Penrhosgarnedd v Cwps

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd derfynol o gyfres y Talwrn.

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Cwps

Cwps

Cwpled caeth ar yr odl 'a'

Hyd drumiau a thraethau'r ha'
Tywynnu mae Britannia.

Llion Jones


8 ½ Pwynt

Cwpled caeth odl ar yr odl 'a'

Gwerth mwy na'r bwriad mwya
Yw i ddyn weithredu'n dda.

Iwan Bryn James


9 Pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Yr Orsedd

A oes heddwch? Oes... debyg... yn rwla..
Ond dwi'm yma i gymryd y pi... y 'peace',

John Ogwen


9 Pwynt

Pennill mawl dychan yr orsedd

O bydd fe fydd chwerthin a gwawdio
Rhwng muriau eich cartref eich hun
Ond os mentrith na wên o drws nesa
Fe godwn i'ch gwarchod fel un.

Arwel Jones


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys: 'Mae hud yr ennyd honno'

"...one small step for man but one giant leap for mankind"

Mae hud yr ennyd honno a'r eryr
arwrol yn glanio
gam wrth gam yn mynd dros go'
yn nhân y lluniau heno.

Llion Jones


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell '' Mae hud yr ennyd honno"

Mae hud yr ennyd honno'n - werth y byd,
Wrth i bêl Ronaldo
Chwyrlïo'n dirion i do
Y rhwyd, a Rooney'n gwrido.

Huw Meirion Edwards


8 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Syniad Da

Tybed oedd fy ngeni i yn syniad da o gwbwl?
A mam 'di deud o'r cychwyn nad o'n i'n ddim ond trwbwl,
Roedd mwy o napis ar y lein na welwyd acw 'rioed,
A wnes i'm stopio crio tan o'n i'n bedair oed!
Fy hel i'r ysgol wedyn am dipyn bach o laff,
Llewygodd y prifathro a chollodd chwech o'i staff!
O amser bendigedig - er imi gael fy ngholbio
Dwi'n siwr mai syniad da fyddai bod yn blentyn eto;
Meddyliwch - dim problemau - dim isio mynd i'r gwaith,
Dim morgais, dim treth incwm, dim ofn y gyfraith chwaith,
Mae Childline yno'n handi rhag ofn i mi gael cam -
Dim golwg gas gan blismon na slap ar din gan Mam!
Ac yn y siop, wrth weiddi a gollwng ambell reg
Caf siocled faint a fynnir er mwyn cael cau fy ngheg,
'Sdim angen hances boced, caf sychu trwyn ar lawes
A chodi bys ar ddynes gas a'i galw yn hen gnawes
Ac ambell ferch go smart yn plannu cusan ar fy ngwefus
A deud fy mod i'n fachgen del - o neis, ac mor gysurus!
Ond na, mae un anfantais sy'n siwr o'm gwneud yn flin,
Be wnawn i heb fy smôc a pheint ac ambell botel win?

Morien Phillips


9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Syniad da

[Cymru 2125]

Oherwydd ei th?f roedd y Steddfod mewn trwbwl,
Aeth yn ormod o lawer i Gymru ...a Lerpwl.

A do, galwyd pwyllgor, lle gwnaed penderfyniad,
I fynd lan i'r gofod i geisio lleoliad.

Ond pwy a anfonid ar daith mor enbydus,
I sicrhau cartref i'r hen brifwyl hoffus?

"Robyn Ll?n, Robyn Ll?n,"clywyd rhywun yn bloeddio,
"Syniad da," meddai Gwynn ap Gwilym,"rwyn eilio."

Yn 2125 yn wan a chrynedig,
Roedd Robyn fe sylwch yn hen felltigedig;

Bu'n "Archdderwydd am Oes"ers myrdd o ddegawde
A Gwynn ap Gwilym eisiau'r job does dim ame.

Roedd hwnnw'n hen hefyd ac yn ddigon annedwydd,
Ond ni fynnai farw nes bod yn Archdderwydd].

Ta waeth, rhoddwyd Robyn mewn rocet yn Nefyn,
A'i saethu i'r gofod. Nis gwelwyd byth wedyn.

Ond mae'n od, er na ddaeth o yn ôl at ei bobol.
Bydd llythyrau o'i eiddo'n y wasg bron yn ddyddiol.

Dafydd Morgan Lewis


9 ½ Pwynt

Cywydd: Ymwelydd

Ger y llyn mae g?r llonydd
ger y llyn ar derfyn dydd;
a'i drem ef ar y d?r mud,
yno'n faban di-febyd:
g?r â stori'i fagwraeth
'nawr yn ddoe, yn wawr na ddaeth,
a hurtrwydd colli cartref
yn don hyd ei lygaid ef:
â'i gof alltud yn nofio
efo'r iaith, ymhell o'r fro,
yma am ysbaid, yn daid, daeth
i foddi'i etifeddiaeth.

Iwan Llwyd


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Ymwelydd

Daw hon gydag Awst o hyd
Yn goelcerth anferth ynfyd
I danio'r awch, daw yn rhu
O hyder dal-i-gredu.
Daw'n llawn dop fel t? Hopcyn*
O dalyrnfeirdd heirdd fel hyn,
Yn filoedd, yn bafiliwn,
Yn llys hael, yn lliw a s?n,
Yn llwyfan, yn fonllefau,
Yn gig hwyr nad yw'n gwacáu.
Ac wedi'r ?yl gedy ran
O'i henaid hi ei hunan.

*Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan, noddwr y Llyfr Coch

Huw Meirion Edwards


9 Pwynt

Limrig yn cynnwys 'Mi gefais Eisteddfod i'w chofio'

Mi gefais Eisteddfod i'w chofio,
Pwy oedd hi, dw i wedi anghofio!
Yn hwyr iawn nos Iau
Rhwng deuddeg a dau -
Mi gofia i os gwelai hi eto!

Lynn Davies


9 Pwynt

Limrig: Mi gefais Eisteddfod i'w chofio

Sgenai'm co' pwy gath ei gadeirio,
Ar y maes ni fues i'n crwydro,
Ond am ryw saith niwrnod
Mewn tafarn ym Meifod
Mi gefais Eisteddfod i'w chofio

Iwan Bryn James


8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Wrth y giât roedd arth o gi
Un hirgoes - mwy na corgi

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Wrth y giât roedd arth o gi
A'i wên yn fawr amdani

Englyn Cywaith : Siarad Babi

Yn llifeiriant y llafariaid, yn s?n
cusanau'r cytseiniaid,
i'w thir hi daw iaith o raid
o wefus ei hynafiaid.

Iwan Llwyd


8 ½ Pwynt

Englyn Cywaith: Siarad Babi

Yn stwyrian drwy'n babaneg, - yn chwilio
Rhych olau rhesymeg,
Ar ei dwf yn ara deg

Huw Meirion Edwards


9 Pwynt

Telyneg: Cartre

Fe glywaf, un eiliad ar deirawr y daith,
ryw gwlwm yn tynnu o rywle
pan fydd dy ffenestri'n fy ngwylio o bell
yn oediog ar riw Bryndiodde'.

Ac fel byddai'r da, yn rhes o Dan Llain,
yn treiglo drwy reddf at eu haerwy,
bydd rhaid yn fy llusgo dro eto drwy'r allt,
a rhaid at y clos, ac i'r trothwy.

Yn disgwyl amdanaf bydd breichiau dy ddrws,
a'r gegin fu gennyt yn galon;
ple bynnag y troediaf hyd lechi dy lawr
ni allaf ond sathru atgofion.

Os gynt yr esgoraist ti arnaf, ryw nawn,
a'm troi lawr yr hewl heibio'r onnen
a'm gyrru i gerdded aelwydydd y byd,
gwn bellach na thorrwyd y goeden.

(Pan fyddaf yn dod i lawr i Gastellnewydd Emlyn o Fangor, y mae hi'n anodd osgoi mynd yn ôl i'r hen aelwyd.)

John Gwilym Jones


10 Pwynt

Telyneg: Cartref

Byw'n hen yw dod i nabod
pob cornel tawel o'r t?,
y siffrwd-symud o'r unfan
drwy hen atgofion lu;

Y co' fel llestri'n deilchion
patrymog ar hyd y llawr
a stor?au'r malu hwnnw
yw'r un cydymaith nawr

Mewn lolfa lawn; traeth helaeth,
a phawb â'u heneidiau'n stond
yn aros, aros am ystyr,
yn gregyn gweigion; ond,

Ond yn y gragen honno
mae s?n sydd yn llenwi'r byd,
s?n chwarae, s?n symud dodrefn,
s?n t? sy'n chwerthin i gyd.

Dafydd John Pritchard


10 Pwynt

Pennill yn cydymdeimlo ag unryw dîm yng Nghwpan y Byd

Sori dros Loegr!!

W'annwl, mi deimlis... o do... do, mi deimlis...
Mi deimlis... i'r byw, deud y gwir...
Ar y pryd... gin i ofn... chwerthin wnes i...
Chwerthin... a chwerthin... am hir...
Ond rôl sobri... yn llythrennol... a meddwl...
Daeth yr ateb Svenyddol i mi...
Tro nesa bydd na draffarth o'r Smotyn
Ewch â Siwpyrted efo chi.

John Ogwen


9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU - 82

Pennill yn cydymdeimlo ag unrhyw dîm yng Nghwpan y Byd

O druan o'r Eidal yn ennill
Ac yn styried eu cwpan yn llawn
A hwythau heb guro y Saeson
Wnaethon nhw'm ennill go iawn.

Arwel Jones


9 Pwynt

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'a'

Mae rhin y mariwana'n
agor dôr rhwng drwg a da.

Cyri: speis, reis, cyw iâr a
naw nionyn a banana

Englyn yn cynnwys: 'Mae hud yr ennyd honno'

Â'r machlud wedi mudo dros orwel
i dir y sêr eto,
mae hud yr ennyd honno
yn ei gân, yn yr hen go'.

Limrig yn cynnwys 'Mi gefais Eisteddfod i'w chofio'

Mi gefais Eisteddfod i'w chofio,
Ble roedd hi? Dw i wedi anghofio!
Yn rhywle'n y De,
'Sdim ots nawr ymhle -
Fe ddaw i'r un lle rywbryd eto!

Wrth fynd i'r un babell â Waldo,
Mi gefais Eisteddfod i'w chofio,
Heb iddo f'adnabod
Derbyniais ei lofnod
A'r cofnod sy' gen i yw "Cofio".

Englyn Cywaith : Siarad Babi

"Dalia i frebliach fy mach-i, dweud dy ddweud
yn ddidyms a dwli,
ga-ga'n wir, fe gei gen i
atebion teletubbie".

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth odl ar yr odl 'a'

Mewn dillad parch uwch arch ha'
Yn dragywydd daw'r gaea'.

Nid yw dyn yn dweud 'da-da'
Os ydyw'n byw'n Rhiwbeina.

Englyn yn cynnwys y llinell '' Mae hud yr ennyd honno"

Mae hud yr ennyd honno - yn y cwm
Sydd rhwng cwsg ac effro
Yn afon sy'n gorlifo
A geiriau'r hwyr lond ei gro.

Ennyd o hud gaed yno, - yn gerrynt
O gariad; a heno
Ynghudd yng nghelloedd fy ngho'
Mae hud yr ennyd honno.

Pennill yn cydymdeimlo ag unrhyw dîm yng Nghwpan y Byd

'Ny Talwrn: World Series y Cymry,
Ail le sydd i rhywun o hyd
A'u (a'n / a'ch) cysur yw rhannu y llwyfan
Â'r tîm sy'n bencampwyr y byd.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.