Dolgellau

Dolgellau

Bro Alaw

Bro Alaw

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ' Drws'

O gil drws gwylio drosof
Dau a fydd beunydd tra bof.

Rhys Gwynn


8 ½ Pwynt

Cwpled caeth y n cynnwys y gair: 'drws'

Agor drws mae gwrid yr haf
A'i gau wna llwydni'r gaeaf.

Arwyn Roberts


9 Pwynt

PENNILL DYCHAN - Gyrrwr set gefn

'Dwi'n troi i'r chwith i lawr i'r dre,
Mae o'n dal i weiddi, "Dde, dde, dde..."
'Dwi'n aros wrth y zebra, i'r plantos fynd am adra,
Mae o'n dal i weiddi, "Stopia, stopia..."!*
'Dwi tu ôl i gar yr heddlu, tu allan i'r gasbord,
Mae o a'i ewinedd yn ddwfn yn y dashboard.
Mae'n gweiddi, "Sa'n ôl, paid mynd rhy agos..."!
A mi stopish i'r car tu allan i Argos.
"Dreifia di ta'r ffwlbart, ti'n bali niwsans,"
"O doniol iawn," medda fo, "ti'n gwbod mod i di colli'n
leisans."

Nia Medi


9 Pwynt

Pennill Dychan: Gyrrwr Sedd Gefn

Nid joban hawdd ydy bod yn brifathro -
Mae pawb yn yr ysgol yn gwbod ei waith o
Yn well na fo'i hun, ac yn stafell 'rathrawon
Mae'r arbenigwyr yn huawdl ddigon:
Ond be dwi'n gwyno, mae gan Radio Cymru
Filoedd ar filoedd yn cega a hefru
A chan and oes ganddyn nhw bellach Sulwyn
Mae pob un yn meuryna yn well na'r Meuryn

John Wyn Jones


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Af yno ar fy union'

"Af yno ar fy union - i waedu'n
Y frwydr",medd droeon;
Fel pob brad drwy'r henwlad hon,
Ni waedodd ond breuddwydion.

Arwyn Groe


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: "Af yno ar fy union"

Fe allaf weld Afallon - dwy eiliad
I dawelu'r galon
Awyr las, ymhell o'r lôn
Af yno ar fy union.

Geraint Jones


9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Dyddiau Anodd

Rhy anodd, mynd i'w hagor,
Mor drist - gwagio pob drôr,
Pob bag llaw yn ildio'i dâl -
'matjan' a 'mint imperial'.
Coban dan obenydd,
Wedi'i lapio'n barsel cudd, o arogleuon hon -
'Golden Virginia' a sebon...
Gweld ei gwallt - ac amhosib,
Heb ddagrau, taflu'r grib.
Fesul un o'r cwpwrdd 'press', daw hances ar ôl hances,
Sgarffia a patrymau gwau
A canoedd o ffedogau -
i'w pacio'i gyd, yn un rhes, yn llond hen gês o'i hanes.
A minnau'n ei chlywed, yn gweiddi'n groch-
"Ti'm yn mynd a rheina i'r Groes Goch'?
"Nacdw", medda fi , "dwi'm digon cry',
I roi eich hoes mewn bagia du."
Ag allan af ar frys i'r awyr iach,
Cyn clywed hithau eto'n dweud
"Mae'n iawn, tyd n'ôl fory - rho fi yn y sach..."

Nia Medi


9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Dyddiau Anodd

Roedd teulu mawr mewn bwthyn bach
Yn byw yn ymyl Bangor,
Yn bwyta'u cinio ar hen ddrws
Gan eistedd wysg eu hochor.

Roedd lle mor brin o flaen y tân
Yn stormydd oer y gaea,
Y tad a gysgai yn y cloc
A'r fam i fyny'r simdda.

Fe lusgai nain draw i'r t? bach
A'i golwg ddigon symol
Os nad oedd yno 'Ddaily Post'
Darllenai y dail tafol.

I'r cwrdd y cerddent ar y Sul
Fel rhes o gywion chwiad,
A sleifio allan o flaen pawb
I arbed pres y casgliad.

Roedd byw yn galed, pres yn brin
Mewn oes cyn sôn am "Giro",
Ond dyddiau anos yw'r rhai hyn
Pan na fo'r teli'n gweithio

Geraint Jones


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Dirgelwch

Yno,yn ein gennynau
Gwyrth uwch pob gwyrth sy'n gwau.
 hwy'n dal ein bodoli,
Yma'n wir mae'r hyn ym ni.
Ein holl aiff i gnewyllyn
Yn rhwydd,ond ystyrier hyn -
O gant,'does ond un rhan gwâr
A'n gwahana rhag anwar
Epäod a fu yn rhodio
Yn fan hyn er cyn pob co'.
Yr un canran bychan bach
Na rannith mo'i gyfrinach,
Yw y darn orsedda Dyn
I radd goruwch ei wreiddyn.

Rhys Gwynn


8 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Dirgelwch

Mae'r holl fondo'n gyffro'i gyd
Tai haf yw'r fargod hefyd;
A thrwy ein bro eto'n ôl
Heno daw swn y wennol
Dan y to'n saernio'i nyth
Yn aelwyd i'w gwehelyth.

Ond ai ffawd, ai cwmpawd cudd
Neu ai'r hin fu'r arweinydd
A'i dug yn ôl, fe holaf,
Lawer cynt ar hynt yr haf?
Na - fe wyr fod ffordd fyrrach
Adre o hyd i'n byd bach.

( Pan yw'r wennol yn mudo i'r deheudir honnir ei bod yn dilyn ffordd gwmpasog yn hamddenol ond pan ddychwel yn y gwanwyn mae'n teithio'n unionsyth. Mae'r gwyddonwyr yn rhanedig o ran eu damcaniaethau ynglyn â hyn.)

Richard Parry Jones


9 ½ Pwynt

Limirg yn ymwneud â bwyta ffrwyth

Roedd Efa bron llwgu'n y gadlas
'Di laru ar blyms a bananas;
Pan ddaeth Adda drwy'r eithin
'Efo dwy Cox's Pippin -
Hei presto! - mae'r gweddill yn hanas!

Nia Medi


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyta ffrwyth

Roedd Adda 'Ngardd Eden yn cysgu,
Pan fentrodd y musus fusnesu,
Be' nath iddo wrando
Ar y ddynas yn mwydro,
Bu'n rhaid i bawb weithio 'rôl hynny !

Ioan Roberts


9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yr wyf yn siwr o fod
Piau awen epáod

Ateb llinell ar y pryd:

Yr wyf fi yn si?r o fod
Yn gath heb ddannedd gothod

Ioan Roberts


1 Pwynt

Englyn Cywaith: Euogrwydd

(Gweld plentyn wedi'i ddal yng nghanol trychineb yn syllu arnaf ar sgrin teledu)

Hyd ei rudd mae cyhuddiad - yn llifo
Yn llafar ddi-siarad.
Mae'n yngan ; Pa gyfraniad
A wnest ti i nos f'ystad?

Rhys Gwynn


9 Pwynt

Englyn Cywaith: Euogrwydd

Rhoi ei waed ar barwydydd - y gorwel
A gwyro mewn c'wilydd

Richard Parry Jones


9 Pwynt

Telyneg: Gwledd

Cyrraedd at y bwrdd
moethus chwaethus,
mi a llu o'r 'nhw' di ri,
gwisgoedd llîn yn disgyn
yn enfys bastel ddi-drysor,
cawl eildwym ar wefusau
a gweniaith ynghudd mewn sylwadau,
celfyddid hyd y platiau
saig ar ôl saig hyd at syrffed
yfed y gwin
o'r grisial tr?edig
a'r gwenau'n wenau ffug a ffals a phlastig

Cerdded fyny'r cwm
dirgel tawel
mi a chdi, nhw'u dau a'r ci,
crysau T, cotiau glaw
yn enfys sy'n llawn gobeithion,
gwreiddioldeb y gwefusau
yn fwrlwm di baid yn fy nghlustiau,
y picnic yn ein paciau
wy di ferwi, afal, siocled
llymed o ddwr
hen gwpan fflasg blastig
a'r gwenau'n risial pur a bendigedig.

Mair Tomos Ifans


9 ½ Pwynt

TELYNEG: Gwledd

A dyna dorth
lle na bu torth ers tro:

ers prynhawn y tafelli tenau,
y lliain gwyn a'r byrddau llawn;
oriau murmur mân us
a medi atgofion.

Hithau yno
ac archwaeth at ddim
ond mwy ohono.

Eto, tylinodd gwres eu geiriau
gymalau llesg y dydd
a daeth eu dwylo
yn gynhaliaeth amdani,
i'w hebrwng
i rannu ei arlwy o.

Porthiant
a gwefr gormodedd
yna'r festri'n gwagio
a'i golli yn llond y lle.

Cynhaeaf y cofio
yn gribin haul
trwy wydr lliw
ar das o grystiau,
ac ysfa hel y briwsion
yn y llwch.

Yna, heddiw, yr un haul
yn mydylu'r doeau llwyd
a throi awch sôn amdano
yn furum mewn blawd,
gwres popty,
arogl torth.

Sian Owen


10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Ffliw Adar

Yn fwled, un na faliai - ai at iâr
Neu at ?ydd y saethai,
Tinged pob dim a 'hedai
Yna'n glec i g'lomen glai!

8 ½ Pwynt


CYFANSWM PWYNTIAU: 80

Englyn ar y pryd: Ffliw Adar:

Mae'r fwyalchen dan benyd - a'r hedydd
Yn llawn pryder hefyd,
A chân pob gwylan i gyd
Yn farw uwch y foryd.

Arwyn Roberts


8 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Cynigion Ychwanegol:

Hudlath y feinwen feindlws
Ydyw'r iaith i agor drws.

Ymgom ffermwr ieir

Daw'r awr er praffed y drws (drws y cut)
Fy iar fydd fwyd i'r feirws (ffliw Adar)

PENNILL DYCHAN - Gyrrwr set gefn

Mae o'n brecio efo'i ddwylo
Mae o'n mopio y chwys
Sydd yn ddafnau ar ei dalcen
Ac yn lyn hyd gefn ei grys,
Mae gweiddi'r holl instrycsions
Yn creu tyndra yn ei frest -
Ond faswn i'm yn meindio
Tasa fo 'di pasio'i dest !

Englyn yn cynnwys y llinell 'Af yno ar fy union'

(Gwennol yn siarad ar fin cychwyn am Affrica)

Af yno ar fy union - ydwyf wyrth
Di fap.Â'm gorwelion
Yn fy mhen,'hedaf heno'n
Un â'r haid tua'r her hon.

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Dirgelwch

Ninnau'n dyrchafu'n hunain
A chimpanzee i ni'n nain!
Mae i'r un sy'n meuryna,
Â'r ddawn aur o'i DdNA,
'Run taid ag Oran Utan - (yn ffigurol wrth gwrs!)
Odlwr prin mas o'r goedlan!
Ie,mymryn rhwng dyn a'i daid
Rhwng dyn a'r rheng dienaid.

Limirg yn ymwneud â bwyta ffrwyth

Neithiwr, tra'n bwyta banana,
Daeth clamp o fabwn mawr o nunlla
Yn curo ei frest
Fel bildar heb fest
A jest imi beidio â bod yma

( LIMRIG I GLYN SYDD AR BIG BROTHER AC SYDD WEDI EI SWYNO GAN UN ARALL O DRIGOLION Y TY - LEAH)

Mae'r hen Glyn yn hoff iawn o'i felon,
Melon fawr, lot mwy na hen lemon,
Be' di'r bet, caiff ei siomi
Wrth iddo sylweddoli
Ei bod hi yn llawn grawnwin surion.

Un d'wrnod, yn fyr fy amynedd,
a minnau ar ganol fy ffrwchnedd
daeth sacson o dras
a'm rhegi yn gas,
mi es i'n bananas cyn diwedd.

Roedd Ann a alergedd i fefus,
O'i bwyta, fe chwyddai'i dwy wefus;
Nes roedd yr un isa
Yn oeri'n Llyn Bala
A'r ucha gerllaw Llangristiolus.

Fedrai blicio pinafal? - Na! Byth!
A rhy wydn 'di croen Granny Smith;
Rhy sych 'di gellygen
Ma'n gas gen i oren
'Nenwedig heb dynnu y pith....

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth y n cynnwys y gair: 'drws'

Nid hud hen ddrws Ardudwy
Yw hyd her ein menter mwy.

Pennill Dychan: Gyrrwr Sedd Gefn

Mae Toni yn llywio yn llon
Er fod Gordon tu ôl â'i diwn gron
Ond am ddefnydd effeithiol
O'r Jag gweinidogol
Y gyrrwr sedd gefn ydy John.

"John Bull" ddewr a'i gar ffantastig,
Pymthag gêr ac awtomatig,
Welodd olau glas yn fflachio
Wrth weu'i ffordd hyd ffyrdd Penmachno.
Ac fel bo'r plisman yn dweud y drefn
Gofynnodd yn syn: "Pam ti'n ista'n y cefn?"
A'r ateb a gafodd yn chwim gan y crymffast,
"I gal chwifio banner San Siôr trwy y ffenast!"

Limrig yn ymwneud â bwyta ffrwyth

Mae'n well cymryd pwyll y tro yma
Ar ôl y galanasd tro d'wyth'a
Fe frathais i afol
Un brown yn ei ganol
Mae'r gwaddol yn slwj ar y walia.

Englyn Cywaith: Euogrwydd

Mae'r haul mewn gwisg amryliw - yn denu

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.