Monwyr v Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Monwyr

Tir Mawr

Cwpled caeth yn enwi lle ym Mhen Ll?n
Ym Mhenrhos pan mae'n nosi
Hen dân sy'n fy enaid i.
Eurfon
9 ½ Pwynt
Cwpled caeth yn enwi lle ym Mhen Ll?n
Eira'r diawl sydd yng Nghaerdydd
Eira'n Duw ar Frondywydd.
Huw Erith
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys dilledyn:
O'R SÊL
'Roedd 'na sêl ym Mhwllheli - ac yno
Yn gynnar 'r aeth Harri;
A phuntan cadd dri phanti
A ffrog, a chadd drôns yn ffri.
Robin Huws
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys dilledyn:
Er iau eu tlodi druain, o hen was
Roedd fy nhaid yn yswain;
Gwên neu wae, doedd wiw gan nain
Iselhau'r grysbas liain.
Gareth Williams
9 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn ysbyty:
I ba le 'raeth Democratiaeth?
'Rwy'n gorfod llyncu pils yn helaeth
Ac yfed d?r rhyw bedwar chwart
Ond ni chaf edrych ar fy siart,
Ac er nad ydwyf yn cael codi
Mi godaf heno uwch ei phen hi.
Rhaid fy mod yn ddwl drybeilig
Mae fy siart fel sgrôl Iddewig,
A'r unig eiria' ddealla i
Yw ENEMA fory am dri,
Ond ENEMY nid ENEMA,
A wnaf bob tro o'r nyrsus da.
Mi rown i rywun, rhown gan punt
Pe medrwn atal torri gwynt.
Eurfon
8 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn ysbyty:
R'wy'n edrych ymlaen i gael gwybod
Os adawa'i y lle 'ma tua thre'
Pwy rwygodd y bag gwenwyn llygod
A'i gadw ar silff mewn cist de.
Enw'r doctor, n'ôl bob sôn,
Yw 'Arfon Arch', M.D.
Fy enw i'n mynd lawr y lôn
Fydd Wil Huws R.I.P.
Pa beth yw y siart a welaf i?
"William Huws, Sarn - Ampiwtî!"
Symuda i'r bed pan a galw Nyrs Ann
Achos Wil Huws Rhoslan ydw i.
Gareth Jones
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Dirgelwch Mawr
Ar ôl darllen llyfr a gefais ei fenthyg gan Dr Glyn Roberts yn rhoi darlun o'r g?r galluog iawn Stephen Hawkins. Bu'r Dr Roberts sy'n enedigol o Fôn yn athro gwyddoniaeth yn y Bala, Canada a Lerpwl cyn ymddeol yn ôl i Fôn.
Wel, Stephen Hawkins, wyt ti'n credu mewn Duw?
"Wel, nag ydw, Machraeth o gwbwl
Dim ond Gwyddoniaeth yw bod a byw
Ac nid yw trefn Gwyddoniaeth yn garbwl".
Ond, Stephen, mae 'na drefn yn rhywle bid siwr,
Nid damwain a fu ein bod yma!!
A pham mai rhedeg i'r môr a wna'r d?r?
A pham mai lliw gwyn ydi'r eira?
"Mae yna esblygiadau yn hanes dyn
A nwyon yn trawsnewid celloedd
Ac yn natblygiad Gwyddoniaeth ei hun
Rhaid meddwl yn nhermau biliynoedd,
Pan oedd dyn fel Amoeba yn n?r croyw'r môr
Ar lemwr yng nghoed Madagascar
Cyn i'r un aderyn ganu mewn côr
Nac i wreiddiau ymdreiddio i'r ddaear"
Ond beth a ddigwyddodd cyn y bang fawr
Dri eiliad ynghynt, dwed wrthyf beth yw?
"Machraeth" medd Stephen, "pe gwyddem hynny yn awr
Byddem yn deall meddyliau Duw".
Machraeth
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell):
Dirgelwch Mawr
Un peth sy'n ddirgelwch tragywydd
Sut mae clustiau Now Jôs, Ffos y Ffin
Tua troedfedd a hanner o'i gilydd
Ac affliw o ddim in bitwîn?
Huw Erith
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â'r môr:
Wrth hwylio yn ymyl Moroco
Llong danfor a daniodd dorpido,
Newid cwrs a wnes i
A deifio i'r lli
A ches O.B.E am ei ddal o.
Isfron
9 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â'r môr:
Meddyliodd wrth wylio ei g?r
Yn 'nelu am Lydaw o'r twr
"Rhyw bethau go giami
Yw bocsus salami
Gobeithio eu bo' nhw'n dal d?r
Gareth Jones
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Diolch
Am gael ffydd bob dydd o'r daith,
Am wybod fod im obaith.
Am gael digymar gariad,
Am gael byw â Duw yn Dad.
Am swynion fy mhum synnwyr
Am gynghanedd hedd yr hwyr.
Am deithio mewn cymdeithas,
Am y grym sy' nghwlwm gras.
Am bob gwlith fu'n fendith fach
Am allu'i fynd ymhellach.
Am ystlys mewn tymhestloedd
Am ryw Un im harwain oedd.
Donald Glyn
9 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell):
Diolch
Byd o wawl yw'n bodolaeth,
Fodau sydd i'r golau'n gaeth;
Byd â'n Chwefror yn oren
A'n hanner nos yn wawr wen,
Fflachiadau lampau ar lwch,
Golau rhag pob dirgelwch;
Byd â switsh rhag bod y sêr
Yn gweld drwy haen ein gwelwder.
Diolchaf am nos aeafol
Ll?n yn awr - y gwyll yn ôl
 gwên ddu, ac un neu ddau'n
Enwi'r sêr yn Rhoshirwaun.
Myrddin ap Dafydd
10 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
Rhyw hen fêt i'r Meuryn fu.
Ateb llinell ar y pryd:
Aeth Seth i'r Garth i saethu
Y bôr o hyd frolia'i bru.
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Pont
Diwel o'r noson dywell - yn wrol
Ar erwau anghysbell,
Angau'n troi'r bont yn gangell
Y bont oedd lawer rhy bell.
(Hon oedd y bont y bwriadwyd ei hennill drwy anfon milwyr â pharasiwt o flaen y fyddin yno a sicrhau porth ymwared a diwedd cynt i'r rhyfel. NId felly y bu a chyrff y bechgyn welid ar y bont, a'r bont fel cangell eglwys y noson honno.)
Englyn cywaith: Pont
(Wedi gwylio'r rhaglen ar noswyl Gw?l Ddewi, yn canlyn Meinir Ffransis, Llangadog ar drwydd ei hachau yng Nghwm Cynllwyd, yng nghwmni ei merch a'i hwyres fach)
Daw o gyswllt agosach â Chynllwyd,
Drwy'i chanllaw i'w llinach,
Hen afael eto'n gryfach
A'r hen fyd i law'r un fach.
Gareth Williams
9 ½ Pwynt
Telyneg: Ysgariad
Deilen olaf yr haf oedd hi
A droellai'n drilliw prydferthaf
Cyn dyfod gwe y gaeaf
Yn ebrwydd i'm sobri.
Safwn yn unig yno
A cheisio dwyn y gwanwyn gynt i gof.
Pellenig annelwig oedd
Ond,
Yr awr greulon honno,
Dan orfod i lofnodi,
Is geiriau yr ysgariad;
Aeth mam a thad a gadael
I ferw dau gyfeiriad,
Yn benwan boenus.
A'u byd wedi newid am byth.
Machraeth
9 ½ Pwynt
Telyneg: Ysgariad
Dau haul ar y fodrwy
Sy'n dal yr impiad wrth y bôn;
Dwy gangen ar ddau gwmpawd
Gwahanol, wrth agor i'r lôn.
Y cylchoedd yn twchu
A phwysau'r tymhorau'n trymhau
Nes hollti'r fforch
Sy'n dal unigrwydd dau.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Amlen
'Sgrifen gadarn oedd arni - o law mab
I law mam, i'w llonni,
Daeth rhagor o'i hagor hi
Hon fyddai'r olaf iddi.
Isfron
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU:81 ½
Englyn ar y pryd: Amlen
Ym more'r calonnau brew - oedaf
Uwch plygiadau gwelw -
Sut destun gawn ynddyn nhw?
Fe wn, ond gweld fy enw.
Myrddin ap Dafydd
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 83 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn enwi lle ym Mhen Ll?n
Plant ein plant ni welant werth
Hen wynebau, Penyberth.
Rhoes Harri o Roshirwaun
Lemon jiws lliw piws i'r paun.
Pobol addolant Moloch
Ar y Sul yn Abersoch.
Yn y Sarn s?n estron sydd
A minnau'n hedd Uwchmynydd.
Mae 'na sbel ym Mhwllheli
Fynnant graith i'n heniaith ni.
Mae'n werth chweil yn Nhudweiliog
Pan glywn weithiau gân y gôg.
Englyn yn cynnwys dilledyn:
Y SGERT MINI
Sgert dwt ond hynod gwta - un hwylus
Ac yn 'highly bethma',
Ond gyrr hon rai dynion da
Gam arall i Gomora.
Y BICINI
Bra neilon am y bronnau - yna dim
Nes y down i'r cluniau,
Rhimyn cul fel rhwymyn cau
Mesur i gadw moesau.
I HARRODS
Am Harrods yr aeth Meri - wedi cael
"Ready cash" gan Harri,
Yn y siop fe'i gwelais hi
Yn siriol wisgo sari.
Y PANTALWNS
Chwiliais am nicers Persi - yn y dref
O rwy'n drist, ni ches i
Amser i gael rhai flimsy
Hawliai'n deg dy galon di.
BOB TAI'R FELIN
Mewn crys gwlân byddai'n canu - yn annwyl
Ar lwyfannau Cymru,
A rhyw swyn yn aros sy'
Yn rhiniol byth er' hynny.
Pennill ymson mewn ysbyty:
Tybed a gaf fynediad i'r ward
A minnau heb fod yn perthyn?
Sut bydd o'n edrych? Fedra i ddal
I nabod Wil Bach Pendyffryn?
Pa giwed greulon oedd wrth wraidd hyn
Ac yntau'n berl yn ei ardal,
Yn unig fab i wraig weddw dlawd
A fentrodd i herio fandal?
Mi fentra i'n awr i ganu'r gloch
Ond mae'i wraig o'r ward yn dyfod,
Ac yn ei dagrau darllenaf i
Iddi golli ei chyfan mewn diwrnod.
Limrig yn ymwneud â'r môr:
Wrth hwylio mewn storm drwy Swnt Enlli,
Rhyw brofiad anhygoel a ges i,
Roedd fy stumog yn troi
Ac roedd gennyf i gnoi,
Ni ddaeth dan gontrol hyd yn Swansea.
Aeth Josephine Mac Wiliam gwraig Siôr
Efo'i thylwyth o ddeg i Lan Môr,
 gwialen bysgota
Fel caent fish yn eu bolia'
A dwy hand grenêd a "twelve bore."
Hen foi "true to life" a phur addfwyn
Oedd Cynan a hynod ddigynllwyn,
Ond oes rhywun a gred
Ei stori ar led
Iddo fod yn arffed morforwyn?
O dan y môr mae Cantre'r Gwaelod
O dan y môr â mwy bob diwrnod,
Ac oherwydd y gwres
Mae ein diwedd ni'n nes
Mae arwyddion o hynny yn barod.
Mae 'na fôr o amgylch Pwllheli
A thai ha' ac estron sydd ynddi,
Ond cofia'r gwir Gymro
Os marina ddaw yno
Mai fel Lladin, bydd farw ein 'hiaith ni.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn enwi lle ym Mhen Ll?n
Byr yw balm y bore bach
Yn euro trwyn Talfarrach.
Enlli a'i hedd gwinllan hud,
Enlli a'i swnt gwenwynllyd.
Iro crwyn yr oriau cudd
Wna emynau Uwchmynydd
Awn yn gel drwy wawn a gwlith
I botelu Bytilith.
Hawdd byw'n n?r llonydd y bae:
Naid y Swnt sy'n gwneud seintiau.
Englyn yn cynnwys dilledyn:
(rhyfeddod y natur ddynol neu'r broses gynllunio efallai)
Haws dyrnu'r slwt i'r gwter a chwyno,
Er ei chwennych lawer;
Eto fyth, yn ei sgert fer
Mae i Asda'i chymhwyser
Doliwyd geneth y delyn, - rhoi colur
Bra c?l, logo melyn;
Ei throi'n ddol rywiol - er hyn
Heb roi'r iaith yn ei brethyn.
Pennill ymson mewn ysbyty:
Dwn i'm i be dois ar gyfyl y lle
A dal y clwy MRSE
Wrth ddarllen fy meibl
Ar ôl tynnu fy nhonsil,
A mae nghrombil i yn fy llaw dde.
Limrig yn ymwneud â'r môr:
A'r band ar ei ffordd i Rang?n
Yn sydyn roedd angen mar?n
Ar waelod y cefnfor
Yn chwythu mae Gwynfor
A bybls yn dod o'i fas?n.
Wrth ffarwelio a'r holl jin a thonic
Fe laciodd gliw dannedd Wil Eric.
Aeth y set ffiffdi pî
I lawr peipiau di-ri
Ac i ffwrdd gyda'r lli i'r Pasiffic.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell):
Diolch
Yn y rhewynt afreal
Rhwng dyn a dyn, cawn ein dal;
Hunan oll yw'n pennau ni,
Rhy wag i werthfawrogi.
Hael i weld ein hawl o hyd,
Y ni ?yr, ei gymeryd
Heb wedd o gydnabyddiaeth
Yng nghonglau ein cegau caeth.
Ni, y rhai a honna rin
Lliaws ein gwâr Orllewin;
Er na ddaw prin air neu ddau
O ddiolch, nid gan dduwiau.
Englyn cywaith: Pont
(Pont LLechryd, llifogydd Hydref 2005)
Dialedd lond y dyli, - waliau caer
Fel cwrwgl a'r Deifi
Ac mae dicter llawer lli'n
Y d?r mawn ddaw drwy'i meini.
Telyneg: Ysgariad
Er sawr y pabi melyn gwyn
Na chei nheyrngarwch eto'n ôl
A thithau'n dal bod f'enw'n bwn
I'w arddel i'w gyfanrwydd ffôl.
Chwareui'r siawns y cei rhyw fudd
O'th awydd mawr i dorri'n rhydd.
Er cyrchu i'r copaon gynt
A'n cyd-ddyheu yn wefr i gyd;
Cei honni nad yw'd air yn wynt
Yn rhith dy hyder ar y stryd.
Ond deil ein doe er gwell neu waeth
Wrth dorri'n rhydd yr wyt yn gaeth.
Dieithryn ar dir anghyfarwydd
Yn cyd rwyfo ag estron arall
Am ein bod yn yr un un cwch.
Cyd fyw am ein bod yma
I rannu gwynt traed y meirw,
Fel cimychiaid o'u cynefin
Yn hel at ei gilydd er mwyn cadw'n oer.
Osgoi y rhwydi oedd ein bwriad,
Ond bellach nid ydym ninnau
Yn rhannu yr un un cawell.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

