Caernarfon v Penrhos
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydedd rownd o gyfres y Talwrn.
Caernarfon

Penrhos

Cwpled caeth ar ddrws golchfa
Gwaed ar grys na chwys ychwaith :
Ni welwch mo'nynt eilwaith.
Robin Evans
8 Pwynt
Cwpled caeth ar ddrws golchfa:
Fan hyn cei wyn sy'n wynnach
A chei raen heb straen na strach.
Llion Jones
8 Pwynt
Pennill mawl / dychan : Adeiladwyr
(wrth wylio bronfraith yn adeiladu nyth uwchben drws Y Wern, cartref fy rhieni)
Os wyt am gartref newydd clyd...... un rhad a chynaladwy...........
.......... ac am ei gwblhau mewn pryd ......... a'i wneud yn d?
fforddiadwy:
Plyga, gwnïa a phletha'n dynn......... yn bensaernïol berffaith,
Frigau, gwreiddiau, mwsog a dail gan ddilyn camp y fronfraith.
Llinos Angharad
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Adeiladwyr
Rhois y gwaith o godi'r bynglo
I gwmni Tom Mix plc,
Llwyth o cash - ymlaen llaw - am ddeunyddia
Ebrill y Cynta'..dwy fil a thri....
Mi wnaeth le i'r sylfaeni reit handi
A ffwrdd a fo i nôl sment....wel a brics....
Da chi'di gweld y postars ymhobman ma' siwr...
Wanted...'Dead or Alive'...Tom Mix!
John Ogwen
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw dwy wlad
Un teircoes oedd y twrci Nadolig,
Dwi'n dal i wneud cyri ;
Mae hyn yn reit hawdd i mi
Ond chalenj fydd gwneud chilli.
Ifor ap Glyn
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw dwy wlad:
Daeth dial i'r anialwch...a dwrn duw
I droi'n dân frawdgarwch;
Heddiw troes barbareiddiwch
Y tir acw'n lludw a llwch.
Iwan Llwyd
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Briodas Berffaith
Y briodas berffaith ydi honno lle mae dyn
Yn cyd-fyw efo rhywun sy 'run ffunud â fo'i hun;
Achos caru'i hun yn bennaf mae pob dyn yn y bôn
A'r briodas berffaith felly ydi priodi efo clôn.#
Er enghraifft, yn fy achos i, roedd rhaid iddi fod yn hardd,
Yn osgeiddig ac yn rhywiol, yn ddeallus ac yn fardd,
Achos dyna be dwi'n weld yn y drych bob bore
(ocê, dydi 'ngolwg i ddim efo'r gore).
Cymerwch Posh a Becs - hi mewn ffrog, fo mewn sarong-
Mae nhw'n union fel ei gilydd, allan nhw ddim mynd yn rong!
Mae tebygrwydd sbwci rhwng y Diwc of Edinbro a'r Cwin
A fedra'i byth ddeud y gwahaniaeth rhwng John Ogwen a Maureen.
Ond yn ôl at fy mhriodas berffaith i - mae hi mor braf
Cael brecwast yn fy ngwely, boed aeaf neu boed haf,
Gwylio'r ffwtbol ar y teli, tra bod fy hanner gwell
Yn palu'r ardd neu'n estyn cwrw imi o'r oêr gell.
Cael tendons ddydd a nos, rydwi yn fy seithfed ne',
Ni allwn gael gwraig well (er ei bod hi'n dod o'r de)
Yn smwddio yn ofalus bob crychyn yn fy nhrôns i-
Dyna'r larwm. Damia. Helo i'r byd go iawn a chwmni Jonsi.
Geraint Lovgreen
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell0): Y Briodas Berffaith
'Dwi wedi priodi, do mae hynny'n amlwg i chi'i gyd,
A deugain mlynedd dan y fawd di'n ngwneud i'n dlawd fy myd
Rhyw "give and take" yw sylfaen priodas berffaith medde nhw,
Y fi sy'n rhoi a'r wraig sy'n cymryd popeth ar fy llw!
Anorffenedig iawn yw dyn di-briod medde rhai
Ond wedyn, mae 'di gorffen - wedi darfod fwy neu lai;
Ni wyddwn i pa beth yn iawn oedd gwir hapusrwydd llwyr
Nes i mi briodi - ac roeddwn wedyn yn rhy hwyr!
Ond cefais gynllun gwych i gadw bywyd yn werth chweil
Dwy waith yr wythnos mynd am fwyd i westy yn llawn steil
A dyma drefn i roi boddhad arbennig i ni'n dau-
Bod hi yn mynd ddydd Mercher a minnau'n mynd ddydd Iau!
Dim bwys os nad yw'n glyfar na chwaith yn eneth dlos
Caiff baratoi fy mwyd a ch'nesu'n nhraed i yn y nos,
Ac wedi bod mewn parti a'r gwin yn dda ei flas
Hi gaiff y fraint o ddreifio rhag i ni weld y Glas.
Ond peidied y gwamalu, mae gen i gyngor da
Sef sut i fyw mewn heddwch drwy'r gaeaf a thrwy'r ha';
Os am briodas berffaith, a phopeth i redeg yn deg,
Pan fydd di'n rong cyfaddefa, pan fyddi di'n iawn cau dy geg!
Morien Phillips
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell) :Afon
Does gan dd?r ond un bwriad:
Ei g'leuo hi o gefn gwlad,
Dilyn hynt dôl a nentydd
At hyder yr aber rhydd.
Ond d?r budr ydi'r d?r bas
O dan dorlannau dinas
A'r afon lydan lonydd
Â'i d?r yn dduach bob dydd.
Yn y cwm roedd bwrlwm bach
Yr afon llawer cryfach.
Ifan Prys
9 ½ Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Afon
(yr afon Ogwen yn Nhalybont)
Yn y nos ei hacen hi
A'i hanadl yw 'nghwmpeini:
Ei s?n yn llenwi pob sill
A'i henwau 'mhob un pennill:
Pwll Slip a Phwll y Dripian
A Phwll Lloer a Phwll y Llan,
Y pyllau llwydion, llonydd
A'u halaw, nes daw y dydd,
Yn tewi â'u rhythmau tawel
S?n hurt y traffig sy'n hel
Ar y lôn; daw ceinciau'r wlad
Â'r lli' yng ngolau'r lleuad.
Iwan Llwyd
10 Pwynt
Limrig yn ymwneud â physgota
O'n i allan yn hwyr yn fy wedars
Efo weiran a phastwn a phinshars,
Wrth wagio 'nhun bwyd
Ces fy hun yn y rhwyd
A deall mai dynion 'di cipars.
Ifor ap Glyn
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â Physgota:
Hen hobi go ryfedd yw 'sgota
Bron cynddrwg â mynd i fercheta
'Rôl dangos y bait
Fe glywch chi "No wait"
Ac aros sy raid tan tro nesa'.
Lynn Davies
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Pellhau mae'r geiriau i gyd
A hafau'n hieunctid hefyd
Ateb llinell ar y pryd:
Pellhau mae'r geiriau i gyd
Buan, pellhau fydd bywyd.
1 Pwynt
Englyn cywaith :Llofrudd
Dyn a'i fwriad yn farwol - yn aros
Am un orig iasol,
Yna'i ennyd drydanol
A dry yn wefr ddi-droi'n ôl.
Robin Evans
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Llofrudd
Un gair gan un a gerais, un enw
Yn tanio hen falais,
Un dialedd rhwng deulais
A'r hunlle hir yn ei llais.
Llion Jones
8 ½ Pwynt
Telyneg : Amser
Hen eglwys Erfyl a'r ywen ganol-oesol
oedd ein cyrchfan i blygain y Llan.
Cychwyn fel teulu cyn i'r wawr dorri
dan olau hen lantern sigledig
a'r barrug fel eira gwyn.
Gweld yn y pellter bigiadau bach golau'r
plwyfolion fel mag?od yn dod tua'r porth
a cherdded i guriad undonnog, digynghanedd y gloch.
Heibio'r gofadail i'r cogie a gollwyd
a'r cenedlaethau o gerrig bedd.
Hen ?r yn fwa o henaint
ei frwydr o fyw yn rhigolau ar dalcen
ac yng ngwythienau glas igam-ogam ei ddwylo.
Hen ?r a'i hiraeth direidus fel gwawn
yn y plentyn aflonydd oedd ynddo.
Cwafriodd ei garol hynafol o glod i'r baban
yn y dirgelwch a hanner tywyllwch
A heno mae cân y Cut Lloi a chân yr angylion yn llenwi'r lle.
"Mae heddiw'n ddydd cymod a'r swper yn barod
O dewch..."
Gwyn Erfyl
10 Pwynt
Telyneg: Amser
Pan welid strydoedd cwsg yn dechrau dadmer
Fe'i lluchiwyd, fel bob bore, ar dr?ell amser:
Rhuthrai i ddal y funud drwy oriau cibddall,
Tra'r rhedai'r dre o'i rhywle i'w rhywle arall:
Clociau a yrrai ei ddydd, a'i ddydd yn difa,
Eu bysedd yn torri ei dasgau cyn cael eu cwpla.
Ei ras am adre'n sgrechian drwy goneli,
A rhaid yn hwyr yn awr yn dechrau gweiddi
Nes daeth rhyw falm o dôn o radio'r car
A chlywodd law yn codi'r iau o'i war:
Yno ar oesol osteg, hwyrddydd Mercher,
Rywbryd, rhwng swyddfa a th?, bu farw amser.
John Gwilym Jones
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Dial
I Bush
Dilynwyd dy haelioni drwy addo
Rhoi dy ryddid inni,
Ond blas sur dy dosturi
Drosom roes fom ynof i.
Ifor ap Glyn
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd: Dial:
I hen gam rho ddogn o g?yn, a'i fagu'n
Genfigen a chynllwyn,
Rho iddo ginio gwenwyn,
Yna ar ffrae tynna'r ffrwyn.
John Gwilym Jones
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar ddrws golchfa
Wedi cau i nôl bwyd ci,
Yn ôl yn 'munud - Wili.
Englyn cywaith :Llofrudd
"Beth am y plant?" Siglai'r fantol. Llaw fry.
Llwfr oedd cyn rhoi'r farwol.
"Erfyniaf yn derfynol".
Ei daro wnes. Di-droi nôl.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar ddrws golchfa:
Cei wynfyd o hyd fan hyn
A graen heb weithio gronyn.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

