Aberhafren v Y Garfan

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Iraq'

Yn Irac, terfysgwyr yw'r
ddau estron greodd ddistryw

Owain Rhys
8 ½ Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Irac'

Yn Irac mae'r wawr o hyd
yn edliw dyddiau gwaedlyd.

Aled Evans
8 ½ Pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Actorion

Os maint eu llwyfan yw'r holl fyd
a'u bywyd yn llawn drama,
pam dewis byw ar yr un stryd
ger caffis drud Pontcanna?

Mari George
9 ½ Pwynt

Pennill Mawl/Dychan:

Actorion

Y brentisiaeth yw 'Bod yn Goeden'
Sefyll yn stond, yn gadarn, yn sownd
Gan flaguro fry i'r ffurfafen
I ennill miloedd ar Rownd a Rownd

Lowri Lloyd
9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys: "Fe af innau i fan'no."

[Clywed plentyn yn dysgu siarad]

Yn ei A B C mae eco o fyd
â dyfodol iddo,
ac weithiau, trwy'i eiriau o,
fe af finnau i fan'no.

Owain Rhys
9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys "Fe af innau i fan'no"

Er i rai fynd i Rio, ac eraill
i Gaer neu Sao Paulo,
i Emlyn cychwyn y co,
fe af innau i fan'no.

W. Dyfrig Davies
8 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell)

"Y Penderfyniad"

Fe'm ganed i deulu llawn Pleidwyr o fri -
â Gwynfor a Saunders yn arwyr i ni,
a thyfais yn fachgen gan gredu mai'r nod
oedd senedd a sianel a pheidio â bod
yn daeog israddol, yn eilradd i'r Sais.
Ond ymhen amser, fe glywais ryw lais
yng nghefn fy meddwl yn cwyno'n anfodlon
mai plaid eithaf diflas a pharchus oedd hon.
Ac yna, pan oeddwn flynyddoedd yn h?n,
agorais y papur a gwelais lun
o'r Gweinidog Amddiffyn yn nhraed ei sanna'
yn gwneud petha' od efo dau fanana.
Penderfynais yn syth "Rhaid newid fy mhlaid",
a fflyrtiais am gyfnod ag ASau'r Torïaid.
Fe barodd 'raffêr am flwyddyn neu ddwy
cyn sylweddoli mod i angen mwy,
ac i ffwrdd â mi i 'muno'r Blaid Lafur
cyn deall fod sgandals y rheiny'n reit fudur.
Ond haleliwia, fel bwsys, daeth tri
sgandal Rhyddfrydol - dyma'r parti i mi.

Owain Rhys
8 ½ Pwynt

Cân(Heb fod dros 20 llinell):

Y Penderfyniad

Pwy roddodd dân i'm cannwyll fechan wêr
a'm dal yn dyner ym moreau f'oes;
fy ngadael weithiau i wreichioni'r sêr
a'm cadw 'nghynn mewn ambell awel groes?
Pwy roddodd gariad imi ar fy rhawd
ac angerdd llosg at gerdd ac iaith a gwlad,
a rhoi rhyw unigrywiaeth yn fy nghnawd
er serio arnaf stamp fy mam a 'nhad?
Pwy roddodd groesffyrdd imi ar fy nhaith
a meithrin ynof annibyniaeth cry,
gan adael imi gredu lawer gwaith
'mod i'n goleuo'r lôn ddewisais i?
A phan ddaw'r awr i ddiffodd fflam fy myd
ysgwn i pwy a benderfyna pryd?

Mari Lisa
9 ½ Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Dyled (i dref Caernarfon)

Mae'r gaea'n llawn o annwyd
uwch pylni'r lli, a'r dre'n llwyd.
Mae oerni di-egni'r dydd
a'i wylanod aflonydd
yn estyn am y castell,
a'u byd yn diflannu'n bell.

Ond er hyn, mae twrw'r stryd
yn fyw, yn llawn o fywyd:
A thwrw'r iaith, ir a hen
yn alwad ar yr heulwen,
galw haul drwy'r glaw o hyd
a haf arall i'r foryd.

Rhys Iorwerth
10 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Dyled

Rhoi'i hun oedd ei natur hi
yr oedd fel cyffur iddi.
Rhoi i'r rhai bach, rhoi o'i bodd,
rhoi o hyd, rhoi nes rhedodd
hwch drwy'r siop a daeth popeth
i ben. O dipyn i beth
bu i bawb anghofio'i bod
a neb am ei hadnabod.

Pan ddaeth yr her arferol
nid oedd 'run poerad o'i hôl,
ond llecyn iddi'i hunan
a llathen o lechen lân.

Mari Lisa
10 Pwynt

Limrig yn ymwneud â phaentio

Er brolio bod cystal â Monet,
Van Goch a Ginsbyrg wnaeth Janet,
pan welais ei chanfas
meddyliais o'r llanas'
fod rhywbeth 'di upsetio ei phalet!

Llion Roberts
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â pheintio

Cyn i Idwal beintio ei iot
Darllenodd y print ar y pot
Aeth i wisgo ei fác
A'i hen anorác
Gan iddo gredu bod angen dwy gòt.

Aled Evans
9 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Fe odlaf yn anfodlon
O am well llinell na hon

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

O am well llinell nah on
I alw merch fy nghalon

Englyn Cywaith: Yr Anthem Genedlaethol"

Y mae dyrnod ei nodau - ac mae ias
Eirias ei chyweiriau
O air i air yn parhau'n
Hanes nes deffrwn ninnau.

Llion Roberts
9 ½ Pwynt

Englyn Cywaith:

Yr Anthem (Hen Wlad fy Nhadau)

Yn ei hyder dawnsia'r deri, hwyl hon
a wna wlad o gewri;
yn hon mae'n dyhead ni,
a hon yw'r fory inni.

Mari Lisa
9 ½ Pwynt

Telyneg "Cyffro"

Nos Sadwrn, Chwefror y 4ydd, 2006.

Beth na roddem i gael neithiwr nôl
Pan oedd
Berw ein calon lân
Yn dal yn dân yn ein cegau,
A'n buddugoliaeth
Ar ddeigryn o gwrw.

Un gêm oedd yn bwysig
I'w chario
Dan ein ceseiliau.
Un gic aur,
I dalu pwyth
Blynyddoedd,
Yn ôl,
Dicter pob colled
Yn bêl
Ar flaen pob esgid
A hwnnw'n tasgu.

Strydoedd Caerdydd yn goch
A'r adar yn canu i ni.......

Beth na roddem nawr
I atal y wawr di-gân
Fu'n llwyd ei darogan,
A boddi'n wynebau toredig
Ein hunain
Yn ngwaddol ein peintiau
Tra bod chwys balch y droed arall
Yn llifo o'r gwydrau champagne?

Fe roddem bopeth,
Bobol bach,
I droi cefn ar y machlud,
Gwledda ar ein gobaith
di-amser

a'r atgof....

na fuom
wastad
dan draed y Saeson.

Mari George
9 ½ Pwynt

Telyneg: Cyffro

Dirgrynaist 'leni eto
gan chwalu'r coflaid pridd,
 nerth dy wayw pigfain
holltaist groen y ffridd.

Ac er mor frau dy ddeilen
a diniwed
dy ben bach crwm,
mae grym parhad yfory
yng nghryndod
dy ddeffro llwm.

W. Dyfrig Davies
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Dirgelwch

Côr y Cewri

Mae hanes h?n na'r meini yn y gwynt,
Ond aeth gwir y stori
Un nos olau 'mhreseli,
I'r niwl cyn ei rhannu hi.

Rhys Iorwerth
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83

Englyn ar y pryd: Dirgelwch

O roi fy enaid i rywun, a mynd
I'r man lle ces gychwyn,
Tybed a ddôf i wedyn
Yn fy ôl yn fi fy hun?

Mari Lisa
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Cynigion Ychwanegol:

Englyn Cwyaith: Yr Anthem Genedlaethol

(I fy nhad-cu, na allai siarad Cymraeg)

Y g?r na wyddai'r geiriau: fe waedai
Yn fud, hyd at ddagrau,
Ond 'roedd hen wlad fy nhadau
Yn ei wên, mewn gwên o wae.

Cynigion Ychwanegol:

Pennill Mawl/Dychan: Actorion

Eu byd yn llwyfan o gyffro
A'u hego yn golur i gyd,
Digon o lyfis i ganmol
Eu gwên a'u dagrau o hyd,
Ac er bod siec eu doniau
Yn brin gan 'hen-sianel-eu-nain',
Mae posib bob amser ynganu
Ar lwyfannau yr hen iaith fain.

Limrig yn ymwneud â pheintio

Roedd Wil yn peintio'r dalmatian
Yn gwyngalchu'i smotiau mân
R'ôl dwy got o baent
Fe waeddodd 'Hawlfraint!'
Mae'r haint wedi clirio'n lân.

Englyn Cywaith: Yr Anthem Genedlaethol

[Tich Gwilym yn canu'r anthem ar gitâr drydan]

Yn s?n gitâr mae Jarman yn ei alw
e eilwaith i'r llwyfan.
a daw Tich o lid y tân
a'i idiom eto'n drydan.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.