Tegeingl v Penrhos
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Tegeingl

Penrhos

CWPLED CAETH I HYSBYSEBU'R TALWRN:
Meuryn, a dau dîm arall
Y rhai coeth, a'r hanner call.
Dafydd E Morris
8 ½ Pwynt
CWPLED CAETH I HYSBYSEBU'R TALWRN
Uwch undonedd tonfeddi
Clywch afiaith ein heniaith ni.
Llion Jones
8 ½ Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYPNOTEIDDIO
Edrych ar y wats 'ma - o Feuryn
A syrthia i lesmair go sydyn,
Anghofia y tasga
'na fficsio y marcia
Ond prancia o'n blaena'n noethlymun!
Marc Jones
8 ½ Pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYPNOTEIDDIO
Gall pregeth yn hawdd hypnoteiddio,
 phawb yn yr oedfa yn gwrando
Ar adnod y testun,
Mae rhai'n cysgu wedyn
Nes i'r 'Amen' neu'r emyn eu deffro!
Lynn Davies
8 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'ANODD' DDWYWAITH
Mor anodd yw Meurynna - mor anodd
Yw i'm rannu'r marcia
Ai tim Bangor yw'r gora'
Na wir dduw, mae'r lleill mor dda.
Moi Parry
9 Pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'ANODD' DDWYWAITH
... gan y g?r ystyriol
Anodd yw gwaith cymoni, ac anodd
yw coginio grefi
a smwddio dro drôns neu dri...
anodd iawn yw barddoni.
Llion Jones
9 Pwynt
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y GYFRINACH
Daw'r Meuryn hoff o Benllyn, un o gyff y teulu
Lloyd,
A minnau o Ben Ll?n lle bu gwreiddiau 'nheulu
'rioed.
Dwy ardal bell o'i gilydd fel g?yr pawb sy'n
berchen map,
Dwy linach na f'ai'n croesi ond ar ddamwain
neu ar hap.
Ond aeth un o fy nghyndeidiau i ymladd dros ei
wlad,
Yn filwr gydag Owain yn erbyn trais a brâd.
Ac wedi'r ymladd gwaedlyd lle lladdwyd llawer
dyn
Bu'r milwr hwnnw'n hwyrol cyn cyrraedd 'n ôl i
L?n.
Mae'n debyg iddo aros yn y Sarnau efo merch,
Rhyw gochan fechan fyrbwyll oedd yn llawn o
swyn a serch.
Ond wedi llai na nawmis mi flinodd arni hi
A throi yn ôl i Benrhyn Ll?n a wnaeth fy
hendaid i.
Ac felly Gymry annwyl, mae'r Meuryn annwyl
bach
A finnau, gawr ag ydwyf, yn disgyn o'r un âch.
Mi welaf anghredineb ar lawer wyneb syn
A llu sydd adre'n gwrando yn methu derbyn
hyn.
Ond mae 'na brawf gyfeillion ar ôl chwe chanrif
hir:
Mae peth ohono i'w weld ar fy wyneb yn reit
glir.
Onid ydyw lliw fy locsyn 'run coch â'r teulu
Lloyd?
Ac mae'r blewyn coch y Meuryn wedi cyrraedd
chwe chant oed.
A beth am ddoniau Gerallt, er nad yw ei wedd
mor hardd,
Cafodd dalent fawr y Parris - mae o'n dipyn
bach o fardd!
Moi Parri
10 Pwynt
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):
Y GYFRINACH
Dwi'n edrych yn y drych bob dydd a chanfod
blewyn gwyn,
Nid un, ond gwelaf fil neu fwy o'r diawlad erbyn
hyn,
A mwy na hynny, sbotyn pinc sy'n tyfu'n fwy bob
awr,
Nid briliantîn fydd eisiau, ond polish - tun go
fawr!
A dyna brawf go bendant fy mod i'n mynd yn
h?n,
Os oedd 'na ffyrdd i rwystro hyn mi triais nhw
bob un.
Roedd un yn cynnig d?r i'w yfed - galwyn ar y
tro,
Meddyliwch am y llanast - O mi roeddwn i
o'ngho
Yn chwilio am y lle cyfleus i redeg ar fy hynt
A fedra i ddim rhedeg - achos does gen i ddim
gwynt!
Un arall oedd mynd gyda'r wraig i'r gwely cyn
niws naw,
Neu gyda'r wraig drws nesa' - neu unrhyw ferch
wrth law!
Y broblem fawr i mi fy hun oedd gwybod beth i'w
ddeud
A minnau yn y gwely ddim yn gwybod beth i'w
neud!
Dwi wedi colli nannedd, sbectol gre a pheiriant
clyw,
Heb rhain yn wir rwy'n gofyn ydi bywyd werth
i'w fyw-
Pan welais hen ?r rhadlon, roedd bron yn wyth
deg naw,
Yn canu'n dawel yn ei ardd wrth balu efo'i raw;
A dyna y gyfrinach fawr a ddysgais gan ?r clên
Y ffordd i guro henaint yw peidio mynd yn hen.
Morien Phillips
9 ½ Pwynt
CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYDYMDEIMLAD
KASHMIR
Unwaith, cyn bod trychineb,
Ni oedd ni, heb angen neb.
Byd arall oedd byd trallod
ie, cyn i ddychryn ddod.
A wedyn daeth i adwy'r
Eira mawr a'r oeri mwy
Rhain â'n rhodd, yn awr ein rhaid,
I rannu â thrueiniaid.
A rhoent barch wedi'n harcholl
O roi blawd i'r bobl oll;
Rhoent hyder ymarferol
A rhoi nerth i'n bro yn ôl
Dafydd Morris
9 Pwynt
CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYDYMDEIMLAD
Llinell o bell, a honno
'n ddi-ddweud, fel ei gystudd o:
Llinell yn ceisio llenwi
'r twll lle bu'i chymeriad hi
Yn llinell go iawn llynedd,
A'i byw hi'n gorchfygu'r bedd:
Yn graith fe ddaeth dros ei gwrid
Ifanc linellau gofid
A chwerwedd lle bu chwarae,
A gweld nad oes trech na gwae:
Eto'n y linell honno
Am ryw hyd mae'i eiriau o.
Iwan Llwyd
9 ½ Pwynt
PENNILL TELYN YN YMWNEUD AG AMSER
Treulio oes a threulio ennyd,
Treulio canrif, treulio munud,
Y mae'r amser oll yn benyd
Heb ei dreulio â'm hanwylyd.
Marc Jones
9 Pwynt
PENNILL TELYN YN YMWNEUD AG AMSER
Gwelais hi. O'r eiliad honno
Treuliais oriau yn ei chwrsio.
Priodais hi. Yn fuan wedyn
Aeth pob awr i mi fel blwyddyn.
John Ogwen
9 Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Hen bryd i Nia briodi
Rhyw bishyn swel fel y fi
½ Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Hen bryd i Nia briodi
Yn neinti-wan, good night hi!
½ Pwynt
ENGLYN CYWAITH: CUSAN
Aeth y rhew, daeth o'r gorllewin newid
Drwy awel fwyn Erin
Pwerus, melys ei min
Yn agor calon egin.
Norman Closs Parry
8 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: CUSAN
Un eiliad mewn gardd, un hoelen dyner,
Un duw'n bwrw coelbren,
Un gair rhwng deigryn a gwên
Ddaw â hon i'r Iorddonen.
Morien Phillips
8 ½ Pwynt
TELYNEG: DAMWAIN
(PWLL GLO YN WEST VIRGINIA IONAWR 2006)
Ffrwydriadau!
Gwrthdrawiadau cemegau'n
Cau lefelau.......
Drwy wythnos o nosau
A niwed nwyon
Yn bell bell yn y tywyllwch
A'r awyr yn teneuo-
Dwsin yn cwffio amdano-
Eneidiau gwantan
Yn gobeithio - yn gweddio
Am y tap-tapian......
Yn yr afagddu,
Swn pensel fel crafiad llygod
Yn amrwd fler ar femrwn
Yn dweud yn dawel - "ffarwel
Mewn ffydd y cawn gwrdd
Rhyw ddydd a ddaw
Yr ochr draw wedi'r drin"
Norman Closs Parry
9 Pwynt
TELYNEG: DAMWAIN
Mae carreg yn cofio am fywyd fu gynt
Yn hwylio'r hewlydd, ac yn hollti'r gwynt,
Hyd at y nos, a'i chyllell o eiliad
A rwygodd fwy na chnawd a dillad.
Bydd llaw yma'n aml yn golchi'r maen,
Ond y gawod heddiw achubodd y blaen,
Fel petai'n gwybod, yn dyner ei dafnau,
Am gur fu'n rhy galed i doddi'n ddagrau,
Ac am sgrech, nas clywyd o enau hon,
A fydd yn garreg am byth yn ei bron.
John Gwilym Jones
10 Pwynt
ENGLYN AR Y PRYD:TYRCHINEB
DAMWAIN FEICIAU ABERGELE
Sul a'i wên,suai olwynion alaw'n
Gyfeiliant afradlon
I'w hwyl iach - ond troês y lôn
Yn waed, a hwythau'n fudion.
Moi Parry
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
ENGLYN AR Y PRYD: TRYCHINEB
Nid rhif yw erchylltra hon, nid tiroedd
Yn filoedd adfeilion,
Na rhif oêr môr o feirwon
Ond un frath o dan un fron.
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH I HYSBYSEBU'R TALWRN:
Gêm ennill ar benillion
Rhaglen wych yw'r rhaglen hon.
Un awr fawr, gwledd o firi
Ias a braw ein hiaith a'n sbri.
Criw hwyliog o geiliogod
Rhai hen ieir a Meyryn od.
'TALYRNU!' cystadlu cain....
Barddoni cewri cywrain!
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYPNOTEIDDIO
Os syllwch i fyw dwfn fy llygaid
Mi welwch eich newydd anghenraid
Sef ar ôl "un-dau-tri"
A fydd cyfarth fel ci
A chofiwch mai ni fydd eich defaid!
O Feuryn edrycha i'm llygaid,
Ymlacia, ac yna ar amnaid
Mi weli mai deg
Yw'r unig farc teg
I'w roddi i dîm o drueiniaid.
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'ANODD' DDWYWAITH
Y mae oes yn amser maith ac anodd
Ail-gynnau tân perffaith
Dyma ddychryn terfyn taith
Anodd yw ail greu "Unwaith".
HEN FUGAIL
Anodd i'r sawl ganodd gân i fynydd
A'r fawnog a chigfran
Yw llawr t? a syllu i'r tân
Anodd, ac yntau'i hunan.
COLLI GENETH
Anodd ar benblwydd ei geni - yw byw
Efo'r boen o'i cholli
Rhy anodd o lawer inni
Yw ail fyw ei chlwyfau hi.
MERCHED
Mor anodd yw Morwenna i'w thrafod
Hithau'r efaill ddela:
Ond mwy anodd 'di Menna
A hi'n hyll deil i ddweud 'Na'.
BARNU
Mor anodd yw meurynna a rhoi barn
Ar y beirdd a'r tasga'
Ai tim Bangor yw'r gora'?
Na, wir dduw. Ma'r lleill mor dda.
CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYDYMDEIMLAD
KASHMIR
Unwaith, cyn bod trychineb,
Ni oedd ni, heb angen neb.
Byd arall oedd byd trallod
ie, cyn i ddychryn ddod.
A wedyn daeth i adwy'r
Eira mawr a'r oeri mwy
Rhain â'n rhodd, yn awr ein rhaid,
I rannu â thrueiniaid.
A rhoent barch wedi'n harcholl
O roi blawd i'r bobl oll;
Rhoent hyder ymarferol
A rhoi nerth i'n bro yn ôl PENNILL TELYN YN YMWNEUD AG AMSER
Clywed dail y coed yn disgyn,
Clywed saesneg plant y Tyddyn
Clywed swn cloc mawr yn tician,
Clywed tap fy rhawd yn dripian.
Clywais alaw telyn deires
A'r gitâr mewn neuadd gynnes,
Ac mi ddrysais rhwng dwy ddynes-
Cofio'r nain ond gweld yr wyres.
Gweld yr hydre'n troi yn aea'
Gweld y barrug hyd y caea',
Gweld mewn drych - a chael y neges
Nad wyf fy hun ond rhan o'r broses.
TELYNEG: DAMWAIN
DAMWAIN
Fi oedd pia' y coed a'r caea'
Fi a'm hâch - pob clogwyn serth
Er dim ond hap oedd byw'n y fangra'
Fi oedd pia - lwyn a pherth.
Fi oedd pia y llyn a'r afon
A gwerinos dewr y fro,
Fi oedd pia'r mabinogion
Y cyfan oedd - nawr ond co'
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH I HYSBYSEBU'R TALWRN
Un g?r o fri - ger ei fron
Deuddeg o fân brydyddion.
Awr iasol o ymryson,
Awr o hwyl a her yw hon.
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYPNOTEIDDIO
Pe bawn i â'r ddawn hypnoteiddio,
Rhyw droi at y meuryn wnawn heno
A'i gael 'mhen ychydig
'rôl clywed fy limrig
I gynnig rhoi deg i mi eto!
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR 'ANODD' DDWYWAITH
GEORGE BEST
Â'i dalent yn hudoliaeth, anodd gynt
oedd gweld y ddrychiolaeth;
â'i gorffyn i'r gwely'n gaeth
anodd coelio'r ddewiniaeth.
Mor anodd yw meuryna ar dalwrn,
â'r dalent mor dila;
pan fo popeth mor bethma
anodd iawn yw dweud yn dda.
Arafu! Rhaid mi rywfodd - anodd iawn
I ddyn...o'i wirfodd;
I mi mae mynd wrth fy modd,
Henaint! Hen gyfnod anodd.
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):
Y GYFRINACH
Os am gael bywyd dedwydd
Heb sathru ar ei throed
Rhaid cofio dydd ei phenblwydd
Ond peidio cofio'i hoed!
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

