 'bootiful' Meuryn
A gesiwch beth wnes i a'r Paxo !
Emyr Jones
8 Pwynt
Ateb llinell i gynnwys y gair 'cysgu'
Oooo Iesgob dwishe cysgu.
1 pwynt
Ateb llinell i gynnwys y gair 'cysgu'
Cysgod yw'r nos yn cysgu
Englyn Cywaith - Breuddwyd
Heibio i bob ymwybod, mae yno
mhob mynwes ryw hanfod,
fel petai fflam hen amod
yn byw yng nghrombil ein bod.
Meirion Jones
8 ½ Pwynt
Englyn Cywaith : 'Breuddwyd'
Ar afonydd 'raf inne - yn yr hwyr
Heb na rhwyf na hwylie:
Yna'n ôl o'm seithfed ne'
I aberedd y bore.
John Meirion Jones
10 Pwynt
Telyneg : ENNILL
Cynhesrwydd tawel
fel haul yr haf yn dawnsio ar groen...
Llonyddwch fel cae o ?d
yn crymu pen dan lawnder y cynhaeaf,
a dim un cwmwl o amheuaeth
yn bygwth golchi'n llif oer
yr ymdrech
i fôr mawr anobaith.
Y cyrraedd hwnnw...
i gopa eitha'r mynydd.
Sefyll yno'n dalog
a gweld y daith boenus
yn nadreddu i'r pellter islaw...
a'r eiliad yn fyw
ar stribed ffilm y cof
ac yn araf ail chwarae
gan ddangos pob ffrâm o orfoledd.
A hen darth y nos yn diflannu
wrth i belydrau'r bore
wthio'n hyderus
yr ail eni newydd.
A'r un oediad byr hwnnw
yn nhir neb,
heb na ddoe
na heddiw,
dim ond y nawr tragwyddol,
cyn i wres yr haul
bwnio'i losg;
cyn i'r ?d wargamu'n donnau gwyllt,
a'r cymylau grynhoi yn y pellter
wrth i'r daith barhau,
a niwl y nos
fygwth eto lyncu pob yfory.
W. Dyfrig Davies
9 Pwynt
Telyneg : 'Ennill'
Fe welais nos rodresgar
Yn dod fel lleidr hy',
Gan ddiffodd y goleuni
A throi fy myd yn ddu.
Ond tra bu'r bore newydd
Yn herio'r lledr hy'
Daeth dwylaw gwyrthiol meddyg
A'r golau 'nôl i mi.
Ken Griffiths
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Trên
Ar fin ein hwter o fyd a gyrru
Pumed gêr ein bywyd
Weithiau cawn ryw esmwythyd
Mewn tuthian sy'n gân i gyd.
Mari Lisa
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU:80 ½
Englyn ar y pryd: Trên
Dros gledrau o ddyddiau âf - i revio'r
Milltiroedd nas gwelaf,
Mwynhau sigl y tramiau wnaf
Er arswyd dod i'r orsaf.
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

