Manion o'r Mynydd v Hogia Mam
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Manion o'r Mynydd

Hogia Mam

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR: 'GWYNT':
Gwawn ar drugaredd y gwynt
Yw ein hwyliau a'n helynt.
Nia Watcyn Powell
8 ½ Pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR GWYNT:
'Does neb un modd welodd wynt
Ond ei wadu nid ydynt.
Ap Rhobert
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON MEWN CELL:
O mor braf oedd treulio'r 'Dolig
Yma'n unig heb ddim strach,
Yma bydda'i 'Dolig nesa'
Os y bydda'i byw ac iach.
Edgar Parry Williams
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON MEWN CELL
'Rwyf yma yn gaeth rhwng Gwlad Groeg a Thwrci
Wedi nghyhuddo o smyglo i'm lori
Lwyth o dybaco ar ffurf sigarennau.
Pa wehilion a fu'n llwytho'r bocsiau
A'm gadael yma ar wely concrid
Yn yfed te o waelod fy esgid?
Ond yma yr wyf yn pendroni'n fy nghell
"Pan gyll y call fe gyll ymhell".
(Stori wir am gyfaill sydd wedi ei garcharu ar gam)
Robin Huws
8 Pwynt
ENGLYN AR THEMA DIHAREB:
Hedodd yn fain ei adain, - a gwachul
Ei gychwyn anniben,
O'r dom i ben y domen,
Heb os, y fo fydd yn ben.
Cynan Jones
8 Pwynt
ENGLYN AR THEMA DIHAREB:
Rhôdd gyfrin yw doethineb - a rennir
O enau uniondeb,
Yn wir ni ddaw'n hawdd i neb
Ildiodd i annuwioldeb
Ap Rhobert
8 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):
DIWRNOD DIFYR
'Roedd rhywbeth yn awyrgylch
Y wawr rhwng brigau'r coed
Yn dweud bod heddiw'n sbeshal
Fel 'run dydd fu erioed.
Cyhoeddodd y newyddion
Tai i bawb o blant ein tir,
Lloegr am brynu'n dyfroedd
A Blair am ddweud y gwir.
Cartrefu'r ffoaduriaid
'N y Ritz ac nid mewn cell,
Mae Bush am ymddiheuro,
Ac mae'r wraig yn teimlo'n well!
Curodd Cymru'r Crysau Duon,
Aeth Jonsi i wlad bell,
Tim Bro Ddyfi yn riteirio,
Ac mae'r wraig yn teimlo'n well.
O, dyma ddiwrnod difyr,
Y byd heb boen na sen,
Mae'n si?r mai Posh a Beckham
Fydd pennawd News at Ten.
Cynan Jones
9 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):
DIWRNOD DIFYR
Codi tua saith ond 'doedd dim d?r yn y tapiau
'Roedd hi felly drwy'r stryd rhaid oedd mynd am y pympiau,
Ond 'roedd rheiny 'di malu gan griw oes y denim
Trio cofio ble 'roedd 'rhen ffynhonnau oedd gennym;
Ac yna myned ar ôl rhyw henwr
Ar hyd llwybr cul at Ffynnon Parlwr,
A dyna ddifyr oedd gwrando arno
Yn adrodd hanesion am yr oes aeth heibio.
Dod adref wedyn a rhoi d?r yn y sosban
I ferwi dau ?y, ond 'doedd 'na ddim trydan,
Mynd i hel brigau eithin i'r cae o dan t?
A'u tanio'n y gegin fach gefn a fu,
Difyr a chynnes ydoedd gwres y tân,
Dim radio, teledu, newyddion na chân;
'Roedd y plant wrth eu boddau yn gwylio'r pot jam
A'r pwt o'r hen gannwyll arno yn fflam;
Ac meddai un ohonynt â gwên ar ei rudd
"Biti Dad na fyddai fel hyn bob dydd".
"Wel ia, ti'n iawn", meddwn i, "ond gwranda
Mae 'na gêm am saith rhwng Man U a Vallencia".
Eurfon
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):UNRHYW BERSON
I Twm Morys ar ennill ei gadair ym Meifod
Pob porth sy'n gwybod paham
Bod haul yn llond wyneb Twm,
Bod ei wên yn troi pob dim
Yn sêr sy'n diffodd pob siom.
Nid o godi i'w Gadair
Ond o droi, trwy fedr ei air,
Hen glo rhydlyd ein byd bach,
A rhoi'i het ar ddrws rheitiach
Nia Watcyn Powell
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):
UNRHYW BERSON
Y DIWEDDAR ATHRO BEDWYR LEWIS JONES
G?r ydoedd fel geiriadur
A doeth a chadarn fel dur,
Ni chadd Môn ers Goronwy
Un mab oedd â doniau mwy;
Mwstwr Ll?s a meistr llên
A llyw darlithoedd llawen;
Seren ddisgleiria'r Senedd
A'i eiriau'n fyw, er 'n ei fedd.
I'n Gwlad bu'n Wyddoniadur
A maen Cymreictod i'w mur;
Ond mewn cegin gwerinwr
Tywysogaidd wylaidd ?r.
Machraeth
9 Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD:
Pan redodd cantores fyd-enwog
I'r Cyngerdd o'r mans yn rhy frysiog,
Ni allai hi ganu
Na geirio na gwenu
Â'i dannedd yng ngwely'r gweinidog.
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD:
Oedd eu baswr, a'i gost mil o bunnau.
'Doedd dim synnwyr eu galw nhw yma
I gapel y Penrhyn o China,
I ganu'r hen emyn
Bod nhw'i gyd yn lliw melyn
'Da ni'n gwybod yn iawn mae nhw'n Bala.
Isfron
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mor frau ydyw deddfau dyn
I herio greddf dihyryn
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mor frau ydyw deddfau dyn
Ni raid eu torri wedyn
½ Pwynt
ENGLYN CYWAITH: DRWS
Pwy ?yr, pwy ?yr pa hiraeth - sy' tu ôl
Drysau tai'r ddynoliaeth,
A dôr annealltwriaeth
I gloi o'n g?ydd galon gaeth.
Nia Watcyn Powell
10 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: DRWS
(Rhywun mewn Cartref Henoed)
Dall wyf a hynod glwyfus - ni welaf
Anwyliaid na nyrsus,
Ond er hyn gwelaf D? Rhys
A drws i fyd o rosys.
Robin Huws
9 Pwynt
TELYNEG: PRIDD
Ym molecylau'r Ardd
Mae gwead ein bodolaeth
Yn glwstwr dyrys
Ers ein creu.
Sugno'r maeth,
A'i ddrachtio'n felys
Drwy wythiennau'r Goeden.
Llif cyson
Y diferion glân
Yn llyfu gwraidd yr imp.
Cyn i'r gwenwyn ddianc
Yn ddagrau sur
A chleisio'r ffrwyth.
Gronynnau Eden
Sy'n dal i fwydo
Y da
A'r drwg
Ynom ni.
Phyllis Evans
9 Pwynt
TELYNEG: PRIDD
O hwn fe'n lluniwyd oll â llaw rhyw Dduw
Ac iddo enwau lawer dros y byd,
A thrwyddo fe ddaeth dyn yn enaid byw
Yn gnawd ac esgyrn ac yn drysor durd,
Yn ddu, yn wyn, yn felyn neu yn goch
A iaith wahanol roddwyd i bob un
Nes daeth i'w tiroedd y bwystfilod croch
Yn enw'i brenin i ddwyn eiddo dyn;
A heddiw cochach yw y pridd na chynt
Mae Duw y Cristion ac mae Duw Islam
Yn yr anialwch lle y chwyth y gwynt,
Uwch beddau cleiog, a rhaid gofyn pam
Na wnaiff rhyw Dduw rhag inni fod yn drist
Ein dysgu i garu'n gelyn fel gwnaeth Crist?
Eurfon
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Zara Phillips
Âi ei braint roes iddi'i bri? - Âi ei gwaed
Ac aur ei rhieni?
Âi rhyw ffyddlon gynffonni
Neu wir ddawn a'i cariodd hi?
Cynan Jones
8 ½ Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 80
Englyn ar y pryd: Zara Phillips
Un luniaidd a stawyni - yn hawlio
Pob eiliad sydd ganddi,
'Roedd hen, hen nain, ei nain hi
Gwyddom yn debyg iddi.
Machraeth
8 ½ Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 79 ½
Cynigion Ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR: 'GWYNT':
Mae Bob Dylan yma o hyd!!
Ateb tawel pob helynt
Yw'r gwir sy' 'mhlygiadau'r gwynt.
PENNILL YMSON MEWN CELL:
Pam mae'r Talwrn wedi rhoddi
Beirdd mor fawr mewn cell mor fach?
Cynan Jones yn methu sythu,
Phyllis eisiau awyr iach.
Nia Powell sydd yn bygwth
Cael ei thad i stopio'r lol,
Minnau sydd yn sylweddoli
'Mod i wedi magu bol.
Ond ar waethaf yr holl wasgu
Yn y gell, mae'r beirdd yn awr
Oll yn diolch byth nad ydyw'n
Meuryn ni yn Feuryn mawr.CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):DIWRNOD DIFYRMi floeddiodd Iolo o'r radio am saithFod hi'n amser codi a mynd i'r gwaith.Dros frecwast 'roedd y plant i gyd 'di cael stropsMewn ffrae am y grog yn y bocs 'Coco Pops'.Oherwydd y rhyfel mi gollwyd y bws,Aeth dyn drws nesa'n wyllt efo brws!Wrth olchi y dillad aeth y d?r dros y llawrMeddyliais mai paned fyddai'n braf yn awr.Rhois y tegell i ferwi - mi chwythodd y ffiwsAc wrth drio'i drwsio aeth fy myd i'n biws.Ond deffrais yn sydyn pan ganodd y ffônYn 'r ysgol roedd ybychan, yn ôl y sôn.Wedi cymryd y goes a rhedeg i ffwrdd,-Ce's hyd iddo'n cuddio o dan y bwrdd!Amser te aeth y sosban jîps ar dânDisgynnodd dau blât yn ddarnau mân.A che's fyll efo'r g?r am fod hwnnw'n 'i socsYn gorwedd yn braf o flaen y bocs!Ond bu'n ddiwrnod difyr - hyd nes chwydodd y gath!Bydd fory eto - fyw na thebyg - 'run fath!
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):UNRHYW BERSON
Meirion Macintyre Huws
Mae Mei yn iawn, am wn i,
O'i oed mae'n weddol deidi.
Ei bwysau'n trymhau hyd,
A thwf maintiolaeth hefyd.
Yn ei fol, sydd braidd rhy fawr,
A'i du ôl fel bws deulawr.
Ydy'n wir, mae'n mynd yn hen,
Yn wyrgam yn y fargen.
Ond 'na fo, on'd tydio'n fardd
Yn arbrofwr o brifardd.
Ac os mai angerdd cerddi
Yw'r crac, rhowch Mei Mac i mi.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD:
Mewn cyngerdd mawreddog iawn gynt
'Roedd mess o soprano o Fflint,
Wrth ganu rhai nodau
O Hen Wlad Fy Nhadau
Yn gollwng tornadau o wynt.
Mi welais mewn cyngerdd yn Sbaen
Y brif brima donna dau straen
Pan lyncodd hi bry'
Aeth ei thafod yn ddu
A'i chorset hi tu ôl ymlaen.
Gorffennwyd fy ngyrfa gerddorol
Mewn cyngerdd gan feirniad mympwyol,
Wedi i mi ganu emyn
'Roedd o, meddai'r coblyn
Yn clywed gwich mochyn yn swynol.
Bydd lleng o angylion yn plygu
Dros ganllaw y nefoedd i fynnu,
Cael clywed acenion
A swynol alawon
Bob tro bydd Rhys Meirion yn canu.
ENGLYN CYWAITH: DRWS
Gwelais rhyw rimyn o'r golau - llachar
Fel llwch tan ddrysau
Trymion ein calonnau,
A gweld tra bo'r drws ar gau.
Cynigion Ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR GWYNT:
Awn â gwên o flaen y gwynt
A'n gwared! Pan dry'n gorwynt.
Yn yr 'Hall' bu mawr helynt
Wedi i'r g?r dorri gwynt.
Hiraeth sy'n dod yn gerrynt
Heno o gân drist y gwynt.
Hen gymer aeth â'r cerrynt
Un mwyn gwan ym min y gwynt.
ENGLYN AR THEMA DIHAREB:
Mynnaf gael rhoi ngorchmynion - i'w cadw'n
Man cadarn dy galon
A chyfraith fy ngobeithion
Yn fraint aruchela'th fron
Fy mhlant gwrandewch ar fy mhle - a cherydd
A chariad, mae cyfle
Annwyliaid byd anaele
O hyd yn Ei Fyd Efe.
G?r blin a wna ffolineb - g?r addfwyn
Gâr roddi doethineb
Eglurder a disgleirdeb
Yn wyrth nad yw'n fwy i neb
Ofn yr Arglwydd yw llwyddo -daeth inni
Bob doethineb drwyddo,
Gwatwarwr a g?r o'i go
I'w mynwes ni chant m'ono
Gwell hwyr na hwyrach:
'Rhen Sian fu'n ca'lyn Danni - am oesoedd
Bu Miss isio'i holi;
"Di'n bryd i ni'n dau b'rodi?"
"Byw talu'n Fali i fi!"
Neu "Byw talu'n Fali wyf i!"
Nid mewn tafarn mae barnu - un llinell
O enau beirdd Cymru,
'D oes brifardd yn fardd a fu
Efeilliodd a lle felly.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):
UNRHYW BERSON
I'R PRIFARDD GERALLT LLOYD OWEN:
O'r un mowld a G'ronwy Môn
Noddwr i'n cynganeddion,
Rhyw Niagra unigryw
O ddawn sy'n gyfaredd yw;
A gorau ei Sarnau sydd
I'w folawd ddihefelydd;
Mae yr haf yn ei Afon,
A brath rydd Cilmeri'n bron;
A deil drwy'i gywydd i'w dad
Yn brifardd mwya'i brofiad;
Hwn yw'r g?r mwy na'r geiriau
A'i waith â mil o themâu.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD:
Ni welwch byth eto'r "rhai yna"
Ddaeth atom am bumpunt a'u costa,
'Roedd eu deuawd o Kent,
A g?r o Taskent
'Roedd CYNGERDD MAWREDDOG Nos Sadwrn
I fod yn Neuadd Llansadwrn,
Ond am i'r enw MAWREDDOG
Godi dipyn o gyfog
Aeth y werin ardderchog i'r Talwrn.
Dwi'n deall 'r un gair o Eidaleg
A llai wedyn fyth Fecsicaneg,
Ond af yno drwy'r glaw
Tae nhw'n canu Maw Maw,
Mae Bryn yn hen law ar Seicoleg.
Dwi'n talu am fynd yno i wylo
Dwi'n fyddar ar beth 'rwyf yn gwrando?
Mi ddweda i chwi
Maes y Faenol yn ffri,
A gwerin fel ni wedi'i hawlio.
Un tro 'Nghraig y Nos Madam Patti,
I'r llwyfan daeth dynes fawr lysti,
Tra'n hitio'r top 'G'
Daeth angen pi-pi,
Ond duwcs, wir i chi, fe ddaeth drwyddi!
ENGLYN CYWAITH: DRWS
Dedwydd y cerddem drwyddo - i'r aelwyd
A'r heulwen o groeso,
Yn blant bach; ond tristach tro
Yw cyrraedd pan raid curo.
Rhaid plygu pen am ennyd - i gyrraedd
Man gorau'r cyfanfyd,
Un bach ddaeth yn frenin byd
A ganfu yma'r gwynfyd.
(I bob drws isel mae rhyw ddirgelwch)
 gorau ddrws agored - y codwyd
To cadarn byd caled,
Ond heddiw mewn caethiwed
Erys grym heb ddrws o gred.
TELYNEG: PRIDD
Gadawodd Ivanoff dyddyn ei Daid
Ar gyrion unig ger Kiev bell;
'Roedd yr erwau crintach yn ei yrru o raid
I chwilio am gyfle a chyflog gwell,
A cherddodd yn araf drwy libart y ffridd
Ac egin Ebrill yn ffrwydro o'r pridd.
Dychwelodd Ivanoff un gaeaf oer
I gyrion unig ei Kiev lân;
'Roedd cwmwl dieithr yn cuddio'r lloer
Ac nid oedd aderyn y nos a'i gân,
Nac arlliw o fywyd ar berth na ffridd
Pan roddwyd y pridd drachefn i'r pridd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

