Manion o'r Mynydd v Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Manion o'r Mynydd

Tir Mawr

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'
Iddo'i hun, pob dyn sydd dduw;
Anodd yw bod yn fenyw
Nia Watkin Powell
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd':
Yn ein byd, er rhannu bodd
Rhoi'r hunan yw'r rhoi anodd.
Huw Erith
8 ½ Pwynt
Pennill ymson yn Crufts
Dacw fo, pencampwr Prydain
A'r ferch harddaf yn ei arwain,
Pe bai honna yn fy 'nhwsu
Byddai 'nghynffon innau fyny.
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
Pennill Ymson yn Crufts
Rwy'n beirniadu ers fore dydd Sadw'n
pob un math o gi o dan haul, m'wn
y bridiau fwyaf purion
yn sicr, fwyaf gwirion
popeth ond mwngrals a dyfrgwn
Ma'i fel siop fferyllydd yng Ngwynedd
Pils llyngair a ffisyg bolrwymedd
Jochiadau o rym
a Phedigri Chum
past dannedd a chlips torri gwinedd
Fe ddon o wastadedd a bryndir
yn drewi o sebon a sinsir
Bonheddgwn o dras
a'u gwythiennau nhw'n las
werth ddigon i fwydo cyfandir
Duw a wyr beth yw hwn s'gen y fladres
Mae'n edrych fel mop y frenhines.
Fe ddyliai'r un dew
gael ymwared o'i flew
a'i drio fel Mexican Hairless
Yn ôl un o'r hen ymadroddion
run ffunud yw cwn a'u perchnogion
Mae'n amheus gennyf i
mai John Prescott, M.P.
sydd berchen bob un o'r Bwldogion
O dyddyn wrth ymyl Trefin
ddaw 'Pendingsnip Trixibell Queen'
Mae ganddo gap tolsyn
a slipas bach melyn
a gwasgod a chlwt am ei din
Y wobr a noddwyd gan 'Spar'
a roddaf i 'Rex Aberdar'
C.V. fel llyfr mynach
sy'n tystio i'w linach
(ei nain oedd ci rhech gwraig y Tzar!)
O'r lluoedd bach blewog di ri
y wobr aiff i'r Pecinî
Mi lyna i'r roset
yn fan hyn, dan ei het
O dan hon mae ei ben, decinî
Pencampwr y byd - 'Okinawa'
oedd ffefryn y dosbarth Tshiwawa
ond aeth yn dawedog
o'r golwg i stumog
Rotweilar fu arno'n ciniawa
Mae rhyw ddyn yn ffwdanu yn fancw
yn cribo a pincio Shu Shitsu
Ar ol y brechiadau a'r holl ddarpariaethau
bydd rhaid iddo werthu'r Daihatsu
Echddoe bu rigamarol
pan ddaliais y wobr yn ol
oherwydd im fethu
ag ymwahaniaethu
rhwng trwyn y Pom Pom a'i ben ol
Ddymunwn i ddim bod yn groes
a hoffwn i ddim peri loes
ond fuasech chi cystal
a gofyn i'ch Jiacal
ymollwng o'i afael fy nghoes
Mae'n estyn i fyny am grystia',
neidio dros wal a nol pricia'
Heblaw am ei chi
rwy'n credu mai hi
yw'r gorau'ng "Nghlass C" am wneud tricia'
Roedd ddoe fel cyflafan Traffalgar
oherwydd un twyllwr meistrolgar
oedd wedi dod yna
a gast oedd yn cwna
roedd hwnna'n berfformiad a hannar.
Hon fydd yr olaf o'i bath
rwy'n dweud hyn bob blwyddyn run fath
Cyn hir caf fynd adra'
a thynnu fy sgidia'
a gorwedd flaen tân efo'r gath.
Gareth Jones
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw dau aderyn
Awyr wag sy'n nhir y brain, nid oedodd
Ond adar diadain,
Aeth rhyw weilch i nyth y rhain
A dwyn eu gwlad eu hunain.
Nia Watkin Powell
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys enw dau aderyn:
Lased yw'r gog na chlywsoch eleni,
Os diflanna, cawsoch
Hyd y cwm bod barcud coch
Eto yn dychwel atoch.
Gareth Williams
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Enwogion Cymru
Mae enwogion newydd yn cerdded y tir
Ac mae nhw'n fy ngyrru fi'n wallgo -ydyn wir.
Mae llawer yn enwog am wneud pethau drwg
Fel y boi neis o'r De oedd yn smyglo m?g.
Rhyw selebs yn enwog am wneud pethau ffôl
Gwleidyddion yn enwog am wneud bygyr ôl.
Gwilym Owen yn enwog am fod yn flîn
A Charlotte yn enwog am siglo ei thin.
Rhai'n enwog am ganu fel yr hen Dom Jôns
Rhys Ifas yn enwog am ddangos ei drons.
Beth am Gerallt, Mei Mac, Twm Morys a Dic?
Dim hanner mor enwog a Lembit O-Pic.
A Sian Lloyd yn enwog am sôn am y glaw
A'r Lojars yn enwog am drefn ysgwyd llaw.
Mae Huw yn enwog jest am ddarllen y "news"
Rhai'n enwog am enwogrwydd - dwi'n gweld y bliws.
A hithau mor hawdd dod yn enwog drwy'r tir
Pam goblyn 'dwi'n methu 'rol trio mor hir?
Cynan Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Enwogion Cymru:
Yma'ng Nghymru yn ein plith mae enwogion rif y gwlith.
Harry Seacombe, O.B.E., i gael enwi dim ond tri.
Eifion Jones a'i jieri bincs, nain Ray Davies sy'n y 'Kinks'.
Meibion Llywath, Cor y Traeth, llawer iawn o gorau gwaeth,
pwy bynnag ysgrifenodd 'Elen'neu gafodd addysg yn Rhydfelen,
holl eneidiau doeth yr orsedd, holl boblogaeth Penrhosgarnedd,
Barti Ddu a Helen Wyn, Magi Goch a Llwyd o'r Bryn,
I.B.Griffith, I.D. Hooson ac I. D. E. Thomas, Houston,
J.R. Williams, J.P.R. y boi 'Porc Peis' sy'n cario iar,
William Williams Pantycelyn, unrhyw un sy'n berchen telyn,
Sandra ag Arthur a Thecwyn a Wali,
pawb lawr y pwll yn 'How Green was my Valley'
Ceiriog, Crwys a Meirion Mac, Wmffra, Martha, Wil Cwac Cwac,
Cerys Mathews - Catatonia, Rod Lywellin - Lord Snodonia
Simdde Fawr a Chatrin Fychan, Ffermwyr Ifanc 'Sbyty Ifan,
Howard Marx y dyn ar ffo, Rhodri'r 1af dyn o'i go,
Pawb sy'n trigo ger Llyn Llymru, Richard Brunstrom Sherrif Cymru,
Pafaroti Llambed, Trebor, haid o fân denoriaid sobor,
'Shwn', 'Ar Log' a Chejyns Dembo, Sian Deud Tywydd, Optic Lembo,
Dawnswyr gwerin Mon a Meirion - sgidiau pren a hetiau gwirion,
Eben Jones ac Eben Fardd, Med, y Nionod sy'n ei ardd,
Now a Ned a Teg a Casi, Charlotte Church a Shirley Bassey,
Geraint Stanley Jones, (neb llai ), Cledwyn Roberts, Cledwyn Clai,
Beirdd Tir Mawr a Maldwyn John, CHI,a Madog ddewr ei fron,
Donny Osmond , Cilla Black, yr Hoelion Wyth pob un wan jac,
D.Ben Rees...mae'n ddi ben draw! Terfynu raid neu 'fory ddaw.
Ambell un sydd heb eu henwi Dim ond ugain llinell s'gen i.
Gareth Jones
9 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Bro
I Ffion Bradley, geneth fach y Carneddi, Nantmor, a'r plentyn cyntaf i'w magu yno yn y Gymraeg ers plant Carneddog a Chatrin, ganrif yn ôl. Hi yw'r bedwaredd genhedlaeth yn y teulu a symudodd i'r Carneddi wedi ymadawiad Carneddog a'i wraig. Ganwyd hi ym mis Ionawr eleni
Cyn trefu dy deulu di
Enhuddwyd y Carneddi
O ddwyn dau o 'greigiau'r grug',
Eu hanthem mewn gwlad fenthyg
Mor hesb â Nanmor ei hun,
Yn dawelwch di-delyn,
A'u hiraeth wedi'i fferru
Yn nawn dweud llun gwyn a du.
Ond dalen wen yw Ionawr,
A doist yn doriad y wawr,
Eu hiaith fydd dy iaith bob dydd,
Dy eni sy'n ddadanudd.
Nia Watkin Powell
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bro
Si tonnau'i nosau tyner,
Y wlad hud dan leuad wêr;
Swn cwch yn tisian cychwyn,
Yn fy mêr mae'n llawer llun.
Hyd sêl y rhannu di-sôn
A Neigwl yn gym'dogion;
Enwau doe yn nist hen dy
O niwloedd achau'nheulu.
Bu erioed yn f'esgyrn brau
Yn un â lli ngwythiennau;
Yma'roedd curiadau'mron
Oesau cyn dyfod Saeson.
Gareth Williams
9 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â chysgu
Gwallt gosod wrth ochor fy ngwely,
A'm dannedd mewn gwydr yn gwenu,
Un llygad ac offer
I'r byddar ar soser,
Mae'n amser i mi fynd i gysgu.
Edgar Parry Williams
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â chysgu:
Eu stumogau i gyd oedd yn gwasgu
wrth iddynt mewn syndod oll ddysgu
mai'r Bîff Carbonara
oedd cath Wil Fan Fara
oedd tu mewn i'r Aga yn cysgu
Gareth Jones
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Nid yw einioes ond ennyd
Ac aur yw'r oesau i gyd.
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Nid yw einioes ond ennyd
Dynion gwan ydan i gyd.
Englyn Cywaith: Heliwr
Mae wrth ei waith yn nosweithiol - yn rhydd
Ar ei we, yn dethol
Un enw'n amhersonol,
A'i dofi'n gyfrin i'w gôl.
Cynan Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Heliwr
(Tynnwyd arwyddion cyhoeddusrwydd Gwyl Delynau Caernarfon a Gwyl Bedwen lyfrau Caernarfon i lawr gan sywddogion Adran Cynllunio Gwynedd yn ddiweddar):
Pan ddaw'r Cymry yn eu lluoedd, o'i d?r
'Daw eryr yr oesoedd
'Yn ôl â'r hen drefn a oedd;
'Edward sy' pia'r strydoedd
Myrddin ap Dafydd
10 Pwynt
Telyneg: Aros
Weithiau
pan fydd geiriau'n deilchion;
pan fydd llinellau'n chwalu hyd loriau'r ymenydd;
pan fydd cwpledi'n ddryslyd
a'r cymalau'n glymau i gyd;
pan fydd chwys y chwilio
yn diferu yn ddafnau gwaed
yn nhir neb.
Mae'r gerdd yn gaeth yn hualau'r cof.
Ond weithiau
dim ond weithiau,
daw llythrennau i hofran
yn hancesi gwynion ar frigau'r coed;
bydd geiriau'n llifo'n gawodydd grisial
drwy geunentydd y meddwl,
a bydd ffrwd y llinellau'n disgyn
yn blethiadau tynn
i byllau'r haul.
Weithiau
ym mwrlwm y creu
cawn ddatod y cadwynau dur
a daw cerdd yn rhydd.
Phyllis A.Evans
10 Pwynt
b>Telyneg: Aros
Dan Garreg Llam, ar leuad hir y gro,
Y daw y d?r didaro i wagio'i gist
Rhwng sborion chwarel,
Lluchio'i helfa o ar ôl eu bachu ar nosweithiau trist;
Dan Garreg Llam, ar y pymthegfed trai,
Daw trugareddau'r tonnau'n ôl i dir,
Mae cylch i'r llanw, fel i fyw, medd rhai
Ni chei di'r môr yn lleidar tymor hir.
Mae'r brocmon bore ddaw i Garreg Llam
Yn cofio'r corff mewn gwymon;
Glan y bedd yn glogwyn galar o ysgwyddau cam
A'r d?r ar gerrig porth, mewn perffaith hedd;
Mae'n gwylio'r gorwel gwan, hel llwyth i'w gôl
A morlo llwyd y lli'n llygadu'n ôl.
Myrddin ap Dafydd
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Tawelwch
I Fam arbennig:
Mae dan gysgod ei blodau - yn ei gwyn
Ond gwn nad wyf innau
Er gweld y briddell ar gau
O gyrraedd grym ei geiriau.
Cynan Jones
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82
Englyn ar y pryd: Tawelwch:
Tywyllwch. Mi aethant allan - wel, iawn
Mi gaf lonydd rwan.
Ond does smic 'blaw s?n tician
Heb helynt mawr y plant mân.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83 ½
Cynigion ychwanegol:
Pennill ymson yn Crufts
Ar fy ngwir, bob tro mae Ffido,
Y pencampwr balch, yn pasio,
Mae'r tri beirniad doeth yn rhythu
Ar ben ôl y ferch sy'n t'wsu,
Taswn i'n gi bach i honna
Mynd yn champion f'aswn inna.
Limrig yn ymwneud â chysgu
Mae Arthur Pendragon yn huno
Yng nghreigiau Eryri mewn ogo',
Wyr neb yn y byd
Lle mae Glyndwr yn fud,
Na phryd y bydd Rhodri ni'n deffro.
"'Rwyt ti', meddai'r gwr yn anserchog,
"Heb goban yn edrych yn foliog."
"Ddyn main'', meddai hithau,
"Yn erbyn y golau
'Rwyt tithau fel hen asgwrn pennog".
Mi ddeffrais i'r meddyg un noson
I ddweud 'mod i'n teimlo'n ddigalon,
Heb gysgu drwy'r nos
Er llyncu tair dôs.
"Wel, llynca gan dôs", meddai'r gwirion.
"I chwi", meddai'r meddyg yn dirion
"Cyn cysgu, mae gen i newyddion,
Un drwg ac un da,
Arnoch chi mae'n ta ta,
Ond dyma i chi bunt am eich calon".
Chaiff Steffan ddim cysgu 'fo Susan,
Mae'i goesau mor hir mae nwh allan
Dan ddillad y gwely,
A phan mae nhw'n fferru
Mae'n stwffio nhw i fyny ei choban.
Caiff pawb sydd ar bensiwn yng Nghymru
Eu rhoi am y gaeaf i gysgu
Dan ddaear fel draenog
Mewn ceudwll yn Stiniog,
A dim ond dwy geiniog i'w dalu.
Mae 'ngwraig i o'r diwedd yn cysgu,
A'i thraed, diolch byth, yn cynhesu,
'Does dim clepian drysa
Drws nesa, ond damia,
Mae ceiliog Ty Pella yn canu.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd':
Af o raid i dy'n y fro,
Annodd a'r angau yno.
O hafan y mae'n anodd
sylwi fawd y sawl a ffodd
Anodd i dderyn ganu
A'i haul o dan gwmwl du.
Pennill Ymson yn Crufts
Mi oedd y Gret Dane na yn anodd ei chyrraedd
A'r Beagle yn drewi o ogla mwg,
Yr ast Bocsar yn gollwng glafoerion,
A'r filgast yn edrych yn ddrwg
Ella na chaf i ddim mo'r "swprim champion"
Ond bo nhw'n dal,byr,boliog neu'n fain
Mi aiff y geist tuag adref yn gwybod
Na does na ddim "best of breed" fel ci drain.
Englyn yn cynnwys enw dau aderyn:
Pan oedd ffesant yn antur i'w ddawn o,
Naddai'nhaid ei gysur;
A hil dew y lord fel dur,
Oerach na llygaid eryr.
Aeth y gwalch â'r fwyalchen un gwanwyn,
Ac mae gwên afallen
Mai yr un mor wych, mor wen,
Heblaw am ambell bluen. Cân (heb fod dros 20 llinell):
Enwogion Cymru:
Fel y bu na erioed y mae na enwogion
yn cerdded ein tir, ac y mae na fanion
I fandiau pop a aeth yn or aeddfed
i'w dynwared heddiw mae na fandiau teyrnged
Wedi Edward H ymadael am eu cadeiriau olwynion
i'r llwyfan daeth Ap Ted a'r Apostolion, Ac erbyn hyn i roi proc i'r hiraeth
fe dreiddiodd yr arfer i fyd barddoniaeth,
Ar daith hir ddiflas o lwyfan i lwyfan a'u sioe dau ddyn mae Parri Williams a Cynan
Mae'r enwau yn gyfarwydd ond mae mwy o awen
Yn y ddau sy'n gorwedd dan gysgod yr ywen
Ac o nabod y ddau byw ac ystyried eu doniau
mi ddywedwn fod arnynt angen mwy nag enwau I neidio i esgidiau awenyddol y cewri,
Tagu prydferthwch o hyd wna mieri,
Os byth cewch chwi'r cyfle cerwch am y gwreiddiol
Ar eu nerth eu hunain aethon nhw fyny'r ysgol,
Ond fel y bu na erioed mae na enwogion
yn cerdded ein tir,ac y mae na Fanion.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bro
(Meic Stevens yn canu yn Llithfaen, Ebrill 2006)
Rwyt heno'n tiwnio'r tonnau, a'n hwylio i borth cêl y bae; Y llais yn creu glannau llwyd a haf rhydd cwm dy freuddwyd, Ond yn Solfa'r bora bach y mae'r penllanw mwyach
Yn cyrraedd aber Erwan dawel.
Mae gorwel dy gân yn cau weithiau fel cawod,
Wedyn mystyn,
Nes fy mod innau yn don yn y dwr yn erbyn wal dy harbwr.
Limrig yn ymwneud â chysgu:
Gair bach gyfeillion, er cof
am Dan y Tarantiwla dof
Fe aeth at y Dodo
oherwydd ei fod o
'di mynnu cael cysgu'n y stof
Nid oedd hi yn syniad rhy dda
dy fwydo a phlatiad o ffa
Rwan cysga di yli
Sws sws , si hei lwli
mi welai di'n bore, nos da
Y daeargryn achosodd alanast
Dymchwelwyd pob bricsen a ffenast'
Tua deuddeg o'r rwbel
death Dicw Ty Capel
yn gofyn "Pryd ddon nhw a brecwast?"
Dan Hedd - wel dyna chi greadur
Efe yw yr wythfed cysgadur
mae'n sugno ei fawd
yng ngwely ei frawd
ers rhywbryd ar ddechrae mis Rhagfyr
Y gân bu am oes yn ei dysgu
oedd degfed gonsierto Tchaikovski
Ni ddaeth o'r trombôn
yr un ebwch na thôn
Roedd gwefysau Now Fôn wedi cysgu
Er cael mis yn y jêl nid yw'n dysgu
Mae o'n erlid plant bychain a'u gwasgu
Mi ddylai fod Bet
yn mynd at y fet
a rhoi William Gruffydd i gysgu
Yn troi ac yn trosi yn ferw
breuddwydiai Wil Dei am ei darw
Ei dacl godidog
oedd ar weiren bigog
rôl neidio drosglawdd Hendre Garw
Englyn Cywaith: Heliwr
Er mai gêm ro'i im gamau a rhoi bloedd
'Mistar Blaidd' i'm hofnau;
'Dwyn wna cof â'i rwyd yn cau
'Waedd ddoe, a chreu gweddiau.
b>Telyneg: Aros
'Mi ddaw hi'n munud fe gewch chi weld
Rhen blant, mae'n benllanw tua'r un';
Er bod'na olwg diraen i'r hen gwch
A fynta Jac Ben yn hyn.
'Awn at y canllaw, ychydig yn nes,
Gan bwyll yn fan hyn wrth y doc';
Ac er y dyheu am benllanw un,
Ni ddaeth ond cymysgfa o froc.
Ai am ein bod yma
yn gysgod i'n gilydd ar ol y rhialtwch?,
neu ai am fod tenynau
wedi eu plethu yn rhaffau
sydd weithiau mor dennau ac edafedd gwawn
yn clymu ein heneidiau ni'n un?,
ac yn un â'r pridd,y graig,y tywod
a'r mordan yn yr ewyn,
un ydym â hwythau
a'r un yw ein diben,
un ffordd y trydd yr olwyn
ac yn ei chysgod
y mae ein bod.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

