Aberhafren v Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyn-derfynol o gyfres y Talwrn.
Aberhafren

Cwps

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair caeth:
Camp dodi gweledigaeth
o fewn lled un cwpled caeth.
Llion Roberts
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Caeth':
Ni wnâi gwn blant Beca'n gaeth
I glwyd arw gwladwriaeth.
Huw Meirion Edwards
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'Yfory'
Bydd fy nghelwydd, fy nghelu, bydd beiau
ddoe bywyd, pob methu,
fy oll wendidau a fu
yn fy aros yfory.
Rhys Iorwerth
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'yfory'
Y Llydaweg
Rhyw nant yw'r llifeiriant a fu - unwaith,
A honno ar sychu'n
Fain ddi-ddweud a'i llif yn ddu,
Yn aros glaw yfory.
Huw Meirion Edwards
9 Pwynt
Pennill ymson mewn labordy
Rwy'n tywallt tri diferyn,
i'r bicer hanner llawn,
a rhaid gofalu cynnwys tri
i'r arbrawf weithio'n iawn.
Dyna'r cyntaf... ail...a'r trydydd,
[rhaid wrth ofal mawr a dawn],
o diawch! dyna bedwerydd -
rwy'n si?r y bydd popeth yn... BANG!
Llion Roberts
8 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn labordy
(ymson un o g?n yr arbrofion)
Ai dyna pam y'm ganwyd i?
I lyncu drag ar ôl drag o'r ffag 'ma?
I brofi gwyrthiau'ch profion chi?
Ai dyna pam y'm ganwyd i?
I chi gael nabod angau ci
I'r dim, heb ddysgu dim ond ama?
Ai dyna pam y'm ganwyd i?
I lyncu drag rôl drag o'r ffag 'ma?
Arwel Jones
8 ½ Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell):
Cysgu'n hwyr
Roedd hi'n fore i'w anghofio yn Senedd Bae Caerdydd
a chyffro mawr ar gerdded, oherwydd dyma'r dydd
pan oedd Brenhines Lloegr a'i g?r i alw draw,
a'r cyfan wedi gyrru'r lle i banig ar y naw.
Roedd Dafydd Elis Thomas â choblyn o boen bol -
roedd ei arwyr ar fin cyrraedd .... a Rhodri yn a.w.o.l!
Y Prif Weinidog rywsut yn hwyr yn dod i'w waith
er gwaetha'r ffaith nad oedd o'n gwneud fawr ddim ychwaith.
Cyn hir cyrhaeddodd Lizi, a sefyll yno'n syn -
[dod yno i'w chyfarfod fu'n rhaid i Ieuan Wyn] -
'Phillip, oh good heavens, I think I've seen a ghost'
ebychodd ei Mawrhydi. 'Where ever is one's host?'
'Rwyf yma!!!' chwifiodd Rhodri, cyn rhuthro i fyny'r allt
yn amlwg heb drafferthu rhoi cribyn drwy ei wallt.
'I'm very sorry,' meddai, 'that I'm so very late'
fel tasai wedi trefnu i fynd â Liz am ddêt.
Eglurodd yn ei wendid mai'r traffig oedd ar fai,
'mae'n drwm,' esboniodd wedyn, 'wrth y gyffordd yn Nhrelái.'
Dim ond y fo na sylwodd, wrth iddo blygu glin
ei fod o mewn pyjamas yn cyfarch yr hen gwîn.
Rhys Iorwerth
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell) : Cysgu'n Hwyr
Pan welais Gwnhwyfar mewn caffi'n y Bala,
Yn eistedd yn dawel, yn yfed ei the,
Fe fentrais draw ati, er mwyn cael ei holi,
Be'n union a wnai hi fan yma'n y dre.
A oedd hi yn chwilio am Arthur ei phriod,
A glywodd ei fod o yn rhywle ffordd hyn?
Yn cysgu mewn ogof ar lethrau yr Arran
A llu o'i farchogion o'i amgylch yn dynn?
Ond cyn i mi ddechrau ar adrodd yr hanes,
Fe drodd hithau ataf a phoerodd yn gas,
"Na wfft iddo fo, ei Ford Gron a'i Galedfwlch,
Ei frwydro tragwyddol, a'i gowt, o fyw'n fras.
"A chithau y Cymry, mor ddwl a diniwed,
Yn aros amdano dros gyfnod mor faith
I ddod a'i farchogion i lawr o'r mynyddoedd
I adfer eich rhyddid ac achub eich iaith.
"Mae'r dyfodol a geisiwch yn eich dwylo eich hunain,
Na throwch mwy at Arthur, Duw'n unig a ?yr,
O gofio mor gas ganddo gynt glociau larwm
Mae'r diawl yn siwr ddigon o gysgu yn hwyr."
Dafydd Morgan Lewis
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwaith
[astronôtiaid y C?ps]
Mae na rai sydd yn taeru yn solet
Fod 'na fodau yn byw ar sawl planet;
Gan nad ydym heb ddowt,
Awn i'r gofod am sgowt -
Gwaith hawdd gan fod gennym ni Rocet.
Llion Roberts
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwaith
Fe wyddoch be ddwedir am flonden,
Cymerwch, er enghraifft, ein Dwynwen:
Dwy law i glapio,
Peiriant i farcio,
Ac wythnos o gwsg rhwng pob rhaglen.
Neu 'Pythefnos o gwsg rhwng pob rhaglen' os ydych chi am fod yn llythrennol gywir!)
Arwel Jones
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell):
Traeth lle lladdwyd Ben Bellamy, y bachgen o Abertawe
Mor wag ydyw'r bae rhagor;
nid oes mwy ond su y môr
yn diwel hyd ei dywod
bob gronyn fymryn o'i fod.
Ei lef ef sy'n llanw'r fan,
yn alaw leddf yr wylan,
yn gri agos ar greigiau,
yn fôr oer mor fawr ei wae.
Mae ôl crafangu olaf
yn barhaus ar dywod braf;
a'i enaid rhwng y twyni
liw nos sy'n ein galw ni.
Aron Pritchard
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Traeth
Un Sul o ha'n Ynyslas,
Un awr, a'r cof yn eirias
Am y gân dawela'n dod
O wely Cantre'r Gwaelod,
A hafau Aberdyfi
Wedi'u gwasgu'n un i ni.
Ninnau'n gwybod bod ein byd
Yn grwn ym mhlyg yr ennyd,
Wrth droi am orwel gwelwach
Heb weld, rhwng y cregyn bach,
Ôl ein traed ar lan y traeth
Yn oer dan don o hiraeth.
Huw Meirion Edwards
9 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yr hen gar sy'n ddarnau i gyd
A'r fonet ar y funud.
Ateb llinell ar y pryd:
Yr hen gar sy'n ddarnau i gyd
Yn gar ar fynd i'r gweryd.
1 Pwynt
Englyn cywaith "Tân"
[Blaenau Gwent]
Er diffodd fflach yr achos yno fu,
Drwy'r gweithfeydd cyfagos
A glywi waedd ardal glos
Yn adwaith o farwydos?
Aron Pritchard
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Tân
(Cafodd Llyfr Gwyn Hergest, llawysgrif o'r 15g. ac ynddi gasgliad o gerddi Dafydd ap Gwilym, ei difa gan dân mewn siop rhwymwr llyfrau yn Llundain yn 1810)
Er deifio'n farwor, Dafydd, - dawelwch
Y dail fesul cywydd,
Uwch tai'r nos 'roedd eos rydd
Yn hau dy gân o'r newydd.
Huw Meirion Edwards
9 Pwynt
Telyneg "Ofn":
Ar gae, mae gridiau main
Yn hollti'r gorffennol
Yn fap destlus.
Ac ar awel grasboeth Gorffennaf,
Clywir cân adar
A myfyrdodau myfyrwyr.
Fodfedd wrth fodfedd,
Ildia'r pridd ei drysorau prin -
Clwstwr o gerrig
Fu unwaith yn neuadd,
Darn o bair, bwcl arian,
Crochenwaith a mwydod,
Ac yna,
Ildia gorff pydredig.
Tewa'r adar,
Ac mae ias yn y gwynt
Wrth inni syllu'n syfrdan
Ar grechwen penglog,
Sy'n gwawdio'n diffyg deall.
Nid oes map destlus
Yn hollt y gorffennol,
Dim ond dyfnder annirnad
Diwedd dyn.
Awn yn ôl at ein pridd,
A chrafu'r wyneb.
Owain Rhys
10 Pwynt
Telyneg: Ofn
('April is the cruellest month...' Eliot)
Daw'r gwanwyn yn gynnar
gan ildio eto ei gynfas o liwiau;
y s?n cynnes o liwiau
sy'n gân gyfan. Ond cynulleidfa fyddar
sy'n eistedd dan hetiau'n y gerddi,
yn bythol syllu ar ddim sydd o'u blaenau;
does ond mwmial gwenyn a thincial cwpanau
te. Does dim sgwrs, dim rheswm, dim gweddi
hyd yn oed. Dim ond y llygaid duon
hwnt i'r croen sy'n sychu'n grimp, a heibio
i'r fan sydd tu hwnt i obeithio
ble mae'r dagrau'n sych eu golygon.
Dafydd John Pritchard
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Newyddion
Mi awn yno mewn ennyd o bwyso
Ein bys; mae cyfanfyd
Ar sgrîn, a'r gegin i gyd
Yn adlais o'n byw gwaedlyd.
Rhys Iorwerth
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½
Englyn ar y pryd: Newyddion
Mae'r eiliad groch amryliw'n ein hoelio
Cyn ei chwalu'n chwilfriw
Pan darodd penawdau heddiw
Yn inc llaith nes colli'i lliw.
9 ½ Pwynt
CYFANWM PWYNTIAU: 82
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair caeth:
I un â'i gof i ddoe'n gaeth
Nodwydd yw fflach dirnadaeth.
Ei her o grombil hiraeth
Yw cân yr aderyn caeth.
Englyn yn cynnwys y gair 'Yfory'
Ymson Merch
Wyf yn chwaer, yn fun i'w charu, yn fam,
Yn foment o rannu,
Os heno gwên hoeden hy
Wyf Forwyn Fair yfory.
Er ei oed, daliai'i gredu - y doen nhw
o hyd 'nôl i nythu,
ond daw'r elor yfory,
a daw 'For Sale' ar ei d?.
Limrig yn ymwneud â gwaith
Aeth Joni i'r ysgol gan gwyno
Wrth ei fam fod plant yn ei fwlio,
"Sai'n mynd!" oedd ei gri,
"Mae'n rhaid!" mynte hi,
"Achos Joni bach ti yw'r Prifathro!"
Yn eisiau: i lenwi swydd athro,
yr oriau'n rhagorol i'w gweithio,
y cyflog yn dda
a gwyliau drwy'r ha
ond yna - mae'n rhaid gallu cwyno!
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Traeth
Heno, y tywod llonydd
ydyw annedd diwedd dydd;
Llanw swil â llaw wen sy'n
osio'n nes, yn anwesu
'r hen gychod; dan gysgod gwyll
yn estyn lle bu cestyll.
Heno, â'r môr goleuni
yn llyfnhau'n heneidiau ni'n
dangnefeddus, rhown gusan
ein llofnod ar dywod dan
olau'r lloer, a hawlio'r lle,
i bara' nes daw'r bore.
Englyn cywaith "Tân"
Ein ffydd eto ddiffoddwyd, ond coeliaf
Nad celwydd mo'r freuddwyd;
Af â'r llwch yn farwor llwyd
Yn ôl i'r un hen aelwyd.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Caeth':
Natur pob democratiaeth
A geir yw ein gwneud yn gaeth.
Englyn yn cynnwys y gair 'yfory'
Heno, er i'r haul d'wynnu - yn euraidd,
Daeth oerwynt i grynu
Y dail; fe fydd cwmwl du
Yn fy aros yfory.
Limrig yn ymwneud â gwaith
Rhaid agor ein e-byst a'u binio,
Mae hynny yn para tan ginio,
Ac yna'n y pnawn
Hyfforddiant a gawn,
Mae'r dydd yn rhy llawn i ni weithio.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

