Dinbych v Howgets
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Dinbych

Howgets

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR: 'BOCS'
Yng nghilfach y bustachu
Ceisia'n deg wneud bocs yn d?.
Mari Roberts
8 Pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y 'GAIR': BOCS
'Rôl agor bocs Pandora
Ar un waith, difaru wna.
Meirion Jones
8 Pwynt
LIMRIG: 'PAN OEDDWN YN NINBYCH UN NOSON'
Pan oeddwn yn Ninbych un
noson
Es i deimlo yn eitha digalon,
Hen dre Doctor Kate
Oedd gynt mor sidêt
Mewn tafarn yn cynnal ymryson.
Elwyn Wilson Jones
8 ½ Pwynt
LIMRIG: 'PAN OEDDWN YN NINBYCH UN NOSON'
Pan oeddwn yn Ninbych un noson
Fe synnais pan welais Napoleon
Yn cael sgwrs a Chwîn Vic
Oedd mewn het 'Kiss Me Quick'
Law yn llaw efo Dic Aberdaron
Endaf ap Ieuan
8 ½ Pwynt
ENGLYN YN GORFFEN Â'R GAIR: 'WEDYN'
Rhan o ddoe welwn ni 'rhen ddyn -yn hwyl
un eiliad mewn darlun;
Roeddet ti yn llwydni'r llun
Yn wyth oed am byth wedyn.
Berwyn Roberts
8 ½ Pwynt
ENGLYN YN GORFFEN Â'R GAIR: 'WEDYN'
I ni, apêl yw newyn - i'w wylio
 chalon go gyndyn
Nes daw'r llef yn ias drwy'r llun:
Gwaedu wna'r garreg wedyn.
Annes Glyn
8 ½ Pwynt
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):
Y FUDDUGOLIAETH
Stadiwm yn llawn o ddreigiau plastig coch
A phawb yn Gymry pybyr munud awr
Pan gwyd y siantio'n orfoleddus groch
Sy'n anthem froliant, chwil, i'r pymtheg
cawr.
Y pigwallt piws â'i goesau di-flew tan
Trwy'i gicio triw yn dod â'r awr yn nes.
Fe'i gwnaed yn arwr oes yn syth 'n y fan,
A'r rhosyn gwyn a grimpiodd yn y gwres.
Hithau â'i melys lais a hudodd lu;
Wrth iddi goncro'r byd yn ddeuddeg oed,
Gan ennill llwyddiant sgubol o bob tu
A dod yn eicon, gyda'r ie'nga' erioed
Chwi, ddeuddyn glits ! Gall siampên
ddoe droi'n sur
A gadael dim ar ôl ond siom a chur.
Elwyn Wilson Jones
9 Pwynt
CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):
Y FUDDUGOLIAETH
I ddenu mwy o bobl drwy y giatiau, medda nhw,
Y penderfynwyd trefnu gêm o rygbi yn y s?.
A thîm o s? Bae Colwyn gynrychiolai'r crysau coch,
A daeth o Loegr dîm S? Caer, sef mwncwns, eirth a
moch.
Fe aeth hi'n ffrae yngl?n â phwy gai fod yn reffarî,
A phwdu wnaeth Twrch Daear, gan mai'r ystlum aeth
â hi.
Fe chwythodd hwnnw'i chwiban, a'r gêm aeth yn ei
blaen,
Ond wedi cwta funud roedd Caer i'w gweld dan
straen.
Fe geisiodd un o'r mwncwns gael gôl adlam dros y
bar,
Ond yno'n saff i'w dal hi - cefnwr Cymru, J.P. Iâr.
Fe basiodd hwnnw'n gyflym i'r wythwr, Ray Gazelle,
A wibiodd hyd y borfa, sgorio cais bach ddigon del.
Y pac oedd yn ddihafal, y 'Platypus Front Row',
A hefyd Teddy Butler gafodd wych o gêm fel clo.
Y ciciwr oedd Phil Gannet, a lwyddodd gant y cant,
Ac wedi'r gêm fe honnai rhai 'i fod o'n haeddu bod yn
sant.
A dweud y gwir, pa ryfedd i'r gwynion gael diawl o
slaes
 Carw James yn arwain, a'r llewod i gyd ar y maes?
Endaf ap Ieuan
9 ½ Pwynt
CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYFARCHIAD AR GERDYN PRIODAS
Dau deulu'n cydio dwylo
yn frwd, trigolion dwy fro'n
dod i weld defod rhwng dau
yn llawen dan y lliwiau.
Modrwy aur yw dechrau'r daith;
Hi wena arnoch ganwaith
drwy heulwen, drwy dreialon,
funudau lleddf, oriau llon.
Hen gwlwm rhwng dwy galon
ydyw serch y briodas hon,
a heb os fe wna un bach
gwlwm yn ddiogelach.
John Glyn Jones
8 Pwynt
CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
CYFARCHIAD AR GERDYN
(Cerdyn Santes Dwynwen)
Eithriad, ar ddydd cariadon,
Yw cerdd o angerdd fel hon
Ond i ni mae'n mynd yn hwyr,
Yn nos unig, ddisynnwyr...
Tyrd i Landdwyn, at Ddwynwen,
I chwilio gem, a chael gwên
Yn winc y don; strancio dau
Yn crogi ar y creigiau,
Y gynnen yn hen hanes
A'r twyll ddiflanna i'r tes.
Gariad, da ti, paid gadael;
Gwyw fyddai 'myd heb dy gael.
Annes Glyn
8 ½ Pwynt
PENNILL YMSON WRTH WELD HYSBYSEB:
'ANDREX'
Un ci bach yn mynd i'w oed,
Papur meddal dan bob troed;
Un ci bach yn dwad adra
Wedi gollwng llwyth yn rwla !
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
PENNILL YMSON WRTH WELD HYSBYSEB
Dim ots be 'di'r cynnyrch, dim ots be di'r pris,
Nag at bwy mae'r hysbýs 'di chyfeirio.
Gwna'n si?r y bydd gen ti'n y llun ar y sgrîn,
Ferch ifanc 'di hanner dadwisgo.
Endaf ap Ieuan
8 ½ Pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Y bardd R.Williams Parry
Mae hwn yn arwr i mi
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Y bardd R.Williams Parry
Yw map barddoniaeth i mi
1 Pwynt
ENGLYN CYWAITH: CLUST
A llaw'n gwpan amdani - yn ynys
ynghanol y cwmni;
O sôn hwyl ein sgwrsio ni
y dianc yw distewi.
Berwyn Roberts
9 ½ Pwynt
ENGLYN CYWAITH: CLUST
(Ludwig von Beethoven)
Ei alaw ni thawelodd - er i'w fyd
Droi mor fud a diffodd,
Er ei wae, ei enbyd rodd
Yw'r iasau a arhosodd.
Meirion Jones
8 ½ Pwynt
TELYNEG: CAMP
Y Parchedig Hugh Rowlands oedd y cyntaf i gyrraedd y ddamwain feiciau erchyll ger Abergele; bu'n weinidog annwyl gan fy nheulu i ers trigain mlynedd a mwy.
Y Sul yn addo'n braf
a'r lôn yn glir
ar ddechrau blwyddyn;
un Sul a blwyddyn arall
at ddeg a thrigain
y ceisiodd ffordd
i ddyn at Dduw.
Ar dro'n y ffordd
y bore hwnnw,
roedd rhwystr lliwgar
cyrff ar wasgar
olwynion llachar llonydd:
penlinio,
cau amrannau
yn y distawrwydd syn,
ac oed yr addewid
rhyngddo a'r bachgen.
yna,
gyrru 'mlaen
i geisio dweud
am gariad Duw.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
TELYNEG: CAMP
(Plentyn bach yn dechrau dysgu siarad)
Mae'r geiriau bach yn laeth hufennog
ar ei thafod glân,
i'w blasu'n bwyllog.
Llythrennau -
trwm ac ysgafn -
odlau rhwydd,
yn synau i'w hailbrofi gydag awch.
Gogleisiant daflod ceg
a mwytho ei llwnc bychan
cyn cael eu treulio'n
un ochenaid o foddhad.
Mae'r bwrlwm blas yn nant o sain
sy'n tincial, tincial
dros ei dannedd gwyn,
yn fysedd crisial cain
sy'n dawnsio ar y gwynt.
A'r iaith Gymraeg,
sydd i mi'n dôn dreuliedig, flin
ar dro -
yn felan ac yn frwydr,
cynnen, cur -
yn gân afieithus
ar ei gwefus wyryf hi.
Annes Glyn
9 Pwynt
ENGLYN AR Y PRYD:UNRHYW ADERYN
Y GÔG
Rhoi wyau hon yno'n rhad - i eraill
Heb hiraeth na theimlad
A heb unwaith esboniad
Ganwyd hwy heb ganiatâd
John Glyn Jones
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
ENGLYN AR Y PRYD:UNRHYW ADERYN
YR EHEDYDD
(un o gymdeithion Owain Glyndwr)
Mae'i enw ar lethrau'r mynydd - a'i gri
Yn y graig, a'r gweunydd
Yn dweud, er mor hwyr y dydd
Y daw inni adenydd.
Meirion Jones
9 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR: 'BOCS'
Herio'r byd o glawr y bocs
wna ceiliog cwmni 'Kelloggs'.
'Rôl prynu bocs o 'oxo'
Y grefft yw ei agor o.
Mae'n dal rhag mynd i'w wely -
Synnu dim, â bocs yn d?.
LIMRIG: 'PAN OEDDWN YN NINBYCH UN NOSON'
Pan oeddwn yn Ninbych un
noson,
Mewn gardd roedd Jac 'R undeb
y
Saeson;
Ond tynnwyd hi lawr
Gan Ferched y Wawr.
Pwy 'nawr s'eisiau tref o
daeogion?
Pan oeddwn yn Ninbych un
noson
'n syportio'r Howgets
mewn
ymryson;
Methai'r criw am eu hoedl
Lunio pill efo odl;
Meddai'r Meuryn, "Y fath
godl myn
ufflon!"
Pan oeddwn yn Ninbych un
noson
Gwelais bishyn o ymyl
Tremeirchion;
Roedd hi'n andros o swel,
Yn secsi a del!
Ond wel !! Nid i fi y gwangalon.
Pan oeddwn yn Ninbych un
noson
Fe gwrddais â gwraig o
Dregaron,
Fe wyddai ei mam
Yn gwmws paham
Nad yw'r Steddfod yn mynd
i
Dreffynnon.
ENGLYN YN GORFFEN Â'R GAIR: 'WEDYN'
Oedi cyn mentro'n sydyn - i agor
un llygad yn blentyn
fore'r ?yl; ni fu yr un
hud i Santa byth wedyn.
CYNIGION YCHWANEGOL
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y 'GAIR': BOCS
Rhannaf â chi gyfrinach -
Dw i'n cadw'n socs mewn bocs bach.
Mewn un bocs y mae o'n byw,
Yn ei adfyd mae'n lledfyw.
Y bocs yng nghornel ein byw
A hagrodd yr unigryw.
Mor ynfyd yw byd y Bocs! -
Gêm, a bywyd ond giamocs.
LIMRIG: 'PAN OEDDWN YN NINBYCH UN NOSON'
Pan oeddwn yn Ninbych un noson
Cefais siom yn nhîm yr ymryson:
Mae John Glyn ac Elwyn
Yn odli â Berwyn
A phob un yn proestio 'fo Eifion.
Pan oeddwn yn Ninbych un noson
Gwelais Iances yn gwisgo medalion,
Daeth syniad i mi
Pan ddywedodd hi 'Gee!' -
Ai fo oedd 'Uncle Tom' y brodorion?
Pan oeddwn yn Ninbych un noson'
Yw'r llinell a gaed i'r ymryson.
Ga'i newid hi plîs,
Cyn diwedd y mis,
Am rywbeth i'w wneud â Chaernarfon?
ENGLYN YN GORFFEN Â'R GAIR: 'WEDYN'
Eich gofal selog o'r hogyn - a ddaw,
Wrth ryddhau y llencyn,
Yn sail ddi-ail pan fo'n ddyn,
Yn hyder ynddo wedyn.
PENNILL YMSON WRTH WELD HYSBYSEB
Ddoe, mi gymerais dy gynnig yn llon
Dim pwysau i dalu am flwyddyn gron;
Heddiw bu'n rhaid mynd i'r sbyty ar frys
A'r talu? Y 'sgwn i pa 'run o'r ddwy w?s?...
(hysbyseb yr NSPCC)
Mae'r bychan yn crio, yn las-ddu gan gleisiau,
fe syrthiodd, medden nhw, i lawr y grisiau;
un arall eto wrthi'n chwilota
mewn bagiau bin am ddarn o fara;
a'r ferch a'i dagrau yn staenio'i gruddiau
am na ?yr ble i droi i ddod o'i hualau.
Dwy bunt y mis yw'r cyfan ofynnir -
fynni di eu rhyddhau nhw heno o'u gwewyr?
Pam poeni am y plantos
'Rôl gadael bwrlwm byd?
Mi fwcia'i griws 'fo Cosmos
Cyn cael fy lled a'm hyd.
ENGLYN CYWAITH: CLUST
(Van Gogh)
Digiodd o rwystredigaeth - am i neb
Ymwneud â'i arluniaeth,
Clywais i'w gelf roi clais gwaeth
Na bedd â chydnabyddiaeth.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

