Y Dwrlyn v Sgwod

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Y Dwrlyn

Y Dwrlyn

Sgwod

Sgwod

Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw liw.

Croeso cu i'r Crysau Coch
Dinod y pump o danoch.

Emyr Phillips
8 Pwynt

Yn nos dduaf dy drafael,
cofia hyn - mae gwyn i'w gael.

Dafydd Williams
8 ½ Pwynt

Pennill ymson ar gefn camel

Rwy yma'n anghyfforddus
Mewn dyffryn rhwng dau fryn,
Yn meddwl be ddaeth drostai
I ddod i le fel hyn.
Mae'r asgwrn cefn yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chi,
Ac os n'ai o 'ma'n fuan iawn
Soprano fydda i!

Dafydd Huws
8 ½ Pwynt

Pennill ymson ar gefn camel

Rwyf lan 'ma, awww!, o'r diwedd,
yn siglo, aaah! nawr am sbel,
rwy'n gwybod, awww! shwd gafodd ei enw -
mae pob CAM, aaah!, yn blydi 'EL.

Geraint Roberts
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y pedair cynghanedd

"Yng nghynefin trybini nos y dre
A'r stryd mor ddi-gwmni,
Mae lloches dy anwes di'n
Gwm Pennant o gwmpeini".

Ynyr Williams
9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys y pedair cynghanedd

Ym mynwent ryfel Artillery Wood, gwlad Belg

Wylwn yn dawel wrth weled - rhesi
o groesau, ond tybed
pwy heddiw wrth Dduw a ddwed
mai er gwell y mae'r golled?

Dafydd Williams
9 ½ Pwynt

Cân heb fod dros 20 llinell: Y Tro Olaf

Ni welwn fwg cyn cyrraedd pen y lôn
A gwyddwn farw tân y simdde fawr.
Er gwres yr haul, rhyw oerfel ddaeth i sôn
Mai dod i drefnu'r diwedd roeddwn nawr
Mor anodd yw rhoi oes i mewn i sach
Fy nheulu yno'n sbwriel ger y wal.
Hanesion ddoe, a lluniau o fy ach
Fel gwe pryf copyn yno'n methu'n nal.
Pa werth yw gollwng deigryn am a fu,
Dal gafael yn y gwreiddiau greodd fod?
Gwell agor cwys o'r newydd. Troi o du
Effaith teimladau, sydd yn mynnu dod.
Tynnais y drws i'w gau a throi y clo
Gan 'nelu nghamre draw i arall fro.

Emyr Phillips
9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Tro Ola'

Roedd hwyad 'da fi gartre yn cysgu yn y t?,
pan oedd y wraig ar gered, roedd hi'n gwmni
mawr i mi,
Slac Alys oedd ei henw, ei henwi o ran sbort,
ond ro'n ni'r perthnasau agos 'n ei galw'n Slac -
for short.

Eistedda ar fy arffed bob nos ar y setî
yn gwylio holl raglenni ar Sky a'r Bî Bî Sî;
Un nos, dangoswyd rhaglen am Ffifftin Eiti Eit
ond o weled yr Armada, aeth Slac yn wyllt yn
streit.

Fe sylweddolais innau mai dyna oedd mistêc.
Pan welodd hi y llongau a gweld Syr Francis
Drake
yr hwyad aeth yn gandryll, ei hwyneb aeth yn
wyn,
a finne'n treio 'ngorau i ddala Slac yn dynn.

Ond rhydd yr aeth gan ddeifio tu ôl i'r set yn grac
fel peilot kami kazi a gweiddi: "Cwac, cwac,
cwac",
fe racsodd y coaxial a'r weiers yn y set
nes bod y sbarcs yn tasgu fel misail ecsoset.

Fe ffrwydrodd y teledu, gan chwythu Slac yn stiff,
rwyf finnau byth oddiar 'ny yn cerdded ar sgiw-
whiff;
ond cleddais hi yn barchus, mi brynais blot a
phlac
i gofio y tro ola' i mi gael cwmni Slac.

Roy Davies
9 Pwynt

Cywydd heb fod dros 12 llinell: Stryd

Daw car, a noson arall
I stryd ei bywyd di-ball;
Golau coch, a gwely cudd
Heb enwau ar obennydd,
A rhoi ei hun wna, o raid,
Yn oriau i'w chwsmeriaid.

Mae syrffed bore wedyn
Yn ei dal, ond wedi hyn
Daw y nos, a mynd yn ôl
A wna hi at fin heol,
A char a noson arall
Ar stryd ei bywyd di-ball.

Aron Pritchard
10 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Stryd

Ar ôl gweld stryd dan eira ac olion traed hyd-ddi,a dychmygu mai olion cyn-drigolion oedden nhw.

Un bore oer, bu'r eira'n
pluo lôn cymdogion da
hyd y rhes lle mae'r drysau,
un ac un, bellach ar gau.

Mae doeau y gwadnau gwyn
yn hewlydd braf eu dilyn
ac ar bafin cyfrinach
heibio byd o lwybrau bach,
rhwng t? a chartref hefyd
hen oes o draul ydyw'r stryd.

Mor wyn oedd, ond dadmer wnaeth
a diogi'r gymdogaeth.

Karen Owen
9 ½ Pwynt

Limrig: 'Mewn tafarn yn nhref Aberdâr'

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
gwelais hipo yn bwyta cyw iar,
a dau hen orila
yn yfed tecila,
a mwnci yn smocio sigâr!

Ifan Pleming
9 Pwynt

Limrig: Mewn tafarn yn nhref Aberdâr

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
fe gafwyd priodas dwy whâr,
y barman yn ficer
a'r dyn yn y seler
oedd yno'n gwneud gwaith registrar.

Roy Davies
9 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Ar y daith i Aberdâr
Amau a wnes fy nghymar

Ateb Llinell ar y pryd:

Oedais i wylio adar
Ar y daith i Aberdâr

Karen Owen
1 Pwynt

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

Y Brawd Mawr (1984 - George Orwell)

Unwaith dim ond ein lluniau, - o luniau
dilynodd ein llwybrau,
yna fe fydd ei helfau
am ddilyn ein meddyliau!

Dafydd Huws
9 ½ Pwynt

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

Y llygad pell o agos - wyt o hyd
yn y t? mor ddiddos,
yn ein dilyn ni'n y nos
a'th ymyrraeth am aros.

Harri Williams
8 ½ Pwynt

Telyneg: Inc

Hen wreigan a baban bach
Law yn llaw fel gwnïad llyfr;
Bysedd brau, treuliedig
Yn anwylo pennod newydd
O hen, hen stori.
A hanes fy ngwehelyth
Yn sgriblad y gwythiennau
Sy'n staeniau glas
Ar femrwn ei dwylo.

Llaw fach wen
Yn ddalen lân
A'i hanes newydd ynghudd
Dan glawr y bysedd bychain,
Stori nas sgwennwyd eto
Ar wynder di-fefl y croen.

Menna Thomas
9 ½ Pwynt

Telyneg: Inc

Inc

"Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw . . ?"
Ar ôl gweld Marwnad i Lywelyn ein Llyw Olaf yn
Llyfr Coch Hergest sydd yn cael ei gadw dan glo
yn Llyfrgell Bodlean, Prifysgol Rhydychen

Un ddalen ein ddoe heno
a'i hinc oer sy'n tarfu'r co';
mae ein llais yma'n ei llên
a thir ymhob llythyren,
y geiriau o wladgarwch
draw'n y wlad dan estron lwch.

Un aberth fu mor werthfawr
yw lli'r clwyf rhwng lliwiau'r clawr,
a staen yr holl gwestiynau
ar yr haen o femrwn brau.
Y print du sydd yn dduach
yn alltud y funud fach
a'r odlau fel darnau dur
yn ddalen yr hen ddolur.

Geraint Roberts
10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Soser

Yn ei hoes ni hidiodd fy nain - osod
Y soser fach firain
Yn ei llaw, uwch y lliain,
I'w gwefus, ofalus, fain.

Ifan Roberts
9 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Soser

Joddrell Bank

Dib en draw fu'i wrandawiad ar ddyrys
Gerddoriaeth y cread
Onid hyn, heb wrando'r Tad,
Yw offered ei fwriad?

Dafydd Williams
9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 83

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw liw.

Er yn llesg, a'i erwau'n llwm,
Daw'r eurlais drwy yr hirlwm.

Dan aur fron daw'r dynion da
I dalu'r deyrnged ola'.

Coch y gwaed yw coch y gwin
I waraidd gred y werin.

Ein draig yw ein craig a'n crud,
Lliw'n galar, lliw ein golud.

[yr isodi gyd yn seiledig ar siart lliwiau cwmni paent enwog Dulux!]

Cer i nôl tun Magnolia
'Dyw Calico'n ddim digon da

I laesod parlwr godro
Leciwn i streips "Milk 'n straw"

Sionyn a wnaeth gamsynied
Rhwng "Deep Brick" a "Rustic Red"

Ergyd! Dos 'nôl i Argos
Ty'd a mwy o "Dusted Moss"

Bedwyr beintiodd y beudy
A hanner iard yn "ei-for-î".

Pennill ymson ar gefn camel

Gan iddi fod yn fore Llun
A tithau'n creu ar ben dy hun.
Ac yna'n clywed cloch y ffôn
A'r Diawl yn galw o Sir Fôn.
Does ryfedd i ti golli'r plot
A'r clai yn c'ledu yn y pot.
Paham. er hynny, cyn y pnawn
Na chefaist rywfaint bach o ddawn?
'Rwyf drwy fy oes yn falch o fod
Wedi cael hwyl yn creu y rhod.
Ond os oedd lympiau o glai ar ôl
Paham o gofio siap pen ôl
Pob dyn a menyw, na wnest â lefel
Sythu'r lympiau ar gefn camel?
Beth am y wyrth o ladd thrombosis
Neu roi i'm llygaid weld oasis?

Fy nghamel, dos ymlaen
'dyw'r twyni sydd gerllaw
ond gronyn bach ar ronyn bach
fel rheini gwrddaist draw;
fy anghyfrwyog daith
a'm poenau maith eu rhi
sy'n peri im feddwl fod fy lwmps
yn fwy na'th lympiau di.

Mae o'n hynod o anghyfforddus,
Mae anadl o'n drewi'n go ddrwg;
Mae'n anodd disgrifio'i wynepryd;
Ai gwên sydd i'w weld ynteu gwg?
Mae'i gerddediad yn araf fel malwen,
Ei beswch a'i boen yn ddi-baid
Nid y crai ond pen arall y nodwydd
Aiff a'r llong yma'n gynt i bort Said.

Englyn yn cynnwys y pedair cynghanedd

Dy frecwast, paid â'i hastio, - rho amser
I bleser gael blysio
Elwa tra'n araf dreulio
Llawn o faeth, a llon efô.

Clwc ydwy' heb gleciadur - a diglem
'dwy' glei, heb eiriadur,
disyniad heb odliadur,
yn lloerig, mewn panig pur!

Cân heb fod dros 20 llinell: Y Tro Olaf

Pnawn Sadwrn a gêm fel arfer ar gae y Vale ydoedd hon
A hogia Dyffryn Nantlle mewn dillad newydd sbon,
Yn erbyn dinas Bangor pob un yn sgowsars da
Yn siarad a brygowthan heb ddeall bw na ba.
Y reff oedd boi o Amlwch - mae fanno yn Sir Fôn
Yn smart mewn dillad duon a bifocal nol y sôn,
Dechreuwyd chwarae'n brydlon saith munud wedi tri
Ar ôl cael hyd i'r ffwtbol a chael gwared ar y ci.
Roedd pethau, i ddechra', yn gwrtais am bum munud
cynta'r gêm
Mae'n cymryd sbel fel arfer i'r hogia godi stêm,
Ond yna'r digwilydd-dra! Lefft wingar chwim ei gam
Yn pasio ffwl bac Nantlle a sgorio gôl ddi-nam;
A dyna drio wedyn yr union 'run tic tacs
Ond yn lle maeddu'r cefnwr fe'i hyrddiwyd lawr i'r llacs!
A dyna ddyn Sbecsavers yn chwythu'i bib yn chwim
A Nantlle i gyd yn gweiddi, "No we, reff 'na'th o ddim!"
Ond cerdyn melyn dynnwyd o boced brest y ref
Ni ddalltwyd dim byd wedyn heb law ryw ambell "ff",
A dannod i'r chwibanwr ei ddiffyg tras yn groch,
Ac mewn dim o dro y cerdyn a drodd ei liw yn goch.

Cywydd heb fod dros 12 llinell: Stryd

Yr un ei ddoe er yn ddall
Â'i erw; nid oedd arall.
Gyda'i ffon fe godai'i ffydd.
Trawiad, cyn cael y trywydd.
Yna, 'r hyd y stryd heb straen.
Oedi, cyn buan adwaen,
Ei le, cyn teimlo â'i law
Gynllun, oedd iddo'n ganllaw.

Yma y bu yn tramwy.
A myn, hen ei olwg mwy,
Arferion, er rhodio'n rhwydd.
Amgen yw rhag faen tramgwydd.

Ers tro ni fu nol i'r stryd
A wybu trwy ei febyd;
Ond ar awr ddu, ac roedd hon
Yn hafan o atgofion.

Yna'i hun dychwelyd wnaeth
Mewn newyn am gwmnïaeth;
Byddai rhai o'i hen griw o
'nei gyfarch, yn ei gofio.....

Ni sylwodd, ni welodd un
Ei unigrwydd, na'r deigryn.
I'w nos trodd. Aeth, gyda'r stryd,
Ei hafan o'i gof hefyd.

Limrig: 'Mewn tafarn yn nhref Aberdâr'

Mewn tafarn yn nhre Aberdâr
Holais ferch gawn i gip ar ei phar.
Atebodd dan deimlad
"Wrth gwrs gei di cariad -
Rwyn cadw nhw adre'n y drar!"

Gofynnais, tra'n feddw, i'm câr,
Oedd yn gweithio yn awr yn siop Spar
A oedd siawns cael un gusan
Atebodd un hogan
"Mewn tafarn yn nhref Aberdâr"!

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
Tra'n prynu y ceiliog a'r iar
Bu Dafi a minne
Yn meddwi'n cyfloge
A dod adre heb geiniog yn sbâr.

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
Yr un sydd ar gongl y sgwâr
Ges i beint reit gymylog
Gan farmed fawr flewog
Reit debyg i Lisabeth "R".

Mewn tafarn yn nhre Aberdâr
Roedd barmêd ac andros o bâr
O sbectols go fawr
Ond syrthiasant ar lawr
Trwy lwc, ganddi bâr arall yn sbâr.

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

Y Brawd Mawr - Sianel 4

Plygu glin i Davina - a'i llo aur;
Lluo llaw Miss Lenska,
Wna'r aelod dros wlad "Rula" -
Nid yw hyn yn syniad da!

Lle diofal, difalio, digwilydd
Digalon, dihidio.
Difeddwl, a da fyddo
Gweled cefn ei anhrefn o.

Ar orwel y dirgelion - hen angen
O lygad ddi-galon
Wel o hyd, drwy hollfyd hon,
Weundiroedd ein pryderon.

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw liw

Mae ei wên a'i gymwynas
yn rhoi 'i liw i'r awyr las.

A welaist waed Llywelyn
yn y sgôr a'r crysau gwyn?

(hysbyseb)

Oren yw'r un sy'n siarad
a rhoi iaith i'r byd yn rhad.

Haul oes a drodd, fesul un,
liwiau'n 'falau yn felyn.

Rhyddid yw dioddef hefyd
eu Royal Blue nhw o hyd.

(gêm o snwcer)

O eiliad gynta'r chwalu,
ni ddaw i ddim heb y ddu.

Yn wawr goch ben bore, gwêl
rwygo'r gwir ar y gorwel.

Holaf, ond mae o'n rhywle
na ?yr neb ond y frân wen.

Yn y sêls mi brynais i,
yn ofer, g-string nêfi.

Pe meddwn dent magenta,
yn hon gwersyllwn bob ha'.

Pennill ymson ar gefn camel

Os mai dyma'r creadur hyllaf
a'r mwyaf aflêr,
pam, wir, mae rhai pobol
am gael côt camel hair?

Mi wn dy fod-ti'n hen gythraul hyll
a choblyn o lwmp ar dy gefn,
ond fe'm cariaist yn saff i Dares Salam
ac yn ôl i dde Cymru drachefn;
heb eisiau ond d?r i'th gadw i fynd,
rwyt ti'n rhatach na 4x4, fy ffrind.

(un o'r doethion)

Rwyf fi ar daith ers cynnau'r sêr,
yn chwilio am Fab y byd,
a theithiaf heno nes y ca' i
grymanu uwch ei grud.
I'r geni, dygaf fi, bob tro,
y myrr at ddydd ei gladdu o.

A'r lwmp o'r tu ôl, gallaf weld y Sahara,
yr hen afon Nîl a phyramids Giza;
Os ymlaen fydd y lwmp, gofala rhag llithro
a cholli dy afael dros ochor ei din o.
Ar y brig, meddai Abdwl, mae'r sêt sydd yn
fargen,
gan mai dim ond o fan'no cei weld Twtancamen.

Fe wyddwn erioed
beth yw 'shetin' neu 'gwrych',
ond nawr rwyf yn deall
ystyr 'llong ar dir sych'.

Englyn yn cynnwys y pedair cynghanedd

Wedi'r ?yl

Ni welodd un o'r rhoddion - yn y dref
wedi'r ?yl, na'r doethion,
am hen seren nid oedd sôn,
na'r geni mewn bargeinion.

Y cigfrain

(ar waliau'r hafn lle treisiwyd llwyth o Indiaid brodol America)

Eco trais sy'n eu lleisio - o'r muriau
mawrion ac yng nghyffro
mwyn y gwynt sy'n dwyn i go'
nodau rhyw dwys ochneidio.

Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Tro Ola'

Rhyw ddyddiau dedwydd oedd y rheiny gynt
pan yrrwn bob trisiad yn hapus ei hynt
yn ôl draw i'r weirglodd yn wên i gyd
a minnau'n cyflawni cymwynas i'w byd,
Doi Gwenno a Phenwen a Seren a Flo
a llawer un arall i ymweld yn eu tro;
Os cofiaf yn iawn, hi, Dot, oedd yr ola',
edrychai'n reit hapus wrth adael y lle 'ma,
fe gawsom beth ffrolics yng nghanol y glaw
gan ddisgyn yn esmwyth i wely o faw.

Ond am reswm dirgel, ni wn i ddim be',
ddywedodd neb ddim, ond aeth rhywbeth o'i le
a chlywais yn fuan fod newydd dechnoleg
wedi 'ngwneud i'n ridyndant ym mywyd y
gwartheg.
Ond pa bleser, mewn difri, sydd o gael rhyw hen
ddynes
yn ceisio bodloni anghenion y fuches,
gan ddod yn ei fan a'i welingtons gwynion
a minnau mor segur efo dim ond atgofion.
Ond, draw yn Llanelwedd yn ledio'r parêd
o hyd mae gogoniant tarw du, redi mêd.

Limrig: Mewn tafarn yn nhref Aberdâr

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
fe werthir pob peint fesul pâr,
ond weithiau cewch fargen
ar waelod y gasgen
os bydd rhyw ddiferyn yn sbâr.

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
gwnaed cyri o'r bwyd oedd yn sbâr,
ond troi wnaeth pob stumog
ac 'off' â'r perchennog
i gadw siop chips yn Peshwar.

Archebais i chips a chyw iâr
mewn tafarn yn nhref Aberdâr,
ond rwy'n si?r bod y ffowlyn
wedi llyncu pysgodyn -
roedd e'n blasu'n wir fel cafiâr.

Mewn tafarn yn nhref Aberdâr
mae sglodion a phys a choes iâr
yn bunt ugain ceiniog
ond efo coes ceiliog
cei ?y wedi'i biclo mewn jar.

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

Ei gyfaill ydyw'n gyfan - a llawen
wrth roi llaw i'r bychan;
a ddaw'r un mawr yn y man
a'i ofalu yn fwlian?

Ei wylio fu'n diogelu - o'r welydd,
yn rhywle'n gofalu;
yn ei weld, daw'r brawd yn hy'
a chreu chwaer i'w charcharu.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.