Bro Alaw v Tywysogion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth i'w osod mewn Meddygfa:
Dileu'r herc cyn del yr ha',
Neu beipas? Dos at Bupa!
Arwyn Roberts
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth i'w osod mewn Meddygfa:
Yma'n iach dowch atom ni,
Ac o'ma'r ewch yn giami.
Twm Morys
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "Ar ôl hyn":
Agorodd y blaguryn - i hawlio
Holl sylw y gwenyn
Drwy ei ddiwrnod yn flodyn,
Ar i lawr aeth ar ôl hyn.
Geraint Jones
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Ar ôl hyn':
Â'i war fel rhyw farworyn - a'i freichiau'n
Frawychus o felyn,
Ni fydd Len yn rhoi menyn
Ar ei liw haul ar ôl hyn.
Mei Mac
8 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn angladd:
Pedwar ugain mil yn mwrno
'N fawr eu trwst yn Melgrâd heno;
Ond mi glywaf ar yr awel
Filoedd mwy yn wylo'n dawel.
John Wyn Jones
10 Pwynt
Pennill Ymson mewn angladd
Mae'r eglwys fach wedi llenwi hyd at yr ymylon, bron.
Wyddwn i ddim fod 'na deulu mor niferus gan 'rhen John.
Mae 'na gymaint na wn i amdano; rhy hwyr ag ynta 'di mynd.
Mae'r rhan fwya o'r bobol ma'n ddiarth imi; un poblogaidd iawn oedd 'rhen ffrind.
Prin 'swn i'n nabod Mair druan, mor denna, a'i gwallt yn frith;
Tor-calon debyg, o golli ei gwr; ma raid ei bod hi'n chwith.
Ma'r Ficar yn gneud cyhoeddiad: "Do join me now in song."
"Damia!" medda fi'n uchel, "dwi yn y cnebrwng rong!"
Gwyneth Glyn
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Yr Ateb:
Yr oedd gennyf un uchelgais -
Bod yn Arglwydd a chael arfbais;
Sut oedd modd i un fel finna
Fynd ar restr 'ranrhydedda'?
Rhoi blynyddoedd o Lafurio,
Gwneud fy ngora' glas fel Cymro,
Ac ymddangos yn ?r parchus -
Bod yn seren byd cyhoeddus.
Ni fu neb mor gydwybodol,
Brwydro'n gyson dros y bobol,
Hir a chyfyng oedd fy llwybyr -
Roedd fy mywyd dan chw?dd-wydyr.
Os oedd miri, rown i yno -
Ddim fel rhai yn golchi dwylo;
Wrth gael baw o dan f'ewinedd,
Yr oedd gennyf i hygrededd.
Erbyn hyn rwy'n sylweddoli,
Os am sedd yn Nh?'r Arglwyddi,
Nad gwaith caled, na ffyddlondeb
Ond rhoi miliwn yw yr ateb!
Geraint Jones
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Yr Ateb
Gofynais i'r gorsaf-feistr: "pa blatfform am y De?"
Atebodd: "B-b b-b b-b b-b b-b-be?"
Gofynais iddo eto: "pa blatfform am y De?"
Atebodd: "Am y d-d d-d d-d d-d De?"
"Wel ia!" medda finna, "dwi'n dal y trên i'r De."
Atebodd: "i-i i-i i-i i-i i-i'r De o lle?"
"I'r De o famma'r lemon!" me' finna wysg-fy-nhîn.
Atebodd: "d-d d-d does dim isho bod yn flîn!"
D-d d-d d-d d-dach chi angen platfform un."
"A lle ma hwnnw?" medda fi, "wel dudwch wrtha i, ddyn!
Na, peidiwch! G'newch ryw arwydd!" ro'n i bron â mynd o 'ngho.
Atebodd: "d-d d-d d-d d-d dacw fo!"
"Ai dyna'r trên?" me' finna, "dudwch, plîs, ai dyna'r trên?"
Atebodd "d-d d-d dwi'm yn saff," a chrafu'i ên.
Brasgamais am y cerbyd, ond i ffwrdd ag o mewn chwinc.
Gweiddais, ochneidiais, rhegais, cyn dychwelyd at y crinc.
"Diolch yn fawr," bytheiriais, "am fy helpu ar fy nhaith!"
"Croeso tad," medd ynta, "do'n i 'mond yn gneud fy ngwaith!"
Gwyneth Glyn
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â thwymo byd eang:
Ma'r Sentars yn cymeradwyo,
A'r Batus yn tyrru i'r Berffro,
Ac ar draethell yn Llanddwyn
Mae blaenor yn borcyn -
A phob rhan o'r Hen Gorff yn adfywio!
John Wyn Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â thwymo byd eang:
Ta waeth os try'r moroedd yn faw,
Rhywogaethau'n diflannu ar bob llaw,
Dim un mynydd iâ,
Mis Ionawr fel ha'
O leia' cawn Steddfod heb law!
Mei Mac
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn Cymwynas
Fe wn na allaf innau
Ddal fy nhir heb ynni'r iau,
Rwyf hen, rhy hen o'r hanner,
A rhy wan i ddal yr her;
Mae pwysau 'ngwae ar fy ngwar,
Gymaint fy maich di-gymar,
A phwn fy holl orffennol,
Doe a'i ffydd, ar f'ysgwydd ffôl.
Mynnaf felly'ch cymwynas
Heddiw, chwi rai triw i'ch tras,
Dewch a'ch braich dan fy meichiau,
Dewch i'r drîn, mae hi'n hwyrhau.
Richard Parry Jones
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gofyn Cymwynas:
"Mae'r ?yn ar y clogwyni,
was! Gwna gymwynas â mi;
ar ei pheg acw mae'r ffon
ei di yno ar d'union,
drwy rosys gwyllt a drysi,
i'w nôl? Da fy hogyn i!
A dod â'r defaid wedyn
yn fyw'n eu hôl i fan hyn
o ganol y clogwyni?"
"Oes 'na fwyd os na wnaf i?"
Twm Morys
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Un wyf i sydd sill yn fyr
Mawrygaf rai limrigwyr
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mawrygaf rai limrigwyr
Ond bardd yw Gerallt - a byr.
½ Pwynt
Englyn Cywaith: Traddodiad
O gof i gof aeth y gwyfyn - ati
I ddatod edefyn
Ein doe, gan droi brithlen dynn
Yn gadach rhacsiog wedyn. .
9 ½ Pwynt
Englyn cywaith: Traddodiad
Rhaid wrth rif ar ddigrifwch - yn y llan
oes lle i rialtwch
Y Fari heb lenwi blwch,
Na g?yl heb ddiogelwch.
Mei Mac
9 Pwynt
Telyneg: Cusan
Un prynhawn - yn gynnar
a hi eto'n gorffwys.
bu'n ei gwylio:
yno, yn ei gwendid
a gaeaf o gysgodion
hyd ei hwyneb hardd.
Pwy a ?yr pam y plygodd drosti
a chyffwrdd
gwres ei wefus ynddi?
Aros, medd ei anwes,
ond, mor anorfod ag yfory,
ystwyriodd
a deffrôdd.
[Cusan y gwanwyn ...]
Mawrth 2006
Siân Owen
9 Pwynt
Telyneg: Cusan
Pob tro y trof fy wyneb
tua murmur y môr wrth y tir,
fe'u daliaf nhw'n cusanu
mewn un hen goflaid hir.
O na chaen ninnau aros
ym mreichiau'n gilydd, dro,
heb orfod ail-gynhesu
cofleidion pell y co'.
Ond fel mae gwedd y glannau
wedi'i llunio gan y lli,
ffurfiwyd fy ngwefus innau
gan lanw'th wefusau di.
Gwyneth Glyn
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Wembley
Mae'r llwyfan yn wahanol, - yn fy nghof
'rwyf yng nghae yr ysgol,
Yn ffeinals y gorffennol
A dwy gôt yn bostiau gôl.
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83
Englyn ar y pryd: Wembley
Mi fydd y Pab â phabi - yn ei law,
Ar lawr bydd Eryri,
A daw Owen myn Dewi
I Gaerdydd cyn d'agor di.
Twm Morys
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Cynigion ychwanegol:
Englyn yn cynnwys y geiriau "Ar ôl hyn":
Het Twm Morys
Y g?r o'i rhoi ar goryn - a'i hofni
Am gyfnod ei dwymyn
Ddywedodd drwyddi wedyn
Treial yw het ar ôl hyn!
Ddoe fe glywais am ddyn - henwr doeth
Yn rhoi'i dîn ar golsyn
Neidiodd, bu'n eistedd wedyn
Ar rywle oer ar ôl hyn.
O'r miri pan fu i'r Meuryn - ?r doeth
Roi ei dîn ar golsyn,
Neidiodd o'r Sauna wedyn
I'r heli oer, ar ôl hyn!
Cynigion ychwanegol:
Limrig yn ymwneud â thwymo byd eang:
'Dan ni'n cwyno drwy'r dydd am y tywydd:
"mai'n boeth" neu "mai'n bwrw" 'n dragywydd.
Hen bryd sylweddoli
mai ni sy'n rheoli
yr hîn, hefo'n gwastraff o danwydd.
Mae'r awdurdodau yn mynnu
bod lefel y llanw i fyny.
Bydd y môr, 'nôl bob sôn,
yn gorchuddio Sir Fôn,
ond yn y bôn, da beth fo hynny.
Englyn cywaith: Traddodiad
Tebyg oedd Taid i'w daid o - yr un dull,
Yr un dweud oedd ganddo,
Ond aeth at ei deidiau, do -
He is dead as a Dodo!
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

