Gogledd v Canolbarth v De

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch 3 tîm o feirdd yn yr Wyl Gynganeddu yn T? Newydd.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW ANIFAIL GWYLLT

Byw heb weld ei baw ei hun
mae hwch, o briodi mochyn.

Karen Owen


9 Pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW ANIFAIL GWYLLT:

Y mae hipopotamws
Yn fawr, yn fwy na firws.

Tegwyn Pugh Jones


8 Pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW ANIFAIL GWYLLT

Yn y th?, yn ôl y thôn,
Pwythig yw othgoi peithon.

Rhys Dafis

8 ½ Pwynt

ENGLYN MILWR GWIREBOL | GUTO DAFYDD

'Leni'n drist, a'i glaw yn drwm;
daw eiliad o erstalwm
â rhyw ias hwnt i reswm.

Guto Dafydd

8 ½ Pwynt

ENGLYN MILWR GWIREBOL

Er in farwnadu erioed,
rhoi angau ar ieuengoed,
nid yw haf yn mynd i oed.

Arwyn Groe


8 ½ Pwynt

ENGLYN MILWR GWIREBOL

Her i ni yw gwawr newydd;
Yr ofn y daw terfyn dydd
Yw'r gwae sydd yn dragywydd.

Rhys Dafis

9 Pwynt

PENNILL CAETH (HEB FOD DROS 6 LLINELL):

'DARLUN'

'Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun'(Albrecht Dürer yn siarad â'i frawd, Albert)

Mae oes nas gwêl fy mysedd
â llesgedd lond fy llaw,
a hunaf fi'r arlunydd
ryw ddydd, ond fory ddaw
â'th ddwylo di yn llenwi'r llun,
y ddwy law fach eiddilaf un.

Tudur Dylan Jones

9 Pwynt

PENNILL CAETH (HEB FOD DROS 6 LLINELL):

Kyffin Williams

Yn llwyd ar gynfas llydan - y rhoddaist
Dy wreiddiau yn fudan.
A chrafiadau'r marciau mân
Yn gof i genedl gyfan.

Gwenallt Llwyd Ifan


9 Pwynt

PENNILL CAETH (HEB FOD YN FWY NA 6 LLINELL)

DARLUN

(Sef darlun gan Simon Pope a 'hongianwyd' ar waliau gwag yn ei arddongosfa ddiweddaraf yn y Chapter yng Nghaerdydd.)

Yma mae wal ddi-fframyn - yn annog
Cans ynom mae'r darlun,
Ac olew'r unigolyn
All roi y lliw ar y llun.

Idris Reynolds


9 Pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

'CROESO I IRAC'

Does yno ddim ond synau
y braw yn y metel brau,
a sgerbwd un car arall
yn fud ar ôl herio'r fall.

Chwys a mwg a llwch a sment
a hanner stryd yn fynwent,
a lludw'n llond darllediad
am gawod waed ym Magdhad.

Yr un darlun byw bob dydd
i'n gwelwi o gywilydd;
yna'n ôl o'r llwch awn ni
i'n bywydau, heb oedi.

Rhys Iorwerth


9 ½ Pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

Croeso Irac i'r G I Joes

Croeso Joe: wele'r Jihad
A wisgwn, fel y groesgad
A wisgi di tra'n dial
9/11 drachefn; ar chwal
Mae darnau o'th ffrindiau ffraeth
Yn rhannu ein athroniaeth.

Cei arbed dy waled dew
A thalu gwir werth olew;
Ofer yw dy ddoleri -
Heddiw dy dâl fydd d'waed di
Yn tywallt mewn i'r tywod;
Yn waedd oer - diolch am ddod.

Tegwyn Pugh Jones


9 Pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

CROESO I IRAC

Yn y gwres mae 'na groeso
Ond trwy'r llwch, cadwch mewn co
Nad croeso gwresog, gwâr yw:
Arswydus groeso ydyw.
Croeso bom nid colomen
Croeso gwn nid croeso gwên

Tra byddin orllewinol
i ysgwyd byd, tra bo ôl
un teiar yn y tywod,
a thra bo Allah yn bod -
pwy yw'r rhai sy'n talu'r pris?
Croeso i ganol creisis.

Ifor Prys


9 Pwynt

ENGLYN BEDDARGRAFF TREFNYDD ANGLADDAU

Er priddio llawer priddyn, er arwain
rhai o'u hiraeth sydyn
cyn amled, fe aeth wedyn
yn ddall i'w angladd ei hun.

Guto Dafydd


8 ½ Pwynt

ENGLYN BEDDARGRAFF TREFNYDD ANGLADDAU

Hen dro, mae'r fwltur druan - fu unwaith
Dros fynydd yn hofran
O dan hagrwch llwch y llan
Yn gorwedd fel hen garan.

Emyr Oernant


8 ½ Pwynt

ENGLYN BEDDARGRAFF TREFNYDD ANGLADDAU

Hen dro, mae'r fwltur druan - fu unwaith
Dros fynydd yn hofran
O dan hagrwch llwch y llan
Yn gorwedd fel hen garan.

Emyr Oernant


8 ½ Pwynt

HIR A THODDAID YN CYNNWYS:

'UN DA EI FWRIAD YDYW YFORY'

O hyd ac o hyd dwi'n llawn bwriadu:
Mi dafla' i'r sbwriel, mi g'weiria'r gwely,
Sgwriaf, mi deidiaf a mynd i hadu,
Wedyn mi weithiaf hyd nes dwi'n methu;
Er, heddiw, dwi'n rhyw haeddu adferiad...
Un da ei fwriad ydyw yfory.

Tudur Dylan Jones


9 Pwynt

HIR A THODDAID YN CYNNWYS:

'Un da ei fwriad ydyw yfory'

Ar draeth Ynys Las

A'r awel gynnes yn ein cynhesu,
un da ei fwriad ydyw yfory.
Yma'n gariadon y mynnwn gredu
na ddaw ynom y nos i'n meddiannu.
Erys angerdd ein caru - ar ein hôl,
a heulwen oesol yn ei anwesu.

Gwenallt Llwyd Ifan


9 Pwynt

HIRATHODAID yn cynnwys y llinell :

' Un da ei fwriad ydyw yfory'

CÂN Y SWYDDOG RICRIWTIO

Paid troi'n glust-fyddar i'r holl lefaru,
Anturia filwr, mwynha'r trafaelu,
Cei fel annedd huodledd gwarchodlu,
Un da ei fwriad ydyw yfory,
Ac ym Mhagdad cei wadu'r - ffiloreg
Fod yna adeg i fudan waedu.

Idris Reynolds


9 Pwynt

Llinell sy'n cynnwys y gair: 'brenhines':

Heno, fi yw'r frenhines

Karen Owen


1 Pwynt

Llinell yn cynnwys y gair: 'brenhines'

Mae twll din gan frenhines

Llinell yn cynnwys y gair: 'brenhines'

Nid brenhines mewn preseb

ENGLYN CYWAITH: 'CERDD DAFOD'

Hi fydd maen hir ein hiraeth - yn oerfel
D?r Irfon a Chatraeth
Rhag i Gymru ganu'n gaeth
Eiriau ola'i marwolaeth.

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 63 1/2

ENGLYN CYWAITH:

'Cerdd Dafod'

Nid ynghanol cyfrolau - na holl lwch
Llwyd y tudalennau;
Ein llên ni sy'n llawenhau
Yn y gwir sy'n s?n geiriau.

Gwenallt Llwyd Ifan

CYFANSWM PWYNTIAU: 60

ENGLYN CYWAITH:

CERDD DAFOD

Eto fe geir pysgotwr - yn yr hwyr
Efo'i rîl uwch llifddwr
Yno'n dal fod s?n y d?r
Yn fwynach i'r clustfeiniwr.

Emyr Oernant

CYFANSWM PWYNTIAU: 62

Cynigion ychwanegol:

Y mae dôr nas agori,

(yng Nghorris Uchaf)

Defaid a Mansel Davies -

Jiraff enillodd raffl

ENGLYN BEDDARGRAFF TREFNYDD ANGLADDAU

Ryw dro, cyn marw druan o'i waeledd,

Cynigion ychwanegol:

ENGLYN CYWAITH:

'Cerdd Dafod'

Yn y niwl ar gorneli - yn yr haul,
ar waliau graffiti.
Mewn cyfaredd a gweddi.
Yn hyn oll y canwn ni.

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS ENW ANIFAIL GWYLLT

Daw y dref i'r Cei dros dro
Am arlwy gwylio'r morlo.

Gerallt ..

Dwed siap boch a chringochni
Mai orang utang wyt ti!

Os ewch chi i fyd anifail,
Crwc y d?r yw crocodail.

ENGLYN MILWR GWIREBOL

Yn ein haros mae'r rhosyn
Hardda'n bod i dwyllo dyn
Na welir ynddo golyn.

A feddo arfau heddiw,
Mor soffistigedig yw'n
Lladd wedyn, ond lladd ydyw.

HIRATHODAID yn cynnwys y llinell :

' Un da ei fwriad ydyw yfory'

Wedi aredig 'r hen dir a'i hadu
Yng ng?ydd yr heulwen sy'n dal i wenu
Ei hegni dwyfol i'r egin dyfu
Yn drysorau haf i'w cynhaeafu,
Heddiw mae'n rhaid gwireddu - er parhâd,
Un da ei fwriad ydyw yfory.

ENGLYN CYWAITH:

CERDD DAFOD

Arddull o fydrau barddol, - amserir
Mesurau defrydol,
Rhyw fodd hud a rhyfedd o
Lefaru'n anarferol.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.