Tim Cadw'r Ffin v Dinbych
Y bedwaredd rhaglen yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys enw actor.
Stori Cwm Deri llawn dig
a roed gan Huw Ceredig.
Siôn Aled
8 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys enw actor
Bu'n drosedd dangnefeddus
Rhoi llaw ar dîn Maureen Rhys.
Berwyn Roberts
8 ½ Pwynt
Pennill Ymson wrth ddarllen map.
Mae'r llinell sgwigli'n mynd ffor' hyn
hyd A's ac M's aballu;
mae'r car dal ar y rowndabowt
a'm mynadd inna'n pallu.
Mi drois y peiriant SatNav 'mlaen
i geisio cael y trywydd,
a chael gorchymyn "Trowch i'r chwith" -
a finna'n Llafur Newydd!
Ddo'i byth i ben y daith fel hyn
Dwi'n methu darllan mapia;
Ond mi ddois yma o flaen fy nhîm -
a lle maen nhw, y tacla?
Meg Elis
8 ½ Pwynt
Pennill Ymson:
Wrth ddarllen map
Os dwi yn fa'ma rwan
am fynd i fan'cw'n chwim....
'tawn i'n ei droi a'i ben i lawr,
'swn i yno, siawns, mewn dim;
ac i ddod 'nôl 'ma wedyn,
os ydi o 'ben i lawr,
dim ond i mi fynd dîn dros ben
mi f'aswn yma 'nawr;
ond gan 'mod i yma'n barod,
dwi'm angen mynd i fflap:
dwi 'di cyrra'dd cyn 'mi gychwyn...
deud 'gwir... dwi'm angen map!
Eifion Lloyd Jones
8 ½ Pwynt
Englyn yn ymwneud ag amser:
Hed Amser.
Fe fu tan 'fory yn faith - yna dal
Tan 'Dolig yn artaith:
Ganol oes, does fawr o daith
I ddisgwyl yr ?yl eilwaith.
Siôn Aled.
9 Pwynt
Englyn yn ymwneud ag amser:
Diwedd Blwyddyn
A hon yn ei phenwyni - yn gwaelu,
Nac wylwn amdani;
John Glyn Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):
Y Mygyn Olaf
Paid â gneud esgus mam, mae'r stadegau'n hollol glir
Paid â gneud esgus mam, dwi'n deud y blydi gwir!
Munud o dy fywyd maen nhw'n deud, munud o dy fywyd go iawn!
Munud arall wedi mynd - tisio byw bywyd llawn?
Munud llai meddwn innau'n ôl
Munud llai meddwn inna'n ffôl!
Munud llai i wireddu potensial
Munud llai i ddatgelu'r gwir
Munud llai i greu synnwyr o'm bywyd
Munud llai i fod gyda hi!
Y mygyn olaf meddwn innau'n ôl
Y smôc ola' i mi.
Munud arall i greu synnwyr o'm bywyd
Munud arall i fod gyda hi
Munud arall i wireddu potensial
Munud arall i ddatgelu'r gwir
Munud arall i ni fyw gyda'n gilydd
Munud arall inni fyw yn gytun.
Y mygyn olaf meddwn innau'n ôl
Munud arall i mi gyda hi!
Michelle Murphy
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):
Y MYGYN OLAF
"Yn 'r ysgol, rhy dwp i ffrwd C S E,
A heglais i o'r lle yn bymtheg oed;
Doedd mam a'i sboner ddim yn sysio fi,
Gadewais cartra, hefyd, yn ddioed.
Ces fodd i fyw 'da gang o ffrindia hþn;
Ces gwrw tun i feddwi nos a dydd,
A smocio hash yn ffri ar ben fy hun;
Ces gornel snyg mewn drws i gysgu'n rhydd.
Heb falio botwm corn am sbeit na gwg;
Ni fedraf fyth fwynhau y bywyd gwell
Can's trachwant drud fu'r tripiau cwmwl mwg".
Yn sypyn oer, yn ddeunaw oed, yr aeth
I'w wynfyd coll, y diniweityn caeth.
Elwyn Wilson Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):
Tawelwch
Dau funud a ofynnir
heb iaith am eu hartaith hir,
o glyw rhyfelwyr am glod
a dwndwr gwag Prydeindod,
i rannu loes gwirioniaid,
sbwriel y rhyfel di-raid,
sglyfaethion bygythion gau,
laddwyd ar sail celwyddau.
Nyddu mae'n harweinyddion
nodau hesb yr un hen dôn:
a mi, ond cynddaredd mud
ofynnaf, am ddau funud.
Sion Aled
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):
Tawelwch
Dau funud di-symud sydd
I gofio'r hogiau ufudd
A yrrwyd tros y gorwel
I dân Ypres a'r Dardanelles.
A'r rhwysg i'w weld ar y sgwâr
Yn regalia awr galar.
Ac yn Irac yr un pryd
Y meirwon sy'n ymyrryd.
Nid rhyddid nac awr heddwch
Ddaw o'r lladd ar erwau'r llwch.
Unigolion mewn galar
A'r sioe i gyd ar y sgwâr.
John Glyn Jones
8 ½ Pwynt
Limrig: 'Mi glywais am hogan o Gricieth':
Mi glywais am hogan o Gricieth
aeth allan â bardd dawnus odieth
fe ddysgodd am fyned
y meddal yn galed
a swynion cerdd dafod drwy'r nosweth.
Siôn Aled
8 Pwynt
Limrig: 'Mi glywais am hogan o Gricieth':
Mi glywais am hogan o Gricieth
Efo'i mêts yn trafod 'rhen benbleth;
Sut i sbelio'r hen dre -
Dwbwl 'c'? Dwbwl 'k'?
"One 'eck of a dump" cwynai'r eneth.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ Pwynt
Ateb Llinell ar y pryd:
Fe geir cig moch gan fochyn
Am od! Am syndod o syn!
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Fe geir cig moch gan fochyn
A lamb a gawn gan John Glyn
Englyn Cywaith: Gobaith
Am byth 'rwyf am obeithio - 'Man U' fawr
Yma'n falch i'n concro;
A Wrecsam yn eu rhacsio!
A oes nef im? Oes - 'na fo!
Dafydd Franklin Jones
8 Pwynt
Englyn Cywaith:
Gobaith Saddam
O alar dyddiau'r wylo - hwy aethant
â'u craith i'w gondemnio
yn eu miloedd, a bloeddio'n
enw Duw am ei waed o.
Berwyn Roberts
8 ½ Pwynt
Telyneg: Cwrteisi
Roedd o yn llawlyfr y cartref -
y rhybudd i'w trin â'r parch a'r cwrteisi
a weddai i Bobl H?n.
A dyna a gafodd hyd y diwedd
mewn amlosgfa oer
â llais y gweinidog cwrtais
i'w hebrwng ymhell
o gynhesrwydd di-lol ei theulu.
Meg Elis
9 Pwynt
Telyneg: Cwrteisi
Yn nyddiau'r person plwy' a'r sgweiar tir
oedd am y gorau'i lordio'i hyd y wlad,
bu plant y gorthrwm ar eu gliniau'n hir:
Sul, gðyl a gwaith, mewn llan ac ar y stad...
nes teimlo 'stwyrian rhyddid yn y gwynt
a'i si drwy'r gaethglud: codi, sythu cefn
i fynnu llais yn lle'r mudandod gynt,
a rhannu'r da yn lle cowtowio i'r drefn;
ond yn y wynfa newydd, daeth hen flys
am efelychu llyfu'r oes a fu
gan faglu dros ei gilydd yn eu brys
i osod mat eu croeso o flaen llu
'fu'n prowlan wrth y drws ers oesau maith
i ddwyn eu tai a'u tir, a lladd eu hiaith.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Cath
Hawsed troi grwndi'n hisian - a denu
D'ewinedd o'u sedan.
Tylwyth y llew sy'n mewian
A hil teigr sy'n nghôl y tân.
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½
Englyn ar y pryd: Cath
Daw i gôl yn rwndi i gyd - a hawlio'n
Holl sylw yn foethlyd
Anifail yw hi hefyd
A'r ysfa yno o hyd.
Berwyn Roberts
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Cynigion ychwanegol:
Englyn yn ymwneud ag amser:
Yn ddi-angor daw yfory - heibio
ar wib ac anwesu
yn ddi-feind pob ddoe a fu
a heddiw heb ei gladdu.
Cyfarch y newydd-anedig
Mae'r ddalen dydd dy eni yn annwyl
O lân; bwria iddi
 llawenydd i'w llenwi
A rho dy nod arni hi.
Limrig: 'Mi glywais am hogan o Gricieth':
Mi glywais am hogan o Gricieth,
Un hynod o hyll, aeth am drinieth;
Ei bochau ail-bobwyd
A'i gwep a ail-fapiwyd;
Efo'i thafod y cafwyd y draffeth.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

