Crannog v Cwps

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Crannog

Crannog

Cwps

Cwps

CWPLED CAETH I'W OSOD AR DDRWS SIOP

( Ar ddrws siop y pentref)

Cofier fod yr amserau
Yn mesur cownt amser cau.

Dai Jones


9 Pwynt

Cwpled Caeth i'w osod ar ddrws siop

Oxfam

Rhowch eiliad i ymadael
 cheiniog o'ch cyflog hael.

Huw Meirion Edwards


9 Pwynt

PENNILL YMSON MEWN CELL

Mae'n anodd i'r carcharor
Synhwyro byd sy'n well
Pan nad oes ddrws cloedig
Na phedair wal i'w gell.

Owen James


9 Pwynt

Pennill ymson mewn cell

(Wrth edrych trwy feicrosgop)

Rwyf yma, pob ddoe ac yfory,
Wrth gadwyn sy nghadw i'n gaeth
Yn ysu i gael chwalu y muriau,
Yn rhannu â'r Duwdod a'm gwnaeth.

Arwel Jones


9 Pwynt

HIR A THODDAID - ETIFEDD

( Er cof am fy nhad a fu farw pan own yn bedair oed)

Ni all yr hogyn roi cnawd i luniau
Na phlant greu rhiant o hen storïau;
Er byw'n amddifad mewn byd o dadau
Fel y dewiswn, heb weld ei eisiau,
Gwn yn iawn fod genynnau'n - drech na chof.
Â'i feiau ynof, ei fab wyf finnau.

Idris Reynolds


10 Pwynt

Hir a thoddaid - etifedd

Y geiniog wen olaf gei'n gynhaliaeth,
Meini fy aelwyd a'm hen ofalaeth;
Cei fwy na hynny, cei fy hunaniaeth
A iaith yn galon i'th unigoliaeth.
Cei f'ystad a'm treftadaeth, - ac i'th blant,
Doed eto feddiant dy etifeddiaeth.

Huw Meirion Edwards


10 Pwynt

CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):

Y NEWID

Roedd Robat Pen-cnwc yn fachan mawr,
Yn dalach na'i wraig pan yn plygu lawr;
Un o'r' bois' ydoedd Robat - chware golff a phêl dr'od,
'O chi'n gwbod 'da fe o ble o'dd e'n dod.
Un diwrnod fe sylwodd ei wraig bod fe'n newid
Pan ddalodd hi Bob mewn bwtîc yn Dihewyd
Wedi gwisgo mewn blows, sodle uchel a sgert,
Gas hi uffach o sioc, ond jawl r'odd e'n bert.

'Janet ' medde Bob yn swil
Ma rhwbeth 'da fi i ddweud,
Ac er y daw fel sioc i ti
O'r diwedd 'wy 'di neud.
'Wy wedi cael yr op
Gan ddoctor lan yn Ponty.'
'Odd e'n brofiad poenus? ebe Jan
'Na. Un snip a Bobs your Anti.'

Mae'r foeswers sy'n yr hanes
Yn blaen i bawb gael clywed
Sef - 'Byrbwyll iawn yw dyn bob tro
A dyw NEWID ddim wastad yn 'neud NIWED.

Dewi Pws Morris


9 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell):Y Newid

Blinder yw gwisgo bresus,
Trons sy'n ddilledyn cas,
Heddiw mae'r fenyw ynof
Yn mynnu cael dod mâs.

Mewn teits a bra daw rhyddid
Bydd powdwr ar fy moch,
Ac ar fy ngwefus nwydus
Blastar o lipstic coch.

Fe fyddaf dirion weithiau,
Dro arall byddaf ddraig,
A'r unig obaith debyg,
I Rocet, byth gael gwraig.

Bydd mwy o siawns mewn Talwrn
I gael deg marc am gân,
Cans ffeindiach ydy Gerallt
Medd pawb, wrth lodes lân.

Mae aelod o dim Crannog
Am fynd a fi i'r Ritz,
Rhaid rhuthro i'r ysbyty
I orffen torri'r 'bits'.

Dafydd Morgan Lewis


9 ½ Pwynt

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL) - CYMUNED

Hyd y dyddiau diweddar
I'n hoes gul y bont a'r sgwar
Ydoedd bwrdd ein cydgwrddyd,
Ffynnon Bach oedd ffin ein byd,
Ac am byth dychmygem bod
Wynebu yn adnabod.

Nes daeth i'n pyrth wyrth y We
A ffôn lôn a dynn lunie,
Lloeren chwim a thrên a char,
Radio a ffilm a redar,
A wnaethant ger pob trothwy'r
Blaned yn gymuned mwy.

Dic Jones


9 ½ Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) - Cymuned

Sgwrs fudan sy'n dweud hanes
heno'n awr, gan ddwyn yn nes
unigolion o'r golwg
heno i gyd heb wên na gwg;
eu sgwrsio'n deipio o d?
yn dawelwch o deulu.
Heb ryw anterth o chwerthin
segur yw iaith o flaen sgrîn,
pobun i ddeigryn yn ddall,
neb i herio neb arall.
Hyn i gyd a'r drws ar gau
heb adnabod wynebau.

Dafydd John Pritchard


9 ½ Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD

Aeth Nain a Tadcu o Ewenni
I gyngerdd yn Abergafenni,
Cawsant 'wife-swap' reit ffein
Gyda phâr o Bahrain
Ma'nhw'n gobeitho mynd nôl 'na eleni.

Dewi Pws Morris


9 Pwynt

Limrig yn ymwneud a chyngerdd

Mewn cyngerdd yn neuadd Rhosili
Mi glywais swn chwerthin go sili.
Rol gwrando am sbel
Mi sylwais - wel, wel,
Bod Terfel yn Cosi Ffan Twti.

Iwan Bryn James


9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ryan Giggs gyda'r un gôl
A fêd in well dyfodol

Ateb llinell ar y pryd:

Ryan Giggs gyda'r un gôl
A wna hwn yn wahanol

1 Pwynt

ENGLYN CYWAITH - ETO

O'r braidd y gall gwareiddio - natur dyn
Altro dim ohono,
Mae celain cain yn y co'
A heb ddowt y bydd eto.

Dic Jones


10 Pwynt

Englyn cywaith: Eto

 hudlath laith anadlodd - y bychan
Ebychiad, a chreodd
Â'i araith fach wrth ei fodd
Hen ledrith ein hailadrodd.

Huw Meirion Edwards


9 ½ Pwynt

TELYNEG - CWESTIWN

'Where's ye going, bud ?'

I'r digyfeiriad ar forlan bod
Mae'r ffin yn denau rhwng mynd a dod.

Nid oes iddo angor amser a lle
Pan fo'r llanw yn uchel a'r gwynt o'r de,

Ond yno yn sobrwydd y llygaid syn
Roedd llonydd terfynol mynydd a llyn,

A daw'r doethaf o ddynion yn ôl at ei goed
Pan holir y cwestiwn gan athronydd wyth oed.

Idris Reynolds


9 ½ Pwynt

Telyneg Cwestiwn

Eglwys wag, ac oglau'i s?n yn ateb,
ateb o hyd; yr ateb tawel,
mor ddiarhebol dawel
â llygod y lle. Heb

gystrawen na grym gramadeg
i'r glust allu cydio
yn y synnwyr sydd yno.
Heb ei hoelio yn rhethreg.

Dim ond siffrwd penliniau
a llafn drwy'r ffenest liw
yn chwalu'r llwch heb siw
na miw. A rhes o baderau'n

fan'cw'n fflamau eiddil,
eu bodolaeth cyfan yn gryndod;
ac eto mae'r syndod
yn para'n eu dycnwch cynnil.

Eglwys wag, ac oglau'i s?n, mwya sydyn
â'i llond o oleuni
sydd am eiliad yn profi
fod ffydd yn y gofyn.

Dafydd John Pritchard


10 Pwynt

Englyn ar y pryd i'w rhoi ar garreg aelwyd :

Helo ers dyddiau lawer - der'i roi
Dy droed wrth y ffender,
I ni gyd am funud fer
At dân coed dynnu cader.

CYFANSWM PWYNTIAU : 85

Englyn ar y pryd i'w rhoi ar garreg aelwyd:

O barch i'r rhai fu'n berchen - eich aelwyd,
Rhag chwalu'r dynghedfen,
Llachar a fyddo'r llechen
A'u neuadd hwy'n newydd hen.

Huw Meirion Edwards


9 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 86

Cynigion Ychwanegol :

Ein gwaith yn ein heniaith ni
Yw â gwên eich digoni.

Yr ydym yn arch-farchnad
A hoffwn roi coffin rhad.

Losyn siep. Bydd dy epil
Yn llanw twll yn y til.

( Marks and Spencers, Llandudno )

Cofia di, gerllaw pier
Llwyd y Sais, 'Gerallt was here'.

( Ar ddrws soip taxidermist)

Am y cwrc, er cadw'r co'
Y staff sydd yma i'ch stwffio.

O droli i droli â'r dre
Yn saff i ddwylo Saffwe.

PENNILL YMSON MEWN CELL

Mae 'ngnew'llyn yma'n gorwedd
Yn ddiddig yn fy'nghôl,
A diogel ydyw'r bywyn
A philen fain yn siôl;
Daw myrddiwn o rai tebyg
I fynnu eu parhad,
Gan amlhau eu hunain
Heb help ewyllys tad.

( Cell Cosb)

Mi dyngais y llw wrth orwedd mewn baw
Nad fi oedd ar fai pan godais fy llaw.
Y boi yn y canol oedd achos y trwbwl,
Yr un o Specsavers gyda'r gwydrau dwbwl.

HIR A THODDAID - ETIFEDD

( Crefftwr )

I arian sychion nid aer mohono
Wedi'u gwiweru drwy'r byd i gario,
Ni ddigwyddodd fod tiroedd ac eiddo
Yn troi yn hawdd ar aer twrne iddo,
Ond ag aelwyd i'w bwydo - fe gafodd
Y ddawn a waddolodd Ion i'w ddwylo.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYNGERDD

Roedd tenor o ardal Cwm Gwaun
Yn canu nes bo'i lais e dan straen
Mewn cyngerdd yn y Glais
Fe gollodd ei lais

Roed ei geg e yn agor a chau,
Ond colli ei lais a wnaeth Dai
Ac roedd solo bas
 dim yn dod mas
Yn swnio yn well medde rhai.

Fe gwynodd dros gant mewn côr merched
Bod canu mewn gwres yn waith caled,
Wrth gyraedd top do
Fe godon nhw'r to
A chanu'n yr awyr agored.

Aeth ficer o blwy Pen y Groes
I gyngerdd transvestites un goes.
Gas e gymaint o hwyl
Gyda dynferch o Bwyl,
Nawr mae'n hopian a'i enw yw Lois.

Mewn cyngerdd yng nghapel Pantglas
Cafwyd noson undonog ,ddi-flas,
Gan bo'r canu heb rym,
Ceid mynediad am ddim.
Ond rhaid talu pum punt i ddod mas.

Roedd canwr o ardal y Bala
Yn treulio ei oes yn tralala
Gan weithio i fyny
Drwy ffa- soh i lah-ti
Nes codi o doh ei La Scala.

ENGLYN CYWAITH - ETO

Y mae yn rhuddin fy mod - hen elyn
Rywle nad yw'n darfod;
Un a fydd un dydd yn dod
I reibio'n ddiarwybod.

Wedi'u hennill gan denor, - yn erfyn
Mae'r dyrfa am ragor,
Oherwydd yr egwyddor
Yw mynnu cau mewn encôr.

(Ar drothwy Cwpan y Byd arall)

Ar y sgrîn yr un yw'r sgrech - a hynny
Ble bynnag yr elech ;
O Gonwy i Langennech
Ni cheir namyn cwe deg chwech.

Daw wynebau â'u dawn heibio - a chwys
Chwe deg chwech yn llifo;
Dônt i'r sgrîn yn ddiflino
A chwpanau caeau'r co'

TELYNEG - CWESTIWN

Mi fûm, a byddaf eto
Gwn, yn pendronni'n hir
Ai Darwin ynte Hawking
Sydd nesaf at y gwir.

Ni wn ai trefn ai damwain
Sy'n cadw'r byd i droi,
Ond tra bod ddadlau'n para
Mae'r ateb wedi'i roi.

Yn awr y brofedigaeth
Mor anodd yw o hyd
I geisio canfod ateb
I'r holl gwestiynau i gyd.

A'r bach yn mynnu gofyn,
'R ôl blino holi pam,
Wrth rifo'r sêr un noson
'Pa un yw seren Mam'.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth i'w osod ar ddrws siop

Nice 'n' Naughty (siop fwyaf parchus Aberystwyth)

Digonedd o deganau
I ni'r plant mawr eu mwynhau.

Cheap Charlie's (siop gwerthu popeth, un o sefydliadau'r dre)

Trugareddau tra gwreiddiol
O gas CD i goes stôl.

Limrig yn ymwneud a chyngerdd

Mae'r ddynes tu ol imi'n gwirioni
Yn gwenu a giglo a gweiddi
Ar noson fel hyn
Pa obaith sy i Gwyn
A Bryn yn cosi ffan Twti?

Nos Iau yn y jyngl bu consart
Y gorau erioed n'ôl y Llewpart
Fe fwytodd Huw Chiswell
Boy George a Bryn Terfel
Gan ladd y blas drwg efo mwstart

Roedd hi'n anodd gweld heibioi Beti
Heb godi i sefyll yn ein seti
Un fechan oedd hi
Ond fod parot a chi
Yn nythu ym mhlygion ei het hi.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.