Howgets v Penrhosgarnedd

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gor-gyn derfynol o gyfres y Talwrn.

Howgets

Howgets

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Cwpled caeth i'w osod ar fwydlen

Gwledd yr awen i'th lenwi
A gei nawr o'n cegin ni.

Endaf ap Ieuan


8 ½ Pwynt

Cwpled caeth i'w osod ar fwydlen:

? la carte rhown flas cartre'
Bara lawr a Créme Brulée.

Llion Jones

8 ½ Pwynt

Pennill Ymson mewn ffatri

Diflasaf â syrffed undonedd
A rheolau iechyd y gwaith
Ond dof at fy nghoed yn reit sydyn
Wrth gofio chwarelwyr y graith.

Meirion Jones


9 Pwynt

Pennill ymson mewn ffatri:

'Ista'r stôl wrth y cludwr di-ddiwadd
Yn troi sgriw ar ôl sgriw ar ôl sgriw,
Deg awr o bob dydd yn gneud hynny'n
Otomatig, fel pob un o'r criw.
Ond caem smôc, a sgwrs, siarad ffwtbol,
Lot o chwerthin, i leddfu y straen...
'M ond y fi sy' ma rwan...a'r peiriant -
Well mi godi i'w droi o ymlaen.

John Ogwen


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys dau flodyn

Mabinogi

Â'u hadlais yn lliw'r fanhadlen - eu rhin
mewn ôl troed meillionen,
parhau mae eu hodlau hen
yn ardd helaeth ar ddalen.

Annes Glynn


9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys dau flodyn:

Yn hunlle un ar lan y lli, wylo
Mae petalau'r lili,
Ac ar draeth ei hiraeth hi
Aros mae sawr Rhosmari.

Llion Jones


9 ½ Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Arallgyfeirio

Oes ots pa gyfeiriad - y chwith neu'r dde,
Gorllewin, gogledd, y dwyrain neu'r de?
Yn hanes y byd ceir esiamplau fyrdd
O oblygiadau dewis ffyrdd.
Trodd Adda ac Efa o'r llwybr cul
I greu snakes and ladders, a hynny ddydd Sul.
O'r Aifft aeth Moses i arwain y llwyth,
I'r chwith nid i'r dde, i dderbyn eu ffrwyth,
A dyna pam maen nhw bellach yn hel
Eu holl orennau yn lle olew Shell.
"Go west young man!" dyna fu'r gri
A dilyn y cyngor wnaeth y Meuryn a fi,
Christopher Columbus ac Erik the Red
A Madog, heb gopi o'r A to Z.
Capten Cook a hwyliodd i'r dde
A marw'n gynnar ym Môr y De.
Napoleon a Hitler a lwyddai'n iawn
Cyn anelu am Rwsia, a'u bygrodd yn llawn.
A chi Ferched y Wawr sydd yma'n Hong Kong...
O diawcs! Dyna finnau wedi troi y ffordd rong.

Meirion Jones


9 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Arallgyfeirio

Dwi'n ffermwr tlawd; mae gen i wraig sy 'mhell o fod yn swil
Yn hawlio cerbyd ffôr bai ffôr sy'n costio deugain mil,
A dyna'r rheswm pam, rhag ofn eich bod chi yn camddeall,
Fy mod i wedi chwilio'n daer am alwedigaeth arall;
Roedd cadw fisitors yn rhemp - ni'n cysgu yn y sgubor
Y wraig ymysg y gwair a'r chwain a minnau ar ben tractor,
Ac yna cefais waith yn gyrru lorri laeth i Sbaen,
A minnau 'rioed di gyrru'n bell fel hyn o'r blaen,
Mi gymrodd bedwar diwrnod cyn i mi gyrraedd Traws
A'r lorri laeth 'di newid erbyn hyn yn lorri gaws!
Roedd chwant cael body n forwr a hwylio ar y lli
Ond pan yn sgrwbio ar y dec mi ges i howsmêds ni!
Mi driais fod yn joci ond mae'r ffaith hon yn efengyl
Pan es i ar y glorian, ro'wn i'n pwyso mwy na'r ceffyl!
Ymgeisiais am waith bownsar mewn clwb nos go posh ym Mangor,
Collais ddanedd, torrias drwyn a dwedais, "Na ddim rhagor!"

Rwy'n dal i fod yn ffermwr tlawd heb gael fy ffôr bai ffôr,
A'r wraig 'di mynd i fyw 'dai brawd sy'n ffermio dros y môr
Ond dyna fo er gwaethaf pawb 'dyw pethau ddim yn ffôl
Caf fywyd hapus ac heb boen pan fyddaf ar y dôl.

Morien Phillips


10 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfrinach

Yn yr haul chwaraeai hi
A diddos fu'r byd iddi.
Wedi'r haul fachlud ar hon
Daw y nos, daw y noson.
I'w gwely â o'r golau
 Dad, dim ond nhw eu dau,
Gwaith y llaw sy'n bygwth llid;
O'i braw fe ddaw addewid.
Yn unig, mae hi'n digio,
Yna'n waeth a chaeth i'w cho'.
Yn yr hwyr ofera hi
A diddim yw'r byd iddi.

Meirion Jones


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Cyfrinach

Mae hi yno'n y mynydd
Yn eiliad ar doriad dydd,
A'r haul yn cychwyn brolio
Mawredd ei arw-wedd o:

Mae'n wlith, mae'n awel weithiau,
Llais isel, dirgel rhwng dau,
Tra bod rhuo gwallgo'r gwynt
Yn ddialedd o helynt:

Mae'n gyffyrddiad nos Sadwrn,
Yn ddeilen derwen mewn dwrn,
Nid oes elor all dorri
Awen wydn ei chalon hi.

Iwan Llwyd


10 Pwynt

Limrig yn ymwneud â'r gyfraith

Roedd hi mor oer un bore dydd Calan
Wrth boeri fe saethais gwningan,
Daeth pengwins i'r harbwr
A gwelais gyfreithiwr
Â'i ddwylo'n ei boced ei hunan!

Endaf ap Ieuan


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â'r gyfraith:

Mi fûm yn y Llys ym mis Mai-
Diniwed, wrth gwrs, mwy neu lai,
Roedd mab menyw enwog
Yn dweud 'mod i'n euog-
Celwyddog! Ar 'i fam oedd y bai!

Lynn Davies


9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Do'n wir, mi gefais ddirwy
Un llon oedd y plismon plwy.

½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Do'n wir mi gefais ddirwy
Gwirion 'di plismon y plwy

½ Pwynt

Englyn Cywaith: Tabled

Ni welai tu hwnt i'r salwch - y gwae,
Y gwewyr na'r tristwch.
Yn ei law o fewn y blwch
Roedd dyddiau rhwydd ddedwyddwch.

Endaf ap Ieuan


9 Pwynt

Englyn Cywaith: Tabled

Rhywfodd er iddi brofi ei gyffur
Yn gyffion amdani,
Yn dyner mae'r cadwyni
Yn rhyddhau ei hofnau hi.

Llion Jones


9 Pwynt

Telyneg: Blas

I rai,
mae hud mewn mwytho enwau diarth ar eu tafod,
yn win ar wefus,
eco'r cynfyd yn eu cân -

Maggiore, Rocamadour ac Alessandria,
Santiago de Compostela,
Santa Fé...

Ond rhowch i mi
frath heli'r cregyn gwynion ger Traeth Lafan,
y diliau mêl
sy'n swatio yng ngweirgloddiau Genau'r Glyn,
y llus sy'n hanfod chwerw felys Moel Hiraethog
a'r eirin aeddfed ym mherllannau'r Hendy-gwyn.

Annes Glynn


10 Pwynt

Telyneg: Blas

Gwahoddaf ar brydiau i'm calon
Gyfoedion gwanwynau yn ôl,
A phawb yno'n wên ac yn ddeigryn
Yn dod â rhyw ddoe yn ei gôl.

Cawn estyn atgofion i'n gilydd
Ac weithiau ddanteithion cêl,
A gwenu wrth enwi wynebau
Blynyddoedd y misoedd mêl.

Cawn sôn am y lonydd blinedig
A sgubir gan awel ein hwyr,
Hyd nes y bydd fflam ein canhwyllau
Yn plygu a boddi'n eu cwyr.

Ond yn amlach, bydd cofio yn gyffwrdd,
A'i fynd mor ddirybudd â'i fod,
Un dernyn drwy niwlen fy nghynfyd
Yn sydyn, heb drefnu ei ddod.

Fel clywed am eiliad ar dafod
Ryw sawr, nad oes iddo un iaith,
Un atgof, heb gymar nac enw,
Yn ddirgel yn dychwel o'i daith.

John Gwilym Jones


10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Colled

Oriel ar furiau Macpelah - bwyty
Car b?t lle bu cana,
A'r tai yn atyniad ha'
Yn hawddfyd amgueddfa.

Annes Glyn


9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83

Englyn ar y pryd: Colled

Er i rai ei ddifrïo, dynwared
Y wên wirion honno,
Fe wêl o'i le uchel o
Orwel tu hwnt i'w herio.

Iwan Llwyd


9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84 ½

Cynigion Ychwanegol

Cwpled caeth i'w osod ar fwydlen

Gwledd lawen ein powlenni
Ddaw â d?r o'th ddannedd di.

(ym Mhalas Westminster?)

Bowlen iawn o'n bolonês
A gladdodd sawl arglwyddes.

A ddaw d?r o ddannedd da?
Ein hateb sy'n y bwyta.

Codwch blât, 'stynnwch ati,
Dewch, bwytewch! Bon appétit!

Pennill Ymson mewn ffatri

Rwy'n gweithio oriau meithion
Am dâl fel mwnci am gnau
Ond â phroblem fawr y pensiwn
Bydda'i'n dal yma'n gant a dau!

Mae'r dyn yn y ffatri gwneud clociau yn cwyno fod yr oriau'n rhy hir,
A'r boi yn yr adran gwneud pwysau plwm, yn dweud fod y gwaith wedi mynd yn rhy drwm.
A minnau'n y ffatri ANDREX, fy swydd sydd yn mynd yn drech,
Yn boddi dan lwyth o waith papur, o fore bach tan chwech.

Englyn yn cynnwys dau flodyn

Erwau'r oes fu'n her i'r rhosyn newydd
Newid ei fathodyn
A hawlia'r pabi melyn
Ein brodir yn ir i'w hun.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfrinach

I Soham daeth braw mamau,
Un brwnt ag ymennydd brau,
Y wên deg a'r llygaid oer
Yn oes o chwantau iasoer
A lithrodd, rywfodd, drwy'r rhwyd
I chwalu heddwch aelwyd.

Yn waed ar obennydd nos
Heintiodd freuddwydion plantos,
Cuddio'i gelc, yna stelcian
Mewn t? bach twt â'i glwt glân.
'Sgubo Soham. Braw mamau.
Un o'i gof a'i ddrws ar gau.

Limrig yn ymwneud â'r gyfraith

Unwaith eto i'r llys am ladrata
Aeth Ianto, ond heb yr un twrna.
Pam, holodd un co',
Nad oedd briff ganddo fo:
"Dwi am ddweud y gwir y tro yma!"

Gan dwrne aeth llythyr o g?yn
Am daliad blynyddol yr ?yn,
A bu camgymeriad,
Per anum fu'r hawliad
Ond y ffarmwr a dalodd drwy'i drwyn.

Englyn Cywaith: Tabled

Os moesau o oes Moses - yw'r geiriau
Ar garreg ein hanes,
Ein hagwedd a dry'r neges
I'n tu a'i llyncu er lles.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth i'w osod ar fwydlen:

Dim ond pryfed bach dedwydd
Weli di yng nghawl y dydd.

Un baguette ou spaghetti
Ou paté...Bon Appetit!

Voulez-vous des vol au vent
Á ananas ou oignon?

Limrig yn ymwneud â'r gyfraith:

'Dyw'r hen fyd 'ma ddim yn fyd perffaith
Fel ambell berthynas-yng-nghyfraith!
Mae'r lle yma'n le da
'Nenwedig yn 'rha'
Y geifr sy 'ma'n torri'r gyfraith!

Mewn Talwrn o flaen yr Ynadon
A'r Meuryn sy'n Farnwr ystyrlon,-
'Da ni'n dweud yr holl wir
A dim ond y gwir
Ond mae'r gwewyr o golli yn greulon!

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.