Llanbed v Y Glêr.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
CWPLED CAETH AR WAL TAFARN:
Yma'n awr cewch fwyta'n iach
Ac yfed heb fwg afiach.
Eirwyn Williams
8 ½ Pwynt
CWPLED CAETH AR WAL TAFARN:
Os fedri di ddarllen, dos
I wagio rhyw wydr agos.
Hywel Griffiths
8 Pwynt
PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL
Rwyf yma o ben bore
Bob dydd ers rhai wythnose.
Mae'n gyfle da i arbed pres
Ar wres a gole gartre.
Dafydd Lloyd Jones
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL:
(yn y Llyfrgell Genedlaethol)
Doedd dim angen i'r porthorion fy nal i,
Canu'r larwm, na galw'r polîs,
Mi wnelwn i'n siwr fod yr hen Lyfr Du
Yn ôl erbyn diwedd y mis!
Hywel Griffiths
9 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): TORRI'R GYFRAITH
Perfformiodd Sior ei unawd plygeiniol
Ar dôn ei dadau, ar diwn oes oesol.
Fe ddyblodd y gân yn ôl ei reddf,
Ar doriad gwawr gwnaeth dorri'r ddeddf.
Rhyw Sais o gymydog, anghymdogol,
Heb glust i wrando ar y cantor boreol
A ddaeth yn hyf o swbwrbia Fulham,
I darfu ar heddwch Pant-y-Bantam.
Heriodd y Cyngor a chododd ei ddwrn
"Rhowch ei ben ar y bloc a'i gorpws mewn ffwrn."
Rôl dadlau brwd, apwyntiwyd Isbwyllgor
I chwilio am ateb a chael barn gyfreithiol.
Wrth Picton Jones daeth y cyngor doetha
Doedd neb a phrofiad o ddeffro yn Deffra.
"Gostyngwch y to fel na all glochdan
Rhowch gwrlid ar ffenest a'i ben mewn hosan."
Ond cyn i'r Cyngor gymryd ASBO
Yr oedd y broblem wedi setlo;
Daeth heddwch i'r fro a'r boreau'n fud,
A Nadolig i'r cadno ymhell cyn pryd.
Dafydd Lloyd Jones
9 Pwynt
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL): TORRI'R GYFRAITH
Roedd na leidr yn byw ar bwys Llambed a dorrodd mewn i d?, ma' nhw'n dweud
(sydd ddim yn beth od, wedi meddwl, achos 'na beth ma lladron yn neud).
Ar ôl gorffen lawr llawr fe ath e lan llofft i whilo am arian neu dlyse
ond yn sydyn fe glywodd e s?n dwy droed yn cerdded lan y grisie.
Co fe'n neidio'n glou i gwato - dan y gwely, yn ôl y sôn,
a daeth hen ferch i'r stafell - rodd hi'n slaben fawr ugen stôn.
Am dros hanner awr bu'r lleidr yn gwylio'r hen fenyw o'i encil:
tynnodd ei dannedd a'i rhoi nhw mewn mwg, a rhoddodd ei llygad mewn desgil.
Cydiodd yn ei gwallt a'i dynnu i ffwrdd a'i roi ar y peg i hongian,
ac ymhen dim doedd dim gwisg ganddi ar ôl, heblaw am goes bren a dwy hosan.
Erbyn hyn roedd y lleidr yn wyn fel y wal a chlywodd rhyw boen ei fola
yn wir, roedd y truan yn teimlo mor sâl - rodd e'n ofni bod ganddo ebola.
Fe sgathrodd e mas o'i le cwato a rhoi naid i gyfeiriad y bog
ond cydiodd 'rhen ferch am ei ganol gan ei fogi dan homer o snog.
A chyn bod y lleidr yn cael cyfle i gymryd un cam at y ddôr
ro'dd 'rhen ferch yn ei ddal yn erbyn y wal ac yn dynn at ei drwyn roedd twelf-bôr.
"Gwranda boi," ebe'r ferch, "rwy angen dy serch - sai 'di cael yr un dyn yn fy myw;
dwed y gwnei di 'mhriodi i nawr neu fe'th saetha' i di'n gelain - iawn cyw?"
Pipodd y lleidr ar y llygad a'r gwallt ac ystyriodd ffonio'r polîs
ond erbyn hyn roedd coes bren yn rhwbio'i benglin a gwaeddodd "Na! Saethwch fi plîs!"
Iwan Rhys
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): OFN
Yn y nos â'i wên iasoer
a chur pen yn sychu'r poer,
trwy wydr a llwydlenni trwm
y drws tu draw i reswm,
trwy'r cloeon daw'r cynrhonyn
â'i frath annifyr ei hun.
Yr oerfel sy'n y gwely;
marw'r tân a murmur t?
ac un hen goryn yn gwau
a dringo'n rhwydi'r angau ;
yn nillad y tywyllwch
mae'r dydd yn llonydd fel llwch.
Eirwyn Williams
9 ½ Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): OFN
Pan fo annel gwehelyth
at elltydd newydd, a'r nyth
yn eiddilach, yn ddeilen
neu rhyw un brigyn ar bren
wedi'r ffarwel, 'rôl gwelwi
yn nhwrw'r iau, daw'r iar i
drefnu byd ei dodrefn bach
a chymhennu'r llwch manach,
heb eiliad sbâr i aros
heblaw'r un awr, ganol nos
pan na all eco'r rhuthro rhwydd
dewi stwr y distawrwydd.
Hywel Griffiths
9 Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: OPERA SEBON
Os ydyw'r cymeriadau
Yn morio yn y gân
Mae angen mwy na bar o Lux
I olchi rhain yn lân.
Islwyn Walters
8 ½ Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: OPERA SEBON
Eleni roedd affairs a lladrata
Yn y Cwm, cafwyd damwain a thanchwa
Rhyw bedair marwolaeth
A hanner llofruddiaeth,
Mae'n rhyfeddod bod na Bobol yn byw na.
Hywel Griffiths
9 Pwynt
LIMRIG: 'UN NOSON A MINNAU YN CYSGU':
"Somnambulist" g'add ei gofnodi
Wrth fy ngadael yn rhydd o'r Old Bailey.
Fe'm daliwyd drws nesa
Yn 'mafael a Nesta
Un noson a minnau yn cysgu.
Dafydd Lloyd Jones
8 Pwynt
LIMRIG: 'UN NOSON A MINNAU YN CYSGU':
Roedd dwy ferch gyda mi yn y gwely
Yn trafod annibyniaeth i Gymru,
Roedd gan George Bush frên,
Roedd y Meuryn yn glên ...
Un noson, a minnau yn cysgu.
Hywel Griffiths
ATEB LLINELL AR Y PRYD :
P'run yw mrawd, pa un yw 'mro ?
Wyf, yr wyf yn anghofio.
1 Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD;
Wyf, yr wyf yn anghofio -
Hei Twm, be' oedd y dasg 'to?
ENGLYN CYWAITH: PWDL:
Mistar Bush, mistir y byd, - ci Irac
A'i rwysg mor ddychrynllyd;
Ei bwdl ef yw Blair hefyd
Wrth gwt yn gyfarth i gyd.
Islwyn Walters
9 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: PWDL
Rhyw gi garw rhagorach - wna gi gwâr
i w?r gwerin rheitiach
ond doli bert o bwdl bach
wna gi rhech iawn i grachach.
Iwan Rhys
8 ½ Pwynt
TELYNEG: CYMWYNAS:
Storom enbyd y meddwl
yn traflyncu gwythiennau'r cof
a phob doe ac echdoe yn hydreiddio
drwy heddiw'n dragwyddol.
Yr eneidiau briw
yn lluch i dafl o sgrechiadau
a'r lleisiau yn stacato heb seibiau.
Digofaint yn realiti pur
yn hyrddwynt yr hyrdigyrdi;
un coridor o baranoia
a'r gwasgedd isel
yn gwegian, gorff ac enaid.
Ond ,wedi'r dymestl
daeth ,trwy ffydd
a chlust i wrando,
ollyngdod dros dro.
Treiddiodd y geiriau
i lwybrau'r meddwl
a thywys yr enaid heibio i glogwyn
y gorffennol brau.
Daeth tawelwch
ac aer clir i'r cof;
o'r niwl, tu draw i'r creigiau
cododd haul y presennol.
Ann Rhys Davies
9 Pwynt
TELYNEG: CYMWYNAS
Rhydd gwrid olaf y gorwel rhyw iaith ddieiriau
yn baent coch ar waliau gwynion
y tai haf. Mae'r pwt o haul,
nad yw'n boddi heb oddef,
yn baent aur dros bentiroedd,
gan mai euro wna'r cof orau;
Ac mae'r mur tân yn rhy bell
i glywed, a theimlo, iaith y llanciau
sy'n gwario'i fflam olaf yn y bar.
Ond â gwynt trwy'r blodau gwyllt
ar y clogwyni, gan ymbil
ar erwau garw i wthio'r epil;
hwn yw'r gwynt o enau'r gad
sydd â'i brotest yn denu'r mymryn môr
don wrth don yn ôl i'w glyw.
A chan glywed y geiriau'n danbaid,
nesâ'r lli, a tharo clust ar y creigiau
a gwrando'r traeth a'r tir yn siarad -
y siarad cyfarwydd.
Ai hon yw'r don a ddaw inni'r llanw
fydd heno, efallai, yn tynnu'r Iwerydd o'r tân?
Osian Rhys Jones
9 Pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: CAMGYMERIAD
Drwy'r gwaith, drwy'r hyder i gyd - y rhedai'r
Un ffr?d o inc gwaedlyd.
Dros ddail gwreiddioldeb mebyd
A chas gennyf goch o hyd.
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81
ENGLYN AR Y PRYD: CAMGYMERIAD
Y ffordd y crogwyd Saddam Hussein
Dros boer a thros lafoerio gorchfygwyr
Rhowch fwgwd dieuog,
Y dialwyr dihalog
Yw'r dynion cryfion a'i crôg.
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR WAL TAFARN:
Gwres, cwrw a seguryd
Wrth y bar sy werth y byd.
I yfwyr sy'n goryfed:
Y mae nwyf mewn lemoned.PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL
Wi'n hel meddylie
Am ferched y llyfre,
Alla'i ddim gweud pam
Mae'n well gen i Pam,
Wa'th ma Jane a Bet
Yn ferched bach net;
Dylanwad y sêr
Neu rywbeth yn fy mêr;
Ma Jane yn reit siapus
A Bet , O ! mor hoffus
Ond dyw hi fawr o bôs
Gweld da p'un ma Y Gôs
A falle na pam
Ma'n well da fi Pam ;
Dihunais toc,
Ma'r llyfr na mas o stoc.PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL
Diflas troi'r tudalennau
Yng nghyntedd mynwent llyfrau;
Haws gwylio llun yn croesi'r sgrin
Ar lin mewn cadair freichiau.
PENNILL MAWL/DYCHAN: OPERA SEBON
Neithiwr ro'dd Mr By yn cysgu 'da Mrs Cy
A heno bydd e'n cysgu 'da Miss Py
A falle bydd Mrs Cy yn cysgu 'da Mr Dy
A felna ma nhw'n i hala hi mla'n
Â'u nwydau nhw i gyd ar dân,
Ac o ganlyniad
Dihysbyddu pob cyfuniad
Fe fyddant ar hast
I ga'l un fach newydd i'r cast
A'i gwneud hi yn ast;
Mae'n gwestiwn dyrys i mi ,
Ai un felna mewn gwirionedd
Yw'n gwerin fach ni?
ENGLYN CYWAITH: PWDL:
Cynffonnwr a g?r y goron - ci bach,
Sidecick Bush a'i gnafon
A'i ganmil o wehilion
Y T? Gwyn a'r Pentagon.
Yn y palas rhowd Polo - yn argel
Y corgi i'w swyno;
Nôl rhybudd o'i awydd o
Y pwdl wnaeth bacpedlo.
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR WAL TAFARN:
Yma bydd Gwalia i gyd
Mwy, fygwr, dagwr hen d?,
Ger y bar, paid â'i daro -
Erbyn un teimlwn y nos
Yn ôl pob rheol mae'n rhaid
(plac goffa:)
Er cof am Eric Evans,
Eurig Salisbury
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): OFN(sef yr ofn llawn paranoia hwnnw a ddaw i boeni dyn ddiwrnod ar ôl sesh go fawr)
Yn fy nh? rwy'n ofn aros -
Ond yn fy nh? dan ofn nos
Yr un fath er hyn wyf i,
Yn dal croes fel diawl cresi
Wrth aros rhyw rith arall,
Sgwod o fwystfilod y Fall!
Glywch chi'r s?n? Maen nhw'n fy nh?!
Neu'n troedio'r to, rwy'n taeru!
Dacw un! Dewch i lunio
Baricêd rhag bîr y co' ...
... cyn gweld mai ffars yw'r arswyd -
Lafa-lamp mewn lolfa lwyd.
LIMRIG: 'UN NOSON A MINNAU YN CYSGU':
Un noson, a minnau yn cysgu,
Disgynnais dros ochr y gwely,
Doedd hyn ddim yn sioc
Ond pan welais i'r ffroc
O'n i'n wisgo mi es i'r ysbyty.
Un noson, a minnau yn cysgu,
Daeth Lembit at waelod y gwely,
'Which one are you?
Cheeky one? cheeky two?'
Duda di' medda finna gan wenu.
Un noson, a minnau yn cysgu,
Mi deimlais i gryndod trwy'r gwely,
Ac erbyn y bora
Mi rown i'n Awstralia
Mewn sach cangar?'n cael fy magu.
TELYNEG: CYMWYNAS
Yn nhai unnos hunanol
Ein tir mwyn nid tir mohono
Pan ddof, yn ddof oddefol,
I adrodd ymadrodd mwy.
Derbyn, nid gofyn fu'r gw?r
Yn neuaddau eu noddwyr.
Rwyf innau'n was i gymwynaswyr
Ac yn gymwynaswr si?r o'i sioe,
Pan rôf, yng nghwmpeini'r rhai
Na ?yr eu nos,
Fy un awen yn gyfnewid
Am glap.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

