Caernarfon v Dolgellau
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Caernarfon

Dolgellau

Cwpled yn cynnwys y gair 'Ionawr':
Ionawr a ddaeth eleni
I addo mwy na ddoe i mi.
Robin Evans
9 Pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'IONAWR'
Er Ionawr a'i drywaniad,
Daw fy haul a'i adfywhad.
Rhys Gwyn
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON WRTH WYLIO 'TIPPIT':
Daeth Llew, fy mrawd, i mewn i'r t?
a minnau'n gwylio'r sgrin;
"oes rhywun 'di marw?" oedd ei gri,
"Paham yr olwg flin?"
Tipit, tipit, Llywelyn -
Tipit gwael. Jyst pasia'r bin.
Geraint Lovegreen
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON WRTH WYLIO 'TIPPIT'
Tri llabwst go hyll o Dregaron
Tair hocsiad o gyrion Cwm Aeron -
Mewn stiwdio yn cwrdd
A'i dwylo dan bwrdd
Pwy f'ddyliodd am rywbeth mor wirion?
Nia Medi
8 ½ Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NI WN I':
Pwy yw'r Sel ym Mhreseli? - A phaham
y mae ffans gan Chelsea,
neu bennod o drybini
Yn 999? Ni wn i.
Robin Evans
8 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NI WN I'.
Gweddi
Ni wn i pa awr o'r nos - yn unig
Y dihunais; aros
Wedyn ger llwch marwydos
A dwy law yn eneth dlos.
Arwyn Groe.
9 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BLWYDDYN NEWYDD DDA:
Daeogion a Chrannog, Dinbych a'r Ship:
Boed eich gwaith yn doreithiog a'ch canu yn 'hip';
Penrhos, Glannau Hafren a Merched y Wawr:
Boed eich cerddi yn wych a'ch campau yn fawr.
Cytgan :
Blwyddyn Newydd Dda i Chi
A phob bardd sydd yn y t?.
Dyna yw'n dymuniad ni
Ddechrau'r flwyddyn hon.
A Manion o'r Mynydd, fe fyddwch rhyw ddydd
Yn Fawrion o'r Mynydd os cadwch chi'ch ffydd;
Dywysogion, Bro Alaw, Howgets a Waunfawr:
Cewch chithau (mhen degawd) guro hogia'r Tir Mawr.
Blwyddyn Newydd Dda i Chi
A phob bardd sydd yn y t?.
Dyna yw'n dymuniad ni
Ddechrau'r flwyddyn hon.
Ond dimau y Talwrn, cymrwch gyngor gen i:
Fydd pethau'm yn hawdd rhwng ni'r Cofis a chi.
Erbyn mis Awst, mi fyddwch chi'n sgint
Achos ni fydd pencampwyr y Talwrn yn Fflint.
Blwyddyn Newydd Dda i Chi
A phob bardd sydd yn y t?.
Cofi yw ein Meuryn ni
Ddechrau'r flwyddyn hon.
Llinos Angharad
9 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):
BLWYDDYN NEWYDD DDA
B am byth am smocio eto-
L am lot a lot o seiclo,
W am wîn nai'm gyffwrdd am bensiwn
Y am ychydig 'ta - ond ar nos Sadwrn!
Dd am dd?r a lyncai d'at syrffed
Y am ?ch, fel fyddai'n ei yfed...
N am drio newid- peidio bod mor flin
N am newid arall, sef newid siap fy nhin;
Eam yr esgidiau a brynnais ar y slei
Wam 'werthai' nhw am grocbris ar 'e-bay'.
Yam ysgrifennu llyfr arall aruchel - sef
Ddam ddilyniant i Omlet - fy nofel...
Ddeto, am ddechrau blwyddyn - pwy a ?yr beth sydd i ddod, ond, dwi'n siwr fydd o ddim gymaint o-
A am yr artaith mae sgwennu'r dasg yma wedi bod...!!*
Nia Medi
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): CYRRAEDD
Pan grwydra'r wennol olaf
Ar ei hynt i gnul yr haf,
Pa ots sydd am wyrddni'r pîn
A chrybwyll achau'r Robin
A'r holl adar sy'n aros
Trwy lach gynharach pob nos?
Ac yna pan ddaw gwennol
I'w nyth am ysbaid yn ôl,
Ar daith o'r cyfandir du,
Yn dychwel i fradychu,
Fe rown lwyfan y gwanwyn
Yn groeso i'w mudo mwyn.
Ifan Prys
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYRRAEDD
Rhedeg a rhedeg yr oedd
Yn ddi-wyneb. Byddinoedd
Ar ei ôl am yr eilwaith,
Hyd ei gwt y canfed gwaith.
Ni welodd wyneb gelyn
Na gweld ei banig ei hun,
Dim ond gweld, am ennyd, gwch
O afael ei arafwch.
Rhwydd iawn f'ai cyrraedd yno -
Â'i holl wynt, ni alla'i o.
Yna caed, a'i draed mor drwm,
Iwerydd y cloc larwm!
Arwyn Groe.
9 Pwynt
LIMIRIG: 'UN BORE MI GODAIS YN GYNNAR':
Un bore mi godais yn gynnar,
Roedd hi'n llawer cynharach nac arfer,
Rhy gynnar o lot,
Mi gollish y plot,
Deud y gwir roedd hi'n dal yn nos Wenar.
A rwan dwi'n byw efo'r plymar.
Geraint Lovegreen
8 ½ Pwynt
LIMIRG: 'UN BORE MI GADAIS YN GYNNAR':
Un bore mi godais yn gynnar
I s?n rhyfedd iawn yn fy moilar;
Y plymar ddaeth chwap
I drwsio fy nhap
Da ni'n selog yn nawr, ers peth amsar....
Nia Medi
8 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Ni cheir un callach na chi
Yn Feuryn i'w glodfori.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Clyfar gwn yw Daeargi
Ni cheir un callach na chi
ENGLYN CYWAITH: T?R:
Anturiodd i bentyrru - Ei ieithoedd,
Ond aethant i gecru
Ers T?r Babel fel 'na fu
Yn fythol ond cyfieithu
Robin Evans
9 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: T?R
Muezzin ydi'r dyn sy'n cyhoeddi awr gweddi o ben twr y minaret ar Fosc.Son am fwyalchen ar ben coeden ydw i.
I'w finaret cwyd eto - yn ei ddu
At ei Dduw.Clyw yno
Yn y brig fuezzin bro
Yn ddiwyd awr gweddio.
Rhys Gwyn
9 Pwynt
TELYNEG: AMSER:
(Hiroshima, Awst 6ed, 1945, chwarter wedi wyth y bore. Chwalwyd y ddinas a lladdwyd miloedd gan y fom atomig. Bum yno ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Nid dyna unig drychineb y ganrif.)
'Roedd o'n brydlon, yn ôl ei arfer, wrth ddrws ei fanc.
Fflach a ffrwydriad.
Dim ond ei gysgod oedd ar ôl ar riniog y drws.
Llond bws o blant ar eu ffordd i'r ysgol,
Yna'n betalau du ar y d?r.
Enw'r bom oedd Y BACHGEN BACH.
Yn yr ysbyty ddeugain mlynedd wedyn -
Mam ganol oed yn ei choler o greithiau
Fu ar ei chwrcwd yng nghanol y fflamau.
Ei chroth yn faes brwydr newydd -
Rhyfel y coch a'r gwyn yn y gwaed
A phydredd yr ymbelydredd
Fel rhyw bechod gwreiddiol o beth yn halogi'r nyth.
Draw ar y rhos heno
Ac ar strydoedd dinas mae ffrwydriad o olau neon
A chân angylion a dawns niwtronau yn deffro'r dydd.
Gwyn Erfyl
9 ½ Pwynt
TELYNEG: AMSER
( i Gruffydd a fyddai wedi bod yn 50 oed fis Ionawr.)
Yr wyt wên mewn bavaclava,
wyneb clir,
yn rhowlio eira, gwthio, dringo
yn gawr ar gefn ei gaseg,
yn frawd mawr
a mi'r chwaer fach yn dipyn llai.
Yr wyt ysgwydd gref mewn blazer,
wyneb cadarn,
yn rannu tyner, cofio, cysuro
yn gefn mewn awr gyfyng
yn frawd mawr
a mi'r chwaer fach rhyw fymryn iau
Yr wyt erwinder fy ngwanwyn
yn gwmwl llwyd fy nyddiau gwyn,
llymder mewn llawenydd
yn hollti fy sicrwydd,
yn taro cyn yr awr
a'r pendil yn peidio,
a'r chwaer fach hon ei hun.
wyneb clên
nad aiff yn hen,
yno'n rhan o'm stori
ymysg fy mabinogi,
yn hiraeth nawr ac yn y man
am frawd mawr -
a'r chwaer fach dri degawd yn h?n
MAIR TOMOS IFANS
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Gweddillion
Ar ôl gweld llun un o buteiniaid Ipswich yn ifanc.
Nes daeth y cyffur i'w choluro'n - llwyd
Roedd y llun mor rhadlon.
Dim ond gweddill gweddillion
Yw'r cig fforensig ar hon.
Ifan Prys
10 Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 81 ½
Englyn ar y pryd: Gweddillion
New Orleans yn ail gydio yn ei Jazz ar ôl y dinistr.
Codwyd ei cherdd o'r merddwr - a rhwydwyd
Curiadau, a mwstwr
Y gytgan o dan y d?r
Ac aur nodau'r cornedwr
Rhys Gwyn
9 Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 80
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled yn cynnwys y gair 'Ionawr':
Yn Ionawr fy adduned
Yw 'bara iawn - nid sleis bred' !
Dro ar ôl tro, tyrr y wawr,
Nid unwaith y daw Ionawr.
Yn Ionawr cefais annwyd,
Yn y bôn dwi angen bwyd !
Mi wn na ddaw newid mawr
Unwaith y daw mis Ionawr.
LIMIRIG: 'UN BORE MI GODAIS YN GYNNAR':
Un bore mi godais yn gynnar,
Roedd rhywbeth 'di digwydd i'r boilar,
Pan ddaeth Mr Jôns
O'n i'n dal yn fy nhrôns,
Cynigion Ychwanegol:
PENNILL YMSON WRTH WYLIO 'TIPPIT'
Fe wyliais i Tippit un noson
Ag oedd, roedd unwaith yn ddigon;
Tri dyn a thair dynas oedd yno yn cwrdd
A'i dwylo'n y dirgel o dan y bwrdd,
Dweud gwir, s'dim gwahaniaeth
Rhwng y genod a'r bechgyn, cans o fan hyn mae bob un efo locsyn!
Welis 'rioed y fath rwtj,
na tair dynas bwtj-
Yn taro'i dyrnau'n glowt ar y pren
O flaen tri boi llywath o ochra Llyswen;vMae'r miwsig yn cyflymu
Mae rhywbeth mawr ar droed,
Ond na-
mae'r rhaglen yma mor ddiflas ag erioed.
Af trwodd i wneud paned, yn methu'n lan a chredu
Bod rhywun di cael cyflog am roi Tippit ar deledu!
UN GAIR I GYFARWYDDWR TIPPIT
Y PETH GORAU FASA - BIN IT...
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NI WN I'.
Anwar yw pob ymaros - yn nhir neb
Â'i anwybod yn agos.
Arnaf daw ofn yr hirnos,
Ni wn i beth ddwed y nos.
Ni wn i yn nhrymder nos - a ddaw gwawr
A dydd gwell,ai aros,
Myn ffawd,y byddaf mewn ffos
Annedwydd beunydd beunos.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYRRAEDD
Corwynt Catrina
Oedd,roedd hon dros don yn dod
Heibio,roedd pawb yn gwybod.
Ond y neb a'i hadnabu,
Cilient a rhedent rhag rhu
Ei thymer,rhag ei cherydd-
Rhag eu tranc,dianc un dydd.
Modryb flin oedd Catrina
A ddaeth un hirddydd o ha'
Heb groeso am dro i'r dref
Yn ddulas,yn un ddolef
Hir a hyll,yn poeri rheg
A gwenwyn lond ei gwaneg.
LIMIRG: 'UN BORE MI GADAIS YN GYNNAR':
Un bore mi godais yn gynnar,
R'ôl hynny, rhois gorau i'r arfar;
Cans wir, yn y bora-
Dwi ddim ar fy ngora
Ond damia, dwi'n wych ar ôl swpar....
Un bore mi godais yn gynnar
R'ôl hynny, rhois gorau i'r arfar;
'Dwi nawr yn y ciando
Ymhell tan r'ôl cinio
A'n gweithio rhan amsar fel cipar.
Un bore mi godais yn gynnar
I s?n rhyfedd iawn yn fy moilar;
Death plymar ar frys
Yn laddar o chwys-
Da ni'n selog yn nawr ers peth amsar!
Un bore mi godais yn gynnar
Er mwyn cael ciwio am fyrgar
Mae'n haws na gwneud twrci
Dim llestri i'w golchi
Felly 'Dolig Llawen chi'ch pedwar!
Un bore mi godais yn gynnar
A llnau'r ty tan ro'n i yn laddar-
Dim llychyn, dim llanast
Nes i bawb godi'i frecwast
A wedyn mi waeddais "Wei boddar !"
Un bore mi godais yn gynnar
Gwneud yoga a gwrando ar drydar
Yr adar bach tlws
O amgylch fy nrws -
A wedyn i'r gwely tan swpar!
Un bore mi godais yn gynnar
I wrando ar sain a swyn trydar
Ond toedd 'na ddim siw
Na, toedd na ddim miw
Mond miaw gan hen lofrudd yr adar!
Un bore mi godais yn gynnar
A chlywed swn mwyaf aflafar,
Does dim byd llai trendi
Nag 'air guitar' dodji,
Na dim byd mwy 'sad' na hen rocar!
ENGLYN CYWAITH: T?R
Gwleidyddion y Cynulliad
Mae twr Babel ger yr heli - a'i dorf
Yn ddiderfyn frochi,
A thonnau lleisiau fel lli
Yn taro,yna'n torri.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

