Caernarfon v Ysgol Dyffryn Conwy

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Caernarfon

Caernarfon

Ysgol Dyffryn Conwy

Ysgol Dyffryn Conwy

Cwpled caeth yn enwi llyfr:

Pa les cnoi Llyfr Mawr y Plant
A ffasiwn flas ar ffesant

Ifor ap Glyn
8 ½ Pwynt

Cwpled caeth yn enwi llyfr:

'Aros Mae' erys i mi,
Yn fynydd mewn sylfeini!

Hywel Williams
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: "wedi hynny"

Yn ddedwydd mi freuddwydiais - am fynwes
Myfanwy'n fy ngoglais;
Taniodd ffag, tynnodd ei phais,
Wedi hynny dihunais.

Ifor ap Glyn
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau "wedi hynny".

Ifanc nid yw'n arafu - y mae'r wefr
Mor afrad yn gyrru
Ond daw i oed o bob tu;
Daw henaint wedi hynny.

Andrea Parry
9 Pwynt

Pennill mawl / dychan :

Y Gyfraith

Seiniwch yr utgyrn a chenwch y clychau,
Newyddion a ddaeth i lenwi'n calonnau.
O hyn ymlaen, chaiff neb ei arestio
A fydd neb ar gael i'ch dal chi yn spîdio,
Achos rhwng Môn a Mynwy, fel byddin o filwyr
Bydd heddlu Cymru'n ymladd "terfysgwyr"?

Llinos Angharad
8 Pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Y Gyfraith

Pymtheg mlynedd gewch am fwrdwr,
Ac am dwyllo, chwech neu fwy.
Ond i'r meddwyn oedd yn yrrwr
Rhoes y gyfraith ddim ond dwy.

Gwyn Hughes Roberts
8 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Dyddiadur Wythnos

Dyddiadur Wythnos - Dafydd Elis-Thomas (59 ¾ oed)

SUL: Codi'n fore, cael brecwast yn fy nressing-gown,
sudd oren ffresh o Farakesh a choffi Masnach Deg,
Darllen y papurau Sul cyn loncian i Bontcanna;
cinio yn Le Gallois, stêc sy'n toddi yn fy ngheg.
Meddwl imi'n hun mor fendigedig ydi bywyd,
cyn cofio am fy nghyd-ddyn sy'n llai ffodus na mi.
Pwy sy'n sefyll drosto? Pwy sy'n ei gynrychioli?
Penderfynu gwneud rhywbeth. Mynd adre erbyn 3.

LLUN: Mewn bwyty Indiaidd, cyfarfod Ieu ac Adam.
Mae isio gweledigaeth neu mae'n amen ar y Blaid.
'Plaid Cymru' - mae o'n enw sy'n dieithrio ein cydwladwyr,
ac yn hollol amherthnasol i drigolion Riverside.
Sbiwch arnon ni ein tri - Cymry dosbarth canol,
dynion gwyn canol oed, ychydig bach yn arty-farty-
Yn lle Plaid Cymru/Party of Wales, penderfynu,
o hyn allan, ein galw'n hun yn syml yn 'Plaid' (neu 'Party').

MAWRTH: Cyfarfod arall i drafod newid delwedd:
mae'n rhaid 'ni fod yn blaid i bawb, nid jyst i ddynion gwyn-
Merched, lleiafrifoedd, anabl, allgaeedig, plant, babis -
pwy sy'n cynrychioli'r bobol hyn?
"Beth am eneth bymtheg oed yn arweinydd?" meddai Adam.
"Pam ddim babi?" meddwn i, "Y dyfodol pia hi nawr."
"Iawn te, babi", meddai Adam, "Un Sieineaidd â chroen melyn,
heb ddim Cymraeg na Saesneg! Ieuan, sgwenna hyn i lawr."

MERCHER: Draw i'r bae i gyfarfod ein Brenhines,
sy'n ddynes hyfryd iawn, waeth be ddywed Leanne Wood.
Cael sgwrs fach efo hi am y busnes newid delwedd.
"We're dropping Cymru,"meddwn i; atebodd hi "Oh good."
Nid gormodiaeth fyddai dweud mai hwn oedd diwrnod gorau 'mywyd.
Es i ngwely a breuddwydio breuddwydion melys iawn.

IAU: Cadeirio pwyllgor hollol boring yn Cynulliad:
mi aeth y peth ymlaen a 'mlaen tan han'di pump yn pnawn.

GWENER: Yn y swyddfa, rhoi switch on i'r cyfrifiadur.
Be ddiwgwyddodd i'r arbedwr sgrin? Nid triban ydio mwy!
Na dyma'r ddelwedd newydd ollgynhwysol - dwdl melyn.
"Ti'n ei hoffi o?" medd Ieuan. "Na'th o 'mond costio mil neu ddwy."
"Wel mae'n hyfryd ac yn fodern a deinamig, ond....be ydio?
" "Wel, fel cytunon ni ddydd Mawrth, y babi melyn, si?r."

SADWRN: Gweld yn papur fod gan 'Plaid' arweinydd newydd;
a gesiwch be? blydi Ieuan Wyn ydi'r g?r.

Geraint Lovgreen
9 ½ Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Dyddiadur Wythnos

Ben bore dydd Sul daeth y Parch draw am dro
Parch Ifan D Flewyn o Aber Gwyn Glo.
A phregeth go drom a gafwyd - a hir
Tri phen a thri throed a dwedyd y gwir.

Nid oedd gennyf nodyn ar gyfer dydd Llun
Fe bwdais â phawb gan swcro fy hun.

Dydd Mawrth wele'r heulwen a chyfle am sgwrs
Gyda ffarmwrs Pen Ll?n, yn y mart, wrth gwrs.
Gwerthu swynog a heffar ac efeilliaid o loi
A dwy fuwch a frîd Ffrengig oedd wedi cyfloi.

Bore Mercher ddaeth wedyn â phoen yn fy
mhen
'Rôl dathlu bach gormod â chwrw T? Pren.

Ond Difiau oedd ddiwrnod a finnau rêl boi
Gan feddwl am wyliau gyda Chwmni Caelloi.
Wedi ffonio a thrafod a dadlau trwy'r pnawn
Taith ddirgel i Rosirwaun yn unig a gawn!

Dydd Gwener a Sadwrn oedd ddyddiau o waith
Wrth glirio'r hen 'Hendref' yn barod i saith
O bobl o Loegr i aros drwy'r haf
Mae'n mywyd fel ffarmwr yn un hynod o braf.

Ifor Glyn Evans
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â meddwi:

Un o'n hoff gemau i ydy chwist
Tra'n gwrando ar gerddoriaeth gan Liszt
Efo nghyfaill José
A chew photel rosé
Cyn diwedd ma'r ddau o'ni'n pisd.

Wrth chwarae fel hyn rownd y rîl,
Mae José'n gwneud ambell bym dîl,
Ac yn lle deud 'olreit'
Mae'n datblygu yn ffeit,
Ond be newch chi? Ma'r ddau o' ni'n chwil.

Erbyn deg, den ni'n chware hen jacs,
Ac yn yfed Bacardi an' blacs.
Mae José yn ei drôns
Dwi'n dynwared Tom Jones
Ond be newch chi? Ma'r ddau o'ni'n racs.

Geraint Lovgreen
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â meddwl:

Mae Edryd yn hoff o'i ddiferyn
A Siwsan yn gwagio sawl gwydryn.
Y pâr yn dyheu
Am i'r ddiod ddileu
Eu harfer o brancio yn borcyn.

Ifor Glyn Evans
8 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell: Teyrnged i Wleidydd

Ar achlysur agor Senedd y Cynulliad ar Ddydd G?yl Dewi 2006

Unwaith fe luniwyd senedd
I'n gwlad gyda llafn y gledd;
Cledd o wain Owain ei hun,
Y milwr coch a melyn
Y carwn ei alw'n ôl.

Nid yw heddiw'n wleidyddol
Gywir i glodfori'r gledd
Neu wyro ger bron mawredd
Llurig gain a lliwiau'r g?r
A wisgodd fel terfysgwr.

Os terfysg, mae'n derfysg dyn
Na welith goch na melyn!

Ifan Prys
8 ½ Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell: Teyrnged i Wleidydd

'Fidel Castro'

Daeth taran dros Havanna
I daro hil hen drahâ.
Llew arfog, barfog, y Bae,
Yn gwarchod drwy bob gwarchae.
Ni lyfodd gyfalafwyr.
Â'i farn gadarn ymhlith gw?r,
Urddodd werin ag urddas;
Gyda'i nerth, rhoi gwerth i'r gwas.
Ei wych wasanaeth iechyd,
Ddoe o'i law,a ddeil o hyd.
Hen unben nad yw'n enbyd,
Hwn i'w bobl, a roes well byd.

Hywel Williams
8 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Hen bâr yn dal i garu
Ond y mae'r ddau mewn dau d?

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Hen bâr yn dal i garu
Hyd y teils gan ysgwyd t?

Englyn cywaith : Geiriadur

O'r gyfrol safonol faith - un a'i lledr
Mor dywyllodrus berffaith,
Ni ddaw rhinwedd yr heniaith;
Yn anrhefn meingefn mae iaith.

Ifan Prys
10 Pwynt

Englyn cywaith : Geiriadur

(mam a'i phlentyn yn pori trwy'r Geiriadur Lliwgar).

Daw holl enaid y lluniau - yn dawel
Trwy'r deall di-eiriau;
A thrwy hen graidd y gwreiddiau
Mae 'na iaith yn mynnu hau.

Andrea Parry
9 Pwynt

Telyneg : Pellter

(Genesis Pennod 8 Adnodau 11-12) "Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr,yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd, newydd ei thynnu a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddiar y ddaear. Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen ond nid ddaeth yn ôl y tro hwn."

Roedd hanes y dilyw yn rhan o chwedloniaeth ein doe,
Rhyw Sunami o stori oedd hi a Duw Noa yn rhedeg y sioe.

Bellach mae etholedigeth naîf o'r fath wedi mynd efo'r lli
Ac nid llosgach a rhwysg Hollywoodaidd o'r fath yw fy
nghredo i.

Rwyn falch fod dwy adain colomen wedi cael mynd ar i
hynt
I gyhoeddi'r deyrnas amgenach i'r pedwar gwynt.

Ac am y daith i chwilio am nyth o obaith i'w chywion
 deilen o wanwyn gwyrdd i Noa a'i gyd-fforddolion

Aeth nôl y gair gyda'i phenyd ai phwn,
Aeth eilwaith "ond ni ddaeth yn ôl y tro hwn".

Gwyn Erfyl
9 ½ Pwynt

Telyneg: Pellter

Coed Senedd yng Nghaerdydd
Un goeth a gwydrog iawn.
Adeilad modern ond eto sydd
Yn dangos Cymru'n llawn.
Holl wychder dawn sydd yn y 'plas'
A'r rhethreg aml yn anfon ias.

Bu Neuadd yn Llanfaenor
Un blaen a drafftiog iawn.
Sied sinc o le oedd eto'n fôr
O grebwyll Cymry'n llawn.
Holl wychder dawn oedd yn y 'plas'
A'r rhethreg oedd yn anfon ias.

Lle bu, lle bydd; mae'r ffordd yn faith
A oes ewyllys i wneud y daith?

Ifor Glyn Evans
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Anifail Anwes

Mewian ei hunan mai hi - yn y Ruhr
Yn Reims a Helsinki;
Yn Al Kut fe ddeil y ci'n
Driw i ystryw ei feistri.

Robin Lloyd Evans
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½

Englyn ar y pryd: Anifail Anwes

Deiaria Ci

O ben ôl rhyw hen Gollie - neu o dîn
Labrador neu Gorgi,
Hwn a ddaeth fel llaeth yn lli!
Wyf agos at gyfogi

Gwyn Hughes Roberts
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn enwi llyfr:

Beibl i bawb o bobl y byd
a chofiant Siardrach hefyd

Dynes sy'n tynnu amdani
Yng Nghaerdydd yw nghariad i.

I'w lefel A (Lyfli yw Ann)
Cramia Gysgod y Cryman

I bawb mae Santa yn bod
Ond neb yn ei adnabod.

I bawb mae Nessie yn bod
Ond neb yn ei hadnabod.

Od iawn,lle aeth cyfrol dau?
"Deugain oed a'i ganiadau"

Pennill mawl / dychan:

Y Gyfraith

Os diben hon yw caniatáu
Cyfiawnder i bob truan,
Pam nad oes neb yn sicrhau
Nad arian lenwa'i chlorian?

Limrig yn ymwneud â meddwi:

(yn slyrio ...!?)

Roedd dyn bach yn byw yn Hong Kong
Oedd yn hoff iawn o chwarae ping pong
Wyt ti'n flew drostat i gyd ?
Gofynais i yn ddi hîd
O na ! dwi di'i gofio fo'n rong!

Un flewog ofnadwy oedd Anna
Efo blew mawr llwyd fatha lama
Wyt ti'n flew drostat i gyd
gofynais i yn ddi hid
Wel na, deud gwir fi di'r Wyddfa

Englyn cywaith :

Geiriadur

eg. yw, Llyfr o "gair" - terf-iadur
Trafoda bob ungair
Sydd. Teflir pob ansoddair
Enw a berf i mewn i'w bair.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn enwi llyfr:

Collad, bod heb 'Odliadur'!
Ydy ciw, mae'n codi cur!

Pennill Mawl/Dychan: Y Gyfraith

Mae angen bod yn gywir
Tu fewn i'r gyfundrefn.
Mae angen bod yn eirwir
A gonest dan bob trefn.
Mae'n rheidrwydd troedio'r llwybr cul
Ond wedyn - a yw'r drefn yn ful?

Cân(heb fod dros 20 llinell): Dyddiadur Wythnos

Wythnos ym mywyd T.J. (AS)

I brynu t? cewch forgais
Reit handi gan y banc,
A'i thalu'n ôl yn brydlon,
Neu'ch cosbi fydd eich tranc.

Ond os y'ch yn Weinidog
Yn y "government",
Daw Silvio draw i'r adwy-
Ni gyst y t? 'run cent!

Ond Och! Y wasg ddieflig,
A'u trwynau ar y maen,
Erlynant 'Dessa' annwyl,
Mae yn y baw, reit blaen.

"Be wnai?" medd ein harwres
"Cha i ddim bod ar fai,
Y g?r, pwar dab, yw'r drongo-
Gwdbei, mei lyf, gwdbai!"

Limrig yn ymwneud â meddwl:

Mae g?r yn byw yn nymbar Ten,
Problemau'r Byd sydd ar ei ben,
Peryglus yw'r dyn
Sy'n meddwl ei hun
Yn feddw ar fod yn unben.

Meddwi Wil sydd tipyn o gamp,
Brwydra' adref o lamp i lamp,
Ond natur oedd drech,
A phan darodd rech,
Ei drôns a'i drow dry'n gynnes damp.

Telyneg: Pellter

Troedio'r llwybrau uchel unig,
A chri'r Ehedydd ar y gwynt,
Olion dyn ymhell o gyrraedd
Ym mhellteroedd amser gynt.

Llwybrau defaid arwain atat
Calon hen y Gymru a fu,
Gwel gysgodion yn y pellter
Yn taro arnaf o bob tu.

Mae pob craig yn adrodd stori
Pob rhyw ffr?d yn canu cân,
Clywaf atsain yn y pellter
Clecian cainc yn fflamau'r tân.

Dal yn eirias mae'r dyhead
Cael dod yn rhydd o dan yr iau,
Ac o bellter amser bellach
Teimlaf nad yw'r drws ar gau.

Cri Eryri sydd yn galw
Cri angerddol mewn hen iaith,
Ufuddhawn, er pellter amser,
Camu 'mlaen, cyn i'r briw droi'n graith.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.