Ysgol Dyffryn Conwy v Tegeingl
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Ysgol Dyffryn Conwy

Tegeingl

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD:
Iesgob mae Wisgi Oban,
Yn wirod wych, aur ar dân!
Andrea Parry
8 Pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD:
Huodledd medd wna i mi
Adrodd am fy ngwrhydri.
Dafydd Morris
8 ½ Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: T?'R ARGLWYDDI
"Yr Arglwydd yw fy mugail"
A ddwed fy Meibl i.
'Ai talu ffafr yw llenwi t?
O Arglwyddi', meddech chi?
Na ad ein Tad i unrhyw un
Dybio ei fod yn fwy na'i hun.
Ifor Glyn
8 Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: T?'R ARGLWYDDI
Mae pawb yng ngwledydd Prydain
wrth glywed sôn am llnau
yn diolch i'r gwir Arglwydd
am iddo drugarhau
a rhoi ym mhen gwleidyddion
i sgubo llwch y lle...
Carlymod ddônt a'u diolch
a gweiddi eu 'Hwre,
Ni chawn byth bythoedd eto
ein difa am ein ffwr;
Bydd terfyn ar bob cildwrn
am glogau yma i gwr'.
Norman Closs Parry
8 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'NI WN I.....'
Dynes heb ddim amdani - yn fynych
A fynnaf yn gwmni;
Un hardd i drafod cerddi!
Ai hynny wnawn? Ni wn i!
Hywel Williams
8 ½ Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: 'Ni wn i....'
Ni wn i os Arglwydd Nêr a roddodd
benrhyddid i amser.
Ond gwn i mai'n blwyddi blêr
Yw hadau ein difrawder.
Marc Lloyd Jones
8 Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):Y GWYNFYDAU
Gwyn fyd y rhai sy'n dlawd
O floneg ac o gnawd
Cans eiddo hwy yw molawd byd
A mantais ym mhob ffawd.
Gwyn fyd y rhai sy'n flin
Bob tro maent ar ryw sgrin
Cans eiddo hwy yw ffilm a ffilm -
Aeddfedant fel hen win.
Gwyn fyd y rhai sydd fwyn
Wrth gadnoaid glân eu crwyn
Cans eiddo hwy yw gwarchod gwlad
Serch cnoi a lladd rhai ?yn.
Gwyn fyd y rhai sydd wan
Gan bwdu ym mhob man
Cans eiddo hwy yw gofal teg
Mewn dinas, tref a llan.
Gwyn fyd y rhai sydd wir
A gonest hyd wlad a thir
Cans eiddo hwy yw diffyg parch
Serch bod ar Gyngor Sir.
Fe ddylem wir droi'n ôl yn awr
I wynfydau teg y Beibl mawr.
Ifor Glyn
7 ½ Pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):Y GWYNFYDAU
Gwyn eu byd y rhai ar lôn a oryrrant,
Oherwydd hwy a lenwant bwrs gwag yr heddlu.
Gwyn eu byd y rhai swnllyd di-dalant,
Canys hwy a gânt eu hawr fawr ar deledu.
Gwyn eu byd y rhai â dawn yn eu traed
Hwy a gânt ffortiwn er gwaetha'u rhegfeydd.
Gwyn eu byd y rhai â chanu pop yn eu gwaed
Cânt glod ac amlygrwydd er swn eu sgrechfeydd.
Gwyn eu byd y rhai sy'n nabod y beirniaid,
Iddynt hwy yr aiff y gwobrau eisteddfodol.
Gwyn eu byd y rhai sydd i'r lotri'n ffyddloniaid,
Mae ganddynt hwy y ffydd anorchfygol.
Gwyn eu byd y rhai ânt i hela pysgodyn,
Canys hwy sydd ag amser i ofera.
Gwyn eu byd y rhai a ddaeth yma i'n herbyn,
Camolwn hwynt am eu hyfdra.
Gwyn eu byd y rhyfelgarwyr celwyddog,
Cânt hwy fodd i fyw yn Irac y beddfeini.
Gwyn eu byd y sosialwyr cyfoethog,
Oherwydd hwy a ddyrchefir yn arglwyddi.
Moi Parri
9 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):CYMWYNASWR
'Eurgain yn ein Gadael'
(Ar ymadawiad Miss. Eurgain Davies, o Ysgol Dyffryn Conwy.)
Ergyd fydd colli Eurgain!
Bydd od y genod heb 'Gain'.
Mynych y gwnaeth gymwynas.
Yn ei blaen yr aiff, a blas
ei doniau fydd yn denu
i blant, bob llwyddiant yn llu.
Hogan Syms yw'r hogan sydd
o'i mynwes, ei hymennydd
a'i hosgo, yn gymysgedd
waraidd a gwylaidd mewn gwedd.
Gwelwn yn hon y golud.
Aur i ni yw hi o hyd.
Hywel Williams
8 Pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):CYMWYNASWR
( merch ifanc ddifrifol wael yn aros am drawsblaniad aren)
Hi yw`r un, ym miri`r ?yl
Â`i hwyneb fyddiog, annwyl
Sy`n llenwi ein gweddïau,
Sy`n ein cân a`r nos yn cau!
Heno`n saith, yn gwenu`n swil,
Ni wyddai`r fechan eiddil,
A oedd gan Santa`n ei sach
Allwedd i`w gwneud yn holliach.
Un aren o`r iawn genyn
I fyw`n iach a thyfu`n h?n.
Dyro i hon nerth Dy ras....
Mynna, ond un gymwynas.
Marc Lloyd Jones
8 ½ Pwynt
LIMRIG: 'MI GWRDDAIS Â DYN BACH O RUTHUN'
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
Saith troedfedd o'i sawdl i'w gorun
Ac yn ôl pob sôn
Roedd o'n ugain stôn
Ond siom oedd ei weld o'n noethlymun.
Andrea Parry
8 Pwynt
LIMRIG: 'MI GWRDDAIS Â DYN BACH O RUTHUN':
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
Oedd wrthi yn gweithio ar englyn.
Y testun oedd 'Gola'
Mi ga'th linell gynta,
Ond wir, aeth yn nos arno wedyn.
Moi Parri
8 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Daw'r robin ar dro heibio
A gwych iawn yw ei goch o.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Daw'r robin ar dro heibio
I'r drws i sbecian ar dro.
ENGLYN CYWAITH: BEDDARGRAFF GWLEIDYDD
'Bill Clinton.'
Un doeth ei bryd. daeth â bri - i'w deulu
A'i Dalaith drwy egni,
 grym ei 'Newid' yn gri.
Argol, mi drodd yn hwrgi!
Hywel Williams
8 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: BEDDARGRAFF GWLEIDYDD
Bu unwaith yn areithiwr anfarwol
Llifai'i eiriau'n ferddwr.
Nef o ust yn lle'i fwstwr -
Yn fud mewn gweryd mae'r gwr.
Norman Closs Parry
7 ½ Pwynt
TELYNEG: COLLED
Dwy weillen brysur
A'u curiadau cyson
Yn parablu eu stori
Fel hen wellaif yn sgwrsio pymtheg i'r dwsin
Ar ddiwrnod cneifio.
Codi pwyth ar ôl pwyth
Dan ddwylo medrus hen wraig,
A fflam ei llygaid
Yn dawnsio'n frwd
Efo'r tanllwyth tân
Sy'n clecian chwerthin
Yn niddosrwydd ei chartref
Dwy weillen segur
Yn blith draphlith ar y bwrdd
Yng nghornel y t?.
Colli pwyth ar ôl pwyth,
A dim ar ôl ym megin ei chalon
I ail-gynnau'r marwor mud.
Edafedd brau y campwaith graenus
Yn datod,
Darfod,
Fel gwe pry cop dan feichiau
Gwlith y bore bach,
A'r llygaid merfaidd yn syllu'n
Wag
I ludw'r gweddillion.
Andrea Parry
9 Pwynt
TELYNEG: COLLED
O'r tylla', poncia a'r siedia'
Doi yma sledeidia' o lechi
Ladies, Princesses, Duchesses, Countesses a Queens
i'w trycio a'u cludo i'r cei.
Bu seiri coed a maen
a phatrymwyr craff y ffowndri yma.
Gadawsant eu henwau ar eu hôl.
Heddiw, amgueddfa ydyw-
Miloedd o ymwelwyr
yn gweld dewrder oes mewn hanner awr
ar sgrin ar wal rhyw weithdy.
Di-fygyn, di-gân hen gaban y gwaith
Lluniau yn lle'r tuniau bwyd a'r potiau te;
Mudandod lle bu arabedd.
Distaw y corn gydgordiodd fro
Ond o ambell gornel
clywaf ogla'r oel a'r llwch llechi
fel yn rhesi trywsus melfared nhad -
Eli o'r ers talwm
Norman Closs Parry
8 Pwynt
Englyn ar y pryd: Rhaff
Deil y rhaff y dwylo rhydd - ar ofod
Holl rifau'r mynwentydd
I unben y dihenydd
Y daeth iddo yntau'r dydd.
Andrea Parry
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 74
Englyn ar y pryd: Rhaff. (D.N.A.)
Hen gortyn ein gonynnau, hen gadwyn
I gydio'r tylwythau,
Hen echel y llinachau
A hen hir raff ein parhau
Dafydd Morris
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 74 ½
Cynigion Ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD:
Mewn afiaith, minnau yfais,
Yr wy'n ffan o 'Smirnoff Ice'.
LIMRIG: 'MI GWRDDAIS Â DYN BACH O RUTHUN'
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
G?r priod oedd denau fel gwelltyn.
Fe froliodd ei hun
Fel deryn o ddyn
Wrth garu â phladras o Ddulyn.
TELYNEG: COLLED
Colled - Hunllef pob Rhiant
(I gofio am Myfyr Lloyd Thomas, mab 20 oed Fferm y Bryn, Nebo ger Llanrwst a fu mewn damwain cerbyd angheuol ddiwedd Hydref eleni. Roedd Myf, yn Ganolwr dawnus i dîm rygbi nant Conwy.)
Noswyl penwythnos oedd
A gwaith wythnos ar ddarfod.
Swper chwarel cyn cychwyn
Am Fangor.
Cariad yn ffonio mewn pryder
Gan fod Myf yn hwyr.
"Ddim fatha fo", medd hi a phawb
O'i deulu.
Heddwas ar draws y buarth
 chalon yn suddo i gaddug.
Clywed am ddiffodd goleuni fymryn
O gartref.
'Trosol canol cae' Nant y bêl hirgron
Wedi'i ddal yn ddiniwed.
Gyrru ias drwy ardal y dyffryn
Hyd Conwy.
Hydref yn troi'n aeaf,
Gwên yn troi'n brudd,
Cymuned yn troi'n un
Wrth gofio
Myf Bryn.
Cynigon Ychwanegol
CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW DIOD:
Paned o de drwy y dydd
Yw iraid ein lleferydd.
Mi wariaf heb ymyrr'eth
Ar y bir - sobor o beth!
Diod nef, panad i ni
ac uffern dydd heb goffi.
Un glew wyf, ar radio gwlad
Yn poeni am gael panad.
LIMRIG: 'MI GWRDDAIS Â DYN BACH O RUTHUN':
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
A boerodd i 'ngwynab i'n sydyn.
Mi boerais yn ôl
A chic i'w ben ôl
A welais i byth mo'no wedyn.
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
Oedd yn giamstar ar ffogieth meheryn;
Enillodd sawl ras
O gwmpas y das
A dwsin o ieir yn ei erbyn.
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
A sbiodd yn gam arna' i'n sydyn
Mi rois gythraul o stid
I'r corrach di-hid
A wgodd o byth arna i wedyn.
Mi gwrddais â dyn bach o Ruthun
A gadwai ei wraig mewn cwch gwenyn
Pan holais am hyn
Atebodd yn syn
''Am ei bod hi mor bigog ei cholyn''.
(Allan Squires, Peilot y Nimrod a pherthynas i'r Teulu)
Ffarweliodd am faes y Llu Awyr,
Addawodd fod adref i'r Wyl -
Un gusan fach eto i'r plantos
a'i wraig - mor benisel, ddi-hwyl.
Mae'i Wembley o lawnt yn gordyfu,
Mi lasodd y pridd rhwng y gôl,
A'r plantos bob dydd iddi'n gofyn,
''Pa bryd y mae Dad yn dod 'n ôl?''
Ni fydd yn addurno eu coeden
na helpu i goginio'r wledd...
Uwch Affganistan fe fu ffrwydriad.
Rhoes y tri eu torch ar ei fedd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

