Llanrug v Criw'r Ship
Rhaglen gyntaf yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Llanrug

Criw'r Ship

Cwpled Caeth yn cynnwys 'iâr':
Od yw Gwyn; rôl bwydo'i gi
Aiff sbar cyw-iâr i'r curry.
Richard Lloyd Jones
7 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys: "iâr"
Ym marchnad y bwytadwy
Mae iâr yn handi am wy.
Nici Beech
7 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'G?yl y Faenol':
(Cyngerdd Tân y Ddraig)
Cyn cael mynediad
Rhaid drachtio'r holl ganiau;
Diolchwn i'r drefn
Nad yw 'Ex-lax' mewn tuniau.
Alwyn Ifans
8 Pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: G?yl Y Faenol
Dwi yma ar y Faenol
Yn gorwedd ar fy hyd
Ynghanol criw mor ifanc
Mewn cae sy'n fwd i gyd.
'D yw'r traffig ddim yn broblem
Na'r gost sy'n mynd yn uwch,
Na'r glaw na'r banio cwrw
Oherwydd dwi yn fuwch.
Menna Medi
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Ni ddaw':
Mae poen yn siom y pennawd, - yn darged
O'r dirgel bu'r gatrawd,
A'u cno o weld darnio cnwd,
Heddiw ni ddaw cyfaddawd.
Richard Lloyd Jones
8 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU: "Ni Ddaw"
Er darllen drwy'r gorffennol ac wylo
A gweled sawl cyfrol
O eiriau edifeiriol
Ni ddaw neb a ddoe yn ôl.
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Atgofion Cynnar':
Gwn Twm Bec cawn lwyth o grim cêcs,
Gwisgo masg cefn bocs Cornfflecs;
O ardd John Em, dwyn pys a ffa,
Anodd agor potal G'rona.
Deg Wdbein slei ar ben y Graig
Y byd yn troi - ni'n goch fel draig.
I Abar Ogwan, glan môr ni,
Gwair T? Nêw drodd yn Wembli.
Gwneud jam 'fo nain rôl hel yr eirin,
Mewn cegin fach, stof baraffin;
Gena goed yn torheulo ar wal
Rhoi dima i'w lledu ar lein y chwaral;
Yn y Band o Hôpm gwersi Sol-ffa
Dal silidons ym mhwll yr Olchfa;
Dim golau stryd 'rôl un ar ddeg,
Casau modryb siaradai Saesneg.
Trio saethu brain gyda pistol Taid,
Llenwi pisar llus ag ambell faw defaid.
Diwrnod heb 'run funud yn sbâr,
Dyna ryfeddod y dyddiau cynnar.
Alwyn Ifans
8 ½ Pwynt
CÂN "Atgofion cynnar"
Mynd o'r ysgol yn gynnar ar ddiwrnod ffair;
Pres poced wsnos yn bishyn tair,
A phob dim o'n isio yn costio'n ddrutach;
Trwosus cwta a gwallt cwteuach;
Bwydo oen swci o botel babi;
Lili Lon a Wili a Wali;
Golchi 'ngwyneb yng ngwlith y bora
I glirio'r brychni - ond aeth o'm o'na;
Pasiant Dolig mewn neuadd lawn,
Efo lampau nwy a mul go iawn,
Dysgu adnod a'i deud yn daclus;
Canu Clennig a chyflath melys;
Crwydro'r wtra yn cyfri'r briallu;
Llefrith cynnes yn syth o'r beudy;
Un diwrnod, clywed sgrechiadau mochyn;
Gweld cig yn hongian y diwrnod wedyn;
Taid a Nain a'u gwalltiau'n britho;
Rhoi blodau ar fedd heb wybod be oedd o;
A dyddiau heulog yn llenwi'r meddwl -
Nôl yn y cyfnod cyn crëwyd cwmwl.....
Arwel Roberts
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Ymdrech':
O'i ddwyn, a hi'n forwyn fach
A ellir dychwel bellach?
O'r pentref draw, daw un dydd
I aelwyd ei chywilydd.
I'r hen furddun yn unig
I erwau doe i bwrw'i dig.
Rhed ei llaw ar hyd y llwch
A naddu mewn llonyddwch
Un llythyren o'i enw
Ôl y llaid sy'n cynnal llw;
Un F yn pigo'n afiach
Ar hen ford fel draenen fach.
Richard Lloyd Jones
8 Pwynt
CYWYDD(heb fod dros 12 llinell) "Ymdrech"
Fe'm denwyd gan freuddwydion
Fore gwyn, tra'n llencyn llon
Ynof roedd un dymuniad
A rhoes hwn i mi grwsâd.
Ni rydd ysgol na choleg
Ddawn o droi punt yn ddeg.
Felly ceisiais afallon
A rhwysg yr holl ddaear hon.
Heddiw 'rôl treigl blynyddoedd
Gwn mai her heb ddyfnder oedd,
A chwiliaf er mwyn gafael
Yn y gwir, os yw ar gael.
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwybodaeth:
'Dach chi awydd miniogi eich meddwl?
Prynwch enseiclopidias go fanwl;
Mi werthai'i lond taflod
Am bris - sydd i'w drafod
Y wraig 'cw sy'n gwybod y cwbwl.
Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWYBODAETH
Mae 'ne hogan sy'n byw'n Nantlle Vale
Wertha'i chorff am boteli Brown Ale
Mae y prisie di' nodi
Mewn tat? ar ei bron hi
Ac i'r dall, ar ei thin hi, mewn Braille
Llion Derbyshire
8 ½ Pwynt
Ateb Llinell ar y pryd:
Mae rhyw hen elfen o hyd
Ym merw byw'n ymyrryd.
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mae rhyw hen elfen o hyd
Yn gwylltio hogia alltud.
½ Pwynt
Englyn Cywaith: 'Dilledyn':
Ofnwn o weld y llafnau - yn un haid
Dan hwdis o lifrau;
Ofn neb, criw di-wynebau
Yn y gwyll eu gwisg sy'n gwau.
Richard Lloyd Jones
8 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: DILLEDYN
Ar y Wyneb mae'th gyfraniad yn dod
 steil i'm hedrychiad:
Ond heb ddyfnder cymeriad
Yr wyt fel hen gerpyn rhad.
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Telyneg 'Cysur':
Plîs ga'i
Jest un sigarét?
Un goflaid,
Un deth,
Cyn gwewyr
Hesb
Yfory.
Ok, atebais
Un ffag,
Un ffics,
Un cripiad arall
Ym mron
Addewidion
Drennydd.
R.John Roberts
8 ½ Pwynt
TELYNEG CYSUR:
Lluniau
o gwymp ein rhyddid
yn llenwi'n byd.
Anghredinedd yn tasgu'n llwch,
a blas y surni
ar galon yr Afal.
Angau
yn fyw ymhlith y marwor.
Cario beichiau'n gilydd,
â fflam y gobaith yn mygu
wrth aros ein tynged.
Enwau
yn benawdau cyfleus,
a chyllell realiti'n rhwygo'r enaid.
Hiraethu am gymar coll,
â ffrwyth ein cariad
yn egino'n dawel
y tu hwnt i alar.
Dechrau
ail-fyw,
â braich cymdeithas yn cynnal y ffydd.
Minnau'n cyfrif fy mendithion,
ac adlewyrchiad o'm gorffennol
yn gwenu'n ddel
yn nrych fy nyfodol.
Nia Môn
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Y Ganolfan
Gofyn glew i griw gefn gwlad - yw cynnal
Mewn cyni, adfywiad.
O'u rhoi hael daw ffrwyth o'r hâd
Ym meini eich dymuniad.
Richard Lloyd Jones
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 73 ½
Englyn ar y pryd: Y Ganolfan
Yn ein muriau rhown gymeriad - I'r iaith
ac fe rown symbyliad
i dalent. Rhown adeilad
yn brawf fod inni barhâd.
Menna Medi
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys 'iâr':
Pwrpas iâr yw byw a bod
Yn wain i saets a nionod.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys: "iâr"
Ceiliog a iar yn caru
Yn y Van. Cyflafan fu !
PENNILL MAWL/DYCHAN: G?yl Y Faenol
Mae mynd i ?yl Bryn Terfel
Yn brofiad mor ffantastig
Os nad ti'n meindio yfed
Dy gwrw o botel blastig...
CYWYDD "Ymdrech"
I Dorian Bowen, g?r o Drelech, Sir Gâr, sy'n byw yn Llundain ac a lwyddodd i godi Ty Unnos arbennig iawn ar Fedi'r 21ain gyda chymorth ei deulu a'i gymdogion.
Y mae, weithiau, amheuaeth
o'i hun yn yr un a aeth
i ffwrdd, ond o gadw ffydd
mewn bro, bydd tô rhag tywydd
drwg. Daethant i godi rhaw
a halio coed anhylaw.
Daethant i gydweithio,
dy frawd, a phawb yn dy fro,
ar dy ran, i greu annedd
yn y nos, ac ar un wedd
mae'n d? syml, ond mae'n d? sydd
yn union fel llawennydd.
Nici Beech
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWYBODAETH
Thesawrws, Cys-gair ac Odliadur,
Sawl gwefan a llawer Geiriadur:
Er chwilio drwy'r rhain
Am odl fach gain
Ni welais i ddim byd o werth...
ENGLYN CYWAITH: DILLEDYN
(Cardigan melfed brown hen ffrind ysgol y bu i mi ei chyfarfod eto yn ddiweddar wedi 26 mlynedd)
Nid yw'n hawdd. 'Di heneiddio - dan ni'n dwy
Ond o'i weld mewn ffoto,
Yn ôl wyf, wrth ei ymyl o
Yn gafael. Dwi'n dy gofio
TELYNEG CYSUR:
CYSUR (I ffrind 'di colli ei Thad)
Dy ddal yn dynn
a'th gorff trwm
yn ysgwyd i rhythm dy golled.
Claddu dy ben
i guddio'r boen
sy'n dianc yn lef dolefus
o waelod dy stumog -
dy stumog, s
y'n troi ers dyddiau.
Sgen i ddim ond geiriau gwag
i gynnig.
Dagrau poeth yn gywilydd ar fy moch,
heb hawl arnynt.
Yn helpu dim arnat.
Ti biau'r dagrau
yn dy fyd ben lawr.
Mewn ynys o dristwch
ti'n ceisio dirnad
dy eni,
i etifeddu'r golled.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

