Llanbed v Y Gler

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair gwynt:

Nid yw'r gwarth o dorri gwynt
Heb elw pan fo bolwynt.

John Rhys Evans
8 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwynt'

Anodd yw dweud amdanynt
I ddwylo g?r ddal y gwynt.

Osian Rhys Jones
8 ½ Pwynt

Pennill Ymson mewn mynachlog:

Lle gynt bu saint yr oesau
A chorgan eu paderau
Nid oes ond hwt tylluan lwyd
Yn eco rhwng y muriau.
Yng ngwyll y gangell heno
Synhwyraf yr un cylchdro
Daw i fagwyrydd ffydd pob llan
Dylluan i fugeilio.

Dafydd Lloyd Jones
9 Pwynt

Pennill Ymson mewn Mynachlog

Gweddïais am gael llonydd
Rhag y wraig a'i swnian beunydd,
Ond myn Diawl aeth Duw'n rhy bell
Dydi hyn ddim mymryn gwell.

Osian Rhys Jones
8 ½ Pwynt

Englyn: Clust-dlws:

Gwylio estyn i'th glustiau - yr addurn
A roddai i'm wefrau,
Minnau o hyd sy'n mwynhau
Ail-osod dy glustdlysau.

Islwyn Walters
8 ½ Pwynt

Englyn: Clustdlws

Tu ôl i siwt a wal ei swydd - a than
Grys a thei parchusrwydd
Aeth rebel gwrthryfel rhwydd
I wadu ôl y nodwydd.

Iwan Rhys
9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Celwydd

Rwy'n falch o'r cyfle i gael siarad
Ar destun lle mae gennyf brofiad
'Rol deugain mlynedd yn y busnes
Mae 'nghydymdeimlad gyda Moses.
Rhowch un gorchymyn yn lle deg;
Paid cael dy ddal, neu cau dy geg.
I swnio'n ddoeth rhowch air mewn Ffrangeg
Pwt o Ladin neu Almaeneg.
Am gyfrwng gwell, i gelwydd cain
Paid byth anghofio yr iaith fain.
Lluosillafog eiriau hir
Yw'r wisg ffasiynol rhag y gwir-
Canmoliaethus, Bendigedig,
Digamsyniol, Awdurdodedig ...
Mae ambell air dan wrid cywilydd
A fydd gyfystyr mwy a chelwydd.
Tri chwarter awr i'n Prifweinidog,
Guantanamo, i'r Cristion Enwog.
Cuddiwyd y graith, y clwyf a'r dolur
Yng nghelwydd sbin dan drwch o golur.

Os dwedais rywbeth i'ch tramgwyddo,
'Mae hwwnw'n gamgymeriad teipio.

Dafydd Lloyd Jones
9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell) - Celwydd

'Chydig sy'n gwybod bod George Debliw a Tony
ers bron iawn i ddegawd yn hoff o fardd-ony.

Bu'r ddau yn cyfarfod mewn byncar go fawr
i ddysgu'r gynghanedd yn ddyfn dan y llawr.

Cawsant lawlyfr gwahanol gyda phob pryd bwyd:
i frecwast, 'Anghenion y Gynghanedd', Alan Llwyd,

i ginio, 'Cerdd Dafod', Syr J.M.J.,
'Bwyd Llwy O Badell Awen', Geraint Bowen, i de.

'Mhen blwyddyn neu ddwy cafwyd englyn a chywydd,
hir-a-thoddaid a rhupunt gan Tone a'r Arlywydd.

Yn wir, roedd y ddau'n barddoni'n reit gywrain
ar bedwar mesur caeth ar hugain.

Yna'n sydyn un dydd daeth rhyw 'Awen Attack'
rhyw flwyddyn union cyn rhyfel Iràc.

Roedd eu bryd ar anfon arwrgerdd i 'Barddas'
ond doedd dim un o'r mesurau, rywsut, yn addas.

Aed ati i greu'r pumed mesur ar hugain
(un arbennig ar gyfer y dasg o gamarwain)

a darlledwyd eu harwrgerdd ar bob newyddion
ar fesur y Celwydd Deuwr Gwirion.

Iwan Rhys
9 ½ Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Senedd

Nid o grombil cywilydd
du y daeth; daeth i Gaerdydd
o gan ddoe; eginodd hon
o bridd hyder breuddwydion
medi aur. Mae gennym dy,
aelwyd a than i'r teulu.
Mae cartref, mae llys hefyd.
Mae hawl. 'Rym yma o hyd!
Mae'r praffter yn y deri;
gwaeda'r wawr drwy ei gwydr hi
a chlyw byd uwchlaw y bae
Owain hon a'n llais ninnau.

Eirwyn Williams
10 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) - Senedd

Hawdd iawn yw rhoi newydd wedd
Hosanau ar draed Senedd,
Heb iddynt roi'r un baddon
I groen hyll migyrnau hon.
Ond o hyd ym Mae Caerdydd
Yr un ydyw'r cornwydydd.
'Run wedd ei hewinedd hi
A thyllau ei phothelli.
'Run hen froc, 'run farwcas
Bach duon yn gwynto'n gas.
Rhoed dodrefn ar ei dwydroed,
Ond yr un ydyw'r ddwy droed.

Iwan Rhys
10 Pwynt

Limrig yn ymwneud â hwylio

Rwy'n hwylio fy nghwch yn y baddon
Yng nghwmni yr hwyad a'r sebon
Ac yna yn borcyn
Rwy'n tynnu y corcyn
A'u rhoi yn 'dry dock' am y noson.

John Rhys Evans
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â hwylio

Fe gododd y faner a'r hwylia',
Fe gododd yr angor a'r rhaffa',
Ond anghofiodd 'rhen Jim
Yng nghanol bob dim
Roi'i gwch ar y d?r yn lle cynta'.

Osian Rhys Jones
8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd trosi barddoniaeth
Dweud y gwir, does dim byd gwaeth.

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd trosi barddoniaeth
I dimoedd clîc cerddi caeth

Englyn Cywaith: Briallu

Ar geulan y gwahanu - ar y clawdd
er i'r clwy gael glasu
ni allai'r holl friallu
wella bwlch y boen lle bu.

Eirwyn Williams
9 ½ Pwynt

Englyn - Briallu

(papur wal yng nghartref Iolo Morganwg)

Er rhoi ar fur bapurwaith, a'i ffuglwyn
Yn wanwyn i'w heniaith,
Parhau wna hen graciau'r graith
Lydan drwy'i adeiladwaith.

Osian Rhys Jones
9 ½ Pwynt

Telyneg: Caeau

Dau gae a dwy gorlan
Wedi eu cau a'u corlannu

Ond daeth mellt i felltithio cynnen
A drain i nithio'i draed ar y gwared.

Cododd heulwen cymodi yn ei dro
Gan wastrodi'r anghydfod

Ond gwanc a dyhead dyn
A ddrylliodd y clawdd terfyn.

Daeth saer maen i gau y cur
Gan hau meini union
Ym mreuder y border bach.

Daw o gau eto'r ffin
Rym dau gae a dwy gorlan.

Ann Rhys
8 ½ Pwynt

Telyneg - Caeau

Dywylled diadelloedd
O fewn eu llwyni cyll,
Yng nghysgod y mynyddoedd,
Cae Mawr, Cae Canol, Dryll,
O Glwt i Glwt bach cyfyng, cau,
Llochesi cudd, fel ffydd mewn ffau.

Ond gwell gan ddiadelloedd
Y gwelltyn glasach, hwy,
Yng nghysgod y mynyddoedd,
Cae Mawr sy'n dipyn mwy,
A phellhau mae'r llwyni cyll
Lle bu Cae Mawr, Cae Canol, Dryll.

Eurig Salisbury
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Unrhyw Dref

Lle â naws, llawn hanesion - am fawnog,
Am fynydd a phorthmon,
Llai nag awr i lawr y lôn
Rhagorol yw Tregaron.

John Rhys Evans/b>
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Unrhyw dref

(enillwyd y frwydr i atgyweirio'r cloc)

I dre Lynd?r welén dod - un eiliad
Ai'r olaf? Ai'r darfod?
Wele fysedd rhyfeddod
Parhau, i ninnau, yw'r nôd.

Iwan Rhys
9 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82

Cynigion Ychwanegol:

Trwy'r deri daeth gwynt o'r dwyrain
A daeth o bell a'i fwyell fain.

I achub yr ysgubau
Y gwynt fo trwyddynt yn gwau.

Y mae gwynt yn broblem gas
Yn anharddu ein hurddas.

Ar orwel gwynt y felin
A drodd yn ynni i'w drin.

Pennill Ymson mewn mynachlog:

Nid deuddeg o Abadau,
Na'r tywysogion hwythau,
Na Dafydd dan yr ywen brudd
A 'roes i'm grudd ei dagrau,
Ond am fod dau tu hwnt i'r mur
Ynghwsg yn naear Ystrad Fflur.

Wedi bod mae oed y bader
Wedi bod mae dy baderau
Llys anhysbys yw heb osber
Hen adfeilion ymson amser.

'Rol gwyliau yn Llandudno
'Da'r merched drwg a'r smocio
'Dyw siafio 'mhen a gwisgo sach
Ddim mwyach yn apelio.

Dim ond dau air y flwyddyn
Rwy'n cael eu hyngan ffrind
A'r ddau air am eleni
Yw'r ddau air hyn 'Rwy'n mynd!'

Englyn: Clust-dlws:

Y sêt ol a bac settee - a hefyd
Yr hwfer'n eu codi
Nonsens oedd mynd 'da Nansi
Megan a Nan am wn i.

Gwas y glust a'i neges glir - i wadden
wleidyddol anghywir
mai ffein yw'r lein rhwng Meinir
a Dai Gwyn a dweud y gwir.

Hwn a'i ddwrn sydd yn addurno - y drws
deri hardd sy'n gwrando
a pherl ffrind oes a'i groeso
yw'r waedd i fi ddod drwyddo.

Gwelais rai'n dal fel gelen - yn y glust
Wrth glip at y diben
Ond eu gwell sydd gyda Gwen
Yn hwylus wrth dwll hoelen.

Limrig yn ymwneud â hwylio

Aeth Moc yn y bore i hwylio
Mewn gobaith cael macrell i ginio
Fe ddaliodd rhai degau
Ond y gwynt aeth i'w hwyliau
Ac yn 'r Isle of Man bu'n eu ffrio.

Roedd Jonah mewn tipyn o fess
I lawr ym mherfeddion Loch Ness
"Caf gyfle" medd e
Ar draeth Ninefe
I roi ar y we f'S.O.S."

Englyn Cywaith: Briallu

Llu afrifed sy'n ymledu - yn llif
Lliw hufen o'n deutu
Rhaid i bawb erioed y bu
Bro allor y briallu.

Telyneg: Caeau

Dyma'r lle
y taenwyd llieiniau
yng Nghae Llain
ar hyd y cloddiau;
yng Nghae Pistyll
dan y dderwen
dringo yno
ar bob cangen;
porfa'r gwanwyn
gwair a'r llafur
yno gweled
gwyrthiau natur;
dyma'r byd
i ail ddarganfod
pelydrau'r haul
ar dir Cymreictod;
golau sydd
yn deffro'r lliwiau,
llunio'r paent
mewn llu gweadau;
lliwiau llachar
byd plentyndod
yn atgofion
yr anwybod;
a chydio'n llaw
y lluniau yno
sydd yn bell
yng nghell fy nghofio.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwynt'

Dewr yw dal drewdod ôlwynt
Dewra'r g?r all dorri gwynt.

A dyrr ei wynt yn ei dro
A reola'i gamdreulio.

Pennill Ymson mewn Mynachlog

Os diateb wynebau
Diofyn gwyn a gynnau
Di-faich y criw mynaich mau,
Yn eu heddwch rhyfeddaf
At atebion breision braf
Y gwagleoedd a glywaf.

Englyn: Clustdlws

Fi'n c?l, fi'n hip, fi'n caled - fi yw'r guy
Hefo'r gold mewn llabed,
Fi'n dwl, fi'n chav, a fi'n dead
Amharchus - fel y merched.

Cywydd(heb fod dros 12 llinell) - Senedd

(adeg yr agoriad swyddogol)

Yn s?n gwâr militariaeth
A churo ein dwylo daeth
Y fendith ganddi hithau,
Yr hawl nawr i lawenhau.

Nid senedd nad senedd sydd
Yn glyd fel gwenu gwleidydd.
Ni ddaw senedd o swnian,
O eiriau gwyllt brwydro gwan.
A di-hyder yw gwerin
A gwlad nad yw'n plygu glin.

Â'r gynnau'n oer, gwenwn ni
Am mai estron yw'n meistri.

Limrig yn ymwneud â hwylio

Hwyliodd Huw Puw draw i Rio
Ar fersiwn non-stic padell ffrio,
Llithrodd i bob man
Cyn cyrraedd y lan
Dros yr ochr i'r môr yna suddo.

Fu Marian erioed draw yn China
Nac unrhyw wlad arall yn nunlla,
A thoc wedi i'r llong
Angori'n Hong Kong
Fe flasodd fwyd ych a mynd adra.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.