Tywysogion v Criw'r Ship.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IS'

Pam crefu wrth daflu dis?
Y duwiau piau'r dewis.

Mei Mac
8 ½ Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'is'.

Oi! Diog! Tisio dewis?
Bygyr ol, 'ta nol Tseinis?

Nici Beech
8 ½ Pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN: UNRHYW AELOD SENEDDOL

Yn bymtheg oed, cyn gweld y byd,
Ond a'ch bryd chi ar wleidydda,
Efallai ichi fynd i'r ffair
Lle'r oedd rhyw wair melysa'.
Dywedwch glwyddau am Irac,
A'r crac sydd yn yr eira,
Gwerthwch anrhydeddau'n rhes
Er mwyn cael pres i'r coffra',
Ond peidiwch â chrybwyll, neno'r dyn,
Y mygyn mariwana.

Twm Morys
8 ½ Pwynt

Pennill Mawl/Dychan:

Unrhyw Aelod Seneddol.

Diolch i etholwyr Sheffield Bright-side
Mae hi'n dechnegol yn bosib deud
Fod gan D?'r Cyffredin un aelod call -
Sef yr ast ddeallus sy'n tywys dyn dall...

Arwel Roberts
9 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENW LLYFR CYMRAEG

Myn Duw, os oes dilyw'n dod - a'r eira
Ar Eryri'n darfod,
Fel yr Haf a Cherdd Dafod
Nid yw beirdd am beidio â bod.

Mei Mac
8 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys enw Llyfr Cymraeg.

'Does adeg pan fo'n segur. Yn gyson
mi geisiaf ei gysur.
Gwn, pan ddaw'r talwrn a'i gur
'rwy'n dlawd heb 'rhen Odliadur.

Gari Wyn
8 ½ Pwynt.

CAN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) YR ARWERTHIANT

Mi es un dydd i chwilio
am gartra ar y wê.
Dim byd rhy uchelgeisiol;
rhyw dyddyn ger y dre.

Ond bid â fo am hynny,
fforddiadwy ddudsoch chi?
'Mond chalet mewn parc gwyliau
oedd o fewn fy nghyrraedd i.

Mi es un dydd i chwilio
am chalet bychan clyd,
ond bid â fo am hynny;
mi oedd pob un rhy ddrud.

'Mond pwt o gwt hen 'sgotwr
a weddai i bwysau 'mhwrs.
Ond erbyn gneud ymholiad
roedd y pris yn uwch, wrth gwrs.

Ond bid â fo am hynny;
rhy hwyr i godi pais.
Pwy fynna gwt pysgotwr?
Mi af i rwydo Sais!

Mei Mac

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Arwerthiant.

Wn 'im dio'n wir ai peidio
Ond gwnaethpwyd yr ensyniad
Y cewch eich galw'n 'arglwydd'
Neu'n 'syr' os gwnewch 'gyfraniad'.

Ond nid dim ond yn Llundain
Mae peth o'r fath yn bosib.
Mae'n digwydd yma yng Nghymru -
A dwi am fod yn chwythbib.

Achlysur cyfrinachol
Tu hwnt oedd yr arwerthiant
Gynhaliwyd ar Nos Galan
Mewn coedwig yn Llantrisant.

Yr oedd amryfal deitlau
Yn mynd ar werth, a gorchwyl
Eurbeniog ocsiwniar
Oedd gafael yn y morthwyl.

Nid yw'n gyfrinach bellach;
Mae'r heddlu'n siwr o'i wahardd -
Ond am ryw dwtsh dan ddeuddeg mil
Dwi erbyn hyn yn Brifardd...

Arwel Roberts
8 ½ Pwynt

CYWYDD COFFA (HEB FOD DROS 12 LLINELL),/P.

I HOGAN O FÔN

Roedd yn Aber i gleryn
Hafan gan lefran o L?n.
Gan hon, ces gynnig un ha'
Le tywyll i letya.....

Yn y t? oedd ei ffrind hi,
Yn olau rownd corneli.
Gwelais lawer wrth glera,
O'r C?ps i America,
Ond neb â thes yn dresi
I lawr ei chefn, fy alarch i.

Bu'n hir yn eu cribo nhw
Â'i henaid yr ha' hwnnw.

Twm Morys
9 Pwynt

Cywydd Coffa (heb fod dros 12 llinell):

Peter Prendergast

Mewn oriel llawn chwareli
Du iawn yw dy luniau di.

Rhoddaist y gwawrio heddiw
mewn ambell linell o liw
fel magnel. Dyma egni
y dydd yn dy luniau di

Llechi sy'n gweiddi o'r gwyll
am ocr, am liwiau'r mecryll
a du nad yw'n distewi
y dallt sy'n dy luniau di.

Nici Beech
9 Pwynt

Esboniad: Er mai'r lliwiau tywyll, cyfoethog ocr, glas, gwydd a du oedd yn nodweddu gwaith Peter Prendergast mae ei luniau'n llawn egni. Dywedodd bod yr egni yn y paentio yn perthyn i'r tiwedd lle gafodd ei fagu. Yn aml bu'n cymharu tirwedd Dyffryn Ogwen a phentrefi glofaol ei blentyndod. Dywedodd hefyd, er mwyn ei ddarlunio, bod yn rhaid deall y testun yn llwyr ac arferai dreulio amser maith yn astudio'r golygfa ar wahanol adegau o'r dydd.

LIMRIG YN YMWNEUD Â THEITHIO

Gofynnais i ddyn yn Llangywer
"Pa un yw'r ffordd orau i Aber?"
"Oes car gyda chi?"
"Wel oes!" medda fi
"Wel dyna'r ffordd orau fel arfer!"

Mei Mac
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â theithio.

Dyfeisiodd dyfeisydd o'r Friog
Awyren ddi-injan odidog.
Sugnai egni o bedwar
Ar ddeg panel solar.
Mi blymiodd i'r ddaear yn Stiniog.

Arwel Roberts
9 Pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD

Nid yw aur, nid yw arian
Yn helpu a'th d? ar dân.

1 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Nid yw aur, nid yw arian
Yn well na balti a naan!

ENGLYN CYWAITH: BWRDD

Y tu acw mae tocyn; - tu yma
Mae tamaid rhwng tridyn;
Llawn gwell na rhoi lliain gwyn
I ni yw rhannu'n newyn.

Twm Morys
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Bwrdd:

Ceisiwch fwy na'i arlwyo, rhowch winoedd
a chrochenwaith arno,
a cheir o'i gyfeddach o
rhyw hwyl sy'n fwy na'u hulio.

Nia Môn
8 ½ Pwynt

TELYNEG: WYNEBAU

Di-ildio yw'r elfennau
Sy'n rheibio'r llethrau hyn,
Gan rwygo'r holl lechweddau
A hagru'r creigiau gwyn.

Di-ildio ydi'r henaint
Sy'n hawlio'r llyfnder cain
Rhwng llygaid a gwefusau,
Gan grymu'r ymylon main.

Ond fel mae'r graig yn aros
Yn gadran-gryf islaw,
Fe erys dy graidd dithau
Pan ddêl y gwynt a'r glaw.

Mei Mac
9 Pwynt

Telyneg: Wynebau

Yn yr atig
mae albwm
yn drwch o gelwydd.
Eiliadau o fywyd
nad yw'n bod.

Syllaf ar bob llun
i geisio canfod
rhyw ystyr coll
rhyw adnabyddiaeth
tu ôl i'r wên.

Llun ysgol
a thithau fel y gweddill
yn gefn-syth syllu i geg y camera
heb arwydd o dy ffawd
yn nhroad dy ruban gwallt.

Ti'n fyw i eraill
yn eu cof.
Ond ni fedraf ganfod
mwy nag eiliadau o dwyll
rhwng dalennau llychlyd
a'r haul yn araf dynnu'r lliw ohonot.

Y llun olaf.
a'm chwilfrydedd teirblwydd,
yn hoffi'r blodau
sy'n ddagrau lliwgar hyd y pridd du.

Nia Môn
10 Pwynt

ENGLYN AR Y PRYD\

GALWAD FFÔN

Am oes, rhwng fy nuw â mi, - gair o bell,
Gair byr oedd fy ngweddi.
Lleol yw'r wifren 'leni
Mae hyn yn fy nychryn i.

Twm Morys
10 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80

Englyn ar y pryd:

Galwad Ffôn

Wedi einioes o sgwrs denau, - adrodd
A godro storiau
Am hyn a'r llall, deall dau
Sy'n gwawrio rhwng s?n geiriau.

Nici Beech
9 Pwynt

CYFANSWM: 81 Pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.