Penrhosgarnedd v Bro Alaw
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn-derfynol o gyfres y Talwrn.
Penrhosgarnedd

Bro Alaw

Cwpled yn cynnwys y gair "papur"
Mor hylaw y daw bob dydd
Hen wae mewn papur newydd
Llion Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'papur'
Bodlonaf ar ddail tafol -
O raid, heb bapur ar ôl!
Arwyn Roberts
8 Pwynt
Pennill ymson wrth oleuadau traffig
Dwy letan...a phedwar tomato...
Mefus...a hufan...coes mop...
A thatws...'di golchi yn barod...
Be' arall o'n i ishio o'r siop?
Dau fatri...un stamp dosbarth cynta'...
Postio'r llythyr i gwyno i'r Urdd...
Be' ma hwn y tu ôl yn 'i hwtio?!
Geith ddau fys... O! ... ma'r gola' ar wyrdd.
John Ogwen
9 Pwynt
Pennill Ymson wrth oleuadau traffig:
Mae'r gola' yn wyrdd, nacdi oren, dam coch!
Dim otsh, troed i lawr, mi na'i mentro'i;
Gai weld yn y drych be'di'r lliw rochor draw -
Gola' glas, mae y diawl wedi nal-i.
John Wyn Jones
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "Does wybod a oes obaith"
Ar y graff mor gre' yw'r iaith, ar y glust
mae'n rhy glaf i'w hymdaith,
yng nghynnen ffuglen a ffaith
does wybod a oes obaith.
Llion Jones
10 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Does wybod a oes obaith'
Y mae mwy a mwy o waith - i ninnau
Ledaenu ein mamiaith
Heb chwys, heb ymateb chwaith
Does wybod a oes obaith.
Geraint Jones
9 Pwynt
Cân heb fod dros 20 llinell: FY MREUDDWYD FAWR
Peth anodd yw breuddwydio pan yn cysgu efo'r wraig,
A hithau'n chwyrnu dros y lle fel galarnadau draig!
Mae'r swn ar raddfa Richter ymhell o fod yn wan,
Yn wir roedd chwyrnu'r wraig yn creu daeargryn yn Japan!
Ond llithrais yn y diwedd i gwsg trwm heb boen na braw,
Pan deimlais flonden denau, dlos yn gafael yn fy llaw,
A'r byd i gyd mewn heddwch, ac y nein bur hoff bau
Roedd Blair a Bush yn canu 'o bydded i'r heniaith barhau',
A hyn wrth feini'r Orsedd, lle'r oedd dawns flodau lon,
John Prescott yno'n dawnsio yn ei tu-tu newydd sbon!
Yn cario y Flodeuged roedd Rhodri hollalluog
Yn arwain y Cynulliad, pob un mewn ffrog flodeuog!
A phasiwyd ganddynt yno deddf wirion iawn mewn hedd,
Sef cynnig dannedd gosod i hen geffylau gwedd,
Os oedd plant Cymru bellach yn cael eu brecwast rhad
Ond teg oedd i geffylau wrth fwyta gael mwynhad!
Pan deimlais frathiad ysgafn ar waelod fy nghlust dde,
Y flonden denau hyfryd oedd yn holi be 'di be,
Anghofiais am yr Orsedd, closiais ati'n ddiymdroi,
Wel dyna siom - wrth weld y wraig - yn chwyrnu fel y boi.
Morien Phillips
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Fy Mreuddwyd Mawr
Bûm yn China wsnos dwytha, piciad nes-i am ryw awr;
Cefais weled rhyfeddodau a gwireddu mreuddwyd mawr.
Roedd y bobl yn ail gylchu papur newydd i wneud caws;
Tost oedd melldan rhwng dwy frechdan, sudd hen sbectol yn gwneud saws.
I wneud paent rhoi croen hen banda am bythefnos mewn rhyw dun;
Dyna sut mae'r adeiladwyr yn cael drysau du a gwyn.
Gwastraff nionod yn gneud teiars, a reis trwchus yn gneud sment,
Pawb yn cysgu yn y ferfa i gael sbario talu rhent.
Croen bynanas fel pyjamas, cregyn anferth am bob troed,
Llwytho shafins maent i'r mulod - ffordd dda iawn o blancio coed.
Nid y wlad yr wy'n ei beio ond y têc-awê nos Lun;
Bwyd Sineaidd yn ail gylchu wnaeth fy nghadw ar ddi-hun.
Geraint Jones
8 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffordd
Fe ?yr i ba gyfeiriad
yr â â sglein ar draws gwlad,
a rhannu'r hen feidr honno
hyd y sowth, a'i dywys o
yn dyner, â thraed 'dani,
a hwyl ar ei chonglau hi;
newid gêr, fel dau gariad,
llond cae o ffrae a pharhad,
a rhyw reddf gywir o hyd
i addo a goddiweddyd
y gyrrwyr diog, araf,
a throi'r hewl yn daith i'r haf.
Iwan Llwyd
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffordd
Llygad am lygad yw lôn
Y bwli 'mhob helbulon
A phan yw'n cau'r dyrnau dur,
Yn labwst ar dy lwybyr,
Aros, a dos ffordd arall
Yn dy bwys yn gyfrwys gall.
Ond pan yw'n dod i'th frodir,
A than dy drwyn, dwyn dy dir;
Pan yw'th wlad a'th dreftadaeth
Dan ei ddwylo'n gwingo'n gaeth,
Tro yn ôl i'r heol hon
A dere'n ffordd y dewrion.
Richard Parry Jones
10 Pwynt
Limrig yn ymwneud a golchi llestri
'Tylwyth teg' sy'n y dwr gochi llestri
Byddai'n well pe baent yma'n eu golchi!
Y wraig sydd yn dweud
Mai fi sydd i wneud
Neu cha' i'm reid - yn 'i char hi
Lyn Davies
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â golchi llestri
Er prinder o dd?r yn yr ardal
A'r musus 'di mynd a fy ngadal
Rwy'n llwyddo er hynny
Mae Mot wedi dysgu
Y giaman i'w helpu reit amal.
Siân Owen
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yn araf iawn yr âf i
Heddiw, fel tawn i'n toddi.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn araf iawn yr âf i
I gar - fel iâr yn gori.
Englyn Cywaith - 'Glan'
Yn lli hallt ei hunlle' o, drwy'i flinder,
Mor ofer mae'n rhwyfo
Ar y dwr fel gwr o'i go'
 hon o'i gyrraedd heno.
Llion Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: 'Glan'
GLAN (yr Iorddonen neu'r West Bank)
Yn rhwydd at grud gwareiddiad - y nesâ'r
Un hen sarff, a'i bwriad,
Yr un ers bore'r cread,
Yn her o hyd i'n parhad.
8 ½ Pwynt
Telyneg : Pennawd
Heb enw yn nabod fy llygaid
darllenwn ddioddef y dydd
a gwibiwn rhwng gae a thrueni
mewn cell yn ddiberthyn o rydd.
Gwyliwn, ar sgrîn, hen obeithion
yn sarnu eu bywyd i'r baw,
fel mellt yn dawnsio'n fy ffenest
ond y daran yn sibrwd o draw.
Ni chlywais gyniwair un awel
yn goglais ymylon fy myd
nes holltodd tri gair at y galon:
mae'u poer ar fy wyneb o hyd.
John Gwilym Jones
9 Pwynt
Telyneg: Pennawd
"Cau Cartref Henoed"
Cyndyn o adael cartref oedd y dyn
ond troi tudalen lwyd oedd byw bob dydd,
ei hanes - hebddi hi - yn gymaint h?n
a'r gaea'n oer. Dim dewis ond rhoi'i ffydd
mewn sôn am fwyd a gwres a dillad glân
a lleisiau ffeind i atalnodi'r nos:
un ces, ei llun, a dagrau hen law mân
a'r drws yn cau ar bennod Tyddyn Rhos.
Ond gwên yw'r gwanwyn: lliwiau diwahardd
cyfeillion crwydro'r cof a chyntun pnawn;
diriedi 'taid' â'r plant dros wrych yr ardd
a'r gofal droes yfory'n ddalen lawn.
Bydd geiriau moel y pennawd papur bro
yn gymaint mwy na gwagio'i stafell o.
Siân Owen
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Richard Brunston
Rhywle 'nghanol Bae Colwyn - yn ei frys,
Mewn Mercedes sydyn,
Yn y gwyll, mewn du a gwyn,
Fe gipiwyd y Prif Gopyn.
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
Englyn ar y pryd: Richard Brunston
Ar wal siop y Prif Gopyn - y rhoddir
Y derwyddol glogyn,
A gwelir cyn hir fan hyn
Gadair a'r maen llog wedyn.
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Cynigion Ychwanegol:
Englyn yn cynnwys y llinell: "Does wybod a oes obaith"
"Does wybod a oes obaith", wel am lein
wel am lwyth o wrtaith,
mae hi'n sen ar yr heniaith,
yn sen, nad yw'n haeddu saith.
Gwn, rôl ymddeol o'r gwaith mai anodd
I minnau yr ymdaith,
I'r to sy'n dechrau eu taith
Does wybod a oes obaith
Limrig yn ymwneud a golchi llestri
Medd y wraig, "Gei di olchi'r llestri
Gan mai fi wnaeth y bwyd iti heddi"
Mi dorrais i'r lot,
Aeth y briodas i'r pot,
Ond mae'r tebot yn dal i fod gen i.
Ar yr amod mod i'n golchi'r llestri
Eu sychu a'u cadw yn deidi
Mynd i'r gwely am ddeg,
Ie wir, chware teg
Dyna'r adeg ges i fod yn Dadi!
"O'r mess!" bloeddiai Madge ar ei g?r,
"Mae'r peiriant ma'n gollwng! Mae'n si?r
i ti gawlo'r poteli
a rhoi un o'r tabledi
a gest ti at drwbwl y d?r "
Ateb ei g?r:
Rhois y llestri i mewn, a rhoi'r bilsen,
Ond y d?r ddaeth o'i waelod yn domen;
Do, fe gawles ddwy dabled,
Gan roi yn y soced
Yr un oedd i fod at fy mhledren.
Ond mowredd! Mae rhywbeth yn bod -
Mae 'nhu mewn i yn mynd ac yn dod:
Fe fydd fy hydrolics
A thu mewn fy apendics
yn lanach na buon nhw 'riôd.
Englyn Cywaith - 'Glan'
Wedi rhwygo drwy'r eigion â'r aradr,
drwy erwau'r peryglon
a hafnau'r cwysi dyfnion,
da gweld gwâr dalar y don.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'papur':
Heb farnu na pharddu
Pur ei brint yw'n papur bro
I'r oes hon syber a sur
Pennill Ymson wrth oleuadau traffig:
Coch a gwyrdd ac oren yn canol
Rhaid dweud wrth Rhodri, mae'n syniad rhyfeddol
Coch i ddeud na, gwyrdd i ddeud ia
Ac oren i benderfynu mewn tridia.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'Does wybod a oes obaith'
Hi yw warden ein heniaith - â'i hagwedd
Lugoer, gwna'r gyfraith
Siwrna fer yn siwrna' faith;
Does wybod a oes obaith.
Does wybod a oes obaith - i ninnau
Wneud englynion cywaith
Heb i'r Meuryn am unwaith
Â'i feiro gywiro'n gwaith.
Wedi mynd am gyfnod maith - efo'i merch
Mae fy mam-yng-nghyfraith
Does wybod a oes obaith
Fy mhlant, na ddychwelant chwaith.
Limrig yn ymwneud â golchi llestri
"Hei Duw", meddai Ned "dwi'n pendroni - ma'n nhraed i yn fwy na rhai ngwraig i"
Pam
"Mae'n syml y crinc"
Medda' Duw gyda winc -
"Fydd hi'n nes at y sinc golch llestri".
Mi fu'r gath 'cw yn ddygn iawn wrthi,
Nes i'r mab, rôl gweld rhaglen gan Dydli
Wneud findal? aflan -
'Roedd yn ormod i'r druan,
A r?an, rhaid i mi olchi'r llestri!
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

