Tanygroes v Y Sgwod

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'olwyn'

Awn ni, ar olwyn o hyd,
Yn rhy fuan trwy fywyd.

John M.O.Jones


9 Pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'OLWYN'

(gweddi)

Rho un wên ar lethrau 'nhaith
i'r olwyn gael troi eilwaith.

Geraint Roberts


8 ½ Pwynt

Pennill Ymson wrth ddarllen llythyr

(O'r ffosydd mewn amgueddfa)

Mae'r inc cyn syched â hanes,
A'r papur mor denau â'r co',
Y 'sgrifen yn hen fel pechod
A'r awdur yn gaeth yn y gro'.
Aeth bron i ganrif ar ei hynt,
Ond deil y drewdod yn y gwynt.

Phillipa Gibson


9 ½ Pwynt

PENNILL YMSON WRTH DDARLLEN LLYTHYR

Rwyf yma'n y bathrwm yn eistedd
â llythyr cyfreithiwr o'm bla'n.
Beth wnaf i? Ei lwyr ddiystyru
a'i daflu yn syth ar y tân?
Neu a wnaf rhyw ddefnydd ohono?
Gan nad oes dim mwy ar y rôl,
fe allwn, o godi o'r orsedd,
ei blygu a'i roi o'm tu ôl.

Roy Davies


9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Yn fy aros yfory'

Wedi'r dyfal ofalu - a'r hiraeth
Drwy oriau'r galaru,
Mae dychwel i dawel d?
Yn fy aros yfory.

Ken Griffiths


9 ½ Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL: "YN FY AROS YFORY"

(Tutankhamun yn siarad; o gofio bod ei fwgwd mewn amgueddfa yng Nghairo)

Yn heddiw'r aflonyddu, - yn y rhith,
yr aur a'r rhyfeddu,
un oes hir dragwyddol sy'
yn fy aros yfory.

Geraint Roberts


9 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): 'Y Ddamwain'.

Mewn lifft yn Marks and Spencers, 'na brofiad gefais i -
Cael 'ngwasgu rhwng menywod : rhyw nyns bach gwyn a du.
Pan sylwais ar un llian â sbectol fach heb rim
Yn syllu ar fy nhrowsus, er na ddywedodd ddim.
Chwilfrydig oedd, efallai, ar ôl blynyddoedd lu
Yn byw mewn hen leiandy heb wryw yn y t?.
Pan ges ryw seithfed synnwyr, am lawr fe roddais bip -
Roedd damwain wedi digwydd - ar agor oedd fy zip.
Ond saff oedd y lleianod, dim lle i'r chwith na'r dde,
I berfformio mabolgampau mewn fath cyfyngus le.
Tu hwnt nawr i erobics y gwryw yn eu plith
Cans adar trig ni hedant 'n dragywydd mas o'r nyth.
Mi glosiais yn agosach i'r neilltu at un nyn,
Gan gau fy zip yn hastus, yn daclus ac yn dynn
Yn ffrils ei gwn yn ddiogel, mewn crych bach lle'r roedd sag;
'Nanffodus cafflodd hwnnw lawr fforni'n hol-bi-dag.
Fe gwynodd i'r Siwpirior, a lawr â ni ein tri
I'r cyfleusterau isod - y 'stafell ych-a-fi.
Ar ôl rhyw ddefod sanctaidd, gwnaeth hon 'ngorfodi i
I weddïo am faddeuant am fy mhechodau lu.
Jiw, am ail bip gofynnodd, 'rôl tynnu'r zip yn rhydd,
I gael gweld beth oedd gan Adda yn Eden 'slawer dydd.

Arwel Jones


10 Pwynt

CÂN(heb fod dros 20 llinell): Y DDAMWAIN

Roedd cogydd t? bwyta'n Llanelli yn taflu y sbarion tu fas,
A ch?n a chwrcathod yr ardal yn mynd yno'i wledda ar ras,
Ymhlith yr holl fwyd yr oedd tuniau yn hanner llawn samwn John West
A Twm, cwrci melyn T? Capel, aeth yno un nos i gael ffest.

Aeth ati i fwyta yn awchus nes teimlo ei fola yn dynn,
Ond wrth iddo lyfu ei wisgers aeth ei ben e yn sownd yn y tun;
Fe wylltiodd a dechrau ffyrnigo, fe droiodd y cwrci yn gas,
Roedd hynny i mi'n ddealladwy â'i ben e yn ffaelu dod mas.

Fe redodd fel ff?l mewn i'r caffi tra'r bobol yn edrych yn syn
Wrth weled y cwrci yn sgathru â'i ben e yn styc yn y tun;
Ond diawl o Alsatian a welodd y cwrci yn stryglan fan draw
Wrth geisio rhyddhau y tun samwn i gael chance i weiddi: "Miaw".

No contest yw ffeit rhwng Alsatian a chwrci â thun am ei ben
Fe hyrddiwyd y cwrc a'r tun samwn drwy'r awyr i fyny i'r nen
A disgyn yn fflat ar ei gefen a hynny ar ganol main road,
Ac yno bu farw y cwrci; ni welodd y lori yn dod.

Roedd `ffeirad yn digwydd mynd heibio â het cantel mawr ar ei ben
Fe'i gwelwyd e'n edrych i'r Nefoedd, a chlywyd e'n sibrwd: "Amen,"
A gyrrwr y lori esboniodd, wrth weled y cwrci'n y clais:
"Fe welais yn blaen y tun samwn, ond welais i ddim o'r cat's eyes."

Roy Davies


10 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): 'Dedwyddwch'

Awel dyner o'r Ferwig
Ddaw'n ei thro i wisgo'r wig
 dillatach glân, llachar,
A gwahodd gwrandawyr gwâr
Yma i weld perfformwyr mân
Yn llafar ar eu llwyfan.
Clywn ditw yn galw'r gog
Â'i thiwn o berth eithinog.
Huodledd y cystadlu
Rhwng yr haid tenoriaid du,
Ry rhyw ias yng ngwawr yr ha'
O'r ddiddarfod gerddorfa.

Emyr Jones


9 ½ Pwynt

CYWYDD(heb fod dros 12 llinell): DEDWYDDWCH

Dedwyddwch ar ôl ymweld ag Ynys Gwales

Rhwng Gwales a'r byd nesaf
mae 'na rai sy'n mwynhau'r haf,
yn dod i wrando adar
ar graig oer y geiriau gwâr
ac o fewn i'w hogofâu'n
dod i gael hud y golau.

Fe wylaf innau'r felan
a bwrw'r haul o dir Brân;
yn eigion Mabinogi
mae Heilyn fy neigryn i
i Wales yn dychwelyd,
at ddôr i'w hagor o hyd.

Karen Owen


10 Pwynt

Limrig yn ymwneud â gwaith:

Cartwn fel Da Vinci yw'n benna',
Enwocach na llun Mona Lisa :
Rhodd Aneurin i'r hil,
A bargen can mil -
Mae Arwel 'n y Tate yn Vienna.

(Roedd cartwn o Arwel Jones, o waith Aneurin Jones, ar werth yn ystod Dydd Sadwrn Barlys yn Aberteifi, 29 Ebrill)

John M.O.Jones


9 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH

Y job fwyaf caled o'r cyfan
yw chwysu heb symud o'r unfan;
dyna beth yw riteirio,
cau llygaid a blino
wrth feddwl am eraill yn tuchan.

Harri Williams


9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Yn brin o hyd y mae sbri
Hiwmor sy'n bwysig imi

Ateb llinell ar y pryd:

Hiwmor sy'n ffisig imi
Daw â'i wên o'th galon di

Dafydd Williams


1 Pwynt

Englyn Cywaith: 'Ofn'

Yn y pridd mae'r ffatri'n parhau - i greu
Ac i roi o'i nwyddau :
Di-baid yw'r gwaith, ond weithiau
Caf ofn rhag ofn iddi gau.

Phillipa Gibson


9 ½ Pwynt

ENGLYN CYWAITH: OFN

(tad yn dychwelyd i'w fro fel troseddwr)

Er y waedd oedd mor addas - yn antur
i blentyn a'i deyrnas,
neithiwr daeth i'r gymdeithas
a dwyn cof am y dyn cas.

Geraint Roberts


9 Pwynt

Telyneg : 'Llan'

Fe fydd ei chloch yn canu
Tra bydd ein credo'n bod,
Gan nodi grisiau bywyd
A hynt ein mynd a dod.

Mi welais wên a deigryn
Yn swyn ei galwad hi,
A'r gloch 'rwy'n ofni fwyaf
Yw'r gloch na chlywaf i.

Ken Griffiths


10 Pwynt

TELYNEG: LLAN

Mae'r inc bron iawn â sychu
ar glawr y papur bro
pan ddaw y stori olaf
i chwalu'i ddedlein o.

A daw'r Golygydd, yntau,
i altro'r ddalen flaen
a sgriblo'r geiriau addas
fel gwnaeth sawl tro o'r blaen.

"Yn hwyr, bu farw Cymro"
yw'r pennawd newydd, bras,
er nad oes neb yn sylwi
fod, yn y galar, ias.

A dyna pryd mae marw
un golofn fach o'r iaith
yn gadael mwy na gofod
yn stori'r frwydr faith.

Karen Owen


10 Pwynt

Englyn ar y pryd: 'Sleaze'

Y mae crechwen ein pennaeth anhydrin
Yn pydru'r llywodraeth,
Dyna elyn dynoliaeth
Ac i hon 'rwyf innau'n gaeth.

8 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84

Englyn ar y pryd: 'Sleaze':

O ethol y dyn unwaith - a'n rhwydo
I gredu'n ei weniaith,
A geiriau gwag oriau'r gwaith,
Etholir ei warth eilwaith.

Dafydd Williams


8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 84 ½

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'olwyn'

Yn ddiau am wyliau mwyn
Enciliaf i Fae Colwyn.

Ar riw, yr olwyn a red
Yn orau ar i waered.

Pan ddaw'r diafol at olwyn
Dy ddwylaw, fe ddaw i ddwyn.

Ni all g?r di-ball ei gwyn
Reoli cadair olwyn.

Ar y maes, oeda, er mwyn
Rhoi olew ar yr olwyn.

Pennill Ymson wrth ddarllen llythyr

Mae'r rhyfel 'ma'n costio miliynau,
Mae Jaguar mawr i'r M.P.;
Rwyf finnau yn disgwyl llawdriniaeth,
Ond nid oes 'na wely i mi.

Annwyl Arwel,
Diolch iti
Am gofio amdanaf i,
Yn wyth deg oed eleni.
Wel, chware teg i ti.
A'r bocsed Licrys Olsorts,
Fe'i bwytais gyda blas,
'Rôl ambell fegian pardwn
Wrth droi y corgwn mas.
Ar gof mae'r nos ramantus
A gawsom wrth yr iet
Yn Buckingham - ti'n cofio?
Yn gywir,
Lilibet.

Englyn yn cynnwys y llinell: 'Yn fy aros yfory'

Seren y Gogledd

Mae seren uwchben y byd - yn f'aros
Yfory o'r cynfyd;
Y lleufer mor bell hefyd,
A'r wyrth lân wrth law o hyd.

Yn fy aros yfory - mae rhyw wawr
Ym mro'r haul sy'n dallu,
A rhy 'nallter o'r neilltu
Holl ysblander y sêr sy'.

Mae Karen yn fy nenu - i heno,
A mynnaf ei charu,
Ond mae'r grasfa fwya' fu
Yn fy aros yfory.

Limrig yn ymwneud â gwaith:

Nid gwneud jobyn da ydy gweithio,
Na rhoi nerth bôn braich ydy labro,
Ond rhoi tics a chroesys
Mewn wyth mil o focsys,
Ac wedi dibennu, rhoi tic 'to.

Rwyf innau'n y senedd ers tro,
Mi gefais swydd bwysig 'na, do.
Rwyf wrthi yn gyson
Yn dal y diferion
A ddaw drwy y twll sy'n y to.

Mae llond t? o blantos i'w tendio,
Rwy'n myned am beint bach cyn cinio;
Mae'n rhaid mynd i ôl
Arian lwfans a dôl -
Rwyf innau'n rhy brysur i weithio.

Roedd Ifan am ddod mas o drwbwl,
A gweithiodd fel slâf amser dwbwl;
Ond aeth ei freuddwyd yn rhacs
Pan ddaeth boi'r income tax,
A mynnodd y diawl fynd â'r cwbwl.

Ar ffas 'roedd fi'n gwitho yn Twmbwl,
Ar ddydd Sul 'roedd pae fi yn ddwbwl;
Hi Sgargil oedd Dduw,
Hei leiff ro'n ni'n byw:
Fe Thatcher a sboilws y cwbwl.

Englyn Cywaith: 'Ofn'

Pob awr i'r wawr yw aros - i'r rhaib oêr,
Pan dry'r bwl daw beunos
Wên lugoer o law agos
Drwy y niwl fel lleidr y nos.

I Mr Rob Hill, Ysbyty Singleton, Abertawe, am achub fy ngolwg

Rhywsut, a minnau'n drysi - yn hen ofn
Cleon nos, rhoist imi
Yr allwedd, a thi heddi
Liwia wawr fy ngorwel i.

Ar gynnydd mae drygioni - yn Irac,
Ac Iran sy'n corddi ;
A Bush a Blair yn berwi -
Mae hyn yn fy nychryn i.

Telyneg : 'Llan'

Pan welwn y golau o'r ffenestr
A chlywed Cymraeg eto'n blaen,
A gwynto y blodau bach, gwynion,
Fe wyddom fod rhywbeth ymlaen.

A gwyddom, pan welwn y dyrfa
Yn llwybro mor gynnar i'r man,
Nad plant sydd yn dod at eu bedydd --
Ond angau sy'n llenwi y llan.

Arhosais rhwng y rhesi
Heb weled cochni troed,
Colofnau'n hollt 'n eu goledd
Yn sarn wrth gadw oed.

Nid adnod na chynghanedd
Sy' nawr yn hebrwng ffydd,
Caersalem drodd yn Gracelands,
A Phresley 'r trydydd dydd.

Mae marmor gwyn Carrera
Yn ddu gan asid glaw,
A'r werin ar lechfeini
Yn gorwedd yn y claw'.

Cynigion Ychwanegol:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'OLWYN'

Ni all, er mor grwn ei waith,
lunio'r olwyn yr eilwaith.

Y rhod sydd yn troi mor rhwydd
yw olwyn y dweud celwydd.

Un gron, ddieflig o rwydd,
hon yw olwyn fy nghelwydd.

PENNILL YMSON WRTH DDARLLEN LLYTHYR

Fe wnaeth y cyfrifiadur, y we a'r e-bost chwim,
y mudol ffôn a'u tebyg hen gyfrwng caru'n ddim;
ond weithiau af yn ddirgel at ddalen sy'n parhau
gan eto ganfod ynddo y rhamant fu rhwng dau.

Mae f'enw ar yr amlen ac nid oes neb ond fi
â'r hawl, yn wir, i'w ddarllen, beth bynnag dd'wedi di;
ond caniatad pwy gafwyd flynyddoedd maith yn ôl
i bawb drwy'r byd gael darllen llythyrau'r Apostol Paul?

(ymson Emyr Oernant)

O, damo! Mae'n gas 'da fi lythyr
print mân ar dudalen fawr wen,
ond daw gweledigaeth pan wisgaf
feiffocals reit lan ar fy mhen.

Yn feddw'n y dre un nos Sadwrn
yn chwilio t? bach roeddwn i;
oes raid i'r cyfreithiwr fy ngwawdio
gyda'i lofnod, ac yna pp?

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL: "YN FY AROS YFORY"

Ynof, henaint sy'n mynnu - i ryw hud
droi y rhod oddeutu,
ac ail-fyw y gwyliau fu
yn fy aros yfory.

CYWYDD(heb fod dros 12 llinell): DEDWYDDWCH

o wrando ar Y Planedau, Gustav Hols

t

Yn rhwydwaith y sêr, hedais
i erwau fry y llu, a'm llais
wrth droelli'n wybr y Llwybr Llaeth
yn ddyrys ei gerddoriaeth.

Yn ein hoed â'r planedau,
cawn ddod i'r gofod a gwau
cerddi fedd gynganeddion
na ?yr iaith y ddaear hon.

Dwys hwiangerdd bydysawd
ar ei hen dragwyddol rawd
yn cymell yn bell i'n byd
diwnio i'r duwdod ennyd.

Pleser yw treulio'r oriau
yn y dweud a geir rhwng dau,
nes clywed y teledu
yn rhoi taw ar sgwrsio'r t?.

Yma fe ddaw mor amal,
dod â'i drais rhwng pedair wal;
y set o hyd sydd â'i st?r
yn erlid trwy y parlwr,
a gwaedu'r oes ddigidol
yn dod â'i staen rhwng dwy stôl.

Yn aros y mae'r siarad,
am wn i, yn y mwynhad!

LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH

Mae'r enwog Wayne Rooney mewn plastar,
i Loegar, mae hyn yn ddisastar,
yn ddiwedd y Byd
a'r boi ar ei hyd -
un diwrnod o waith fyddai'n giwar!

Buont wrthi, do eto, eleni,
yn taro ychydig o beli,
cael ffortiwn mewn arian
a chloben o gwpan
trwy lenwi rhyw chwech o bocedi.

Ar ôl rhai blynyddoedd yn slafo
'da Wimpey yn ceibio a rhofio,
fe es i ar frys
i joino'r Polîs -
roedd hynny'n well lawer na gweithio.

Ar ôl bod 'da'r Ffôrs am flynydde,
gwaith hawdd iawn oedd datrys trosedde,
yn wir, o'i gymharu
â'r gwaith o farddoni,
gwaith anodd yw llunio limrige.

Erioed, fe fûm i yn dymuno
cael jobyn â'r arian yn llifo,
dim dechrau'n rhy gynnar,
mynd adref am bedwar
a dwyawr o leiaf i ginio.

Mae rhai wedi 'ngalw i'n harlot
ac yn dipyn o Jiwdas Iscariot;
ond maen nhw'n rhy sidêt,
roedd y job yn un grêt
yn trefnu pob dêt i John Prescott.

Nid yw desg Johnny Prescott yn segur,
mae e wrthi yn gwneud ei waith papur,
a hefyd mae arni
yn eistedd 'da Tracey
yn dymchwel pileri'r blaid Lafur.

Gwaith anodd yn awr fydd i Prescott
gael pawb i'w gefnogi mewn balot -
mae ei enw i lawr
yn y bydol lyfr mawr
a gedwir gan Tracey, y secspot.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.