Taeogion v Ffostrasol
Yr ail raglen yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys enw cymeriad o'r Beibl
Mair ffyddlon, sut esboni
Burdeb dy odineb di?
Ceri Wyn
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw cymeriad Beiblaidd:
Gofid yw'r agwedd gyfoes
John Pinion Jones
8 ½ Pwynt
Pennill Ymson mewn Maes Awyr
Mae pob larwm yn canu,
Ac rwyf finne'n beio Mam-
Pam bedyddio crwt o Gardi
Yn Osama ap Saddam?
Emyr Davies
9 ½ Pwynt
Pennill Ymson mewn Maes Awyr:
Mae enwau llefydd drwy'r holl fyd
Ar arwydd mawr anferthol,
Ond gwaethaf modd ni chaf fan hyn
Awyren i Ffostrasol.
Dai Rees Davies
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'oeddwn i'
Eto gofynnais i ti, ond O! Dad,
Er mor daer fy holi,
Erbyn diwedd fy ngweddi
Gweddio'n wag oeddwn i.
Tudur Dylan Jones
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: " oeddwn i":
Am orig yn llawn miri y chwiliais,
A chael fy modloni
Nes graddol sylweddoli
Mae yn annwn oeddwn i.
John Pinion Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Galwad'
Roedd hi'n amser cadeirio'r Prifardd, ac ro'dd pawb yn dyfalu ers tro
Ai Ceri, Twm Morys neu Hopwood 'sa'n show-offs yn 'i hennill hi 'to.
Ond na, rhwy "rank outsider" oedd â'r ffug enw "Dai" a'th â hi,
Ac ar alwad y Corn, ma fo'n gweiddi, "Hoi pawb, sbïwch clyfar ydwi!"
Fe gyrchwyd Dat at ei Gadair gan Dylan fan hyn a Dic Jones
Ond o rywle daeth galwad arall i Dai ond tro 'ma o gyfeiriad ei drôns.
Rwan, mae pob Prifardd gwerth ei halen yn ddigon call am wn i
I neud yn si?r cyn 'ddo gyrraedd 'i sêt fod o'n cofio mynd am bi-pi.
Nid felly'n anffodus o'dd hanes Dai o'dd, yn lle mynd i'r t? bach am dro,
'Di cael tri pheint o seidar yn Bant a La Cart gydag Elfed a Morwyn y Fro.
A nawr roedd y tri pheint o Strongbow yn pwyso fel tunnell o sment,
A doedd dim ar ei feddwl ond galwad bob pan oedd ar agor o Wynedd i Went.
Fe safodd â'i goesau 'di croesi am beth ymddangosai fel oes
O artaith pledrennol eithafol, oedd ar fin ffrwydro rhwng ei ddwy goes,
Cymerwyd Cân y Cadeirio'n arafach nag arfer wrth gwrs,
A gobeithiai Dai na sylwai neb 'i fod o'n gafael yn dynn yn ei bwrs!
Ond yna aeth popeth yn ormod, fe wnâi rywbeth er mwyn cael rhyddhad
Ac anelodd rhen Dai ei Gorn Hirlas at y gornel lle roedd y Corn Gwlad,
Ac efallai fod hyn yn esbonio, gyda'r peryg o daflu bai,
Pam bod galwad y Corn Gwlad ryw fymryn yn fflat - "water damage" achoswyd gan Dai.
Caryl Parry Jones
9 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) : 'Galwad'
Chwe troedfedd chwe modfedd yw y Parch Noa Huws
Peth rhyfedd pan yn blentyn oedd nerth orange jiws.
Yr oedd i bob golwg yn bregethwr reit fawr
Nid yn unig mewn maint ondd byddai'n para dros awr.
A hyd ei bregethau yn byrhau lot o'r gaea'
A dod a'r gwanwyn yn gynt i'r praidd yn Moreia.
A phan gafodd alwad roddwyd tysteb i'r hen ffrind
Nid cymaint am ei werth, ond falch fod e'n mynd.
'Roedd capel yn y Gog wedi gweld iws yn ei faint
I arbed sgaffaldie pan fyddai angen rhoi paint.
A chan mai Noe oedd ei enw ni fyddai'r Parch
Angen T? 'nol un blaenor medrai fyw yn ei Arch.
Ond cafodd gryn syndod 'rôl iddo symud i'r North
Fod eu Cymraeg nhw yn od ychydig bach lan o'r Borth.
'Roedd eu larynx nhw nôl yn rhy bell yn eu gyddfau
Bu y Bod Mawr yn ddoeth wrth eu troi i'r mynyddau.
Maent yn cael yr un bregeth a'r un yw'r tri phen
A neb yn ei ddeall hyd nes daw i'r Amen.
Fe gafodd e alwad ond mae am aros fan hyn
Mae pregethwyr un bregeth yn hynod o brin.
Emyr Davies
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn am rodd
Un Santa iawn sy'n y t?,
Un iawn, mi wn i hynny.
Gan fod Santas yn od
Ym mhobman, dwi'm i w'bod
Oes na un ohonyn nhw
Yn iawn, neu jest yn enw.
Yn lle gweld y lleill i gyd,
A'u cofio mor ffug hefyd,
Nid oes ond un peth dwisho
Ym min nos, ei gwmni o,
A heno'i weld yn gwenu-
Y Santa iawn sy'n y t?
Tudur Dylan Jones
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn am rodd
Annwyl Syr,
Datgelais i
Heddiw i D?'r Arglwyddi
Enwau'r holl bobol hynaws
Ar eu hynt i'r 'Upper House'
Ac yn eu plith r'ych chwithau
Yn un, gallaf gadarnhau.
Cyfalaf y Blaid Lafur
Yw'r boen yn y tymor byr,
Rwy'n begian am gyfraniad
I roi i'n achos barhad,
Eich hael garedigrwydd chwi
Wna hyn,
Yr eiddoch,
Toni.
Dai Rees Davies
9 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â Chariad
Fi'n licio young Salisbury a Myrddin,
A weirdly'n ffansio Taliesin,
A fi gyda crush
Ar Mei Mac cos ma'n lysh
Ond mostly fi'n lyfo y Meuryn.
Caryl Parry Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â Chariad:
Un noson ar draeth yn Sir Benfro
Fe welais ferch ieuanc yn nofio
Es draw dros y don
I siarad â hon
A bron fod 'na angen esbonio.
D.T.Lewis
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Weithiau yr un anllythrennog
A wna'r gerdd sy'n plesio'r Gog.
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Weithiau yr un anllythrennog
Ar ei rawd sy'n real rôg
½ Pwynt
Englyn Cywiath: Prysurdeb
Pan fo'r iaith eilwaith yn holi am un
Gymwynas fach drosti,
Dim oll sy'n ormod i mi-
Yr wyf eisioes rhy fishi.
Ceri Wyn
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Prysurdeb
Mewn dinas mae pawb wastad - yn rasio
Yn brysur, a'r profiad
Anhwylus yw'r symbyliad
I'n galw oll i gefn gwlad.
Jim James
8 ½ Pwynt
Telyneg: Caethiwed
Yr oedd y dwst o'r bwrdd du
Yn ei hesgyrn, a dysgu
Iddi hi yn ddyhead;
Fe wnâi bob gwers yn fwynhad,
Lle i ofyn, troi llyfyr-
Mwy o hyd na phedwar mur.
Rhywfodd fe ddiflannodd hon
I hualau manylion,
Yn rhy ufudd i'r drefen,
Rhy hwyr i newid, rhy hen.
Draw o'r iard drwy'i ffenestr hi,
Yn flin dan ddwst ffurflenni
Mor hir yw'r tymor araf;
Barrau heyrn yw'r swyddfa braf.
Emyr Davies
10 Pwynt
Telyneg: Caethiwed
Mynd yn gynnar bob bore'n
Ddi-ffael i ddal y trên
Gan deithio rhai milltiroedd
Yn gwmni digon clên.
Chwyrnellai'r trên dros gledrau
Gan hymian ei hoff gân
A phasio polion trydan
Fel dannedd rhyw grib fân.
Ond heddiw ar ei siwrne
Y bu 'na ddamwain fawr
Ac yntau'r gaeth o'r herwydd
I gadair olwyn nawr.
Dilynais ers y bore
Symudiad y bys mawr,
A'r cloc sy'n dweud o'r diwedd
Ei bod hi'n nos yn awr.
Ond fe ddaw 'fory eto
A'i feithder i'm tristáu,
Ond caf ryddhad rhyw ddiwrnod
Ar ôl i'm llygaid gau.
Jim Jamed
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Rhagrith
Mae'r Arlywydd Bush yn wrthwynebydd ffyrnig i erthylu, am ei fod o'n credu bod bywyd yn sanctaidd...
Yn Irac, yn enw Cred, a heb ofn
Lladd rhai bach, diniwed,
Rhoi'r Gair a wnest i'r grenêd
A dwyfoli dy fwled.
Ceri Wyn
10 Pwynt
Cyfanswm pwyntiau: 86
Englyn ar y pryd: Rhagrith
Tu allan i'w gwpan i gyd - yn lân
Fel goleuni hyfryd;
O'r baw sydd yn llestr bywyd,
A'i du mewn yn dom o hyd.
9 ½ Pwynt
Cyfanswm pwyntiau: 81 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys enw cymeriad Beiblaidd:
Eiddo Ioan Fedyddiwr
Oedd y dweud am fedydd d?r.
Wele Ruth yn casglu'r ?d
Wele Ruth yn casglu'r had
Yn awr Iôr o trugarha-
Anodd mesur ffydd Moses-
Heb un moeth mae Baban Mair
Pennill Ymson mewn Maes Awyr:
Mae honno sy'n esgyn i'r gwagle
Yn mynd a'i bol yn llawn,
I losgi deg tunnell o danwydd
Yn ôl Blair mae hynny'n iawn.
Dylem gyrraedd draw yn gynnar
Os na ddaw dihuryn anwar
Gan roi pecyn mewn rhyw gornel
Wna'n gorfodi mas yn dawel.
Mae'r Peilot fan draw yn reit feddw
A'r fêt ar y llawr fawr yn well,
Os disgyn y plên yn 'ranialwch
Medraf gerdded os na fydd rhy bell.
Mae gennyf mariwana
Yn anrheg i Mamgu
A Pot o'r ansawdd gorau
A phibell i Dadcu.
Mae dau mewn siwtiau duon
Yn dod yn ara' bach,
'Rwy'n wir yn gwerthfawrogi
Cael help i gario'r sach.
Englyn yn cynnwys y geiriau: " oeddwn i":
Yn ddi-nerth yr oeddwn i - yn y ffos,
A wnaiff un fy nghodi?
Heibio yn eu tro daeth tri-
A'r olaf roes yr eli.
Dau dderyn yn diddori - a hen naws
Hwyrnosau y festri,
Piano a chwmpeini,
Heddiw yn ôl oeddwn i.
Ddoe yn hwyr oeddwn i, - yn aros
Am oriau am Doli
Yna si?r feli gwelais hi
Yn awchus yn ymdrochi.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn am rodd
Gwnaed y cam gan y samwn!
Un cryf oedd yn ddegpwys crwn.
Mi lwyddodd fel ymladdwr
I'm herian o dan y d?r
Am oriau â'i driciau drwg -
Yna'i gael toc i'r golwg.
Clatsien! Torrodd fy ngenwair -
Yn gas iawn mi regais air.
Pan ddaw hwyl a g?yl y gân
Ar bawb wrth gofio'r Baban,
Yn hael o rho wialen
A gêr yn anrheg im Gwen.
Limrig yn ymwneud â Chariad:
Mae Meri a fi yn gariadon,
A phethau'n datblygu yn burion.
Ond nawr mae rhyw st?r,-
Rwy'n credu yn si?r
Fod Emry ei g?r yn anfodlon.
Mae Jo dros ei ben a'i glyste
Mewn cariad â phopeth o'i gylch e.
Ac yno mae'n baglu
Dros y pethe mae'n gasglu
Mae'n boendod i hunan ond yw e.
'Roedd cariad gan ?r modryb Neli
Nid dynes ond llanc o Bwllheli.
Pan ffeindiodd hi mas
Fe aeth yn reit gas
Am nad oedd y boi bach yn Gardi.
Englyn Cywaith: Prysurdeb
I ganol y cwch gwenyn - fe welwch
'na filoedd yn disgyn
Yn fywiog heb ddiogyn
O fewn hil y rhain fan hyn.
Enw yw priffordd inni, a ninnau
Yn mynd ar hydddi
O fodlon fod ohoni
Nid oes hoe o'i dewis hi.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

