Tir Mawr

Tir Mawr

Bro Alaw

Bro Alaw

Cwpled Caeth ar ôl yr odl 'ics'

Yn y tñ bach, Weetabix
Wna¹n boenus, os yw¹n banics.

Myrddin Ap Dafydd


8 ½ Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'ics'

Llawn mor astrus â Ffisics
Yw dwy lein â'r odl 'ics'.

Geraint Jones


9 Pwynt

Penill Mawl/Dychan Gwasanaeth Ambiwlans

Hwre! i'r para-feddyg
Fe ddaw mewn awr neu ddwy
a'i wadin anti-sepdig
i wella briw a chlwy'
mewn mobeil hôm o safon
a golau ar ei tho
fel bwrdd draffd ar olwynion
Nî Nô Nî Nô Nî Nô Jos
9 Pwynt

Pennill Mawl / Dychan: Y Gwasanaeth Ambiwlans

"Am hanner nos ar Ynys Môn, un ambiw-lans fydd yno
Cynhelir ymgynghoriad i weld lle dylai barcio"
Mae Llanfair yn deud Pringyls, mae'n nes at Sbyty Gwynedd
Llangefni yn deud Pencraig, fa'na daw hi yn y diwedd,
Caergybi yn deud Holi-héd - fel i bob dim bob tro,
Porthaethwy yn deud Menai, Biwmarus yn deud Beau.
Mae Amlwch yn rhanedig, tydy nhw'm yn farus -
Rhai isio Mynydd Trysglwyn na'r lleill 'sio Mynydd Parys
Mae Undebau yr Amaethwyr yn prysur ddweud y drefn
Ac yn cynnig yn y canol rhwng Llanbabo a Charreg Lefn.
Ac mae'r Cyngor yn simsanu, wedi'i rannu'n ddeugain darn
- rhanedig fydd ein Cyngor hyd yn oed ar ddydd y Farn.
Ond mae cyfrifiadur anfarth wedi clandro'r dasg i'r fodfadd
A deddfu mae'r lle gora ydy Cemlyn yn y Gogladd
Oherwydd rhwng 'r ysbyty a thraethell pellaf Môn
Mae pob pentref ar yr ynys yn rhywle ar y lôn.

John Wyn Jones


9 Pwynt

Englyn yn dechrau â'r geiriau:'Er Nad'

Y ddiweddar Catherine Evans, Llwyn Onn, Bethesda fu'n gymwynaswraig hynod yn ei hardal. Oherwydd iddi gael ei hyfforddi'n nyrs, bu ar ei thraed drwy'r nos mewn llawer t? yng nghyfnod gwaeledd ac angau. Fe'i claddwyd yng Nghoetmor ar yr 17eg o Fehefin

.

Er nad yw'r enaid â oedd yn Llwyn Onn,
A'i lle'n wag, yng nghylchoedd
Ei rhoi gynt, fe ddeil ar goedd
O hyd, yr enaid ydoedd.

Gareth Williams


9 ½ Pwynt

Englyn yn dechrhau â'r geiriau: 'Er nad'

Er nad oes un awr nad yw ein doe ni'n
dod yn ôl i edliw
i ni'n brâd, fe gawn o'n briw
ruddin ein hyder heddiw.

Geraint Jones
9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Sioe

Aeth y sioe eto 'leni yn rhacsiwn, pan ddisgynodd y dyn parashi?t
i ganol yr hen geir hen ffasiwn a rhyddhau yr anghenfil o'r bwt.
Dihangodd y Gorgast o'r Lada i babell y 'Blewiach a Phlu'
a llarpio'r cwningod a'r gwydda', yr ieir a rhyw bethau bach du.
Daeth Marcsman y Sir, ac fe'i saethodd, ond hanner ei chosi a wnaeth
a'r filain, mewn poen, gynddeiriogodd, gan fyllio bron bedair gwaith gwaeth.
Brathu Llo Du wnaeth y Gorgast,a'i risio'i gyfeiriad y dre
a neidiodd yn syth mewn drwy ffenast y garafan Byrgyrs a the.
Y saim aeth dros ben Dafydd Glyn oedd yn bagio rownd ffyn efo trelar
a gwthiodd hwch fagu 'Pen Bryn'dan wichian o'r golwg i'r belar.
Fe saethodd fel bwled o'r belar wedi'w lapio mewn parsel o wair
a glanio, ynghyd a dwy heffar yn stondin y dyn pysgod aur.
Roedd Llywydd y Sioe wrthi'n 'nelu, fe'i drawyd gan dedi a phowlan
Ei ddart aeth ychydig lathenni, yn syth i dwll clust rhyw faharan.
Aeth hwnnw trwy'r gorlan fel dyrnwr gan nelu am fwlch ger y ffordd
mewn dychryn fe drawodd y waliwr ei wraig ar ei phen efo gordd.
O'i cheg aeth ei phibell a'i dannedd i ganol y gwelltiach a'r gwlan,
a'r petrol ger ble r'oedd yn gorwedd a roddodd y cwbl ar dân.
Y fflamau ledaenodd yn sydyn a methu a chredu oedd Sam
taw oll oedd yn weddill o'i fochyn oedd carnau ac arogl ham.
Rhaid diolch i w?r Llanddaeargryn am drefnu y sioe amaethyddol
Cawn weld beth a ddaw 'mhen y flwyddyn - mae hon yn ddigwyddiad flynyddol.

Jos


9 ½ Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Sioe

Wrth gael dau ben blwydd y flwyddyn,
Nain sy'n gant a chwe deg oed;
Dyma benderfynu trefnu
Y sioe orau fu erioed.

Bois ar dôl a ddaeth i beintio
Ffrynt y t? yn goch, glas. gwyn;
Milwyr yn eu hetiau blewog
Yn y cowt yn toddi'n llyn.

Ond roedd Taid 'di bod yn slotian
Ers ben bore, ac mewn stât,
'Roedd y geiriau'n cau dod allan,
Cerddai fath a cranc ar giât.

'Roedd y band yn haeddu seibiant
'Rôl perfformio am dair awr
Yn yr egwyl, clywsom ergyd
Pan oedd Taid yn plygu'i lawr.

Diwrnod Nain i rannu lliwiau,
Diwrnod Nain a'r sioe fawr ddrud,
Diwrnod Nain ar ben blwydd arall.
Ond aeth Taid a'r sylw i gyd.

Geraint Jones


9Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bro

(Llithfaen, ar ôl colli dau hanesydd lleol: Ioan Mai a Gwyn Plas)

Dwy chwarel wag sy¹n agor
mynwentau maen at y môr;
haearn gwaith a¹i gancr yn goch
yn g?n a gwayw ynoch
am mai rhwd cymeriadau
ydi o. Wrth golli dau,
naddwyd ein cof ni heddiw;
tyllau¹r lleisiau, gwacter lliw
sydd ar wyneb; heb ei hel,
hen arabedd sy¹n rwbel.
Mae hi¹n wag, ond er mai nos
yw¹n awr, mae¹r graig yn aros.

Myrddin Ap Dafydd


10 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Bro'r Barcud Coch

Atgof yw'r wybren waetgoch
Wedi cyrch y barcud coch
Ei fod eto'n hawlio'n ôl
Diroedd ei wlad frodorol.
Hawlio hyd at Benfro bell
A Phenrhyn Ll?n mewn llinell
Hawlio cael ail ffurfio ffin
Hynafol ei gynefin.
A hawlio wrth ddychwelyd
Groeso'n ei henfro o hyd
Ond acenion estron yw
Eiddo'i edmygwyr heddiw.

Richard Parry Jones


9 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â Boddi

Ni chafodd 'na neb,yn anffodus
r'un geiniog ar ol yr hen Emrys
Wedi'w lusgo o'r sinc
yn ei glôs roedd yr inc
wedi rhedeg ar hyd ei ewyllus

Jos


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â boddi

Bu'r gath ryw dair eiliad cyn boddi
A'r ci am bum eiliad, a'r byji,
A'r ddwy wraig, rwy'n cofio,
Heb syniad am nofio, -
Mae'r drydedd fel corcyn rwy'n ofni.

Arwyn Roberts


9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ni bu 'rioed y fath briodas
Cwîn Hawaï gyda'i gwas.

Huw Erith

Ateb llinell ar y pryd:

Ni bu 'rioed y fath briodas
Fi a hwn - y cacwn cas!
1 Pwynt

Englyn Cywaith: Unrhyw Lyfr

(Dyddiadur)

Yn un â'n gobaith ninnau, yn Ionawr
daw hoen i'w ddalennau'n
inc y cof, ond fel mae'n cau
yn hen ?r prin ei eiriau.

Gareth Williams


10 Pwynt

Englyn Cywaith: Unrhyw Lyfr

"The Long Walk to Freedom" - Nelson Mandella

O'i gur fe naddwyd geiriau - ac o'i waed
Fe godwyd brawddegau
I groniclo rhwng cloriau
Ymbil hil dros ei rhyddhau.

Richard Parry Jones


9 ½ Pwynt

Telyneg: Lludw

Lludw

(Wncwl Wil, Pantyffynnon)

Bwcedaid arall yn y bore rôi
Ar lwybr pridd yr ardd, ar ôl cael tân
O¹i gwsg, a chlosio¹r tegil harn a ddôi
I¹w wres uwch llond y grât o gnape mân;
Dishgled cyn mynd ar shifft y ffâs gâi o
A llond ei frest o wynt y bore gwyn
Wrth weld y gwlâu y bu¹n eu dodi ¬ rhoi tro
A barnu¹r cino-bêns a chrensian chwyn.
Mi dyngai uwch ei gynnyrch cartref fod
Na ynni dirgel yn y marwor llwyd
Rôi nerth, rôi faeth, gyda throad rhod:
Glesni i¹r gwlydd, ac ar ei ford, rhoi bwyd.
Roedd hyn cyn cornel fach yr hances goch
A dim ond lliw y rhaw ar rychau¹i foch.

Myrddin Ap Dafydd


9 ½ Pwynt

TELYNEG: Lludw

Arwr, ai dyma dy dynged:
ti, dân delfryd a dyhead
yn llwch anghofrwydd?

Ynteu, a fydd llwyth yn eu lludded
yn hogi bwyeill ar dy hanes
a'th gofio yn goelcerth rhag nos?

Ar gyrion y tylwyth,
prin yn cydnabod plethu gwaed,
bydd llanciau meddw ar dy orchest
yn codi cestyll yn eu calonnau
ac yng nghlecian y ceinciau gwyrddion,
byddi byw tu hwnt i'r bedd.

Â'th stori hir ar ddarfod
a'r plant ar riniog cwsg,
bydd fflamau ddoe
yn ddeigryn ar rudd y plygain.
Y wawr ar lafn cyllell
a'r mamau'n cydio'n dynn
yn arwyr y dyfodol.

Y rhai bach, â'u dydd ar dorri,
a gyfareddir gan drysor y marwor:
cleddyfau a thorchau a thlysau
fel gwibfeini ar gof llwyd eu babandod.

Aur breuddwydion, arwr,
yn lludw'r bore.

[Cafodd hon ei hysgogi gan hanes Beowulf - lle maen nhw'n llosgi corff marw'r pennaeth mewn coelcerth angladdol - a'r syniad, er bod yr arwr bellach yn llwch, bod cofio amdano yn fodd i genedlaethau o'i ddisgynyddion gadw'r fflam ynghyn a cheisio codi uwch lludw beunyddioldeb.]

Siân Owen


10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Wayne Rooney:

Bye-bye'n awr i'n baneri - rhoi y bai
Ar y byd a wnawn ni,
A chaeth nerth i'n gwlad chwâl ni
Yn nhirionwch Wayne Rooney.

Myrddin ap Dafydd


8 Pwynt

CYFANSWN PWYNTIAU: 83

Englyn ar y pryd: Wayne Roonen

Dyddiau llwm, dydd Sul, dydd Llun - y magwyd
Edmygedd diderfyn,
O'i ddawn ef, mae'r ddau yn un
Mae'n artist ac mae'n hurtyn.

Geraint Jones


9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth ar ôl yr odl 'ics'

Gwisgai Tracey¹r Dirty Dics
Rybyrs yn yr aerobics.

Ni chawn neb sy'n lluchio'i nics,
Yn ffan i'r Stereophonics.

Nid oes gro, na bro na brics
Na ffiniau a ddeil ffenics.

Penill Mawl/Dychan Gwasanaeth Ambiwlans

Croesi'r swnt am hanner awr
Griddfan rydwyf ar y llawr,
Glanio ar yr ynys hud,
Galw'n wael o bendraw'r byd.

Ffon symudol naw, naw, naw,
Fe gawn eto gadw'r rhaw,
Gwaredigaeth ar adenydd,
Ar olwynion o Uwchmynydd.

Mi ddo'n ma siwr
Mi ddont ma raid,
Peidiwch a phoeni
Taid, Taid, Taid.

Na ddo'n nhw ddim
Am bres mae'n fain
Be wnawn ni rwan,
Nain, Nain, Nain.

At gleifion sal fe ddawn
drwy olau coch a bariar
yn sydyn, sydyn iawn
ond ddim mor chwim a'r ffariar

Englyn yn dechrau â'r geiriau:'Er Nad'

Er nad oedd angor i¹n dyddiau ¬ yr oedd
Yr hwyl ar ein teithiau¹n
Wyn ac yn dynn; dawnsiai dau
Ar eu dannedd drwy donnau.

Er nad yw'r gwir yn oedi - yma'n hir,
Ym mon hesb ei welwi
Mynnwn annog ei grogi
O glegyr ein hanwir ni.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bro

Gwayw'r hwyr sy'nghrafu'r gro
A Neigwl yn Seisnigo;
Newid iaith mae murmur d?r
O achos newid cychwr.

Oesau'n byw yn iasau'n bod,
A'n tai ar seiliau tywod;
Chwarae ton ar ddrych o'r tir
Yn y gwyll, byw'r hyn gollir.

Briw o hyd yw'r ha'n byrhau,
Nid co' heb nabod caeau;
Ond curiad ei haceri
Ydyw rhod fy ystyr i.

Limrig yn ymwneud â Boddi

R'ol tychan yn erbyn Taiwan
ac ail dîm pensiynwyr Swdan
Mi dorra'i fy nghalon
o weled y Saeson
yn boddi wrth ymyl y lan.

Fe wyddai ei fod o'n ffarwelio
a fyntau tua'r dyfnder yn plymio
Ond daeth at ei hun
a sylwi fod un
o'i boteli dwr poeth wedi byrstio

A'r flanced ar wyth deg ag un
wedi'w lapio mewn naw 'Llanw Ll?n'
a'r gwely yn chwilboeth
fe'i cafwyd o dranoeth
'di boddi yn hylif ei hun

Fe ddeffrodd a hithau ar foddi
yn laddar o chwys ac yn gweiddi
Wedi cysgu roedd Sian
yn rhy agos i'r tân
ac un o'i sîb?ts wedi toddi

O'r bad roedd aelodau y cor
wedi claddu eu ffrind yn y môr
Ni wnai unrhyw gyffro
na helynt ei ddeffro
a boddi'n ei gwsg a wnaeth Sior

Yn y cwest i farwolaeth y dyn
medd y Crwner ben bore ddydd Llun
"I found in his bed this man to be dead"
Wedi marw yng ngwely ei hun !

Dwy nyrs ar ei 'sgwyddau yn pwyso
Roedd Gwil ar y gwely yn gwingo
Yn nofio mewn chwys
yn llewys ei grys
a'r doctor a'i fys yn ei drwyn o

Englyn Cywaith: Unrhyw Lyfr

Llyfr: ŒCrefftwyr Gwlad¹, J. Geraint Jenkins (a ddarllenais yn ystod Mai/Mehefin 1972)

Rhan o lewyrch yr hen lawiau ¬ a gawn,
A gwynt arholiadau
Ddoe yn oer, cael hen ddawn iau,
Cael addysg yn y cloddiau.

Telyneg: Lludw

O grombil dwfn daw ffrwtian eirias
A gwyd yn uwch a ffrwydro'n wynias,
Berwi trosodd yn wenwynllyd,
Afon ddeifiol sydd yn dwgyd.

Hesb ei anian wyneb garw,
Brau ei ansawdd, hir ei ddial,
Yn dal i gofio'r llif fel grisial.

Ar y graith daeth gwlith a'i berlau
I roi sglein a gwneud ei orau,
Ond yn chwa yr ymadawiad
Daeth yn adeg codi hediad.

Cynigion ychwanegol:

Y ffasiwn yw gwneud Ffisics
Neu Cem, i gael swydd yn Cwics.

Y mae sôn fod MI6
Yn frwnt tu hwnt eu hantics.

Pennill Mawl / Dychan: Y Gwasanaeth Ambiwlans

Coch, gwyrdd, gwyrdd, coch
Coch, gwyrdd, gwyrdd, coch?
Dewis, dewis, dau ddwrn
Pa 'run gymrai ond .........hwn

Nid lle da' ni'n byw na be sydd yn bod
Sy'n diffinio'r gwasanaeth a gawn
Ond anallu'r gweinidog cyfrifol
I bwyso y botwm bach iawn.

Englyn yn dechrhau â'r geiriau: 'Er nad'

Er nad yw'r mab 'n ei nabod - daw y tad
Ato ef bob diwrnod
I'w un bach, mae'n mynnu bod,
Yn ysgwydd ac yn gysgod.

Er nad oes fêr i'n gwerin - na'r un gred
Na'r un grym cyffredin;
Deil y gwraidd, er braidd yn brin,
I roddi maeth i'w rhuddin.

Limrig yn ymwneud â boddi

Yn agoriad swyddogol pwll nofio
Fe neidiodd y maer o'r fainc blymio
Nid y deifio ffantastig
Ddaeth â'i ddiwedd anhymig
Ond agor ei geg i areithio.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.