Y Gler v FFostrasol
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Y Gler

Ffostrasol

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Ffin'
A wêl ffin yn ddiffiniad,
A wêl wal o gylch ei wlad.
Hywel Griffiths
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ffin'
Y ffin heb ei diffinio
A wna rwyg mewn unrhyw fro.
Dai Rees Davies
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan - y Post Brenhinol
Gyrrwyd parsal â stamp ffyrst class
Yn roial at fwthyn ar Enlli,
Mi fasa' 'di cyrraedd o fewn y dydd
Oni bai i'r postmon foddi.
Osian Rhys Jones
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Y Post Brenhinol
Mae'n ddeg o'r gloch a'r Post heb ddod
Dyna yw cwyn rhai eriod
Waeth gen i a ddaw o gwbwl
Fe arbedith lot o drwbwl.
Jim James
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau:'Heno yr ydw innau''
Heno yr ydw innau'n dal o hyd
Yn dy law'n ddieisiau -
Na all ein deall ni'n dau
Ond dynwared hen eiriau.
Hywel Griffiths
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau:'Heno yr ydw innau'
Y daith sy'n anodd weithiau - yn hen gwch
Ar goll rhwng y tonnau,
A heb rwyf, dyfalbarhau
Heno yr ydw innau.
D.T.Lewis
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell) - Pwyllgor Brys
(Yn seiliedig ar Ioan 11, ad.47-48*)
Wrth iddi d'wyllu'r nos sibrydlon honno,
a dail y coed yn sisial am a wnaed,
ymgasglodd y Sanhedrin i gynllwynio:
gwþr doeth a'u ffroenau'n llawn o arogl gwaed
yn cyrraedd y cyfarfod brys yn fuan
gan iddynt deimlo'r cyffro'n dew drwy'r aer.
Roedd arnynt ofn y syrthiai'r genedl gyfan
pe lledai'r sôn am wyrthiau mab y saer
ac felly lluniwyd polisi didostur.
Tra bu'r tafodau'n miniocau y cledd
ynghanol ffws a ffair pwyllgora prysur
ni sylwyd ar yr haul yn mynd i'w fedd.
Paham na welai'r un ar ddeg a thrugain
eu bod am ladd eu Brenin Mawr eu hunain?
* 'Yna yr archoffeiriaid a'r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae'r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw'r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a'n cenedl hefyd.' Ioan 11, ad.47-48
Iwan Rhys
9 ½ Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Pwyllgor Brys
Fe ddeuai'r stondin llestri i'r ffair yn nechrau Mai
Ond 'leni ar y safle roedd twll oedd heb ei gau.
Aeth Maer y dref i banic a galwyd Pwyllgor Brys
Rhag ofn fyddai'r cyngor i gyd o flaen y llys.
Ond pwy a ddaeth o rhywle ond Arwel Jones and Son
A dweud yn ei ddoethineb 'Dyw'r twll ddim fod fan hyn'
Mae'n rhaid i chi ei symud ond sut yn wir nis gwn
Ond lwcus fod y cownsil yn torri tyllau crwn.
Cynghorydd o'r blaid lafur a gafodd ryw 'brain wave'
Sef rowlio'r twll i lori a'i roi yn nhop y dref
Roedd pleidiwr 'nôl ei arfer ychydig yn amheus
O dorri twll i'w symud fe fyddai'n fwy o seis.
Cytunwyd cael cyfeithiwr a hwnnwn'n fwy na dyn
A'r Maer aeth ar ei 'mobile' yn syth at Robin Ll?n
A chafwyd ateb syml 'Wel torwch dwll reit fawr
Ac wedyn claddu'n barchus y twll sydd gennych nawr'
Bu'r pwyllgor brys yn oedi fel arfer i gael te
A dwys ystyried wedyn a'i twll i'r chwith neu'r dde
Ond yna ymhen teirawr 'rôl trafod pethau'r byd
Fe basiwyd i roi'r stondin yr ochr draw i'r stryd.
Emyr Davies
9 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell) - Proffwydoliaeth
(wrth wylio fy hen fodryb bedwar ugain oed yn plannu tatws)
Dywedodd y doi hedyn
I fynnu haul yn fan hyn,
Awr wrth awr diffiniodd hon
Asennau'r cwysi union,
Rhoi ei ffydd i ddaear ffaith
A haul i'r gleien eilwaith,
Ei gau yng ngwythiennau'i thir
A'i gau yn galon gywir.
O roi lliw i erwau'r llwch
Ni allai'r un tywyllwch
Na phob rhyw ddilyw a ddaeth
Dawelu'i phroffwydoliaeth.
Hywel Griffiths
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Proffwydoliaeth
Hen 'walis' bach digoleg
Nad ynt wedi taro deg
Erioed, rhyw bedwar di rym
I wneud tîm Talwrn ydym.
Ni'r gwreng yn erbyn gw?r gwadd,
A 'na deimlad yw ymladd
Rhai â dawn, pileri dysg
O neuaddau byd addysg.
Er hyn, rôl rhoddi mawrhad
I'r ifanc, beth am brofiad?
A nawr fe broffwydwn ni
Na all 'Y Glêr' ond colli.
Dai Rees Davies
9 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud ag Addysg
Dysgwyd imi acenion yr englyn,
Yna'r cywydd a chrefft y gwawdodyn,
"Ond sut gaf i ddeg?"
Gofynnais yn deg,
"Rhaid gweddïo nad Gerallt yw'r Meuryn!"
Osian Rhys Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag addysg:
Yn glyfar o dwp ydoedd Ifan
Methu dysgu dim byd oedd y truan
Fe fu trwy ei oes
Yn dipyn o loes
Yn nhîm Tanygroes gwna y cyfan.
Emyr Davies
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Sa'i yn sant, mwyniant i mi
yw hen wragedd yn rhegi.
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
I hen ferch, peth ych a fi
yw hen wragedd yn rhegi.
½ Pwynt
Englyn Cywaith - Cwsg
Mae ein brenin wedi blino - ond gwn
Fod gennym ni heno
Yn ogof ei angof o
Ddewiniaeth i'w ddihuno.
Hywel Griffiths
9 Pwynt
Englyn cywaith: Cwsg
Wastad pan ddaw rhyw brofiadau - i'm rhan,
Mor hir yw'r mân oriau
Oni ddaw hwn a'm rhyddhau
I fyd sydd heb ofidiau.
Jim James
8 ½ Pwynt
Telyneg - Llais
(I Paul Dooley, un o'r ychydig delynorion cyfoes i chwarae cerddoriaeth o Lawysgrif Robert ap Huw)
Dyma oedd ar goll
pan ddaeth y telynor tawel
i ddatgordeddu'r nodau o'r tannau,
a'u gwasgaru'n brydferth
rhwng gwydrau'r dafarn,
roedd dawn ei ddwylo Gwyddelig
a sðn unig, diffiniedig y nodau
yn ddu heb wyn,
yn alaw heb gyfalaw,
yn gywydd rhydd.
Datgelwyd y nodau,
ond pwy a ðyr pa drosiadau
a daflwyd i'r bylchau rhyngddynt
drwy'r oesau, pa gywyddau coll
a godwyd i nenfwd y llys gan y llais.
Hywel Griffiths
10 Pwynt
Telyneg: Llais
Cymydog mud a byddar
Ddaeth yma ers tro hir,
Ac angerdd ei thawelwch
Fu rhyngom fel rhyw fur.
Ond erbyn hyn o'i chyfarch
Drwy godi llaw, 'rwyf i
Yn gweld ei llais yn lledu
Ar draws ei hwyneb hi.
Dai Rees Davies
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Terfysg
O ran heddwch rwy'n hyddysg yn ei drefn,
Rwy'n driw. Ond yr addysg
Sy'n mynnu dennu yw dysg
Afon Irfon fy nherfysg.
Iwan Rhys
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Englyn ar y pryd: Terfysg
Anallu hen ddiwylliant, i wybod
A hybu maddeuant,
A'r diafol ar ei dyfiant
'N hawlio'i le yng nghalon plant.
D.T.Lewis
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Ffin'
Os un faith yw dy daith di,
Gorau'r ffin os gorffenni.
Anferth o gur pen enfawr
Yw'r ffin rhwng y gwin a gwawr.
Nid yw ffin cadiffaniwr
Â'i goes o 'di siafio, siðr?
Oer yw'r ffin â'r gorffennol
Oera'r nos nas ceir yn ôl.
Pennill Mawl/Dychan - y Post Brenhinol
Os ydyw Lis o Windsor
Yn postio llythyrau y Cwîn,
Mae gen hi ddawn arbennig,
Sef llyfu'i thin ei hun.
Hawdd iawn yw dychanu'r Post Brenhinol
drwy ddweud bod y system yn araf uffernol
a chwyno'n gybyddlyd o soffa ddrud
bod pris dosbarth cynta'n mynd lan o hyd,
ond a lwyddech chi, am dri deg a dwy o geiniogau,
fynd â llythyr o Lundain i Ben-bont Rhydybeddau?
(pennill mawl)
Gofynnwyd yn dd'weddar i'r annwyl Gamilla
ba nodwedd ar Charles a'i denodd hi fwya'.
Atebodd hithau yn hollol deyrngarol
mai'r atyniad mwya' oedd ei Bost Brenhinol.
Englyn yn cynnwys y geiriau:'Heno yr ydw innau''
'Heno yr ydw innau' yn y gig,
Yn gwegian i'm seiliau,
Dim troi'n ôl, dim rheolau,
A dim i'w wneud ond mwynhau.
Heno yr ydw innau - yn y Llew,
Fel llawer o'm ffrindiau,
Ond ni chlywant dros rantiau
Eu byrddau medd, y bardd mau.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell) - Proffwydoliaeth
Hen bryd, â minnau'n brydydd,
I'r geiriau dewr gario'r dydd:
I'r hwn a ddaw eto'n rhwydd,
A waredo'n gwaradwydd,
A deimla ein hindda ni'n
Hel y môr tros Gilmeri,
A heria'r tes i godi'r tarth
Ar hen lys awchus Sycharth.
Hen bryd; er bod hen bryder
Sy'n cofio am syrthio'r sêr,
Afrwydd hyn i fardd a wêl
Wþr digariad y gorwel.
Limrig yn ymwneud ag Addysg
Sawl blewyn sydd gan fwnci a theigar?
A sawl streip sydd ar zebra a hannar?
A sawl spot ar jiraff?
A sawl aelod o staff?
Saith miliwn chwe chan mil trideg pedwar.
Englyn Cywaith - Cwsg
(Yn ymateb i'r cyhoedd sy'n dadlau o blaid neu'n erbyn ewthanasia, gan gofio y bu'n rhaid i aelodau Tþ'r Arglwyddi drafod y mater yn ddiweddar)
Pa 'dduw' clên a all roi gwenwyn - a chwsg
I'w chur? Ond paid achwyn:
Ai unrhyw 'dduw' a all ddwyn
Y ddeddf ar lofrudd addfwyn?
Telyneg - Llais
Tylinodd O â'I faneg o fêl
Ei fysedd ar dannau d'enaid,
A rhoi it eiriau fel ei rai O
I gyfeiliant telyn euraid.
Ond difaneg y rhwygodd d'wddf di, glaf,
Â'i fysedd pan fu garwa'r gwaith
O hawlio ceinciau iaith y nef
A'i 'winedd yn torri tant dy iaith.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ffin'
Ar y fferm mae cadw'r ffin
Yn rhinwedd bod yn frenin.
Y ffin heb ei diffinio
Wna beri hollt yn ein bro
Lyn aeth i 'lwyn' o 'eithin'
Un hwyrnos ger Ffos-y-ffin
Pennill Mawl/Dychan: Y Post Brenhinol
Anfonais lythyr digon cas
I gwyno am safone
Y Post Brenhinol, ond heb lwc
Fe aeth ar goll yn rhywle.
Fe gaf lond troll o sothach
Dydd Llun a than Ddydd Mercher
Dydd Iau fe'i postiaf hwy i gyd
A dont yn ôl dydd Gwener
Fel hyn 'rwy'n cadw'r postmon bach
Mewn gwaith bob dydd wrth lenwi'i sach
O weld y fan yn dyfod
Ac aros ger ein t?
Yn awchus rhedais ati
A chanfod rwtch yn llu
Englyn yn cynnwys y geiriau:'Heno yr ydw innau'
Anghlod i'r holl aelodau - yn ddiau
Ar ddiwedd eu dyddiau
Heno yr ydw innau
'n rhoi ple rhag i gartre gau
Heddiw yn cyfri'r dyddiau a ranwyd
Er hynny bu hafau
N'llawn o hwyl, tra'n llawenhau
Heno yr ydw innau.
Limrig yn ymwneud ag addysg:
Fe raddiais o goleg Sahara
BA a BD am wneud bara
Ac ymchwil yn Plwmp
I fyns heb un crwmp
Gweinidog 'rwy nawr ym Methania.
Y Glêr sydd yn dîm o'r brifysgol
Disgwylir rai pethau safonol
Ond Jim James a fi
A Dai a D.T.
Sy'n gynnyrch o goleg Ffostrasol.
Ni fum ddoe nag echdoe mewn gwersi
Na chwaith y ddau ddiwrnod cyn hynny,
Ac mae fy nyfodol
Yn eithaf addawol
Waeth mae yn ddydd Sadwrn yfory.
'R ôl dysgu bob dydd am wythnosau
A'r nosau yn marcio y llyfrau
Dwed rhiant di-hîd
Mor braf yw eu byd
Yn gweled dim byd ond y gwyliau.
Englyn cywaith: Cwsg
Hun dawel drwy holl dywydd; gaeaf oer
A gaf i dan grinwydd
Â'r tes fydd fy negesydd
'N ôl i'r daith a golau'r dydd.
Heno yn ei gwmpeini, a minnau
Am ennyd yn tewi,
N'unol a greddf, a'i aml gri
R'y ynof stôr o ynni.
Telyneg: Llais
Bu chwilio dwys am oriau hir
Yn ddyfal drwy y fro
Â'r holl gymdogion yn rhoi llaw
A'r fam yn mynd o'i cho'
Ond drwy y dadwrdd gylch y lle
A chyrchu pob rhyw fan
Mewn hir a hwyr'r ôl llwyr ymlâdd
Dihuno wnaeth y gwan.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

