Bro Ddyfi v Talybont.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Bro Ddyfi.

Talybont

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'celwydd'
I'r gwael mae i'r gwir golyn,
Iddo gwell f'ai celwydd gwyn.
Dafydd Wyn
8 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'celwydd'
Trwch o dywyllwch rhwng dau
Dry'n ddydd o gelwydd golau.
Anwen Pierce
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan 'Y Cyngor'
Am y Cyngor sy' yn y dre 'ma
Dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud,
Fe fyddai'n help im pennill
Tawn i'n gwybod beth mae'n wneud!
Elwyn Breese
8 Pwynt
Pennill Dychan Y Cyngor
Mor debyg ydy gori
Ar Gyngor balch y dref,
I fod ar lafatóri,
Yn sibrwd egwan lef.
Yn gyntaf daw'r eisteddiad,
Daw'r moshiwn cyn bo hir,
Ac yna caiff y mater
Ei ollwng, dyna'r gwir.
Phil Davies
9 Pwynt
Englyn 'Anodd yw deall hynny'
Gwêl Arab yn galaru - yn y drin,
Dyna'r drefn - troi i gysgu,
Ond doed y galar i'n t?
Anodd yw deall hynny.
Gwilym Fychan
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'anodd yw deall hynny'
Mewn gwledd o gynganeddu - Taliban
Talybont a orfu.
O'n ffwrn, Bro Ddyfi a ffy;
Anodd yw deall hynny.
Gwenallt Llwyd Ifan
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) 'Colli Cyfle'
Mi gollais i y cyfle i achub Wil, fy ffrind,
O achos tro mewn cynffon mae William wedi mynd;
Pan oeddem yn y jyngl mi welsom dwll go lew
Oedd rhy fach o dwll i gwningen, medd Wil, "Mae'n dwll i lew!"
"Mi af i mewn i chwilio," medd Wil, hen weithred ffôl,
A minnau'n cadw golwg rhag ofn i'r llew ddod 'nôl;
Cuddiais yn y dryslwyn yn fachgen eitha' swil,
Daeth llew, un mawr, o rywle ac i mewn i'r twll at Wil.
Fel roedd o yn diflannu teimlais yn gryf ac ewn,
Gafaelais yn ei gynffon i'w rwystro rhag mynd mewn,
Roedd y llew yn tynnu'i orau gan ruo'n wyllt a chas,
Ni allai 'nhynnu i i mewn na fi ei dynnu mas!
Fe fuom yno yn y sgarmes, yn wir, am amser hir,
Y llew a fi 'r un cryfder, ac yna ar fy ngwir
Daeth llais o ddyfnder daear, "Mae'n dywyll! Tyrd i'm cwrdd!"
Atebais "Bydd yn dwllach os daw cynffon hwn i ffwrdd!"
Sylwais fod tro'n y gynffon achosai y fath fraw,
Bu clec - rown yno'n unig â chynffon yn fy llaw!
Os gwelwch lew heb gynffon gofalwch roi 'ddo barch,
Mae William yn ei fol o yn lle bod yn ei arch!
Hedd Bleddyn
10 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) - Colli Cyfle
Yn Llyfrgell Western Anglia yn 3092.
A'r haul yn gwgu'n greulon ar grindir cras y Bae,
Fe aeth ymchwilydd ifanc i dwrio yn y ffeils,
A daeth o hyd i hanes rhyw wlad o'r enw Wales.
Darllenodd lwyth am stormydd, ail agor pyllau glo,
Am wersyll mawr milwrol yn lledu dros rhyw 'Fro',
Milltiroedd maith o draffyrdd, Casinos ym mhob plwy,
Am lygredd gorsaf niwcliar, a chreithiau pibell nwy.
Fe'i trawyd ef wrth ddarllen y llyfr ar ei lin,
Fod Wales a Western Anglia bellach yr un un.
Fe geisiodd dwrio 'mhellach er mwyn darganfod pam,
Y daeth y cilcyn yma yn faestref Birmingham.
Caed golau ar y mater trwy ddarllen mewn hen sgrôl
Am genedl y Cymry, flynyddoedd maith yn ôl.
Yr oedd y wlad, mae'n debyg, yn weirglodd ffrwythlon ir,
 glendid yn ei dyfroedd, a llewyrch ar ei thir,
A'r bobl oedd yn enwog am garu'r pethau gwiw;
Fe wyddent beth oedd perthyn, fe wyddent beth oedd byw.
Ond yna wrth ymchwilio yn sgrôl 2007,
Fe wnaeth ein cyfaill weled ddechrau diwedd taith.
Phil Davies
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Siop y Gornel'
O ddeg tan ddeg uwch ei ddôr
canai, chwifiai cloch Ifor,
mynnai fod pob dim yno'n
ei amser - ei amser o;
y newyddion a'r nwyddau
ar y cyd cyn amser cau.
Eisiau rwdins a radio?
Eisiau brws neu hanes bro?
Cewch, fe'u cewch cyn amser cau.
Er herio cyfri'r oriau
roedd tician cloc gwahanol
ynddo'n weindio ar i 'nôl.
Tegwyn Jones
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Siop y Gornel:
Trwy glic slic mentrwn yn slei
i ddyfnder aber E-bay
i dreulio awr ddi-droli
ar don aur i'n rhwydo ni.
Awn yn ddiog ddiogel
o raid at yr URL
eto, a'n hudo wna her
heintus rhyw siop ddi-gownter.
Trwy gamp y peiriant ar go'l,
rhythwn ar y siop rithiol
cyn syrffio, i giwio'n gaeth
hyd eigion di-gymdogaeth.
Anwen Pierce
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
Fe ddarllenais wrth garu â Sue
Gerdd hir ar ei bol mewn tat?,
Sef Awdl 'Yr Afon',
Mewn lle digon gwirion
Roedd llofnod y bardd ar fy llw.
Hedd Bleddyn
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
Mae'r Guardian a'r Times yn reit strêt.
Y Mirror a'r Mail os am ddêt.
Y Star sydd yn gomon,
ar Sun yn llawn carthion.
A'r Cymro'n hen bapur bach grêt.
Wyn Thomas
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Petai carreg yn rhegi
Carreg fedd gan Hedd f'ai hi.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Petai carreg yn rhegi
Yn y fan fe regaf i
Englyn Cywaith 'Patrwm'
Patrwm (Y Swistir)
Yn ddoeth bu'n noddi'i ieithoedd, - ni rannodd
Drueni rhyfeloedd
Ein doe ni, Gardd Eden oedd
Yn heddwch ei mynyddoedd.
Dafydd Wyn Jones
8 ½ Pwynt
Englyn: Patrwm (i'r drudwns sy'n hel fin nos ar y pier, Aberystwyth)
Olyniaeth y dirgel linyn - sy'n gwau
swyn eu gwib fach sydyn,
a'u tynnu heb 'run tennyn
o ddawn y Gwehydd ei hun.
Anwen Pierce
9 ½ Pwynt
Telyneg : 'Heno'
Heno,
clois y drws
am y tro olaf;
ei gloi
ar ormes y distawrwydd
a hongiai o'r parwydydd -
mor anghyfarwydd ei bresenoldeb
ar yr aelwyd
fyrlymus hon,
lle bu nodau cân a sain geiriau'n
teyrnasu
mor
hir......
Gwagiais y droriau'n lân
o bob atgof,
Cliriais bob tystiolaeth
o'r egni disglair a fu
unwaith
'cyn
dyfod
y dyddiau
blin......
Clois y drws am y tro olaf
heno,
a gwacter ei glep
yn atseinio
trwy
ddüwch
y ffenestri.
Ann Fychan
10 Pwynt
Telyneg - Heno.
Heno, trwy dirlun dynoliaeth,
daw'r gwynt i ruo
ei lef,
i rwygo'r canghennau
a thynnu ar wraidd
a sawdl
y coed o'u tir.
Cwymp y boncyffion
ac ysgwyd mêr y creigiau.
Yna, o'r clogwyni llaith
swn diferu,
fesul deigryn
yn llenwi'r llyn
a rhychu ei wyneb.
A chynhyrfu'r mannau
dyfnaf, llonyddaf sydd.
Chwyth y gwynt
y dail a'r glaw
yn garped gwlyb
i ddeffro'r pridd
ac ildio blaguryn
sy'n gwthio'n rhydd
i dirlun dynoliaeth yfory.
Wyn Thomas
8 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Plant
Bore oes yn llawn o sbri - fu iddynt
Gwnawn faddau'u direidi.
A'u mwynhad, toc, gwyddon ni
Daw henaint i'w dihoeni.
Dafydd Wyn
9 Pwynt
CYFANSWM: 81 PWYNT
Englyn ar y pryd: Plant
Tywelion ar draeth teulu - a'r ifanc
Yw'r haf sy'n cynhesu
Bochau wedi'r dyddiau da,
Yn eu dawn i syfrdanu.
Gwenallt Llwyd Ifan
8 Pwynt
CYFANSWM: 78 ½ O BWYNTIAU.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

