Sgwod v Ffair Rhos.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Sgwod

Ffair Rhos

CWPLED CAETH AR YR ODL 'ES'
Y talwrn yw ein ffwrnes
i guro'r heyrn yn y gwres.
Geraint Roberts
9 ½ Pwynt
CWPLED CAETH AR YR ODL 'ES':
Yn Irac, er gwaetha'i bres,
Hongianwyd un anghynnes.
Emyr Jones
8 ½ Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: FFÔN POCED
Edrychodd im llygaid wrth basio
gan wenu a dweud geiriau mwyn
a, gan fod y Misus yn Tesco,
doedd ryfedd im syrthio i'w swyn.
Fe'i stopiais ac awgrymu cusan
ond rwy'n gweld imi fynd yn rhy bell:
ar y ffôn efo'i chariad oedd 'r hogan
a dyna pam nawr rwyf mewn cell.
Dafydd Williams
8 ½ Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: FFÔN POCED
Mawrygaf ddyfeisiadau ein hoes ni,
Creadigaethau electronig gwyrthiol
Samsung ac Erikson, eich ffoniau chi
Olyga'n wir mai Oren yw'r dyfodol.
Sharp, Sanyo, Sendo, Fuji, Panasonic,
BT, 02, LG a Vodafone,
Eich nodau clir, mor glyfar ac mor gomic,
A'ch gallu i godi neu i ostwng tôn,
Tybed a gawn, rhyw ddydd, ddyfais ddi-soced
A'n galluoga'i sgwrsio o'r ochr draw?
Ond na, mewn amdo sidan does dim poced;
Os na wna rhywun mewn rhyw oes a ddaw
Drawsblannu teclyn bychan yn ein bola
Fel y cawn ffonio mâs o'n Motorola.
Lyn Ebenezer
9 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NID WYF'
(Saddam ar fore ei ddienyddio)
"Er amarch waliau'r carchar - a'r lluoedd
o'r gorllewin anwar,
er ias y gwaed ar y sgwâr,
na, nid wyf yn edifar."
Geraint Roberts
9 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NID WYF'
[Ar Ragfyr 31ain, edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn newydd]
Heddiw, â dechrau blwyddyn - yn dyfod
Nid wyf ond yn erfyn
Gweld antur pob blaguryn
Wedi'r glaw ar dir y glyn.
Emyr Jones
9 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y DIWEDD
Rwyf wedi bygwth lawer gwaith, rhyw chwech neu saith o weithiau,
fy mod i'n dod â hyn i ben, sef gorffen llunio tasgau
ar gyfer talwrn radio'r Sgwod a thrafod y cynhyrchion
mor gydwybodol wrth ymroi i'w rhoi mewn trefn yn brydlon.
Waeth mae yn bryd i foi fel fi roi'r gorau i farddoni,
a heno'n Ffarmers daeth yr awr o'r llawr i mi gyhoeddi -
mae'r 'diwedd' bellach wedi dod, segurdod fynnaf mwyach
ac ildio'm sedd i fab neu fun a phrydydd sy'n ifancach.
Mae ateb llinell ar y pryd yn ofid im bob amser,
a cheisio llunio cwpled caeth, mae hyny'n waeth o lawer,
a mwy na hynny, rhaid i'm ddweud - rwy'n methu gwneud telyneg,
does gen i ddim o'r gallu chwaith na'r iaith i 'daro deuddeg'.
Cyhoeddaf, felly, o'r fan hyn: Y Dwrlyn, rwyf yn gorffen,
ac ewch â'r neges draw ar frys at Rhys i Aberhafren,
i Westy'r Emlyn rhof ffarwel, i Arwel ac i Idris,
a Dic, dalyrnwr heb ei fai, Penrhiw a Dai Rees Dafis.
Caf lonydd mwy heb lunio cân, o flaen y tân yn ddiddan,
A hyn heb berygl gwneud rhyw gawl mewn pennill mawl neu ddychan,
"Gwd bei" i'r timau ym mhob man, a'r Garfan anystywallt,
rwy'n dweud 'so-long' wrth feirdd Ffair Rhos, ac 'adios' wrth Gerallt.
Roy Davies
10 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y DIWEDD
Pan fydd pobol yn fy mharchu
A dechrau 'ngalw i'n 'chi'
Gan holi sut rwy'n teimlo
A'n nhrin i'n well na'r ci,
A ffysan drostai'n fwy na'r lleill,
Gwn fod na rywbeth ar y gweill.
Pan fydd fy nheulu annwyl
Yn talu mwy na'i siâr
O sylw i'm hanghenion
A dweud mor serth yw'r star
A chymaint well fa'i bynglo bach,
Nesau wna'r awr i ganu'n iach.
Pan fyddaf mewn cynhebrwng
Yng nghysgod cangau'r coed,
A'r trefnydd angladd yn dod draw
I'm pwys i gadw'r oed
Gan rolio'i lygad aswy
O'm copa lawr i'm troed,
Bryd hynny fyddai'n gwybod gwell -
All dydd y farn ddim bod yn bell.
Raymond Osborne Jones
10 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): PONT
Er cof am D T Lewis, tîm Ffostrasol
Ar lan y dwr eleni,
ar bont hir heb want, DT,
ni allaf gamu'r afon,
ni all iaith groesi lli' hon.
A chân iach bellach yn hen,
un bwa heb ei awen
yw dwy lan dy delyneg,
straeon y don dy naw deg.
Ond mae pennill neu sillaf,
heibio i'r arch, yn camu'n braf
am y lan a'i chynghanedd,
ar y bont tu hwnt i'r bedd.
Karen Owen
9 ½ Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): PONT
Heno dan y pentannau
Berw'r d?r sy'n rhannu dau
Dwy geulan a wahanwyd
Ydym ni gan y lli llwyd.
Hwyrach trwy lid ysgariad
Na welais di loes dy dad
Ei euogrwydd, ei ddagrau,
Yn y cwrt, cael ei nacáu.
I foroedd â'r llifeiriant
Ond daw'n fythol nôl i'r nant,
Wynebwn bont yr aber,
Ei chroesi hi ydyw'r her.
Dai Jones
9 Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWYMO BYD-EANG
Mae Pegwn y Gogledd yn oeri
a lefel y môr sydd yn codi,
fe fydd yn beth od
pysgota am god
o'r pier yn Llanddewi Brefi.
Harri Williams
9 Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWYMO BYD-EANG:
Mae 'na dwymo byd eang nawr, oes e'?
Wel, beth am esboniad ar hyn, 'te?
Pan mae'r wraig 'co'n ei gwely,
Pam mae'n crynu fel jeli
A dwy jar d?r poeth rhwng ei choese?
Lyn Ebenezer
9 Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Dau bur od yn priodi
Jên yw ef a John yw hi
1 Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Dau bar od yn priodi
Un cymen, hipen yw hi.
ENGLYN CYWAITH: BLODYN
(Eirlysiau)
Daw y rhain yn daer o hyd - i wylio
dros yr hewlydd rhewllyd,
bob blwyddyn yr un ffunud
yn eu lifrai gwynna i gyd.
Geraint Roberts
9 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: BLODYN:
[Englyn i fy wyres]
Un wyrth ar ddydd o chwerthin - un tad c?l
Un tad-cu yn frenin,
Un wyres - Ffion Erin
Yn y pram yn drysor prin.
Emyr Jones
9 Pwynt
TELYNEG: TORF
(Ipswich)
Am un car, mae hi'n aros
yn ei hofn hyd oriau'r nos,
ac yno, heno i hon
hewl unig yw'r olwynion;
s?n ceir ar ras yn un cri
a'r siwrnai'n rhoi oes arni.
Mae heol goch y golau
a'i lliwiau hir yn pellhau,
a'r holl lif trwy'r niwl a'r llwch
yn deiars at y duwch;
un rhes, ac ynddi fe red
gwythïen y gaethiwed.
O rywle, at yr alwad,
daw rhyw lais o ben draw'r wlad,
ac iddi yn gwmni i gyd,
o hirbell, daw un cerbyd.
Geraint Roberts
10 Pwynt
TELYNEG: TORF
Daeth cannoedd brynhawn Sadwrn
I angladd merch y Plas,
Y capel bach yn orlawn
A degau y tu fas.
Ond trannoeth ar y Sabath
Ar draws tawelwch bro,
Roedd haid o frain yn gwatwar
Hen gapel oedd ynghlo.
John Jones
9 Pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: HYSBYSEB
CAPEL AR WERTH
Yno darn o bren sy'n dal - ei astell
A'r plastig yn cynnal
Y slogan wrth d? anial
Duw ar werth rhwng pedair wal.
Karen Owen
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 85 ½
ENGLYN AR Y PRYD: HYSBYSEB
Yn eisiau i'm cynhesu - ar nos oer,
Un i siaro'r gwely.
Yn bartneres gynnes gu,
Neb i ateb dros eighty.
Dai Jones
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'ES'
Yn Ionawr a'i wynt cynnes,
fe ddaw ein haf heddiw'n nes.
Heno, a heddiw'n hanes,
awr yn hwy yw'r hyn na wnes.
Gwen sy'n fy nghadw'n gynnes -
dylai Now ei dal yn nes.
(O edrych yn ôl ar gyfnod Margaret Thatcher yn Brif Weinidog Prydain)
Yng ngolwg rhai'n angyles,
i ni nawr, i'r diawl yn nes.
PENNILL MAWL/DYCHAN: FFÔN POCED
Ni waeth lle bynnag fyddwch,
o Timbyctw i Amlwch,
ceir direct line o'ch cegin chi
i dorri ar yr heddwch.
Fydd 'nacw damed callach
o'm galw ar y ffôn -
fe allaf fod yn Soho
neu ym mherfeddion Môn;
Cwrdd Misol neu'n y dafarn,
y seiat neu'r strip-tease,
cyfrinach gaiff ei chadw
am lai na phunt y mis.
Yn ddi-rybudd, y mae cryndod
yn dod fyny, lan o'r gwaelod;
yna wedyn mae 'na dwrw -
rhaid mai Tinkerbell sy'n galw.
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NID WYF'
(Sais yn croesawu Sais arall i Gymru)
Er y gwaed, er y gwawdio - ac arswyd
yn sgyrsiau y Cymro,
nid wyf i yn dy feio
am roi yr iaith yn fy mro.
Nid wyf â gallu Dafydd - ab Gwilym,
heb gael dawn y prydydd;
ond, o 'marfer 'da Morfudd,
wedyn caf y doniau cudd.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y DIWEDD
Ai gwir yw y sôn fod y Deyrnas Unedig
am chwalu yn chwilfriw tu yma i'r Dolig?
Maen nhw yn yr Alban am hunanlywodraeth,
mae 'Werddon 'di mynd, pe bae o wahaniaeth.
aeth dinas fawr Bradford yn eiddo i'r Pwnjab
a phrynwyd Hyde Park i gyd gan rhyw Arab;
dim ond 'chydig o Loegr sy'n eiddo i'r Saeson
a naturiol, wedyn, yw gwarchod ei meibion.
Wedi colli Balmoral, ble'n wir aiff Camila
a Charlie a Philip, y Cwîn a hi, Zara?
Llwyn Wermwood yn Myddfai a fydd yn ddelfrydol
i'w wneuthur yn gartref i'r teulu brenhinol;
is Pig Llyn y Fan daw swyn y Meddygon
a'u troi yn rhyw yrr o wartheg claerwynion,
hen darw, hen swynog a sawl trisiad gyflo
a dau darw ifanc heb gael eu modrwyo.
A'r rhai sydd ar ôl, mae'n rheidrwydd eu sbaddu
(yn wir, dyna'r drefn er atal cenhedlu).
A dôl Wormwood Shrubs ar odre y Banna
wêl ddiwedd ar linach 'r hen Bess a Victoria.
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWYMO BYD-EANG
Bydd tir Cantre'r Gwaelod yn estyn
cyn belled â Phumsaint, ac wedyn
rhaid ail-enwi Ffarmers
a'i alw yn Sailors
a newid y Ram yn Bysgodyn.
Mae'r gwres siwr o'n gyrru ni'n lloerig,
a'r cyfan i gyd fydd mor chwithig
pan welwn ni'r pengwin
mewn cêj yn y gegin -
a'r parot a'i frawl yn 'r Antarctig.
ENGLYN CYWAITH: BLODYN
(gweld draenen wen yn blodeuo yn Ionawr 2007)
Trwy'r gwarchae ganol gaeaf - yn gwyro
yn y gerwin eithaf
a glaw ar y brigau'n glaf,
egina'r blagur gwynnaf.
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'ES':
[gydag ymddiheuriad i Sian Lloyd]
Calan - o'r gusan a ges,
Un felly yw'r efeilles.
Ar awr wan un gusan ges
Un estron nawr sy'n fesitres.
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWYMO BYD-EANG:
Daw egni i'r wlad o'r holl olew
A losgir o'i gael mas o'r pydew
Ac er i'r holl nwyon
Greu twll yn yr Osôn
Un bodlon yw'r Arlywydd croendew.
TELYNEG: TORF
[dywedodd y dywysoges Diana unwaith 'There is no room in this marriage for three]
Aeth ugain mlynedd hapus
Ers dydd ein uniad ni,
Mor ddedwydd oedd y dyddie
Mor llawn fy mywyd i.
Ein cariad oedd yn cadarnhau
Mai maint ein byd oedd byd i ddau.
Ond daeth un estron heibio
A'th ddenu ar ei ôl
I chwilio am fyd newydd
Rôl un temtasiwn ffôl;
Mor unig heno ydwyf fi
A'r byd yn awr yn fyd i dri.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

