Aberhafren v Preseli

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.

Aberhafren

Aberhafren

Preseli

Preseli

Cwpled caeth i'w roi mewn awyren

(ger siacedi achub)

Os digwydd nam neu ddamwain,
gweddïwch, a rhannwch rhain.

Owain Rhys


8 Pwynt

Cwpled caeth i'w osod mewn awyren:

O ysgwyd, yna disgyn
Rhaid fydd dal, a dal yn dynn!

Terwyn Tomos


8 Pwynt

Pennill mawl / dychan

Cymdeithas bêl-droed Cymru

Iaith y bêl yw iaith y byd,
a'r un bêl gron yw hon o hyd.
Iaith y ddaear bedwar ban
yw un y maes ym mhob un man...
Ond â gw?r yn gwneud eu gwaith,
naw wfft i gôl rhyngwladol iaith!
Rhag peri rhwyg, a rhag y pris,
eu peli hwy sy'n Saesneg, plîs.

Rhys Iorwerth


9 Pwynt

Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Ebrill 2006, mewn llythyr at Nick Bourne AC: 'The Football Association of Wales a number of years ago took a decision that its business would be conducted in English. Until the council takes a different diecision, that will remain our policy' (ymateb i g?yn gan glwb o'r gogledd am iddynt wrthod ymateb i ohebiaeth Gymraeg, er gwetha'r ffaith bod 'pêl-droed yn iaith ryngwladol')

Pennill Mawl/Dychan: Cymdeithas Bêl Droed Cymru

Er addo sawl Afallon
Boddi wnaed cyn cyrraedd hon,
Er sôn am lanw ganwaith
Ers pump wyth bu'r trai yn faith.
Er penodiadau lloerig
Esgorodd ar reg a dig,
Eto, ar ôl beirniadu
Y criw hyn am ddyddiau du.
Maent er gwaethaf pob pechod
Yn fwy gwâr na chriw'r bêl od.

T.R.Jones


8 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys llinell:

'Y mae hynny'n fy mhoeni'

Bush

Pan fo cabledd ym mhob gweddi, a gwawd
y Gair yn fwledi,
a gwae Duw'n dy lygaid di,
y mae hynny'n fy mhoeni.

Owain Rhys


9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell:

"Y mae hynny'n fy mhoeni":

(Englyn i un o arferion meched ifanc yr oes hon)

Rhwng trowser a siwmperi - un nodwedd
Yw'r cnawd roli-poli,
Y teiar crwn welwn i;
Y mae hynny'n fy mhoeni.

T.Gwynn Jones


9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell):

Rhy hwyr

Doedd dim taw ar y glawio
gafodd wadd i'w angladd o.
Bore oer dan ymbarél,
a thywallt trist a thawel
y mil o ddiferion mân
ar yr awel fel graean.

Yn fud y dôi cyfoedion
mewn rhes hir i lenwi'r lôn;
yn griwiau dod o geir du
i'r glaw oer a'r galaru.

Arllwysai nes brifai, bron,
a gafael wnâi'r atgofion,
yn ddegau o bethau bach
na ballai'n fy nghof bellach -
nes gweld na cheisiais ag o
un eiliad i ffarwelio.

Nid tywallt trist y tywydd
a griai'i ôl ar bob grudd;
yr oedd i'r ddwy, i'r awr ddu,
ddiferion o ddifaru.

Rhys Iorwerth


9 ½ Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Rhy Hwyr

Aeth cynnal yr achos yn ormod o broblem
I'r ychydig enwau yng Nghapel Salem.

A'i bod hi ysywaeth yn awyr yn amen
A daeth canrif a hanner o dystio i ben.

I'r swper olaf daeth tyrfaoedd rhyw b'nawn
Ni fu'r capel ers degawdau yn wir mor llawn.

Addolwyr un oedfa a phob un â'i atgo
Am ysgol,gobeithlu a thripiau Llandudno.

Gwrthgilwyr ers achau a'u snwffian dagreuol
Wrth ddwyn i gof hen gyffro'r gorffennol.

Os oedd hi yn Salem yn Swper Olaf
I'r rhelyw o'r rhain 'roedd yn swper cyntaf.

Rhyfedd eu gweld nhw yn edrych mor iachus
Wedi dioddef blynyddoedd o'r clwy Sabotheitus.

Gallech feddwl iddynt fod yn selogion yr achos
Wrth weld mor gartrefol oedd pob un yn ymddangos.

Roedd yn y gaeaf bid si?r yn rhy oer a glawog
Ac yn yr haf hirfelyn yn llawer rhy desog.

Ond wedi'r rhith duwioldeb y nefoedd a ?yr
I'r brwdfrydedd undydd fod ddegawdau'n rhy hwyr.

T.R.Jones


9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Unrhyw berson byw

Simon Weston

Teimlaf ei holl anafau,
Ei boen yn wyneb o wae
A'i ddioddef yn sefyll
Yn ei fyrdd o glwyfau hyll,
Pob craith yn artaith o hyd,
Yn adlef, yn sgrech waedlyd.

Er holl wae y dyddiau du
Ni fu i hwn roi i fyny,
Yn nhanchwa gwep mae fflach gwên,
A'i loes yn fflam elusen.
Rhoi'i fod er ein dyfodol
A wna'n hael, heb edrych 'nôl.

Aron Pritchard


10 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):

Unrhyw Berson Byw

Iolo Williams

Haldied o fwynder Maldwyn
Sy' i'w wedd, a iaith llawn swyn,
Ein Ffransis o Asisi;
Arwr 'nawr i'n harwain ni,
Dysg a dawn gawn gan y g?r
Ein derwen o adarwr,
Yn y ffrâm, 'does arno ffrwyn,
A'i hudol eiriau'n gadwyn,
Carwr bro, Cymro i'r carn
Ceidwad y gwreiddiau cadarn.

Hwn yw ein Atenbro ni
Y cawr ymysg y cewri.

T.Gwynn Jones


9 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Dyw'r Archdderwydd o bawb ddim yn grinc,
A does na'm awgrym fod ganddo fo ginc,
Ond ddydd Gwener, pan lithrodd
Y cledd, fe'i dinoethodd,
Gan ddangos odanodd ddrons pinc.

Llion Roberts


8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Bicini ma nhw'n dweud sydd ore
I fwynhau ym mwrlwm y tonne,
Nid oes raid i mi
Gael top welwch chi
Ond gwaelod i gwato'r pechode!

W.R.Smart


8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae rhai o hyd yn mawrhau'n

Ateb llinell ar y pryd:

Mae rhai o hyd yn mawrhau
Y Meuryn - ein gem orau

1 Pwynt

Englyn cywaith:

Ateb

Tybed a yw dy ateb di'n y wên
a'r winc a gaf gen'ti?
Ofni ydwyf na wnei-di
ddweud 'gwnaf' os gofynnaf fi.

Llion Roberts


8 ½ Pwynt

Englyn Cywaith: Ateb

Mae'n ddyddiau hau amheuon, a dyddiau
Ein diddim wleidyddion,
Tybed â oes atebion
I ofid mawr yr awr hon?

T.Gwynn Jones


8 Pwynt

Telyneg: Cadair

Mae hi'n wag heno,
â'i holwynion mor llonydd.

Ond fe'i cofiaf yn llawn,
â'r wên yn denu'r ?yrion
fel pili-palod at flodyn,
er garwed y ddrycin.

A gwn nad gwywo wna'r cof,
ond ymdoddi'n betalau mân
i ruddin gwreiddyn Bod.

Owain Rhys


9 ½ Pwynt

Telyneg: Cadair

Pitw ydyw,
Tegan t? dol o gelficyn
A wnaed i gwtsio'n daclus
Ar y silff ben tân
Neu'r seld,
I fod yn destun sgwrs-wrth-fynd-heibio
Gydag ymwelwyr.

Ond, wrth eistedd yn hedd yr eisteddfod
Yn neuadd y pentref,
Bydd cysgodion wyth canrif
Yn drwm dros y lle,
A bonllefau bonheddwyr
Yn atseinio drwy'r oesau;
Ac wrth fagu ei degan
A derbyn gwrogaeth y Llys,
Fe deimla'r bardd
Law yr Arglwydd Rhys ar ei ysgwydd.

Terwyn Tomos.


8 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Beddargraff Bardd

T.H.Parry Williams

Yn ein hias,pan ddringwn ni anniddig
Fynyddoedd dy gerddi,
Mae hofran dy yngan di'n
Hir aros fel Eryri.

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

Englyn ar y pryd: Beddargraff Bardd

Waldo

I ryfel roeddet yn elyn, - eiddot
Oedd Heddwch y perthyn;
O'th ffenest daliest yn dynn
At ryddid, ac at wreiddyn.

Terwyn Tomos


9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

Cynigion Ychwanegol:

Englyn yn cynnwys llinell:

'Y mae hynny'n fy mhoeni'

Er dweud 'rwy'n dy garu di', - er y wên,
mae rhyw haen o oerni
y tu ôl i'w llygaid hi:
y mae hynny'n fy mhoeni.

Cân(heb fod dros 20 llinell):

Rhy hwyr

Nid wyt yn ddim ond peiriant erbyn hyn,
Dyna yw dedfryd y meddygon oll,
Dieithryn wyt, yn gorwedd yno'n syn,
Ers dyddiau bellach, buost fud, ar goll.
Dim ond y trydan drwy y gwifrau maith
Sy'n wefr i'th guriad calon di yn awr,
Bydd angen mwy na gwyrth, mae hynny'n ffaith,
Tan ddeffri di, tan weli eto wawr.
Er hynny, pallu wnaf a gadael rhydd,
Cydnabod nad wyt bellach gyda ni,
A gwn mai agor llygaid wnei rhyw ddydd,
Am hynny, nid wyf am dy ddiffodd di.
Parhau i wrthod credu wnaf yn llwyr,
Na derbyn ei bod bellach yn rhy hwyr.

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Dewch yma Siwsana a Trini*
Mae'ch hangen yn nhre fach Llanelli
I gribo a sgwrio,
I wacsio a phlycio,
A gwisgo holl feirdd y Preseli.

O'r rhaglen 'What Not To Wear'

Englyn cywaith:

Ateb

Er bod hafan rhyw ganol - i'm chwilio
a'm chwalu beunyddiol,
mi wn na ddaw hwn yn ôl
i'r enaid mor ariannol.

Rwy'n clywed fod yr 'hedydd yn galw
mewn galar o'r mynydd;
awn â gw?r, yn fyddin gudd
i boeni ei obennydd.

Cynigion Ychwanegol:

Limrig yn ymwneud â ffasiwn:

Rwyf i yn teimlo'r temtasiwn
I finne i ddilyn y ffasiwn
Rwy'n cred âf i
Mewn bikini du
I adeiladu a finne yn fasiwn!

Gwisgo dillad mamgu y mae Leisa
A blwmers sy'n cwato'r bwtwm bola
A sane o wlân
Heb unrhyw rân
Cael bod o fla'n y ffasiwn nesa!

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.