Aberhafren v Gler

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.

Aberhafren

Aberhafren

Y Gler

Y Gler

Cwpled caeth yn cynnwys "ofn"

Yr ofn nad wy'n ei ofni
yw'r un sy'n fy nychryn i.

Rhys Iorwerth


9 Pwynt

Cwpled yn cynnwys y gair 'ofn'

Nid yw ofn ond y dafnau
Sy'n dod cyn i'r gawod gau.

Osian Rhys Jones


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau "nid wyf"

(Tad wrth ei blentyn)

Am fy mod inne'n serennu - ynot,
a'th wên yn pelydru
dy hwyl drwy wagle'r hen d?,
nid wyf am iti dyfu.

Aron Pritchard


10 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'nid wyf'

Yn ifanc, yn eithafol - o newydd
Roeddwn i'n wahanol ...
 mi'n h?n af am yn ôl,
Nid wyf o bwys i'r dafol.

Eurig Salisbury


9 Pwynt

Pennill ymson mewn cwch

Mae'r cwch 'ma'n drwm i'w rwyfo -
Wel diawch, mi welaf dwll
Drwy'r hwn y llifa'r d?r i mewn
Nes troi y cwch yn bwll !
Ond nid wyf fi'n pryderu,
Daeth ateb i'm ar ras,
Mi wnaf ail dwll yn llawr y cwch
I'r d?r gael mynd nôl mas!

Llion Roberts


8 ½ Pwynt

Pennill Ymson mewn cwch

(adeg cwpan byd)

Roedd s?n ym Mhorth Dinllaen, s?n baneri'n codi,
Scousers yno'n gwichian, Lineker yn gweiddi,
Ni fynnai aros adref yn fy myw,
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Fflat Huw Puw yn hwylio heno,
s?n codi angor, ma' rhaid 'mi fynd i forio,
Mae s?n enw Rooney ar fy nghlyw,
Plîs ga' i fynd a dianc nawr ar Fflat Huw Puw?

Hywel Griffiths


8 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell):

Yr Argyfwng

Er cystal yw pob Talwrn,
ni fu un yn fwy o fwrn!

Dyddiau hir yn diodde' aeth
ar ddeunydd fy marddoniaeth,
heb allu sgwennu, druan,
yr un gair na darn o gân.

Yn fileinig, diflannai
o'm pen f'awen yn ddi-fai.
Cwynwn, rhegwn, a rhoi rheg
a chwyno yn ychwaneg
fesul awr heb fawr o fudd,
a'r gân nid oedd ar gynnydd.

Dynesai hast y noson;
mae bardd a bardd yn y bôn -
rhai â'r ddawn i farddoni,
rhai'n cymryd sbel, fel y fi!

Un ornest o dalyrna
heno ddifethodd fy ha'.
Argyfwng gwir a gefais -
hyn yw bardd yn codi'i bais.

Rhys Iorwerth


8 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Yr Argyfwng

Rhyw filltir neu ddwy o Lanfair Pwll
Mae'r iaith Gymraeg yn sownd mewn twll.

Clywyd gweiddi mawr a chwyno di-ri
Gan feirdd a chantorion, enwogion o fri.

Deialwyd Caernarfon, one nine six nine,
Ond roedd yr Heddlu Iaith ar eu gwylie yn Sbaen.

Daeth Cymdeithas yr Iaith i daflu rhaff
Ond bwriwyd nad oedd honno yn ddigon saff.

A daeth Deddf Iaith â'i hysgol urddasol
Ond roedd honno yn un wan uffernol.

Ffoniwyd am hofrennydd Bwrdd yr Iaith
Ond daeth hwnnw i lawr ar ganol ei daith.

Yna gwaeddodd rhywun am Feibion Glynd?r
Ond amhosib yw llosgi'r un twll, mae'n si?r.

Galwyd Cynulliad, ond och a gwae,
Roedd hwnnw ei hunan mewn twll yn y Bae!

A hyd heddiw mae'r iaith yn sownd mewn twll
Rhyw filltir neu ddwy o Lanfair Pwll.

Yr unig obaith bellach i'r iaith yw Duw,
Gyda 'chydig o help gan Alun Pugh.

Iwan Rhys


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â darllen

Wrth ddarllen pêj ffôr yn y 'Sun'
Mae hi'n goblyn o anodd, wir, myn
Jiawl gweld y geirie
Gan wybod bod hithe
Yn aros tu ôl, yn ynd?n!

Owain Rhys


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â darllen

Wrth ddarllen pêj ffôr yn y 'Sun'
Mae hi'n goblyn o anodd, wir, myn
Jiawl gweld y geirie
Gan wybod bod hithe
Yn aros tu ôl, yn ynd?n!

Owain Rhys


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Geiriau

Heno, dan gwrlid cynnes
lle mae eneidiau yn nes,
cawn nacau ein dadlau dall
a tharo ar iaith arall
yn uniad ein cwmpeini -
mewn rhannu byd dwedyd dim;
dau wyneb y bore bach
yn negesa'n agosach
o dan wrthban cynghanedd
yr hwyr; am anwesu'r hedd
hyd y wawr; a deall dau
yno'i gyd yn ein ll'gadau.

Llion Roberts


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Geiriau

(Colli tafodiaith yn y coleg)

Mae geiriau fy magwraeth
dan y môr sy'n trwytho'r traeth,
geiriau gwydn hen gerrig ?nt,
ond dweud tywodlyd ydynt
â geirie'r Gymraeg orau'n
llafnau hallt yn eu llyfnhau.
Yn rhy hawdd bu'r cerrynt croes
yn safoni llais f'einioes.

O'r iaith hon peidiodd rhyddhau'r
un tywodyn i'r teidiau,
rhag i'r môr droi'r geiriau mân
yn draeth tafodiaith fudan.

Hywel Griffiths


8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae henaint yn fy mhoeni
Och o wae ôch gweled chi!

½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae henaint yn fy mhoeni
Yn fwy fel y tyfaf i.

½ Pwynt

Englyn cywaith:Cwpan y Byd

Yn danglo'n llipa, llonydd, heb un her
mae baneri'r lonydd,
ceir haf yn colli'u crefydd,
â llaw Duw'n ennill y dydd ...

Owain Rhys


8 ½ Pwynt

Englyn Cywaith - Cwpan y Byd

Lle bu'r iaith mewn lliw brethyn - daw yr ?yl
i dreulio'r edefyn
a chriw'r groes goch ar grys gwyn
yn ei wisg i'n goresgyn.

Iwan Rhys


9 Pwynt

Telyneg:Galwad Ffôn

('Ffonio adra')

Twrw,
fel ewinedd ar fwrdd du,
a thechnoleg y ddinas
yn ymdrechu
i groesi caeau,
ac amser,
a chyrraedd oes arall.
Dyma'r ddefod wythnosol
â'i sgript dragwyddol -
blasu bara beunyddiol
a hen win hanesion
hwn a hwn
o'r pentre'
a fu unwaith yn fro.

Un llinell wallus,
rhyngom,
yn bwhwman breuder
ein cyswllt,
fel edau frau
carthen nain
a gofleidiaf yn oerni'r nos,
ac a gysura fy mhlant ryw ddydd.
Un llinell wallus,
a'i dwndwr
yn edliw'r milltiroedd
rhwng dau.

Ond ar ffarwelio,
daw ennyd
o dawelwch
i leddfu chwithdod y lein,
ac yn llyfnder
y tynerwch hwn
rhof bwyth arall
yng ngharthen bod,
a gosod eilwaith
y derbynnydd
yn gadarn
ar fy myd.

Llion Roberts


9 ½ Pwynt

Telyneg:Galwad Ffôn

Yn y cwm, i brocio'r co',
Mae hen gloch yn mynnu galw, a'i hawch
Sy'n cnoi, fel s?n caneuon
Plant y plwy.

Hen ganu cloch yn bigyn clust.

Yr wyneb nad oes ei hateb yw hon,
Pwy a'i hetyb hi?
Ond gwn, fel erioed ganwaith,
Yr af er hyn i ganlyn gw?s
Y ffôn fawr, a phan af i
I'w ateb eto,

Dwed - pam wyf i, wrth glywed y gweddïau
Pell yn ei lais, yn pallu'n lân
 chredu'r un sy'r ochor draw?

Eurig Salisbury


9 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Drws

Y Mewnlifiad

Dod i mewn mae lled y môr - y tro hwn
Heb un trai, a'r porthor
Eto'n dal i ddal y ddôr
Heno i'r eigion ar agor.

Aron Pritchard


10 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Drws

Heddiw, af i d? noddwr - i daro'n
Hyderus fel clerwr
A chael bod llys uchelwr
Yn un llyn du yn llawn d?r

Eurig Salisbury


10 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys "ofn"

Celwydd Irac a welir,
rhag ofn inni gredu'r gwir.

Yr ofn sy'n fy fferru i
yw y gallwn dy golli.

Englyn yn cynnwys y geiriau "nid wyf"

Er i ryw fardd f'anharddu, am ennill
llaw menyw (bun aelddu),
er y grasfa fwya fu,
nid wyf wir yn dyfaru.

( Nodyn hunanladdiad)

Nid wyf eisiau d'adael di wrth dy hun;
rwy'n werth dim, yn llwfrgi,
ond mynd sydd yn rhaid i mi
i'r nos oer. Wir, yn sori.

Pennill ymson mewn cwch

Ai dychan rhyw ddiddanwr - ydyw hyn?
Ai doniau consuriwr?
Neu a yw'r dyn ar y d?r
Yn rhodio, yn Waredwr?

Limrig yn ymwneud â darllen

Rwy yn gallu darllen, go wir;
pethau byr a phethau go hir;
ond pan fydda i weithiau
am dorri rheolau,
mae'n haws nad yw'r geiriau mor glir.

Englyn cywaith:Cwpan y Byd

(i'm cyd-Dalyrnwyr)

Mi wn nad yw'r bel yn elyn, - na'r gêm
na'r gôls ichi'n wrthun;
ond diawl, osgowch er mwyn dyn
roi Ingland yn yr englyn!

Telyneg:Galwad Ffôn

Yng ngafael y tywyllwch
Ar noson fudan, faith,
Erfynniaf am dawelwch
I gyrraedd pen fy nhaith.

Ac er i'm faglu sawl-tro,
A chodi nôl drachefn,
Mwyach, ni allaf gario'r
Holl bwysau ar fy nghefn.

Ond ar erchwyn y clogwyni,
Er y rhybudd "Cadw Draw"
Mae na wifren o oleuni,
A llais un sy'n estyn llaw.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled yn cynnwys y gair 'ofn'

Daw ofn yn nyfroedd dyfnion
Diog, godidog y don.

Ofni gweld d?r llyfn o'i go
Yw ofn ateb dwfn eto.

Os nad Gair Duw y clyw'r claf
Onid ofn yw'r grym dyfnaf?

Pêl o wynt yw ofn plentyn,
Yn feini daw ofnau dyn.

Pennill Ymson mewn cwch

Bûm i â'm rhwyf yn troi a throi
Mewn cylchoedd am yn hir,
Ond pe bai 'nghyfaill gyda mi
Gwn y rhwyfwn tua'r tir.

(Ymson gwraig Noa)

Mae'n unig iawn fan hyn ar y cwch
Tra bo'r g?r gyda'r camel, yr epa a'r hwch,
Ond lot gwell gen i na chwmni Noa
Yw cael cwtsh mawr 'da'r Constrictor Boa.

(Ymson gwraig Noa)

Rwy'n unig fan hyn yn y gornel
A dim golwg o dir ar y gorwel,
A thra bo Noa
Yna chwarae 'da'i Foa
Rhaid i minnau fodloni ar gamel!

Daeth ataf gwestiwn oesol
Yng nghanol d?r a strach,
Pam fod y twll o hyd mor fawr,
A mheipen i mor fach?

Limrig yn ymwneud â darllen

Roedd darllen iddo'n waith caled,
Bu sawl tro yn profi'i lyged,
Wedi nifer o checks
Doedd ddim angen sbecs-
Bu'n darllen ei lyfr ben i waered.

Colli sawl pwys o gwmpas dy ganol,
Yn ôl rhai, sydd yn weithred iachusol,
Collais ddwy stôn o chwys
Wrth ddal War and Peace,
Hunllef Arthur sy'n ddarllen hanfodol!

Englyn Cywaith - Cwpan y Byd

Drwy ei hoes buom dreisiol, - yfwn ni
Fwy na'n hawl ddaearol
I'n digoni, a'r ffïol
A dâl â nerth dilyw'n ôl.

Telyneg:Galwad Ffôn

Ar y tir tywodlyd mae'r ffiniau'n
y lle mae'r gwaed yn sychu'n greithiau
a'r brain dan gysgod hir y gwn;

a phob storm dywod sy'n llosgi'r llygaid
yn hollti trywydd trwm y milwyr
na ?yr fod cam a cham yn troedio'u tranc,

yn arwain at baith tywodlyd arall
lle bo'r tywod o'r un graen
ond rhyw flas gwahanol ar y gwaed

sy'n aflonyddu'n eu sanau blinedig.
B?ts pa un o'r rhain a gaiff sglein
yn ôl ar eu blaenau cyn eu dychwelyd

yn flwch destlus, o dan faner
gorweiddiog parêd a ffanffer?
Ond mae'r gwaed wedi hen sychu'i ffin

erbyn i uwch-swyddog wroli i dywodi
o'i enau dynged yr un wrth y fam,
a'r storm dywod lond ei llygaid hithau.

Ac iddi, dim ond yr un alwad
fydd eu marwnad i'w mab.

Rhegodd, diffoddodd ei ffag
a throi ei ben, rhwygodd y derbynydd
o'i grud,
ac eiliad wrth eiliad, meiriolodd
yr wg, nes rhewi'r rheg
yn ei wddf,
tra bod ei fysedd diamynedd yn mynnu
troi'r weiren yn wythïen,
a'i chordeddu'n dynn, dynn,
gan wrthod i'w galon y gwaed poenus
a raeadrai'n electronig
o graith crud y ffôn.

Edrychodd trwy fyw fy llygaid,
wrth glicio'r derbynydd yn derfynol.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.