Talybont v Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Talybont

Cwps

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'mêl'
Mis Mai, priodi, mis mêl;
mis Medi, wedi 'madel.
Anwen Pierce
8 ½ Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'mêl'
Dau gyw o'r unlliw yw'r rhain:
Gwên fêl ac anian filain.
Huw Meirion Edwards
9 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Canu Gwerin
Codi wnai geiriau amrwd yr henwr ar y sgiw,
Yng ngolau'r gannwyll hudol, i'n cyffwrdd at ein byw.
Heddiw mae sglein y geiriau a'r golau ar y sgrîn,
Yn boddi hud pob pennill, a'r ystyr fesul un.
Phil Davies
9 Pwynt
Pennill mawl dychan: Canu Gwerin
Try titrwm tatrwm brawddeg braf
ar dafod gwerin datws
yn la di da di felys fân
ar fin y werin gwscws.
Arwel Jones
9 Pwynt
Englyn: Cors.
Y corff yn y gors
Mygwyd o dan y migwyn, - hyd heddiw,
Fel diddos foncyffyn,
Ond i'w arch fe dyrcha dyn
I fynnu oed ei fonyn.
Gwyn Jenkins
8 ½ Pwynt
Englyn - Cors
Er suddo'n oerias iddi - yn lleidiog
Golledig, ar drengi,
Draw o'r cyfnos daethost ti
I 'nhynnu'n lân ohoni.
Huw Meirion Edwards
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cadw t?
Fe godaf yn y bore a lawr a fi ar ras,
I ferwi d?r y tegell a throi y cwrci mas.
Paned, a chodi'r papur, sy'n gorwedd ar y mat,
I edrych ar y 'Deaths', rhag ofn, cyn estyn am y brat.
Rhoi pwt i nob y radio a dal Eleri Siôn;
Caerdydd a Wolves yn 'Moulinex' yw testun ei sgwrs ffôn.
Mynd rownd i agor llenni, ac yna nôl i'r cefn,
I dorri bara menyn a berwi'r d?r drachefn.
Rôl clirio'r llestri brecwast mae'n amser am de deg,
A chacen siocled Jonsi yn stico yn fy nheg.
Câf hwyl yn mwytho'r woblyn yn nyfroedd poeth y sinc,
Gan wasgu'r Fairy meddal a'm menyg rwber pinc.
Rhoi'r llestri yn y cwpwrdd; mae'n lefnsies erbyn hyn,
A beth sy'n well na phaned a bara brith o'r tun.
Cinio, ac yna napyn; cyn hir rwy'n cysgu'n sownd,
Ond eto mae hi'n amser, am baned, cyn troi rownd.
Wedyn, wrth wylio Countdown y mae fy ngheg yn grimp,
A nôl a fi i'r gegin am baned, tua pump.
Mae drws y ffrynt yn agor. Fe ddaeth y bòs tua thref.
"Helo, sut hwyl?" a "hoffet ti gael paned?" yw fy llef.
Phil Davies
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Cadw t?
(Myfyrdod ar agoriad Senedd y Cymry)
Daeth Leusa draw o Loegr, lle mae'i phalasau'n llu
I ddweud wrth bobl Cymru pa sut i gadw t?.
Rhyw olwg digon trwynsur oedd arni does dim dau,
Wrth iddi hi 'fendithio'r' t? newydd yn y Bae.
Fel pe yn dweud na allem fyth gadw'r lle yn dwt,
Ac mai gwell a fyddai'n cloi am byth, i bydru mewn rhyw gwt.
Mae'n siwr y cawn drafferthion, bydd yno gega croch,
A phethau'n mynd o dro i dro yn dipyn o draed moch.
Bydd rhai'n mynd dros ben llestri, ac ambell un yn fwrn,
A rhai yn berwi cyri cynllwyngar ar ryw ffwrn.
A Rhodri Morgan walltog yno i ddweud y drefn,
A'i 'ffrindiau' am y cynta' i roi cyllell yn ei gefn.
Er hyn, ni raid wrth Leusa i ofalu am y lle
Mae gennym gwmwl tystion, fel Waldo a DJ.
Bydd Gwynfor a bydd Saunders, Glynd?r a'r dewrion lu
Yno i gadw llygad cariadus ar y t?.
Felly, un cyngor erys, i'r falch, frenhingar fun,
Dos yn dy ôl i Lundain, a'th lanast di dy hun.
Dafydd Morgan Lewis
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Llygredd.
O dan guriadau unig
tyrau gwyn, mae torri gwig
yn rhoi nawr rai erwau nôl
i'r diben ystrydebol.
Pob cangen fel asennau
yn wyn a'r pridd yn prinhau.
Gwnaed y drwg ac nid yw'r hin
yn malio os taw melin
wynt sy'n hawlio pob pentir.
Ni allai'r gwynt dwyllo'r gwir,
oherwydd mae'r llid araf
yn suro iaith gwres yr haf.
Gwenallt Llwyd Ifan
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Llygredd
Wylan deg ar lan y don,
Duach na'r mwyar duon,
Heb awel iach dan dy blu
A'u harddwch fel y parddu,
Daeth olew'n dew ar dywod
Ddydd o haf, gwae di ei ddod.
Wylan deg ar lanw du,
Cwyd eilwaith, côd dy wely,
A hed mor driw â phader
Dros orwelion culion, cer
Yn llatai drwy'r gwyll eto,
A dwg warth ar fyd o'i go.
Huw Meirion Edwards
10 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chart?n.
Er i ddyn bach o'r Llan gynnwys stribed
O luniau amheus o Fohamed
A gwylltio Mwslims pob tre
O'r gogledd i'r de,
Nid Gwantanamo Bay fydd ei dynged.
Anwen Pierce
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â chart?n
Mae Cyngor Moslemiaid y Bala
O'u co efo'r Eglwys yng Ngwalia.
Yng nghaffi y Cyfnod
Fe gafwyd cyfarfod
I drafod strategaeth eu Ffat-wa.
Iwan Bryn James
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Rhyw ff?l ddaeth ddoe ar y ffôn
Yn Urdu meddais 'pardon'
Ateb llinell ar y pryd:
Rhyw ff?l ddaeth ddoe ar y ffôn
Rhyw fwrn mawr o Frynmeirion.
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Hanesydd.
Dos drwy llen y gorffennol - i weled
Dy dylwyth, a dethol
Ddoe i ni, o'r oesoedd nôl,
I'n hudo i'r dyfodol.
Phil Davies
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Hanesydd
Hanesydd. (David Irving)
A gofynnodd am ddogfennaeth burach
na siamberi haniaeth
oes yn ôl, a hyn sy'n waeth -
daweled y dystiolaeth.
Dafydd Pritchard
8 ½ Pwynt
Telyneg : Carreg
(i mam a 'nhad)
Mewn cylch o aur fynegodd
Holl addewidion serch,
A thystiodd ei ysblander
I uniad mab a merch.
Bellach mae'i enw yntau
Ar lechfaen marmor du,
Ond swyn y cylch sy'n para
Yn nwfn ei chalon hi.
Phil Davies
9 Pwynt
Telyneg - Carreg
Brofiadau, siomedigaethau, bellach, yn ôl
roedd plymio i'r nant, mor ddwfn , i ni, ag ofn,
yn antur a sgrechiadau. Ac mor ffôl
oedd ofni brath llyswennod yn y brwyn
neu lyncu ambell sili-don
rhy fentrus. Yr ias bob tro o dorri'r ias; dwyn
anadl pawb, a rhincian dannedd. Yn Awst
dyma ddyfroedd ein dychymyg ni,
a changen ddeiliog uwch ein pennau'n drawst.
Mentro i'r byd tu hwnt i'r byd o dan y d?r
yn freichiau ac yn goesau i gyd;
y tawelwch hwnnw oedd lawn st?r
o hyd - fflachiadau pysgod, ambell bric,
swigod d?r ar ffo - finnau'n dal fy ngwynt;
a chyn ffrwydro, cydio mewn rhyw garreg slic.
Mae honno heno ar fy mwrdd, a minnau'n ffôl
yn teimlo'r eilaid honno'n llyfn, mor llyfn, dan law,
brofiadau, siomedigaethau, bellach yn ôl.
Dafydd Pritchard
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Unrhyw blanhigyn
Collen
Yn wanwyn o gynffonnau - yn y berth
Mae'r w?n bach, a'r brigau
Dan eu sang; ond daw angau
Cyn hir heibio'r llwyni cnau.
Gwenallt Llwyd Ifan
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Unrhyw Blanhigyn
Llwyn Mwyar
A llys ein hewyllys ni - yn gorwedd
Yn garnedd mewn gwerni
Dan y drain, bydd dau neu dri'n
Mwyara'n y mieri.
Iwan Bryn
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'mêl'.
Mel Charles
Y gorau oedd o gewri
Doniau Mel y dyn i mi.
Gwleidydd
Â'i enau mwys a'i wen mêl,
Â'i ymchwydd, caiff ei ddymchwel
Pennill Mawl/Dychan: Canu Gwerin
Am ganrif fuoch yn casglu
Yr hen alawon a'u canu,
Fe'u cedwir eto fel hen win
Er na fydd yma werin.
Englyn: Cors.
Awn i ffau y muriau mân - i erlid
Y carlwm a'r gigfrân
O Gae'r Gors, i'r gair a'r gân
Adfer urddas Rhosgadfan.
Limrig yn ymwneud â chart?n.
Mae'na fachan o rywle ger Llambed
Yn hynod o ddoniol i'w weled,
Dannedd fel Goofy,
Clustiau fel Mickey,
A pheli gwlan cotwm Super Ted.
Mi welais i lun o Osama
'Roedd e'n edrych yn ddyn digon 'smala.
Wynebai "y llwyn"
Ond er mai llai oedd y trwyn
'Roedd yn gawr ar ddwyn rhemp reit i wala.
Pan nesh i gartwn yn Meddgelert
o lodes mor hynod o bert
mawr iawn fuo'r galw
i 'nghosbi fi'n arw.
Kate Roberts oedd hi heb ei sgert.
Mae Ganesh a Mawrth a Jehofa,
Harri Crishna, Apolo a Bwda,
Aphrodite a'i chriw,
Thor, Fishnw a Duw,
Yn dipyn o mêts â'r hen Ala.
Cynigion ychwanegol:
Englyn - Cors
Hawdd iawn yw cael dy ddenu - i'w thir hardd
Wrth i'r haul dywynnu;
Ond heth all ddod i'th lethu
Yn llaid oer ei phyllau du.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

