Ysgol y Berwyn v Penllyn
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Ysgol y Berwyn

Penllyn

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair: 'doeth'
Ymryson mae dynion doeth
meuryna y mae'r annoeth.
Arwel Emlyn Jones
8 Pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'DOETH'
Tri doeth un tro a deithiodd,
Ddaw y rhain heddiw â'u rhodd?
Dylan Davies
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON Wrth AGOR ANRHEG
Ma'i di rhoi mynydd o bapur
A Selotép drosto i gyd,
Sut gebyst dwi fod i'w agor
Dwi'n flin ac mewn uffar o fyd.
Chath Iesu ddim y fath drafferth
I agor ei anrhegion coeth,
Ond fe roddwyd hwy gan ddynion
Ac wrth gwrs, roedd rheini'n ddoeth!
Huw Dylan
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON WRTH AGOR ANRHEG
Haen ar ôl haen, papur cryf, papur tsiêp,
Yn dynn gan filltiroedd o selotêp,
Datod a datod, dyna chi dasg
Efallai cyrhaeddai cyn cyrraedd y Pasg.
Iwan Bryn Williams
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'geni':
Iesu Grist
Trwy fyw ar ôl marwolaeth - ac agor
bedd gwag ein hachubiaeth,
dyna yw'r holl grediniaeth
trwy dy eni Di y daeth.
Arwel Emlyn Jones
8 ½ Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'GENI':
Er gwynned awr y geni - a dued
Fu'r dial a'r cosbi,
Er syndod, atgyfodi
A'i waed ef yw 'mywyd i.
Wil Jones Williams
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Siopa
"Dwi'm awydd gwneud dim siopa" medd Joni wrtho'i hun
Tra'n gorwedd yn ei wely yn gynnes fore Llun.
Ond codi wnaeth o'r diwedd - roedd 'Dolig yn nesau,
Y teulu'n disgwyl llawer ac amser yn prinhau.
Rôl estyn cerdyn credyd, roedd Joni bach awê,
Eisteddodd yn gyfforddus, troi'r peiriant a'r llaw dde.
Aeth ar ei ben i Woolworths cyn picio draw i Marks,
Portmeirion, Boots a Homebase, Ll?n Sports, Sports World a Clarks.
Ym mhobman llenwai'i fasged, rhoi rhif ei Switch bob tro,
Mae'n rhaid ei fod yn gwario, fe'i gwyddai ar ei go.
Cai rywbeth o Next i'r musus, stwff rhad ag ogle reit neis,
Bu'n stydio ambell bersawr, "Dew, diawched drud o'u seis!
"Wel beth am goban" meddai, "un fer o sidan du"
Ac felly i Ann Summers yr aeth i siopa'n hy.
Ni welodd heb mohono, na chwaith ei fasged llawn,
A da o beth yw hynny i flaenor parchus iawn.
Roedd wedi gorffen popeth ymhell cyn amser te.
Achubiaith i bobl ddiog 'di siopa ar y wê.
Llio Gwynfor
8 ½ Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): SIOPA
Yn araf mae'r clwy yn lledu fel tonne
Gan ein cludo i gyd a dwyn ein meddylie,
Ein troi yn robotiaid, sy'n prynu, prynu
Heb boeni 'run dam na mentro cwestiynu.
Llifeiriant anifyr o bobl mor flin
Yn gwasgu a gwthio, pregethu a thrin.
Pawb am y gore yn chwilio am fargen,
Heb boeni am grud na baban na seren.
Chwysu wrth chwilio am anrheg delfrydol
Wnaiff ddiwrnod y plant yn un arallfydol.
Rhaid gwneud yn si?r na fydd neb yn y wlad
Yn plesio eu plant yn well, neno'r tad.
Costied a gostio, mae'n rhaid i ni brynu
Yr union beth sydd ar y teledu,
'Dio'm bwys os bydd o, cyn diwedd yr Wyl,
Yn angof mewn cornel, prynu sy'n hwyl.
Mesurwn ein mwynhâd yn ôl y bunt,
A rhaid i ni wario mwy na'r tro cynt.
Os daliwn i ddilyn y llif fel hyn
Coch fydd y 'Dolig i bawb, ac nid gwyn.
Beryl Hughes Griffith
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Disgwyl
Y mae'n hwyr a minnau'n hun
mi nodaf pob munudyn;
hanner awr pob un o'r rhain.
Dyma ddychmygu damwain,
a gweld fod y byd i gyd
yn wahanol mewn ennyd.
Eto, gobeithio'r gorau
byw yr hyn sydd i barhau,
agor drws goriadau'r hwyr
a seinio cloch y synnwyr,
byw fel nad oes dim yn bod
gobaith y peidio gwybod.
Arwel Emlyn Jones
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DISGWYL
(NADOLIG 35)
A'i 'Charol', ddydd Nadolig
Ar y ffordd, yr oedd stryffîg
Chwilfrydedd y bysedd bach
Yn pori dros bapurach
Euraidd yn llond bol arall
At boen curo traed di-ball
O'i mewn.
Roedd un yn mynnu
Ymryddhau o'r c'riau cry,
Dyrnu'i hawl i dorri'n rhydd
O'i nawdd, nes daeth rhyw ddeuddydd
Yn gynnar a di -garol
Un hogyn drwg iawn i'w drol.
Iwan Bryn Williams
8 ½ Pwynt
Limrig ' 'Pan oeddwn ar fin mynd i gysgu':
Pan oeddwn ar fin mynd i gysgu
y cofiais o g'n'esrwydd fy ngwely
nad oes gennyf bresanta
a fi ydi Santa
ac mae hi yn 'Ddolig yfory.
Ellyw Evans
8 Pwynt
LIMRIG: PAN OEDDWN AR FIN MYND I GYSGU
Pan oeddwn ar fin mynd i gysgu
Y 'gethwr aeth ati i ganu
A chanodd a chanodd
A chanodd nes stopiodd
Bryd hynny dechreuodd o chwyrnu.
Wil Jones Williams
8 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Nadolig llawen dialled
A Bush yn llenwi sawl bedd.
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Gyrru bom ac agor bedd
Nadolig llawn dialedd.
½ Pwynt
Englyn Cywaith:Addurn
O dan yr holl ddiddanu - a'r lliwiau'n
llenwi'r lle a'n dallu,
rhywsut heb gofio'r Iesu
di-liw yw'n dathliadau lu.
8 ½ Pwynt
ENGLYN CYWAITH: ADDURN
(Castanwydden y meirch ym Mai)
Lluniaidd yw lliw ei ei hwyneb - a'i hallor
Ganhwyllau'n dlysineb
Eto'r goeden sydd heneb
Aeafau'n hyn na chof neb.
Wil Jones Williams
9 ½ Pwynt
Telyneg: TÂL
(y fam weddw ifanc yng ngwaith Dostioevsky)
Gorweddai yn syllu ar y nenfwd
Gan dynhau pob gewyn yn ei chorff,
Brathai ei thafod i atal y dagrau rhag cronni
Yn ei llygaid gleision.
Pob cyffyrddiad o'i eiddo
Yn losg eirias ar ei chnawd.
Llysnafedd ei dafod ar ei boch
A'i ddwylo amrwd yn crafangu i bronnau llyfn.
Hithau'n boddi dan rigolau ei fraster chwyslyd
Wrth iddo fwrw'i awch yn ddigariad, ddideimlad
Rhwng ei chluniau.
A s?n ei rochion aflafar yn codi a chodi
Cyn iddo ffrwydro a disgyn yn un swp diymadferth
Gan wasgu'i hanadl a'i gobaith!
Ac eto yn y llafn o olau
Ymwthiai'n ymddiheurol bron i mewn i'r ystafell,
Gwelai bum wyneb bach gwelw
Yn syllu'n eiddgar drwy'r ffenest,
A'r wên yn ymledu o un i un
Wrth ei gweld yn cyrraedd adref
A thorth yn ei llaw.
Delyth Humphreis
8 ½ Pwynt
TELYNEG: TÂL
"Yr Arglwydd yw fy mugail..."
Dyna dy eiriau
pan ddoist ti gyntaf.
Nid oedd i ti dir-
ond roedd gennyt
air dy Dduw i'th gynnal -
meddet ti.
A minnau, roedd gen i dir,
a gwreiddiau fy ngwareiddiad
yn ddwfn yno
yn y pridd coch.
Ac ambell waith,
efallai i mi glywed
llais rhyw hen, hen broffwyd
yn suo'r awel rhwng y brwyn.
Wyddwn i ddim bryd hynny
am eiriau amwys dy dduw di.
"Ie pan fyddi'n rhodio
ar hyd glyn cysgod angau,
nac ofna niwed,
canys yr wyf fi,
a fy nuw gyda thi."
Do- fe aethost ti a mi
i fan a chysgod angau
yn grechwen uwch fy mhen,
a'r weiren bigog yn derfyn i mi.
Ac yno y gadewaist fi,
a dy dduw.
"Hwda," meddet ti,
cyn troi dy lygaid
i'r gorwel draw,
"cymer eiriau fy nuw yn gysur -
yr arglwydd yw dy fugail,
ni bydd eisiau arnat."
Haf Llewelyn
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Rheol:
Os yw'n ganllaw i lawer - a gerddant
Heb gwrdd ag anhawster,
I'r 'hoodie' mawr ei hyder
Ei thorri hi ydyw'r her.
Ellyw Evans
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Englyn ar y pryd: Rheol
Ei chadw am ychydig - wnawn â blas,
I blesio'r bonheddig;
Torri hon wna gono o gig
A gwaed yn fendigedig.
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair: 'doeth'
Y mae'r un sy'n meuryna
yn berson coeth, doeth a da.
Caru arian mae'r annoeth
rhoi i'r trempyn mae'r dyn doeth.
Nid yw dyn, pan yn dinoeth
yn ddyn ofnadwy o ddoeth.
Ei hunan gâr yr annoeth
caru pob un mae'r dyn doeth.
Englyn yn cynnwys y gair 'geni':
Cerdyn Nadolig
Coeden, tinsel a chelyn - a Santa,
presantau i'w derbyn,
a geni Un bachgennyn
yn rhoi llef drwy yr holl lun.
Hwyrach fod dwedyd sori - yn anodd,
mae safonnau'n cerddi'
sobr iawn, a gan nad oes bri
i'n cynnyrch ... "mae'n ddrwg geni"
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Disgwyl
Rhwydd o hyd yw breuddwydio
dyma'r darlun ers cyn co',
eisiau bod mewn dyfodol
yn byw heb unrhyw gybôl,
dewis ffordd paradwys ffwl
creu medd o driciau'r meddwl,
cael gwledd diddiwedd pob dydd,
llunio creigiau llawenydd,
troi bro wyllt yn gartre' braf
mynydd o hwyl ddymunaf.
Ond wir, mae mwy i'r stori
gwelaf hyn, disgwyliaf i.
Englyn Cywaith:Addurn
Dal ei fedal yw ei fyd - ac eraill
y gw?r a ddychwelyd
o'u rhyfel i'n tir hefyd;
miloedd ?nt am ladd o hyd.
"Glitter ar yr epiglottis - heddiw
y mae ngwddw'n gogl'is
ar pla, beth yw, Doctor, plîs?"
"sâl wyt o dinselitis!".
(epiglottis - clawr y larincs)
Cynigion Ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'DOETH'
Un â'i duedd i dewi,
Fo yw y doeth, cofia di.
PENNILL YMSON WRTH AGOR ANRHEG
Tâl am un,un am ddim
Oedd hi llynedd;
On'd oes eisiau gras
A lot o amynedd ?
Dwi'n dechre syrffedu ar agor,
Dwi wrthi ers bron hanner awr,
Yn rhwygo a rhacsio papurach,
Anrhegion blith draphlith ar lawr.
O'r diwedd dwi'n cyrraedd yr ola',
Mae'r pentwr bron cyrraedd y to,
Ond y bocs dwi isio i chware
Caf orie o hwyl ynddo fo.
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'GENI':
Er i'r seren ddathlu geni, - aer Duw
O'r Fair deg, ni weli
Fan coffau ei hangau hi
Na bedd yn gofeb iddi.
Go anodd yw credu geni - Efa'n
Wraig llawn dwf nid babi,
Ond rhown asen eleni
Pe dôi hon i'n nhemptio i.
LIMRIG: PAN OEDDWN AR FIN MYND I GYSGU
Pan oeddwn ar fin mynd i gysgu
Sylweddolais a mi wrthi'n dysgu
Rhyw blant ar bnawn blin
Am y dwr yn troi'n wîn
Fod tap y cantîn yn gwneud hynny.
ENGLYN CYWAITH: ADDURN
Yn ei henaint, mae'n mynnu - eu gosod
Yn gysur, anwesu'r
Cwlwm i'r bwrlwm lle bu
Y Nadolig yn deulu.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

