Aberhafren v Beca.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Aberhafren

Beca

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'CI'
(Bush a Blair)
Dau gi bach, wrth redeg byd,
yn cyfarth rhethreg hefyd.
Rhys Iorwerth
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ci'
Ci ? Ffrind teg a'i geg ar gau,
Ofnaf wrth weld ei safnau.
Cathryn Gwynn
8 Pwynt
Pennill ymson: Mewn Ysbyty
Rwyf yma'n gorweddian ers misoedd
a'm corff i o boenau yn llawn
ers dod 'ma am 'check up' i ganfod
a oeddwn i'n gweled yn iawn;
wel fe basiais yn hawdd y prawf llygaid,
ni fûm wrthi ond prin hanner awr,
ond wedyn, wrth adael, ni welais
mo'r ambiwlans a'm trawodd i lawr.
Llion Roberts
9 Pwynt
Pennill ymsom mewn ysbyty
Os dof fi byth i'r 'sbyty 'to
Rwy'n dod heb un pyjama,
Mae'r pâr bach newydd brynes i
Da'r boi'n y gwely nesa.
Eifion Daniels
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "heb os"
'Déjà Vu'
Bues yno, heb os, unwaith - ac wir,
rydw i'n gweld yn berffaith
yr eiliad yn fyw'r eilwaith,
eto, heb ei chofio chwaith...
Rhys Iorwerth
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'heb os'
Heb os, i'n plant mae'n bwysig - mynnu hedd
Mewn oes mor gythreulig
Rhannu'n da a ffrwyno'n dig,
Heneiddiwn yn anniddig.
Wyn Owens
8 Pwynt
Cân(Heb fod dros 20 llinell): Ein teulu ni
Fe hwyliais trwy'r ysgol yn rhwydd gyda gwên
Heb ddysgu dim byd am enwogion ein llên,
Na chrefydd, bioleg, na gweithio â choed -
Hen ddigon i mi oedd problemau fy oed.
Ac am fathamateg, dirgelwch i mi
Oedd ceisio amgyffred "i'r p?er o dri".
Roedd onglau Pythogaras yn ennyn ryw sgrech,
A deuddeg teims deuddeg yn gwneud tri deg chwech.
Ac felly gadewais i chwillio am waith
Yn credu fod pedwar a phedwar yn saith.
A dyna pryd gwrddais a meinir wen lân,
A'i chwerthin iach hithau yw awen fy nghân -
Hi ddysgodd fi i ddarllen rhwng y llinellau,
Gweld cylch ymhob sgwâr, troi sgwariau'n drionglau.
Gofynnais 'mhen dim "A wnei fy mhriodi?"
Atebodd yn syth "Os cawn luosogi."
A fel'na, dwi'n meddwl, sut glaniodd y crwt,
Sy'n profi fy neall o syms yn reit dwt,
Cans ym mathamateg ein teulu bach ni,
Mae un adio un bob tro yn gwneud tri.
Owain Rhys
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Ein Teulu Ni
Sdim isie gweud, mi wn yn iawn, rhai od yw'n nheulu inne,
Rhai fel'na buo nhw erio'd, y cwbwl lot sy' getre.
Adduned y wraig yn 2006 bob dydd oedd cerdded milltir,
Ac erbyn hyn, os ydwy'n iawn, mae hanner ffordd i'r Swidir.
Pan ddaeth y ferch a'r sboner draw ir t? am y tro cynta,
Un od o'dd hwnnw, byr a moel a whampyn mowr o fola.
Sibrydes i yng nghlust y ferch, "Os da fe rhyw afiechyd ?"
"Sdim isie sibrwd", medde hi "mae'n drwm i glywed hefyd".
Ac er y cyngor roes i'r mab, fe fynnodd pr'odi Saesnes
Ac os y gwir ddywedodd hi, mae'n perthyn i'r frenhines!
A druans bach, os gawn nhw blant, fy wyrion a'n hwyrese,
Bydd ganddynt oll, rwy'n eitha siwr, rhyw drondol jwg o gluste.
Ac wedyn, ma nhw 'da ni gyd, fy mam-yng-nghyfraith, druan,
Roedd hon yn bac y ciw pan o nhw'n rhoi prydferthwch allan,
Y cwrlers miwn a'r dannedd mas a mwd yn rhychiau'r wyneb,
Ond nid yw hyn, na dim a wna, yn lleihau ei challineb.
A fi yw'r un dyn bach ar ôl, y person perffeth hwnnw
Sy byth yn rhegu, smoco ffags, a byth yn yfed cwrw.
Os yw y teulu i gyd yn od, a ma nhw'n dacle lletchwith,
Ma peth o'r bai ar deulu'r wraig, a'r rhest ar ddyn y llefrith.
Eifion Daniels
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofal
Eto'n dawel, ffarwelia,
Dweud "hwyl fawr" yn awr a wna
Yn daer: Ymweliad arall
Gan rheiny sy'n deulu dall
A'u nawdd hwy yn cuddio'i wae
A'i ddanto beunydd yntau.
Yno'n angof mewn gofal,
Yno'n syn, mae'n hen ddyn sâl,
Yno'n oeri mewn hiraeth,
Yn ei gur, mae'n disgwyl gwaeth,
Yno'n wylo'n ei welwedd,
Hanner byw, hyd nes daw'r bedd.
Aron Pricthard
8 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofal
Am eu rhan maent i'w canmol
Heb dderbyn un help yn ôl.
Ar 'y mhlat rhoi'r imi wledd,
A iawn! Mi gawn ddigonedd
O sylw pe gwnâi salwch
Lorio'r corf a siglo'r cwch.
Heb air i'r gadair yn gaeth,
Wyf fudan heb drafodaeth.
Pe gwyddent ? wyf fel plentyn
Yn dyheu am weld ei hun
Yn rhydd, heb brofi erioed
Trueni cartre' henoed.
Wyn Owens
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ymddeol
Gofalwr 'Big Ben' ydoedd Enoc,
ac am oes fe fu'n tendio ei dic-toc,
a phan ymddeolodd
ei fos a'i anrhegodd,
a'r anrheg a gafodd oedd. . . watch.
Llion Roberts
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ymddeol
Gwelodd ddynes o ardal Bridgend
Fod ymddeol yn real 'god send'
Fe yfodd mewn parti
Domestos, dim chwisgi
A nawr mae hi'n 'clean' rownd y 'bend'
Howell Mudd
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
O fan i fan yr af i
Ar lonydd hir eleni.
Ateb llinell ar y pryd:
Tra bod y bws i'm codi
O fan i fan yr af i.
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Beddargraff Bardd
Fe roddwn fardd yn ei fedd, un arall,
cyn deall mai diwedd
ein hiaith fydd ein perffaith hedd
â'n geiriau yma'n gorwedd.
Owain Rhys
10 Pwynt
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
Er mor dawel pob delwedd - er ei roi
Tan raean i orwedd.
Nid marw ydyw mawredd
Awen bardd yn nwfn y bedd
Terry Reynolds
9 Pwynt
Telyneg: Cyfoeth
(I Gapel y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr)
Ar fore Sul
hawdd gorwedd yng ngwres y gwely
a gwadu'r hyn a gredaf
neu godi'n hwyr weithiau
a gweld fy llun yn y drych
yn gysgod o fenyw'r noson gynt
a chwilio ynddi'r bwten fach
yn Forwyn Fair o falch.
bryd hynny roedd y seren fetel yn aur,
y stori ar gefn fy llaw
a'r ddoli'n fyw
yn neuadd wag fy arddegau
roedd y geiriau yn garpiau hyd y lloriau pren,
s?n amheuon yn taro'r bocs casglu
a stori Mair yn creu muriau
ond anodd gorwedd heddiw
yn ddi-seren ar fore Sul
yn s?n dy ddeffro di
ac mi af i eto
hyd y lloriau pren
a thi yn fy mreichiau
i ganu emyn a chynnig gweddi
a phan godwn ein pennau
mae'n bosib y gweli dithau
olau'r diwrnod newydd
yn sgleinio'n seren aur
a phryd hynny
mi sibryda i'r stori
yn dy glust...
Mari George
10 Pwynt
Telyneg: Cyfoeth
Unwaith eto eleni bu'r penawdau
Yn sgrechen ystadegau costus byw,
A rhywle bu rhyw hac truenus
Yn gwneud 'i symiau
Er mwyn datgelu - a rhybuddio -
Pa sawl mil a lithra
Fel d?r i bwll y blynyddoedd.
Hynny yw:
Beth yw
Cost magu plant mewn punnoedd
Fesul cewynnau, teganau,
Dilladu, addysgu,
Breintiau, heintiau
Ac ati. Ac ati.
Mae'r swm yn sobreiddio
Ac yn arswydo.
Rhyfedd.
Do'n ni heb sylweddoli
Wrth weld y tri
Yn trafod perlau eu syniadau,
Ac yn pefrio o hapusrwydd,
Yn ddisglair gan gariad
Fy mod i
Mor dlawd.
Cathryn Gwynn
10 Pwynt
Englyn ar y pryd:
Beddargraff Barbwr
Y gwallt a'i gyrrodd o'i go, y blewiach
Yn bla gwaeth na Ffaro,
Nawr yn ddall, ni all eillio,
Dyn â'i grib sydd dan y gro.
Owain Rhys
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd:
Beddargraff Barbwr
Heb arf na barf tan barfo - y gorwedd
Y g?r gneifiodd glopa.
Â'r un ddawn torrwn yn dda
Dwylath ei siafâd ola'.
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU:79 ½
Cynigion Ychwanegol
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'CI'
(Ymson Lembit Opik)
O Siân, clyw gân, rwyf yn gi -
Fe'th chuck-iais am fath cheeky.
Pennill ymson: Mewn Ysbyty
Mor bêr yn f'eiliad olaf
Ar y ward i'r di-droi'n-ôl,
Yw clywed cri drws nesaf,
Lle mae mam, â gwyrth mewn siôl.
Englyn yn cynnwys y geiriau "heb os"
SaddamDan ei ben yn dynn, heb os y mae'r rhaff Mor wych wedi'r aros, Ond mewn car gwag, cyfagos Wele'n awr ei ôl, liw nos...
Limrig yn ymwneud ag ymddeol
Roedd ficer y plwy yn ymddeol,
ac felly, i ddathlu'n briodol,
fe aethpwyd ag o
i strip-clyb y fro,
'Wo-ho' medda fo, yn dragwyddol.
Mi fûm i ers oesoedd yn cyfri
y dyddiau ers dod yn gyfryngi -
dwi'm yn gweddu i'r lle
nac yn yfed fy nhe
ac wn i ddim sut i wneud coffi.
Englyn Cywaith: Beddargraff Bardd
Gwenallt
Nid yw ef, i fyd o wae ond awen
Rhy dawel, ond geiriau,
Er hyn, ei lais sy'n parhau
I ganu'n uwch na'r gynnau.
Cynigion Ychwanegol:
Estroniaid sy'n dyfod i Gymru
I ymddeol yn llawn eu pocedi,
Gyda'r garden fach fain,
Tynnu mas y mae rhain
Cyn symud yn ôl yn reit handi.
Edrychai ymlaen at ymddeol,
At siec fach a chloc aur clasurol -
Ond byrstiodd ei swigen
Wrth agor yr amlen!
Jyst carden. 'Pob lwc i'r dyfodol'.
Bu'r swyddfa'n ail-gartre ers hydoedd
Fe lithrodd holl hoen ei flynyddoedd
I'r carped a'w waliau,
I'r silffoedd a'r ffeiliau -
A'i adael heb ddim ond ei filoedd.
Glanhau, mynd a'r plantos ar daith
Torri lawnt, mae'r rhestr yn faith,
Rhoi help llaw i smwddio
Gwneud cinio a hwfro,
Ymddeol ? mae'n ormod fel gwaith.
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
 graen, plethu'r gwirionedd - yn y gân
Yn gaeth hyd y diwedd.
Rhoddwyd bardd i ryddid bedd
I huno'n ddi-gynghanedd.
Cynigion Ychwanegol:
Estroniaid sy'n dyfod i Gymru
I ymddeol yn llawn eu pocedi,
Gyda'r garden fach fain,
Tynnu mas y mae rhain
Cyn symud yn ôl yn reit handi.
Edrychai ymlaen at ymddeol,
At siec fach a chloc aur clasurol -
Ond byrstiodd ei swigen
Wrth agor yr amlen!
Jyst carden. 'Pob lwc i'r dyfodol'.
Bu'r swyddfa'n ail-gartre ers hydoedd
Fe lithrodd holl hoen ei flynyddoedd
I'r carped a'w waliau,
I'r silffoedd a'r ffeiliau -
A'i adael heb ddim ond ei filoedd.
Glanhau, mynd a'r plantos ar daith
Torri lawnt, mae'r rhestr yn faith,
Rhoi help llaw i smwddio
Gwneud cinio a hwfro,
Ymddeol ? mae'n ormod fel gwaith.
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
 graen, plethu'r gwirionedd - yn y gân
Yn gaeth hyd y diwedd.
Rhoddwyd bardd i ryddid bedd
I huno'n ddi-gynghanedd.
Cynigion Ychwanegol:
Estroniaid sy'n dyfod i Gymru
I ymddeol yn llawn eu pocedi,
Gyda'r garden fach fain,
Tynnu mas y mae rhain
Cyn symud yn ôl yn reit handi.
Edrychai ymlaen at ymddeol,
At siec fach a chloc aur clasurol -
Ond byrstiodd ei swigen
Wrth agor yr amlen!
Jyst carden. 'Pob lwc i'r dyfodol'.
Bu'r swyddfa'n ail-gartre ers hydoedd
Fe lithrodd holl hoen ei flynyddoedd
I'r carped a'w waliau,
I'r silffoedd a'r ffeiliau -
A'i adael heb ddim ond ei filoedd.
Glanhau, mynd a'r plantos ar daith
Torri lawnt, mae'r rhestr yn faith,
Rhoi help llaw i smwddio
Gwneud cinio a hwfro,
Ymddeol ? mae'n ormod fel gwaith.
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
 graen, plethu'r gwirionedd - yn y gân
Yn gaeth hyd y diwedd.
Rhoddwyd bardd i ryddid bedd
I huno'n ddi-gynghanedd.
Cynigion Ychwanegol:
Estroniaid sy'n dyfod i Gymru
I ymddeol yn llawn eu pocedi,
Gyda'r garden fach fain,
Tynnu mas y mae rhain
Cyn symud yn ôl yn reit handi.
Edrychai ymlaen at ymddeol,
At siec fach a chloc aur clasurol -
Ond byrstiodd ei swigen
Wrth agor yr amlen!
Jyst carden. 'Pob lwc i'r dyfodol'.
Bu'r swyddfa'n ail-gartre ers hydoedd
Fe lithrodd holl hoen ei flynyddoedd
I'r carped a'w waliau,
I'r silffoedd a'r ffeiliau -
A'i adael heb ddim ond ei filoedd.
Glanhau, mynd a'r plantos ar daith
Torri lawnt, mae'r rhestr yn faith,
Rhoi help llaw i smwddio
Gwneud cinio a hwfro,
Ymddeol ? mae'n ormod fel gwaith.
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
 graen, plethu'r gwirionedd - yn y gân
Yn gaeth hyd y diwedd.
Rhoddwyd bardd i ryddid bedd
I huno'n ddi-gynghanedd.
Cynigion Ychwanegol:
Estroniaid sy'n dyfod i Gymru
I ymddeol yn llawn eu pocedi,
Gyda'r garden fach fain,
Tynnu mas y mae rhain
Cyn symud yn ôl yn reit handi.
Edrychai ymlaen at ymddeol,
At siec fach a chloc aur clasurol -
Ond byrstiodd ei swigen
Wrth agor yr amlen!
Jyst carden. 'Pob lwc i'r dyfodol'.
Bu'r swyddfa'n ail-gartre ers hydoedd
Fe lithrodd holl hoen ei flynyddoedd
I'r carped a'w waliau,
I'r silffoedd a'r ffeiliau -
A'i adael heb ddim ond ei filoedd.
Glanhau, mynd a'r plantos ar daith
Torri lawnt, mae'r rhestr yn faith,
Rhoi help llaw i smwddio
Gwneud cinio a hwfro,
Ymddeol ? mae'n ormod fel gwaith.
Englyn cywaith: Beddargraff bardd
 graen, plethu'r gwirionedd - yn y gân
Yn gaeth hyd y diwedd.
Rhoddwyd bardd i ryddid bedd
I huno'n ddi-gynghanedd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

