Talybont v Glannau Teifi
Y drydedd rhaglen yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys enw gwleidydd:
Rhodri o Rhodri rho wallt
Yn gynnes ar ben Gwenallt
Gwenallt Llwyd Ifan
8 ½ Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys enw gwleidydd:
Dau gar, un dwrn, llond ei got -
Hen rascal yw John Prescott!
Richard Jones
8 Pwynt
Pennill Dychan: Ceffyl Blaen
Heb allu hwn i arwain
Ni fyddai fawr o drefn.
Na phwrpas i'r asynnod
Sy'n dilyn yn y cefn.
Ond os yw'n or-lwyddiannus
Gan ddenu clôd i'w hun,
Bydd si?r o dderbyn pedol
Rhyw fwlsyn yn ei din
Phil Davies
9 Pwynt
Pennill Dychan : Y Ceffyl Blaen
Mae'n siaradwr da, fel mae pawb yn gwybod,
Ond nid oes un gobaith i'w gael e i drafod;
Gall ddefnyddio'i lais i rymus areithio
Ond mater gwahanol yw ei gael i wrando -
Does ganddo ddiddordeb mewn dim, wedi'r cyfan,
Dim ond yn y pethe y trefnodd e'i hunan.
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'wedi hyn':
Unwaith buost yn barddoni - unwaith,
Fe genaist rai cerddi.
Wedi hyn cyrhaeddaist di
Yn feuryn i'w glodfori
Gwenallt Llwyd Ifan
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'wedi hyn':
Unwaith buost yn barddoni - unwaith,
Fe genaist rai cerddi.
Wedi hyn cyrhaeddaist di
Yn feuryn i'w glodfori
Gwenallt Llwyd Ifan
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Stori 'mywyd:
Dechreuais i sylwi pan oeddwn yn grwt
Fod menwod yn hoffi fy mochau bach twt.
Lle bynnag yr euthum mewn pram neu ar droed,
Y menwod a dyrrodd i'm mwytho'n ddi-oed.
A phan yn yr ysgol fe sylwais yn gloi
Fod yr holl athrawesau â'u pennau yn troi
Wrth weld fi yn pasio â'm cwd yn fy llaw,
Ac yffach o job oedd eu cadwn nhw draw.
Wrth gyrraedd y Coleg a'm sgarff ar fy ngwar
Peth perygl oedd myned am dro yn y car.
Holl ferched y Neuadd a neidiai i'r cefn
Gan fegian am reid yn yr Austin Seven.
Yr un yw y stori lle bynnag yr af,
Boed Hydref neu Wanwyn, boed Aeaf neu'n Haf.
Rhaid gochel rhag dangos dim modfedd o gnawd
Neu cael fy labswchan bob dydd fydd fy ffawd.
A dyma fy ngofid wrth ddyfod am dro
I ardal Llanwinio fel lleidr ar ffo,
Bydd dynion yr ardal yn si?r o weld chwith,
Fod boi mor olygus, a fi, yn eu plith.
Phil Davies
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Stori Mywyd
Mi fues am flynydde yn whilo wejen,
Ond waeth i mi heb, wedd hi'n gythrel o joben;
Pan ddes i â'r cynta adre at Mam,
Fe ddwedodd honno : 'Mae'i thrwyn hi'n gam." Tata, Teresa.
Rai misoedd wedyn ar nosweth y Ffair
Fe gwrddes â phishyn o'r enw Mair;
Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n 'catch' go lew -
Ond sylw Mam : "Ma honna'n rhy dew!" - Mas o ma, Mair
Pan ddes i a Gwenno yn ôl i'r t?,
Ro'dd honno'n rhy dene, felly Gwdbei iddi hi;
A phan ddaeth Heulwen heibio am dro
Roedd y lliwie'n ei gwallt yn hala Mam o'i cho - Hwyl, Heulwen.
Mi es i speed-datio un Nos Fercher,
I whilo am wejen o'dd yn whilo am sboner;
Ond pan ddaeth Daisy adre gyda fi
"Hen Saesnes yw hon - wel, ych a fi " - da bot ti, Daisy.
Bues i'n whilo a whilo, a neb yn plesio -
Ond peidwch poeni, dwi ddim wedi danto;
Ers i fi gyrradd y neuadd 'ma heno
Rwy'n credu y caf i lwc yn Llanwinio - Be am sws Sandra
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ofn:
Mae 'na ofn ynom ni oll
Ar erchwyn erwau archoll
Y mynydd, lle mae enwau
Ar y gwynt a'r hewl ar gau.
Anwylwn faen o alar,
Ac ofn yn drwm ar ein gwar.
Oriau oer eu galar hwy
A wyneba Glyn Ebwy.
A'r olwyn yn sgrialu
Ei hôl yn ddwy delyn ddu.
Gwenallt Llwyd Ifan
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Ofn( i gofio ewythr a fu yn y Somme)
Wn i ddim beth welodd o
Yn oerfel yr anffurfio;
Boi a fartsiwyd i'r llwydwyll,
Yn nydd rhaid ni thaniai ddryll,
Ond gwisg miloedd oedd iddo,
A'r holl filoedd ydoedd o.
Wn i ddim, ond cofiaf imi,
A hi'n braf a Mai mewn bri,
Weld g?r mewn parlwr, dyn pell,
Yn aeafol mewn stafell,
A'r Somme yn dal i fomio
Yn Nhir Neb ei wyneb o.
Meirion Jones
10 Pwynt
Limrig 'Un noson ger neuadd Llanwinio':
Un noson ger neuadd Llanwinio,
Roedd criw gyda'r Bwci yn betio.
Y Meuryn aeth atynt,
Gan osod ei bum punt
Medde fe, 'Talybont fydd yn cario'.
Phil Davies
8 ½ Pwynt
Limrig: 'Un noson ger neuadd Llanwinio':
Un noson ger Neuadd Llanwinio,
Fe welais rhyw bobol yn pipo
Er mwyn gweld ein cynhyrchion -
A chi'n gwbod, gyfeillion
Mai Tîm Talybont a oedd yno.
Gwen Jones
8 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Pwy a ?yr pa synnwyr sydd
Ein hoes dal yn y ffosydd.
Ateb llinell ar y pryd
Pwy a ?yr pa synnwyr sydd
Mynnu cael dringo mynydd
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Blodyn
Pabi
Anodd oedd deall unwaith - nad rhwysg
Ond rhodd oedd dy wrtaith.
O'r llaid gwêl fy llygaid llaith,
Eu henwau'n deilio ganwaith.
Phil Davies
9 Pwynt
Englyn Cywaith : Blodyn
Blodyn (ar Ddydd Santes Dwynwen)
Y nod oedd chwilio blodyn - a hela
Fy nghalon mewn cerdyn;
Wyf o hyd ar ben fy hun,
Rasel yw drain y rhosyn.
Richard Jones
9 Pwynt
Telyneg: Uchelgais
Fe grwydrais Traeth y Pigyn,
Ac oedi yng Nghwm Cerdin,
A gweld Alltcafan 'to, rhag ofn,
Gan chwennych awen brenin.
Ond ofer fu y chwilio,
Am awen i'm cysuro,
A gwelaf yn y dyfroedd pwl
Feidrolyn yn breuddwydio.
Phil Davies
9 Pwynt
Telyneg : Uchelgais
Wrth rwydo'r bêl i'w dîm i ennill gêm,
Yn nwfn ei fod, fe wêl y bachgen liw
Y cwpan; dathlu'r gôl a gollwng stêm,
Clodfori'i hun i bob un o fewn clyw.
Ar draws y byd, yr un yw nod sawl crwt,
Cael bod yn seren ddisglair ar y cae,
Yn eilun myrdd, dilynwyr wrth ei gwt,
A'i grefft i dimau eraill yn creu gwae.
I rai, sy'n chwarae'r gêm ar strydoedd briw,
Heb sgidiau, crys, na phêl o unrhyw werth,
Mae'r clais a'r clwyf yn rhan o'u ffordd o fyw,
A'r ymdrech i gyd-chwarae'n brawf o'u nerth.
Wrth gadw gôl mewn rwbel ac mewn baw,
Uchelgais rhain yw ffoi o'r rhyfel draw.
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Cowboi
Honnir bod y stetson honno - yn dal
Dan alwyn yn gryno;
Faint gwell yw ambell lembo
A dim rhwng ei glustiau o?
9 Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 81
Englyn ar y pryd: Cowboi
I George Bush a'i debyg
Dyn y gwn, a dyn yn gynnen, - dyn balch,
Dyn y boen, yr unben;
Daw ing o'i ddrwg di-angen
A ddaw byd lle na fydd ben?
Terwyn Tomos
8 ½ Pwynt
Cyfanswm pwyntiau: 81
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw gwleidydd:
Hen hwrdd yn siarad drwy'i het
Yw bincin David Blunkett.
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'wedi hyn':
Fy nghorff blin heb ddadflino - yn gorwedd
Yn garreg ddigyffro,
Fy ysbryd â'n glyd dan glo
Wedi hyn y daw huno.
Libanus
Wedi i'r fagnel dawelu - ar ôl
Englyn Cywaith: Blodyn
Y Mimosa
Er y gwae, daw drwy'r graean - o'r llanast
Daw'r llwyni Mimosa'n
Ynni o liw er anian
Y llwch, a'u dygnwch yn dân.
Y Pabi Gwyn
I le anial eleni - yn eiddil
Daw o bridd tomenni;
Anoddach gwreiddio iddi
A thraed am ei sathru hi.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys enw gwleidydd:
'Bant a'r cart, newid partner -
Mae'n grêt!' medd Blunkett wrth Blair.
Am ddifa gwerth y perthyn,
Pwy well â'i fflangell na Flynn?
Englyn yn cynnwys y geiriau : 'Wedi hyn'
Daw sothach hacrach o hyd - o enau
Ambell bennaeth dryslyd,
Wedi hyn y daw ennyd
O gyfiawnhau beiau'r byd.
O ganol G?yl y Geni - Ei ateb
Ddaw eto eleni;
A Duw yn awr gyda ni,
Wedi hyn, daw daioni.
Irac
Rôl rhyfel bydd y gelyn - yn hongian
Mewn ing, fel hen racsyn;
Wedi hyn, pwy fydd y dyn
I'w harwain rhag dihiryn?
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Stori Mywyd
Fel pob mab fferm mewn hanes, pan oeddwn yn grwtyn bach,
Mi ges anifail anwes - oen gwryw Jacob iach.
Y creadur mwyaf annwyl, yn ddu a gwyn ei groen,
Hoff iawn o fwyta Corn Flakes, Kelloggs oedd enw'r oen.
Mae'n wir am bob hwrdd swci, ar ôl cael bywyd bras -
Rhyw gymhlethdod yn yr hormôns, fe drônt yn ddialed cas.
Anghofia i fyth y diwrnod pryd ces i'r 'Killer Blow'
Yr hwrdd a ddaeth fel roced, a'm dala 'down below'.
Daeth Kelloggs ataf eto, dim lle i'r chwith na'r dde,
Yr unig obaith gennyf oedd neidio tua'r ne.
Un peth am hyrddod Jacob mae ganddynt gyrnau cry -
Ar un o'r rhain gwnes lanio, fel fairy ar Christmas Tree.
A phwy a ddaeth i'm hachub, yn symud fel y gwynt,
Ond Rex y terrier ffyddlon, fel Gerert oesoedd gynt.
Bu Dafydd a Goliath yn gweu patrymau cul
Nes rhwng coesau'r hwrdd darganfwyd "Kelloggs' Achilles Heel".
I ffwrdd a'r hwrdd fel mellten, droes ugain milltir yr awr,
A Rex yn dal ei afael, yn llusgo ar y llawr.
Fy nghof diwethaf o Kelloggs, er fod fy mol yn dost,
Rhaid dweud fod e'n bryd pleserus 'da mint sôs a tato rhost.
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Stori Mywyd:
Antur oedd bod yn blentyn
Fy nwy chwaer a fi'n chwarae
Neu'n hudo gan ein brodyr
I ddringo coed, neu falle oedi
Yn n?r y nant
I oglais ambell geglyn
O frithyll llwyd i rwyd ar ras;
A ninnau'n flêr a diferol -
Antur oedd bywyd yntau.
Yn wisgi aem dros yr Esger
A diawlo'r pwll diwaelod
A wnâi i'r ofon gronni
Yng nghalon pawb ohonom.
Disgwyl Dad o'r farchnad fawr
A fferins ganddo i'w ffeirio,
Un gawsem am gusan
A dwy am roi iddo dôn
O'r Caniedydd yn ddyddiol.
Mae'r miwsig oedd ym miri'r meysydd
Yn y galon hon o hyd.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ofn
Rhyw hen s?n fel gr?n neu gri
Neu hymian rydd ofn imi,
Neu eistedd mewn lle distaw
A drws yn gwichian o draw;
Aie cri'r bwci bo
O Annwn sy'n fan honno?
Mewn parlys rwyf yn chwysu
Fy ofnau mewn dafnau du,
Mawrion - Mae'n ?yl y Meirw!
Yna'n gref daw'r bonllef 'B?!' -
Rhen blant â'u nwyfiant di-nod,
Iysgaith - rwy'n ofn fy nghysgod!
Limrig: 'Un noson ger neuadd Llanwinio':
Un noson ger neuadd Llanwinio
Fe glywais rhyw ddyn yn gweddio,
Fan 'ny roedd Llwyd Ifan
Ar ei liniau yn griddfan,
Yn begian am ddeg marc 'ma heno.
Un noson ger neuadd Llanwinio
Fe welais i ddyn yn ymguddio,
Roedd e'n fachan go dal
Yn wynebu y wal
Yn dweud 'Ffal-di-ral-lal, peidiwch pipo!'
Un noson wrth Neuadd Llanwinio
Ar ôl noson brysur o danco,
Nid oedd yn beth hawdd
Ond cyrhaeddais y clawdd
Cyn byddai fy mhledren yn bostio
Un noson ger Neuadd Llanwinio
Noethlymunwyr ddewisodd ymlacio
Yn ôl rhen Jack Straw
Mae' nawr yn rhan o'r 'law'
Sdim hal gan ddim byd gael ei gwato.
Englyn Cywaith : Blodyn
Lili Wen Fach
Mis Ionawr, fy mis innau - â'i ddannedd
Heno yn fidogau;
Er ei hun y mae'n parhau
Yn un les o Eirlysiau.
Blodyn
Ynot mae'r haul yn t'wynnu - ac ynot
Fe gawn ein difyrru,
Fel seren rwyt yn gwenu -
Ti yw blodyn gwyn mamgu.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

