Llanrug v Tir Mawr

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Llanrug

Llanrug

Tir Mawr

Tir Mawr

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR: 'WEDYN':

Diau mai carchar pob dyn
Yw adwy'i ryddid wedyn

Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ Pwynt

Cwpled: yn cynnwys y gair 'wedyn'

Rhoi ei ffydd i'r dydd wna dyn,
a'i hyder ym mhob wedyn

Huw Erith
8 Pwynt

PENNILL YMSON MEWN FFATRI

Mae 'nghyfeillion wedi gadael
Mewn loriau 'raethon nhw;
Gwell i minna' hedfan o'ma
Mae na sôn am....atishw!

Ymlafniwn yn ein ffatri
Yn gwinio ag edwau wan,
Oherwydd mae 'na beiriant
I'n stitsho ninnau lan.

Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ Pwynt

Pennill Ymson Mewn Ffatri

Yn ffatri Rhyd y Gwystl
rwy'n sheflio 'fath a pendil
Ond tydw i'm haws
mae'r sglyfaeth caws
i fyny at fy ngwegil

Gareth Jones
9 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENW DRAMA

STREIC Y PENRHYN

Os sigodd blynyddoedd segur - y cry'
A'i deulu mewn dolur,
Nid yw cof yn dirnad cur
Y rhaid ym mrad ei frodyr.

Richard Lloyd Jones
8 ½ Pwynt

Englyn: yn cynnwys enw drama.

('Dechrau'r Diwedd', Sean O'Casey.)

Dechrau'r diwedd fu'r weddi un nos Sul
yn sedd hogia'r gweini;
Y wên aeth tra gwgem ni,
A Duw ennyd o dani.

Gareth Williams
9 Pwynt

CAN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): NEWYDDION FORY

Daeth newydd o swyddfa'r Eisteddfod, y brifwyl sy'n dal yn ei bri
Symudir hi nawr pob dwy flynedd rhwng Gateshead a Chlacton-on-Sea.
Ond i gadw'r 'natives' yn hapus, rhag iddynt droi'n atgas a blin,
Bob degawd fe fydd yng Ngwinsfferi, neu rywld sy' jyst ar y ffin;
Wrth gwrs bydd hi dal yn beilingwal, fe noddir bob padell gan WAG,
Adwaenir yr Hybarch Archdderwydd fell "silly old geezer in drag".
Enillydd y stomp fydd y Prifardd, caiff gadair am gerdd yn ddi-oed
Pan gyfyd y dorf gardiau lliwgar, fel reff ar gaeau pêl-droed.

Ond y newid mwyaf syfrdanol fydd effaith cynhesu y byd,
Lefelau y môr fydd yn newid, yn codi o hyd ac o hyd.
Adwaenir y Ramblers ar unwaith pan ddeuant yn ôl' ddar eu hynt
Gan byddwn nhw'n nodio eu pennau, 'rol dycio dan pob melin wynt.
Goleudy fydd corn Rio Tinto, erbyn hynny fe fydd yn ddi-fwg,
Rhan helaeth o Fôn o dan ddyfroedd - deud y gwir fydd hynny'm mor ddrwg!
Bydd hi'n haws i bobol Rhostryfan a phopeth i ni cymaint nes
Cawn ni nofio'n y môr yn Llanllyfni, pan na allwn i ddioddef y gwres.
Hel crancod ar draethau y Groeslon, hwyl-fyrddio'n y Dolydd - 'na braf
Ac ym Mhenygroes 'ddar bont steshon, dal mecryll ar noson o haf;
Hawdd iawn fydd trafeilio i'r Werddon, cawn hwylio ar doriad y wawr,
Yn daclus ar ddec Irish Ferries, o harbwr cysgodol Waunfawr!

9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newyddion Fory

Ni fedra'i gael fy nghoes yn rhydd !
Amdana'i daw y tarw !
a phrif newyddion 'fory fydd
fy mod i wedi marw

Gareth Jones
9 Pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) GWEDDILLION

Hadau'r graith a duria'r gro
O aredig Ferodo.
Angof fydd safiad Cofis,
Yn y pridd bydd staen eu pris.

Daw i'r lle, 'rol brwydr llys
Sawl t? neu westy costus,
Ac i far trefnwyr arian
Caer o foeth nid carafán.

Corlan yn sych mewn curlaw'n
Codi llog, nid codi llaw.
Ni wel elw ond min y lôn
Hirfaith i hogia' C'narfon.

Richard Lloyd Jones
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) Gweddillion.

Nid y Gair yw'r chydig ?nt
Mewn oed, yr amen ydynt;
Y meirw'n cynnal muriau
Dibarhad, a'r nenfwd brau.
Eu salm wag un Sul y mis,
I Dduw na ddaw o ddewis.
Drws â gwich yn cadw'r sgôr,
Nogio neu rygnu agor.

Ond pwy ?m o'n gwrthod pell
I amau bod Duw'n cymell
Dau neu dri, dan nwyd Ei ras
Wedi dirnad Ei deyrnas.

Gareth Williams
9 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â PHRYNU RHYWBETH

'Rol yfed a mynd dros ben llestri
Wrth gwrs, mae'n rhaid prynu cyri;
Ond ro'dd y plât ger y sinc,
Fe lithrodd mewn chwinc
Y Kurma a drodd yn Dan-Dwr!

Alwyn Ifans
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â phrynu rhywbeth

Degpunt a thrugain am gi.
Ci Pedigree Chum medda' chi
Am fynd a hwn o'ma
mi rydw i'n ama'
taw chi ddylai dalu i mi

Gareth Jones
8 ½ Pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD

Roedd gan Ifor dractor drud
Un ddafad ganddo hefyd.

Ateb llinell ar y pryd:

Roedd gan Ifor dractor drud
Ac aur oedd twf y gweryd.

1 pwynt

ENGLYN CYWAITH: BEDDARGRAFF DYN TYWYDD

Ei goleg o hen goelion - a oerodd,
Bu farw'i arferion;
Yn y gro rhoed blwyddyn gron
O raddau ei arwyddion.

Dafydd Whiteside Thomas
8 Pwynt

Englyn cywaith: Beddargraff dyn tywydd.

Haerai fod y tymheredd - yn codi.
Caed fod 'na wirionedd
Yn y gair. Mae o'n gorwedd
Yma'n boeth is maen y bedd.

Myrddin ap Dafydd
8 ½ Pwynt

TELYNEG: CEGIN

(Diffiniad Swyddfa'r Cyfrifiad o deulu yw pobl yn cyd-eistedd i fwyta)

Yng Nghenhedloedd Unedig ein cegin
Daw rysáit o bob rhan o'r byd,
Dim ond cocos a chennin
O Gymru sydd yn ein pryd.

Bananas o'r Caribi,
O'r Eidal y teithiodd y pasta,
A'r twrci? Wel o Hwngari!

O Roeg daeth yr olew olewydd,
Ym mhell bell yr ?d ga'th ei hau;
Mae hyd 'n oed y nwy'n dod o Rwsia,
Os nad yw pibell Iwcrân wedi'i chau.

O Sbaen y tomatos a'r mefus,
Fajhitas o Fecsicô,
Siocled o'r Swisitir, a gwin o bob man
'Blaw Sir Fôn - ond fe ddaw eu tro.

Er cydfod rhyngwladol yr arlwy,
Gyda bwydiach y byd yma'n cwrdd,
'Does gan yr un teulu mo'r amser
I sgwrsio o amgylch y bwrdd.

8 ½ Pwynt

Telyneg - Cegin

Gwylia lle ti'n camu, rhag ofn
Y cei di drip ar JCB,
A paid â ffansio'r plat ar y ffrij -
Mae hwnna i fod dan drwyn y ci.

Gwna le, os medri, wrth y bwrd;
Sym y llyfrau a'r gêm cangarws;
O! dwylo paent ein Kyffin bach
Ydi'r stomp' na ar gefn y drws.

Paid ag eistedd fan'na os nad
Wyt am galedu dy siwt mewn clai;
Yr ogla' gwahanol? - y sgidia styds
Sy'n grim par y Rayburn sydd ar fai.

Mae'n dawel yma, eto i gyd
Mae nhw wedi gadael trywydd clir;
Yn fwy na'r gwenau Kodak ar y dresal,
Y jig-so anghyflawn sy'n deud y gwir.

Myrddin ap Dafydd
9 Pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: BUDDUGOLIAETH

I'n haf yn Aberafan - daeth â graen,
Daeth â'i grefft yn gyfan;
Daeth â maeth a'r hadau mân
Yn awdl a lanwodd ydlan.

Richard Lloyd Jones
9 Pwynt

CYFANSWM: 77 Pwynt

Englyn ar y pryd: Buddugoliaeth

O waed, na dyheuadau, nid oes clwyf
Hyd sglein y medalau;
Rhain o hyd sy'n cadarnhau
Mor wag fu marw'r hogia.

Gareth Williams
9 ½ Pwynt

CYFANSWM: 80 ½ o bwyntiau.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.