Y Sgwod v Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn-derfynol o gyfres y Talwrn.
Sgwod

Cwps

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pryder'
Daw yr awr a'm pryder i
yn nes pan mae hi'n nosi.
Geraint Roberts
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair Pryder
Er lleuad fwyn a swyn ser,
Hir ydyw nos pob pryder.
Iwan Bryn James
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Y mae ynom'
Y mae ynom un mynydd - sy'n aros
i'n herio o'r newydd
a phob heol o'r dolydd
i'r copa yw'r sertha' sydd.
Geraint Roberts
Englyn yn cynnwys y geiriau "Y Mae Ynom"
Ynom ers saith can mlynedd - mae 'na wyrth,
Mae 'na waed hirhoedledd,
Ac er byw ar gwr y bedd
Y mae ynom amynedd.
Iwan Bryn James
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Gwleidydd
Mae rhain o hyd yn addo,
O hyd o hyd yn addo,
Ac addo maent o hyd o hyd,
Ac maent o hyd yn addo.
Roy Davies
9 Pwynt
Pennill mawl/dychan gwleidyddion
I Dafydd Morgan Lewis
(mawl un : dychan mil)
'Mysg rhengoedd uffurf senedd ddof a phlaid
a'u hiaith 'di thorri'n dlws fel blodau seld
mae un mewn lifrau braf sy'n camu'n groes,
ei iaith yn chwalu'r drefn a'i eiriau'n gweld.
Arwel Jones
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Brofedigaeth
Roedd menyw bert ryfedda 'di colli'i g?r pa ddydd,
wrth gwrs, 'da bod e'n cwympo, daeth hi yn fenyw rydd,
a phan o'wn i yn ifanc rwy'n cofio dweud wrth Mam
os fyddwn i'n priodi, mai gwidw o'wn i am.
O'r diwedd, dyma widw, un bert o bryd a gwedd
a'i g?r hi ar ei siwrnai i lawr i bwll y bedd,
a gan fod hithau'r widw yn unig wrth ei hun
es ati i'w chynorthwyo mewn hast i gladdu'r dyn.
Fe drois y bachan heibio a'i roi mewn siwt bespoke
i orwedd ar ei gefen mewn coffin polished oak.
Fe leines i ei goffin â defnydd crêpe-de-chine,
gobennydd wrth ei wegil a chwshin dan ei dîn.
Er mwyn ei berarogli, archebais, dros y ffôn,
i'w rhoi tu ôl i'w glustiau, ddrops o eau de Cologne,
fe geisiais golli deigryn ac edrych braidd yn syn,
ond teimlais ryw ecseitment wrth sgriwio'r clawr yn dynn.
Bu'r angladd bnawn dydd Sadwrn ac, erbyn saith nos Lun,
ro'wn i am ddechrau caru â'r widw hardd ei llun.
Ond ma hi yn pallu - mae'n gweld hi'n bach yn glou,
ond rwy'n cael hwpo'i throli yn Tesco bob dydd Iou.
Roy Davies
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell) : Y Brofedigaeth
(Gan gadw mewn côf yr elfennau annifyr hynny sy'n perthyn i rai o gefnogwyr peldroed Lloegr).
Rwyf wedi hen ddiflasu ar berthyn i'r di-lais,
Heno, rwyn newid ochr. Ymunaf gyda'r Sais.
Cefnaf am byth ar Gymru, a nodau pêr fy mro,
Gan weiddi yn aflafar, 'Here we go, Here we go, Here we go.'
Hedfanaf draw i'r Almaen, gwlad anwar dros y môr,
Gan chwifio â gorfoledd, hen faner falch San Siôr.
Bydd ysbryd 'Bonber Harries i'm tywys dros y don,
A brwydr fawr El Alamein yn tanio tan fy mron.
Lloegr ddarganfu ffwtbol. Yr ?m ar bawb yn drech,
Ac yng nglust y sawl anghofia hyn, fe waeddwn, 'Chwedeg Chwech.'
Os meiddia neb ein curo ar gicio a sgorio gôl,
Bydd trefi glân yr Almaen yn llanast ar ein hôl.
Ni fedrwn byth anghofio gampau'r Ail Ryfel Byd,
A chawn atgoffa'r Ellmyn mai ni sydd ben o hyd.
Erys un brofedigaeth, er bod ein byd yn wyn,
Ofnaf mai fi a'm ffrindiau ffôl yw'r Ffasgwyr erbyn hyn.
Dafydd Morgan Lewis
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chanu
Ni welais mohono'n cystadlu
ond yno y mae o, serch hynny,
a rhaid yw cydnabod
na fu neb mewn Steddfod
mor hynod â Chythraul y Canu.
Harri Williams
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â chanu
Doedd dim awydd steddfota ar Gwenlli
Ai brawd hi'n cael sbario am 'leni
Aeth draw at ei mam
A'i cheg fach yn gam
A dweud fod ei llais hi 'di torri.
Arwel Jones
8 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Cymwynas
Unwaith bob pedair blynedd
y dof fi a holi am hedd,
dwad o floeddio'r stadiwm
yn s?n traed y Saeson trwm
i ofyn nawdd gan fy Nuw,
(Ceidwad y ciciau ydyw).
Chwyth ei chwiban o'r anwel,
heibio i byst danfona'r bêl,
rho air wna'i Loegr wyro
o chwe deg chwech deg ei cho';
a'i law union eleni
rhag Cwpan, arbeda ni.
Karen Owen
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gofyn Cymwynas
(Mehefin 2006)
Yn Aber ar hanner ha'
Ein tôn yw Rule Britannia.
Crysau'n sioe a'u croes San Siôr
Yn rheg yw'n strydoedd rhagor,
A'r un groes ar hen geir hy
Yn faner bys-i-fyny.
Ar wynt main y dwyrain daw'n
Ddidostur drwy'n ffyrdd distaw,
Daw'n groesgad i'n goresgyn,
Yn sgrech groch o goch a gwyn.
Dwed y caf fy haf, Dduw hael,
Ym Medi'r hir ymadael.
Huw Meirion Edwards
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Yn amen fy ymennydd
Duw a ?yr pa synnwyr sydd.
Ateb llinell ar y pryd:
Duw a ?yr pa synnwyr sydd
I sawl lob o sylwebydd.
1 Pwynt
Englyn cywaith: Buddugoliaeth
(America a'i chynghreiriaid yn Irac)
Pa bris dymchwel y ddelw - a'i llorio
mor llwyr ac yn ulw?
A ?yr y miloedd meirw,
yn eu hun, o'u holi nhw?
Dafydd Williams
8 ½ Pwynt
Englyn Cywaith: Buddugoliaeth
(I Tanni Grey Thompson)
Yn arena yr ennyd dilynais
d'olwynion yn symud
a'u dur yn gyhyr i gyd,
yn iach rhag pob afiechyd.
Dafydd John Pritchard
9 Pwynt
Telyneg: Gwyrth
Er bod mis Tachwedd arall
yn cloi'i gymalau'n dynn,
fe ddaw y garddwr hirben
i balu tir y chwyn
a phlannu yno ei obaith mud
y gwêl fis Mai yn flodau i gyd.
Oherwydd g?yr y garddwr
nad oes gorffwyso i fod
am mai ymaflyd cyson
â'r pridd sy'n troi y rhod,
a gwêl, 'rôl dadmer daear wleb,
gohirio'r gwanwyn, ni all neb.
Karen Owen
9 Pwynt
Telyneg: Gwyrth
Gwyrth (I Tomos Mabon, fy nai, a anwyd pan oedd fy mrawd yn brwydro â salwch difrifol - nid am y tro cyntaf)
Yn y saib sydd rhwng nodau,
y mymryn llonyddwch
sy'n sioc o dawelwch,
mae s?n cyfrinachau;
neu heulwen ar flodyn
yn dwym ei chyffyrddiad,
ac yn lliwiau addoliad
wedi cawod fach gyndyn;
ond ar wenau dy gysgu,
a'th fysedd bach perffaith
o dan gwrlid pob noswaith
y mae'r byd yn rhyfeddu.
Dafydd John Pritchard
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Mwg
T? Unnos
ar hast i dir y rhos, - ac yno
gynnau'r marwydos,
Yn fflam wâr, a hi'n aros
Ym mawn ein hiaith, mewn un nos.
Dafydd Williams
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Englyn ar y pryd: Mwg
Ein heliwr a'n hanwylyd - ei ryddhad
A rydd hwn yn ddedfryd,
Ein cur sy'n gysur i gyd,
Ein cyfaill a'n tranc hefyd.
Huw Meirion Edwards
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pryder'
Dod ar ras mae 'mhryder i
a dod o hyd i oedi.
Ni raid i ddig na phryder
fod benyd un funud fer.
Heb bryder y priodais,
yn rhy hwyr edifarhais.
O briodi cei bryder
nosau fyrdd dy einioes fer.
Pennill Mawl/Dychan: Gwleidydd
Awdurdodi maent ar bopeth
addysg, ynni, iechyd, tai,
gwybod dim sy'n eu nodweddu
a chymwysterau lawer llai.
Pan ddaw lecsiwn, ga' i eich pleidlais?
gonest ydwyf, ar fy llw,
ond mi faswn i mor hapus
yno'n un ohonyn nhw.
Canmolwn yn awr ein gw?r enwog
A'u hyblyg feddyliau di-feth,
Eu doniau amryddawn nodedig
A'u gwnant yn awdurdod pob peth;
Na chwynwn ni, isel lwch daear,
Ein pleidlais a gawsant mor rhwydd,
Os angof ein cri am achubiaeth,
Nyni roddodd iddynt eu swydd.
Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Brofedigaeth
(llithriad gan GLO wrth gloi un o'r rhaglenni o Goed y Bryn, Ceredigion)
Rai wythnosau'n ôl, yn erbyn Ffostrasol,
ar Dalwrn y Beirdd, y Glêr fu'n fuddugol
ac wrth eu llongyfarch ar ddiwedd yr ornest
fe roddodd ef, Gerallt, ddatganiad anonest:
fe dd'wedodd ar goedd wrth bawb oedd yn gwrando
gan awgrymu canlyniad yr ornest 'ma heno -
"Y C?ps fydd yn erbyn y Glêr," meddai'r Meuryn,
a'r gyfres am 'leni yn tynnu tua'r terfyn.
Doedd Gerallt Lloyd Owen erioed wedi meddwl
y gwnâi siarad fel hyn ei arwain i drwbwl.
Fe ?yr pawb mai cynnyrch Y Sgwod ydi'r gora,
ond mi gawn ni weld beth ddywed y marcia
ac, os dwedith o mai Y Cwps sy'n rhagori,
mae'n amlwg fod twyllo yn rhan o farddoni.
A mawr brofedigaeth fydd hynny i'r rhaglen -
gweld Brenin Cynghanedd a Cheidwad yr Awen
yn cael llythyr drwy'r post o Fryn Meirion, Bangor
yn dweud nad oes angen ei gymorth ddim rhagor,
a Thalwrn y Beidd mewn sachliain a lludw
oherwydd fod rhywrai yn ceisio gwneud elw.
Limrig yn ymwneud â chanu
Llais uchel sydd gan bob soprano
a thipyn yn is yw contralto,
a'r cywair yn disgyn
ni'r dynion ddaw wedyn;
ond wn i ddim lle mae castrato.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Cymwynas
(hen enw'r ardal ar fwlch Aberglaslyn)
Trwy'r Gymwynas rhed Glaslyn
hyd 'Nysfor a'r môr, a myn
rhai fod yn nyfnder ei rhu
enaid ar daith sy'n synnu
gweld tros orwel ffarwelio
a dyddiau a bryniau bro
ehedydd. Daw dydd ei dod
o'i dwndwr i'r syfrdandod
pan glyw gysur murmur môr
a'r eigion, a g?yr rhagor
gyfaredd diwedd y daith -
hen don na ddaw ond unwaith.
Rho alwad adre', Dadi,
a chei weld fy salwch i;
dere i weld mor dost yr wyf,
y nodwydd o boen ydwyf,
uffern yw byw heb gyffur
a'i lafnau fel darnau dur.
Un her ddoe oedd fy rhyddhad,
un her yw fy ngharchariad,
yn oferedd fy ngweddi
y niwl sy'n fy nghynnal i.
Yn fudan yn fy llanast,
dere draw, adre' ar hast.
Telyneg: Gwyrth
A welaist ti y cwpan
sy'n cuddio yn y berth?
Mae'n llawn o berlau gloyw,
tybed beth yw eu gwerth?
Mae dau ar wyliadwriaeth
ddiflino nos a dydd
yn aros am arwyddion
deffroad yn y gwydd.
Mae'r perlau drud yn deilchion
a gwag yw'r cwpan hud,
ond gwyrth ar adain ieuanc
sy'n canu uwch ei grud.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair Pryder
Y drws ar fy mhryder i,
Yn nhes Gwales nis gweli.
Englyn yn cynnwys y geiriau "Y Mae Ynom"
Yn awchu am gri'r Cychwr, - yn aros
Yr awr y caiff fwrw'r
Llafn a gwyd holl ofnau g?r,
Y mae ynom Grymanwr.
Y mae ynom ddawn Homer - i greu byd
 gair bardd o'r gwacter,
I greu'r wyrth, nes syrth y sêr,
Wna baradwys o'n breuder.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

