Crannog v Beca
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Crannog

Beca

Cwpled caeth ar baced sigarêts
Y pecyn a ddymuni
All amgau dy angau di.
Dai Jones
9 Pwynt
Cwpled caeth ar baced sigarets
Ei agor a'u hysmygu
Sy'n byrhau dy oriau di.
Eifion Daniels
8 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Y Gwasanaeth Iechyd
Wedi'r disgwyl ces apwyntiad
I weld meddyg am ymchwiliad,
Ond bod raid im ganslo hwnnw
Ar un waith petawn yn marw.
Owen James
8 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan:
Y Gwasanaeth Iechyd
Dwy funud i ateb y ffôn, ond mae'r miwsig arno'n net,
Dau ddiwrnod i weld y meddyg, rwy'n fodlon cynnig
bet.
Dwy awr yn y feddygfa - "He cannot see you yet"
Dau fis am arbenigwr, yn awr rwyf i'n ypset.
Dwy flynedd am lawdriniaeth, rwy'n neidio ar fy het
Dau fys i'r Gwasanaeth Iechyd - fe stica i da'r fet.
Terry Reynolds
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw Americanwr
Er i fyrdwn farw'n fud, - er i gân
Fynd ar goll rhwng deufyd,
Yn ei alaw dychwelyd
Wna Buddy Holly o hyd.
Idris Reynolds
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw Americanwr
Martin Luther King ddringodd i lwyfan
Dolefus o'i wirfodd,
I'w dras ei freuddwyd a rodd:
Llwyddiant ei nod a'i lladdodd
Wyn Owens
8 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell): Anghofrwydd
Cadd Crannog wahoddiad gan Beca, ar lein,
I ymrysawn barddawl yn Nhafarn Cwm Gweun
Ac yno ar noson dwyllodrus o sych
Cyrhaeddom yn bump ar ôl croesi Glyn Cych.
Am englyn neu ddau aeth popeth yn iawn
A phob un odliadur a ffiol yn llawn,
Tan i Waldo droi mewn i dorri ei syched,
Ac ar ôl rownd arall yr oedd hud ar Ddyfed.
Cyrhaeddodd Pryderi â thorraid o sbaniels.
Rhai o ferched Carnabwth gydag Eifion Daniels
Gyda'r manylion bellach yn dechrau cymylu
Drwy wydrau dwbwl y botel whisgi.
Rhiannon , gwraig Pwyll, oedd yn cadw'r sgôr
Cans fe'i gwelais yn cyrraedd yn ei 4 by 4.
A allai ddim bod yn siwr , gant y cant,
Ond 'rwy'n credu mai'r Meuryn oedd Dewi Sant.
Ac erbyn hyn 'roedd Foel Drigarn yn dablen,
A fase hi, na'i phartneres, werth dim wrth fy nghefen.
A wir ichi, Tim, aeth y noson honno
Ar goll yn y niwl, fel y testun heno.
Idris Reynolds
9 Pwynt
Cân(heb fod dros 20 llinell):
Anghofrwydd
Un funud, beth yw'r testun sydd gen i ganu nawr,
Fe gaf i help efallai 'da chi sy'n ishte lawr.
Mae hyn yn achos poendod ers ces i'r gwdwm cas
Mi gwmpes i, mae'n debyg, o'r bath ar y ffordd mas.
A dyna pham rwyf heddi ddim hollol 'yma i gyd'
Fy nghof i ar gyfeilrion, ie felna mae o hyd.
Ces ffôn am naw un bore, sai'n cofio enw'r boi,
Odd isie neud rhyw dasge, a hynny'n weddol gloi.
Roedd rhaglen i'w recordio, da pwy, y C.C.B.
Atebais 'gwnaf' yn sydyn heb drafod dim o'r ffi.
Eglurodd am rhyw bentre a bobol reit sidêt
Sai'n siwr nawr ble we'r ardal, ond mae y bwyd yn
grêt.
A nawr rhaid im gyfaddef, y cof wedi mynd yn llwyr,
Am beth o ni'n siarad, gwedwch, os rhywun yma a
?yr ?
Beth wedoch chi, fi yw'r Meuryn, wel felly fyddai'n
hael,
Sdim ots am safon y cynnyrch, fydd y marcie 'run
mor wael.
Wel ie, fi yw'r Meuryn, 'dwy byth yn foi anheg,
Ac i'r boi a sgwennodd y gân 'ma, yn siwr mae'n haeddu deg.
Parch Hywel Mudd
8 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell) Unrhyw Anifail.
Sylwais fod twll llygoden
Yn sied y ffowls, a dôi'i phen
I'r golwg nawr ac eilwaith
Liw dydd, heb na ch'wilyddd chwaith.
D?yn ?y'n agored a wnâi,
A holais gath a'i daliai.
Teigar o gath, nid tegan,
Blêr o liw a'i blew ar lan.
Drannoeth roedd y lladrones
Yn gorff - ow'r boddhad a ges,
Nes gweld fod y ffowls i gyd
Yn nifer o gyrff hefyd!
Dic Jones
10 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell):
Unrhyw anifail
Draig Komodo
(Madfall enfawr o Indonesia a welwyd ar raglen
'Teithiau Tramor Iolo'
Naw troedfedd o ryfeddod
O'r pant trwy dyfiant yn dod.
Trwsgl ei cham mewn gwlad dramor
Camai hon fel rhyw froc môr
O oes aur deinasoriaid,
Mae hen reddf i'w thaith mae'n rhaid.
Gwae ei phrae! Hir ei pharhâd,
Rhydd ydyw ei cherddediad.
Dacw hwy'r ddau lygad cau
A gwenwyn lond ei genau,
Y fudan arallfydol
Fel yr oedd oesoedd yn ôl.
Wyn Owens
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwrando
Gofynnais i ddyn bach o Fryste
Oedd yno'n y caffi yn eiste'
'A basiwch chi'r siwgwr?
A basiwch chi'r siwgwr.?'
Yr oedd ganddo ddau bâr o gluste.
Owen James
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwrando
"Angen morwyn yng nghaffi y Berwyn"
Oedd y neges yn wreiddiol wrth Gerwyn,
Ond o glust i glust
Yr hyn gaed yn y Tyst -
"Angen Meuryn ar geffyl yn borcyn"
Terry Reynolds
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Os yw Megan am 'smygu
Eled i'r toiled o'r t?
Ateb llinell ar y pryd:
Os yw Megan am smygu
y tân a'i mas o'r t?
1 Pwynt
Englyn Cywaith: Gwybodusion
Hawdd iawn yw eistedd yno - a rhoi barn
Ar bawb wrth eu gwylio,
O'u tir uwch, y maent bob tro
Mewn stadiwm yn y stiwdio.
Dai Jones
8 Pwynt
Englyn Cywaith: Gwybodusion
Dod i wybod y cwbwl - yw anian
Rhai miniog eu meddwl,
Ond weithiau'r doeth yw'r rhai dwl
A'u gwell yw ambell benbwl.
Cathryn Gwynn
9 Pwynt
Telyneg: Llanw
[G?yr pawb pryd y bydd y llanw 'ar droi' neu 'newydd droi',
ond neb pryd y bydd 'yn troi']
Pan fo'r trai yn troi yn llanw
A'r llanw'n troi yn drai
Ys gwn ai tragwyddoldeb
Yw'r eiliad rhwng y ddau.
Y mae yn bod, waeth pa mor chwim,
Nid yw y Drefn yn arddel 'dim'.
A'r ennyd olaf honno
Mewn amser cyn ein bod,
Pa faint yw'r bwlch sydd rhyngddi
Â'r ennyd wedi ein dod?
Neu guriad olaf calon clwy
Â'r eiliad pan na fyddwn mwy?
Dic Jones
9 Pwynt
Telyneg: Llanw
Ar lan y d?r ym Mae Caerdydd
Ni ddaw y llanw eto'n ôl
I guro ar y dociau llwyd
 nerth yr eigion yn ei rym
I alw'n daer
"Rhaid mynd, rhaid mynd
I ben draw'r byd"
A chargo drud
O lo a dur
Yn nwfn yr hold
Ar doriad dydd
A'r llanw'n tynnu'n gry'.
Ar lan y d?r ym Mae Caerdydd
Daeth llanw arall yn ei dro
Gan gloi y môr tu ôl i'r mur
A dofi'r tonnau yn y bae
A dweud yn daer
"Fan hyn, fan hyn
Mae'n cyfoeth nawr"
O bren a dur
Yn llifo'n hardd
Yn arllwys fry
A'i nerth yn curo'n gry'.
Cathryn Gwynn
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Egin
Gan fod trachwant 'Monsanto' - am ei hawl
I ymwela arno
Fe wâd i'r hâd yn ei dro
Gyneddf yr ail-egino.
Dic Jones
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd: Egin
Er ei rhoi mewn bedd droeon - mae i'r iaith
Ym mro'i hetifeddion,
Eiriau sydd yn blaguro'n
Llawn nerth yn y winllan hon.
Eifion Daniels
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth ar baced sigarêts
Cofiwch mai mwg yw'r cyfan
A chwyn y llwch yn y llan.
A fygo, gwell i'w fegin
Yw cwtáu y nicotîn.
Pennill Mawl/Dychan : Y Gwasanaeth Iechyd
Am fod 'na ryw ysictod
Yn taro ambell dro
Gan bery herc a gwayw
I'w gyfansoddiad o,
Bu dadlau hir wrth erchwyn
Pa driniaeth fyddai'r drefn-
Ai gofal gwell a swcwr,
Neu'r gyllell yn ei gefn?
Cewch ddewis ysbyty,
Cewch ddewis eich physig;
Yn ôl Mr. Blair
Y claf sydd yn bwysig.
Rhaid bwyta'n iach i fyw yn hen
I weithio i'n saithdegau
Waeth pwy all fforddio mynd yn sâl
'R ôl cau yr holl ysbytai.
Englyn yn cynnwys enw Americanwr
Dlysed yw Condoleezza! - ond y mae'n
Gwneud y mess rhyfedda,
Cynnen yn Irac a wna
Eisioes, Iran fydd nesa.
Am ennyd o ben y mynydd, - y cip
Gafodd King oedd gwawrddydd
Y wynfa wen ysblennydd,
Heb un rhaith a phawb yn rhydd.
Dyn llawn trics ydoedd Nixon - a menyw
Ydoedd mynwent Clinton,
Bu Ronnie'n drewi droeon,
A shit yw Bush at y bôn
Limrig yn ymwneud â gwrando
Aeth Siarli i rali Cwm Gwendraeth
Lle trefnwyd sefydlu gweriniaeth,
Er yn glustiau i gyd,
Chlywodd Siarli ddim byd
Wedi torri 'i ben e', ysywaeth.
Mewn talwrn yn festri Llandeilo
Ces gam gan Gerallt, rwy'n teimlo.
Saith marc am fy englyn
A llai'r pennill telyn.
Diolch byth, nid oedd llawer yn gwrando
Englyn Cywaith: Gwybodusion
C?n hela llawr y trallod - ar annel
Trueiniaid y difrod,
Os oes i'r byw unrhyw iod
O obaith, maen nhw'n gwybod.
Telyneg: Llanw
Mae rhestrau'r llyfryn tablau
Yn dangos yno'n glir
Holl dymp ei ymweliadau
Ar draethau yn y sir;
Rheolau tyn sy'n ffrwyno'i reddf,
A'i fynd-a-dod sy'n gaeth i ddeddf.
Ni ddywed Gair y Bywyd,
Drwy'r holl benodau maith,
Na'r man, na'r awr cyrhaedda'r
Penllanw ar ei daith;
Ond daw'r Dylanwad fel y myn,
I olchi eto'r bröydd hyn.
Pan oedd gan bawb ei erw gynt
I liwio bro o glytwaith,
A choed a drain hen berci bach
Yn llunio un gymdogaeth,
Roedd llyfryn bach i gadw cownt
Yn iawn at eu gwasanaeth.
Diflannodd ffiniau'r perci bach,
Daeth erwau maith o wyrddni,
Aeth hen wynebau'r fro ar goll
Heb fawr o neb yn sylwi,
'Run pryd ac aeth hen ffordd o fyw
O'r golwg dan ffurflenni.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth ar baced sigarets
Dyma gyffur di-guro
Na'th adael o'i afael o.
Pennill Mawl/Dychan:
Y Gwasanaeth Iechyd
Y mae'r Gwasanaeth Iechyd
Yn myned ar ei wa'th,
Mae'n haws i gael milfeddyg
I weld eich ci a'ch cath.
Rwy'n ffonio cyn deg y bore
I ddweud fyddai'n sâl am dri,
A falle, ynhen wythnos
Daw meddyg i'm gweld i.
Os mai ym mis Chwefror bydd salwch yn taro
Bydd y Trust siwr o fod wedi hen or-wario,
Ond os ei di'n sâl yng nghanol mis Mai,
Bydd rhaid aros tan Chwefror, fydd y ciw ddim yn
llai.
Englyn yn cynnwys enw Americanwr
Mae i'r gwyn, mawr ei gwyno - amryw waedd
Am ryddid a llwyddo.
Ond tawn! Mae i'r wlad honno
Ran ym myth Geronimo
Limrig yn ymwneud â gwrando
Roedd menyw o ardal Llandeilo
Yn enwog o beidio a gwrando,
Siaradai ffwl spid
Wrth bawb yn y byd,
Mae'i thafod hi nawr wedi troelio
Roedd smocio yn wrthun i Siani
Wrth iddi baratoi i gusanu
A John o Cwm sgwt,
Ond druan o'r crwt
Yng nghanol lawswcho'n pesychu.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

