Dwrlyn v Cwps

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Y Dwrlyn

Y Dwrlyn

Cwps

Cwps

Cwpled caeth ar yr odl "ach"

Adra o'r byd am dro bach
yr af a minnau'n gryfach.

Ynyr Williams


8 ½ Pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'ach'

Gwae'r neb fo a'i groen yn iach
A hwnnw'n byw cyfrinach.

Huw Meirion Edwards


8 ½ Pwynt

Pennill mawl/dychan: 4 x 4

O'n i fodlon maddau i'w dywysydd lloerennol
Am fynd ar ddisberod rhwng y t? 'cw a'r ysgol;
Ond rhaid gwerthu'r Rênj-Rofar, dyna drueni,
Am beidio sefyll allan digon ar noson rhieni.

Ifan Roberts


9 Pwynt

Pennill Mawl dychan 4x4

Un pedwar, pedwar; a dau yn wyth,
a thri yn ddeuddeg a dyna chi ffaith.
Ond lle fyddai'r talwrn heb fod modd
i bedwar pedwar neud un deg saith?

Arwel Rocet Jones


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys: "ac wedyn"

Jean D'Arc

Milwyr pengam o fflamau a gododd,
ac wedyn eu llafnau
a wanodd drwy riddfannau
ei gweddi hi i'w rhyddhau.

Ynyr Williams


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: 'ac wedyn'

Cyngor i Fardd

Dwêd am frâd, dwêd am freuder, - dwêd am warth,
Dwêd am ing difrawder,
Dwêd am iaith, a dwêd am her,
Ac wedyn mi gei gader.

Iwan Bryn James


8 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell) "Dyddiau Cynnar"

Boed brotest, rali, ymgyrch - ro'n i'n un
O'r criw myfyrwyr eiddgar godai gri
Dros hawl fy mamiaith yn ei gwlad ei hun,
Dros ryddid, dros gyfiawnder iddi hi.
Chwifio placardiau, llafarganu - do,
Fe brofais i, â 'nghalon i yn llawn
Brwdfrydedd, gyffro herio'r Statws Cwo
A'r gwybod si?r mai dyna oedd yn iawn.
Pa bryd y pylodd gwres fy angerdd rhwydd?
Pwy ffrwynodd fy nghydwybod i? A phryd
aeth byw sidêt swbwrbia, morgais, swydd
Yn drech na nerth f'arghyoeddiadau i gyd?
Daw eco'r hen sloganau ar y gwynt
I edliw imi'r eneth oeddwn gynt.

Menna Thomas


9 ½ Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Dyddiau Cynnar

Pan yn blentyn bu i mi ysgrifennu 'I believe in the
Roayal Family'ar glawr cefn fy nghopi o Lyfr Mawr
y Plant.Daeth hyn i gyd yn ôl i mi wrth ddarllen
Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Yn y dyddiau cynnar hynny cyn cyrraedd oedran llanc,
Roedd gen i un egwyddor, safadwy a di-dranc.

Fe welwn y frenhines o bawb yr harddaf gwraig,
'Nheyrngarwch innau iddi yn gadarn fel y graig.

Edmygwn hi a'i theulu, ei g?r, ei phlant, a'i Mam,
Y Dywysoges Margaret, a'r corgis bach di-nam.

Ni hoffwn Weriniaethwyr, a'u holl brotestio blin,
Naw wfft i 'Wylit, Wylit'. Hir oes 'God Save the Queen.'

Pa sut, pa fodd y llwyddais i golli'r gwerthoedd hyn
Yw'r cwestiwn cyson holaf i mi fy hun yn syn.

O gefnu ar fy Leusa, a euthum yn rhy bell?
Pe bawn i wedi cadw'r ffydd, a fyddai 'myd yn well?

Hywel Jones o'r Mudiad Meithrin sydd heddiw'n OBE,
Bu'n deyrngar i'w Mawrhydi, a llawer mwy triw na mi.

O pam na fu i minnau arddel y status quo
A chael anrhydedd debyg i'r un a gafodd o?

A phwy na ?yr na ddeuai, rhagorach braint i'm rhan,
A gweled fy nyrchafu yn Farchog yn y man.

A Gerallt ar y Talwrn, wedi gwirioni'n lân,
Yn dweud, Syr Dafydd Lewis, cyn gofyn am fy nghân.

Dafydd Morgan Lewis


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Cyfaill

Hi gof, hi gariad yn gwau
a hi nwyd anadliadau
yng nghell ddirgel fy ngwely,
yn stormydd dwfn awydd du.
Hi y diwn ar alaw dau;
hi fiwsig fy ngwefusau.

Fy nghân lafar, fy nghariad,
y more i, fy mharhad;
fy straeon, fy ymsonau
Hi'r dynged, hi'r caledi
a hi'r wefr. Fy Nghymru i.

Ynyr Williams


9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfaill

(Er cof am Michael Donaghy, bardd o'r Bronx a fu'n byw yn Llundain am flynyddoedd, a fu farw'n hanner cant. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Wyddelig.)

Dy gwrdd yn s?n dy gerddi:
cwrdd â thân oedd cwrdd â thi;
tân hyd y gyfrol olaf,
tân y Bronx yn tiwnio'n braf
mewn ale rywle'n yr haul.
Hen athro'n ofni'r cythraul
â'i wrid ym mhren y ffidil
yn byw â'r ofn ym mhob rîl.
Nodi'r gân a'i st?r i gyd
yn ufudd i'th ffrind hefyd
yn y man, lle bu i mi
dy gwrdd yn s?n dy gerddi.

Dafydd John Pritchard


9 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â phriodi

Dros fwydlen, un misi a phiwis,
'N ailfeddwl yn aml, oedd Elis
Wrth i'r ficer ei holi
"A gymri di Jini?"
Atebodd, "Dal dy ddwr - be di'r dewis?"

Ifan Roberts


8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud a phriodi

Rhyw gwrci o ardal Nantgarw
briododd ast hynod o salw
"Wnaiff hi'm ennill 'run sioe,"
mynte fe wrtha'i ddoe,
"Ond diawl, wi'n glou mâs o 'ngwâl, w."

Geraint Williams


8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn y digrif mae dagrau
A gwên drwy dristwch yn gwau.

Rhodri Gwyn

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn y digrif mae dagrau
Mewn poen hen mae gwen yn gwau.

Englyn cywaith: Porthladd

Porthladd Llanfaes

O ormes hir y stormydd - a'u helynt,
Ni wel yr hanesydd
'Mond bedd, a diwedd pob dydd
y lle hwn yw'r dwr llonydd.

"Yn y 12eg ganrif roedd dros 200 o longau yn dadlwytho cargo o winoedd a chawsiau o Ffrainc, Sbaen a'r Eidal ym mhorthladd Llanfaes yn flynyddol, cyn ei chwalu gan Edward 1af. Yn y 15eg ganrif wedyn fe chwalodd Harri'r IV fynachlog Ffransisgaidd yno i gosbi'r mynachod am eu cefnogaeth i ryfel Owain Glyndwr."

Ynyr Williams


9 Pwynt

Englyn Cywaith: Porthladd

Draw, draw o'th ddyfroedd tawel - yr hwyliaf
Dros orwelion dirgel
Hyn o fyd o hyd, nes de^l
Hen awch dy lanw uchel.

Huw Meirion Edwards


8 ½ Pwynt

Telyneg: Ias

(Mewn angladd)

Ni theimlais dy gyffyrddiad
O'i gollwng yn ei bedd,
Ni welais dy wên denau
Yn cerdded ar ei gwedd;
Ni wyddwn chwaith, a'm dagrau'n lli,
Nad oe't yn chwilio amdana' i.

Ond chwiliais, chwiliais heno
Yn nüwch byw fy myd,
Dy wên a dy gyffyrddiad,
Dy ysbryd, dryslyd, drud;
A fory ddaw, a'm dagrau'n lli,
A dof, yn si?r, o hyd i ti.

Ynyr Williams


10 Pwynt

Telyneg : Ias

Bu rhywun arall fan hyn wrth y bowlen ffrwythau
yn byseddu'r orennau, yn teimlo'r croen: y rhychau bychain
sy'n bantiau cynilach bron nag anadl yr un a fu yma.

Bu rhywun yma'n cydio ynddynt, yn anwesu bydysawd eu bodolaeth.
Yna'n gwasgu'n dyner, rhwbio'r sudd yn goch ar flaen ei bysedd;
o dan ewinedd. Lliwio'r croen. Ac arogli'r ffrwyth â llygaid cau.

A welodd rhywun yn nhawelwch di-sôn-amdano'r weithred hon
wrth basio heibio'r bowlen hardd a'i llond o orennau
fod ambell i ffrwyth - un efallai - eisoes wedi cleisio?

Dafydd John Pritchard


10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Damwain

I'w weld, 'roedd anfeidroldeb - ei feiddio
A'i herio'n ddihareb.
Yna un nos 'welodd neb
E'n ildio'i anfarwoldeb.

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Damwain

Wylfa

Rhyw holi mae'r awelon â glywir
Eto'r glaw'n ddiferion.
Gwae am oes ar gaeau Môn
Ond "tybed" yw'r atebion.

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl "ach"

Mae eisiau nerth grymusach
Na'r Senedd fedd Gymru fach.

Un Dewin ?yr gyfrinach
Caledfyd pob bywyd bach.

Pennill mawl/dychan: 4 x 4

A bag bach plastig yn cario'r poteli
A wagiwyd neithiwr yn ystod y parti,
Gwnes siwrne'n unswydd oherwydd fy awydd
I wneud fy rhan rhag cynhesu'r tywydd!

Mi fydda i weithiau yn meddwl reit ddwys
Sawl owns sydd mewn chwarter, a faint mewn un pwys ?
Sawl diadell o ddefaid, sawl baedd a sawl hwch
Ar stryd y brifddinas sy'n crwydro'n un trwch ?.
Mae 'na ffarmwrs ymhobman mewn Barbour lliw gwyrdd
A thractors o Chelsea yn bla ar ein ffyrdd.

Englyn yn cynnwys: "ac wedyn"

Yr Englynwr Sâl

O God! gai lein ac wedyn - un ati
Sy'n ffitio fy englyn
A llinell well yn fan hyn
Yn orau i swcro'r Meuryn.

Cân(heb fod dros 20 llinell) "Dyddiau Cynnar"

Mi benderfynais neithiwr, 'rôl Dolig digon llwm
Yr hoffwn fod yn egstra ar raglan Pobl y Cwm
Mi 'rydwi'n un reit handi am jobsus mawr a bach
A chredais na chawn draffarth, na chwaith rhyw lot o sdrach
I ddysgu'r grefft, sy'n amlwg o edrach ar y sgrin
Yn golygu lot o yfad, boed gwrw neu boed win
A thaflu amball ddartan, ac ambell wg neu wen;
Weithiau rhaid bod yn ifanc, dro arall bod yn hen
A chroesi un stryd Cwmderi, yn ara gam wrth gam,
Cyn croesi 'nol reit swta heb eto wybod pam.
Rhaid galw yn y caffi am baned oer a sgon
A siarad heb s?n geiriau gan drafod hon a hon;
Mewn garej a lle tacsis mae mynych ddweud "ffarwel"
"Da boch" "hwre" "shwd wyt ti" ac ambell i "wel wel";
Yn siop 'rhen Anti Marian cawn brynu hyn a llall
Heb dalu, na chael newid, a hynny yn ddi-ball;
A thynnu pympiau'r Deri, rhyw wydriad hanner llawn,
A'r cwsmer hael yn diolch boed fore nos neu nawn.

Mae'n ddydd o brysur bwyso, 'rwyf ar y rhestr fer
A'r sgrin test bora 'fory - a dw i'n barod am yr her.

Limrig yn ymwneud â phriodi

'Roedd 'na bâr wrth yr allor yn Seilo
A gweinidog oedd heb ei ordeinio,
A morynion mewn glas
A'r organydd bach cas
A'r gwesteion a'r gwas 'gyd yn cwffio.

I briodas mi es Sadwrn dwytha',
Rhwng Wil a Doris T? Pella',
Cyhoeddodd Doris Ddydd Llun,
Ei bod hi yn ddyn
A William mai dynas 'di ynta!

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled Caeth ar yr odl 'ach'

A laddodd eich ysbleddach
Swn sgrechian y baban bach?

Aiff y byd am funud fach
O dan eira'n dynerach.

Englyn Cywaith: Porthladd

Er hwylio grym yr heli - a'i donnau
Yn dwyn ein holl egni,
O ddu nos fe ddaw i ni
Ei lan sy'n llawn goleuni.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.